Gwefan Settled: helpu pobl gydag ymgeisiadau statws preswylydd sefydlog

Dw i wedi adeiladu gwefan i elusen newydd sbon o’r enw Settled.

Mae’r elusen yn helpu pobl sydd angen gwneud cais i’r Swyddfa Gartref i aros yng ngwledydd Prydain oherwydd Brecsit.

Mae’r broses yn gymhleth a dyrys fel y mae ac mae llawer o ffactorau eraill sy’n wneud pethau’n anoddach megis amgylchiadau bywyd y bobl sy’n ymgeisio.

Mae’r fersiwn cyntaf y wefan yn uniaith Saesneg gyda llawer iawn o ieithoedd gwahanol i ddod yn fuan. Hefyd bydd modd gweld dwsinau o sesiynau wyneb-i-wyneb, ac bydd platfform i wirfoddolwyr yr elusen yn ogystal.

Jekyll: ffordd o gynhyrchu gwefannau statig

Dw i wedi bod yn chwarae gyda Jekyll yn ddiweddar, system sy’n cynhyrchu gwefan statig.

Fel system rheoli cynnwys mae WordPress dal yn ffefryn i mi ond mae hi’n bwysig ceisio a phrofi ffyrdd eraill o weithio. Dwy fantais o greu gwefan statig trwy Jekyll ydy’r cyflymder ac y ffordd mae’n symleiddio gwarchodaeth achos does ’na ddim o reidrwydd sgript sy’n rhedeg ar y gweinydd tra bod pobl yn ymweld â’ch gwefan.

Un peth a oedd yn fy nrysu ar y dechrau oedd y ffaith bod thema yn fforc o’r system craidd. Hynny yw, roedd rhaid i mi glonio’r system a thema yn eu cyfanrwydd yn hytrach na rhoi thema mewn cyfeiriadur/ffolder yn y hen ffordd WordPressaidd o fyw. Dw i’n cymryd bod angen rheoli fersiynau trwy Git er mwyn diweddaru’r system craidd wedyn. Tybed beth yw’r manteision o weithio fel hyn?

Oes gwefannau Cymraeg sydd wedi eu creu ar Jekyll, ac os oes unrhyw themâu Cymraeg ar gael? Does dim byd perthnasol i weld ar Github. Efallai dylwn i gyfieithu un syml er mwyn ehangu byd Jekyll ychydig. 🙂

Meddalwedd rydd, WordPress 3.0, projectau cyffrous

Beth yw’r cyswllt?

  • Y band Datblygu
  • cylchgrawn Tu Chwith
  • Capel Y Ffynnon Bangor
  • Hacio’r Iaith
  • Metastwnsh
  • Y Twll…

Wnawn ni ychwanegu mwy o enghreifftiau i’r oriel WordPress yn fuan gobeithio. Dyna’r ateb. Heblaw Datblygu, dechreuodd dyluniadau yma yn 2009 neu 2010. Mae’r chwildro yn dechrau gyda WordPress, meddalwedd rydd a phobol sy’n bywiog!

Dw i wedi cael lot o hwyl gyda WordPress. Dw i dal ddim yn hyderus iawn gyda cyfieithadau llawn o feddalwedd yn anffodus. Dyma pam dw i’n gofyn am help gyda cy.wordpress.org yma. Diolch.

Ond dw i’n hyderus bod meddalwedd rydd yw dewisiad ardderchog am lot o rhesymau.

Dw i wedi sgwennu am papur newydd arlein yn yr Alban yn barod.

Ddylai’r llywodraeth rhannu eu côd? Efallai. Dylen nhw edrych at meddalwedd rydd am projectau? Yn bendant. (Os mae’r byddin Ffrengig yn deall manteision meddalwedd rydd, rydyn ni’n gallu.)

Gyda llaw, dw i newydd wedi ychwanegu cofnod am BBC Vocab hefyd. Côd ar gael i bawb. (Ond dan “trwydded BBC” yn lle rhywbeth arferol am rhyw rheswm?) Dw i wedi sgwennu digon nawr, siwr o fod ti’n gallu creu rhywbeth da. Pob bendith.