Pam mae eitemau gyda phwyslais gwrth-Gymraeg ar y BBC? Rwyt ti’n aros am rywbeth am Gymru ac mae mwy nag un eitem annifyr yn llifo mewn ar yr un pryd, e.e. Radio Wales, Radio 4. Pam nawr?
Dw i’n credu bod mwy o eitemau gwrth-Gymraeg ar y ffordd oherwydd tri ffactor damcaniaethol.
1. Mae mwy o gystadleuaeth ymhlith cyfryngau gwahanol nag unrhyw bryd erioed ac mae eitemau dadleuol yn sbarduno niferoedd o wrandawyr. Yn bennaf, siaradwyr Cymraeg a chyfeillion o’r iaith sy’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o’r eitemau trwy Twitter, Facebook ac ati. Mae’r ffenomen yn debyg i drolio yn y papurau newydd ar-lein.
2. Mae BBC yn gyfrifol am ariannu S4C bellach sy’n achosi drwgdeimlad yn yr adrannau eraill, yn enwedig y rhai sy’n bryderu am doriadau. Beth bynnag rydych chi’n meddwl am Thatcher, roedd hi’n digon call i osod trefn arbennig ar gyfer S4C (yn y pen draw). Fel endid fe oedd y sianel yn annibynnol yn ei chyllideb. Mae’r sianel wedi colli’r mantais yna o ran y rhan fwyaf o’i chyllideb sydd bellach yn dod o’r BBC. Felly mae’r adrannau eraill fel Radio Wales yn troi at ymosod ar darged hawdd er mwyn ceisio amddiffyn eu bodolaeth nhw. Dyna’r effaith ‘cathod mewn sach’ a wnaeth pobl ein rhybuddio ni amdani hi yn 2010 yn ystod ymgyrch ‘Na i doriadau S4C’.
3. Fel mae unrhyw un sy’n darllen y wasg yn gwybod, y gwasanaethau iechyd ac addysg yng Nghymru ydy hoff dargedau Cameron, Hunt, Fabricant et al ar hyn o bryd tra bod nhw yn ceisio ennill etholiad mewn ychydig dros 12 mis. Mae’r BBC yn cael ei dynnu i’r un cyfeiriad: ‘ai datganoli/polisïau Llafur Cymru/y Gymraeg (does dim gymaint o wahaniaethu rhyngddynt ar lefel Prydeinig) sy’n gyfrifol am fethiannau ysgolion yng Nghymru?!’ ayyb. Mae agweddau sy’n debyg i Lingen a’r Llyfrau Gleision yn ymddangos eto. Yr iaith sy’n derbyn y flak yn y brwydr dros San Steffan. Afraid dweud fod diffyg trafodaeth synhwyrol ar y materion hyn ar Radio 4 a diffyg diddordeb mewn beth yw’r problemau go iawn a beth sydd o les i Gymru. Nid ’darlledwr gwladwriaeth’ fel y cyfryw ydy’r BBC ond gall dweud bod y Gorfforaeth yn cael ei demptio i roi platfform a ffafr i Lywodraeth San Steffan a chryfhau ei achos ar gyfer adnewyddu’r siarter yn 2016-17 hyd yn oed.
Os ydw i wedi cydnabod y ffactorau yma yn iawn ni fydd y sefyllfa yn newid yn fuan iawn. Gall disgwyl mwy o eitemau o’r fath.
Carl, dyna peth trist iawn i’w darllen. Ond rhaid i ni ddal ati i amddifyn S4C, Radio Cymru a’r diwylliant Cymraeg!
Cofion gorau
Jonathan Simcock
Dyw’r hanes y BBC ddim yn dda lle mae agwedd tuag at Gymru a’r Gymraeg yn y cwestiwn ym marn i,felly cyuno’n llwyr.
Viv
Yn sicr. Amddiffyn ac adeiladu.