Dw i ddim wedi bod yn cysylltiedig iawn yn ystod yr Eisteddfod. Dw i’n meddwl bydd fideo o’r sesiwn Hacio’r Iaith yn stondin Prifysgol Aberystwyth ar gael ar y we.
Yn y cyfamser hoffwn i sgwennu ymateb i’r cwestiwn yma:
http://twitter.com/#!/crisdafis/status/98033648636395520
Tipyn bach o gyd-destun. Roedden ni’n hoffi’r opsiynau eraill ond doedden nhw ddim yn digon:
- Google Blog Search – bron pob blog ar y we ond ble mae’r blogiau Cymraeg? Anodd i’w ffeindio os ti eisiau pori – mae stwff Cymraeg ar goll. Dyma un angen enfawr yn Gymraeg ac ieithoedd bychan – uno darnau o’r we gyda’i gilydd.
- Blogiadur – ‘blog o flogiau’ gyda blogiau Cymraeg (88 blog ar hyn o bryd). Trefnwyd yn ôl amser.
- awgrymiadau gan ffrindiau – ‘ar hap’
- dolenni mewn ebost/gwefannau eraill – ‘ar hap’
Nawr mae gyda ni:
- Y Rhestr ar Hedyn! – cyfeirlyfr o flogiau Cymraeg! Trefnwyd yn ôl pynciau! Chwilio!
Mae’r cwestiwn yn dilys, pam ydyn ni wedi bod yn treulio amser i gasglu Yellow Pages o flogiau?
Dilyn. Rydyn ni wedi bod yn chwilio am flogiau yn yr iaith Gymraeg fel darllenwyr/ymwelwyr. Pam ddarllen/dilyn/edrych at/gwylio/gwrando ar/tanysgrifio i flogiau? Newyddion, digwyddiadau lleol, barnau, fideo, hwyl, ymgyrchu, coginio, hobïau a diddordebau ayyb ayyb – beth bynnag mae pobol yn ei drafod o ddydd i ddydd.
Ychwanegu blogiau i’r strwythur o ddolenni. Mae lot o flogiau yn anweledig i ryw raddau. Mae un dolen arall yn anfon ymwelwyr dynol a bots fel Google.
Ymchwil ac ystadegau. Mae rhai o bobol eisiau astudio’r (tua) 288 blog Cymraeg ar y we. Dw i’n meddwl am waith academaidd gan Daniel Cunliffe, Courtenay Honeycutt ac eraill yma (a’u papur am flogiau Cymraeg ar Blogiadur). Hefyd mae’r Rhestr yn sgil-cynnyrch o’n gwaith a dw i eisiau anfon mas y neges am rhannu stwff fel ’na.
Cofnodi ac hanes. Mae lot o bwyslais ar amser real a chofnodion newydd (gweler hefyd: Twitter). Gwych ond beth am fywyd i’r ‘hen’ cynnwys sydd dal yn berthnasol i rywun? Beth am y blogiau sy’n cysgu?
Dysgwyr iaith a datblygiad personol o’r iaith. Mae lot fawr o ddysgwyr ar y we. Yn aml iawn maen nhw yn mynd i’r we i weld Cymraeg – yn enwedig dysgwyr heb lot o ffrindiau Cymraeg a dysgwyr tu allan i Gymru. Mae hynny yn hawdd iawn i’w anghofio os ti’n nofio yn Gymraeg fel siaradwr rhugl.
Amcan X
Amcan X yw’r rheswm pwysicaf. Mewn ffordd does dim ots beth oedd tarddiad Y Rhestr neu Hedyn. Efallai mae amcanion yr aelodau/cyfranwyr yn ddiddorol i ti, efallai ddim. Mae’r wybodaeth Y Rhestr ar gael i bawb yn y byd beth bynnag.
Mae’r wybodaeth am ddim ac yn rhydd.
Gweler hefyd: rhyddid sero gyda meddalwedd rydd.
Bydd e’n neis cael teclynnau sy’n dibynnu ar y data mewn blogiau hefyd. Mae unrhyw un yn gallu bwydo ei dogfen neu taenlen/dogfen gyda data o’r Rhestr. Cer amdani. Neu meddalwedd – er enghraifft, peiriaint chwilio o flogiau Cymraeg. Dw i’n meddwl am Blogiadur ar hyn o bryd – mae Aran Jones wedi anfon yr allwedd i fi. Oes angen rhywbeth fel Umap neu Indigenous Tweets ar gyfer blogiau? Beth yw’r pynciau poeth heddiw?
Syniad. Efallai mae rhywun eisiau dadansoddi geiriau neu dermau ayyb ar blogiau gwahanol neu gynnwys y trafodaethau, e.e. pleidiau a phethau gwleidyddol.
Mae popeth yn dibynnu ar breuddwydion, gwaith, diddordebau a chreadigrwydd. Argraffa crys-t neu cylchgrawn gyda chynnwys Hedyn os ti eisiau. (Gyda llaw gawn ni newid y drwydded i rywbeth mwyaf agored?)
Ateb syml: “achos mae’n bosib”.
Dyw’r ffaith fod blog yn ‘cysgu’ ddim yn lleihau eu pwysigrwydd nac yn annilysu eu cynnwys (ddim mwy na fod treigl amser yn annilysu hen rifynnau o Golwg).
Hoffwn i allu darllen hen erthyglau cylchgronau Cymraeg e.e. colofnau Cris Dafis yn Golwg ond dyw e ddim yn bosib achos dyw’r cynnwys ddim ar lein.
Mae blogiau ar y we yn dueddol o aros mewn sefyllfa ‘wedi ei cyhoeddi’ nes fod yr awdur yn ei dileu neu’r gwasanaeth blogio yn dod i ben. Does dim llawer o ymdrech felly i gofnodi rhestr. Efallai fod rhywun wedi blogio ambell waith yn 2005 pan oedd bron dim cynulleidfa – fydde hi’n ddiddorol i nhw gael darllenwyr newydd, i ysgogi nhw efallai i ail-ddechrau.
Mae rhai o 2005 yn dal i dderbyn sylwadau, sydd tipyn bach yn rhyfedd i’r awdur yn 2011.
Beth ydy’r ffordd gorau i ddangos yr alw am yr hen erthyglau sydd mewn archifau? Sgania a chopïa nes fod rhywun yn cwyno ac yn dechrau darparu’r stwff o’r ffynhonnell? Ac yn sylweddoli’r cyfleoedd gyda hysbysebion ar yr hen gynnwys, gwerthu argraffiadau papur o hen luniau ayyb?
Sganiwch, rhannwch, arhoswch. Tynnwch os mae rhywun yn gofyn. Y ffordd ymlaen?
https://morris.cymru/2010/08/yr-argyfwng-cynnwys-arlein-yn-gymraeg-hawlfraint-a-chaniatad/
(Cyfreithiwr dw i ddim.)