DIWEDDARIAD 14/1/11: Eureka, mae Rhys Llwyd wedi dechrau 100lle.net. Ardderchog! Croeso i ti gadael sylw a chynnig help isod. (Gwers: rhanna dy syniadau cyn iddynt marw.)
Edrych ymlaen i’r gyfres 100 Lle ar S4C gydag Aled Samuel a’r hanesydd John Davies. Cofnod sydyn. Dylai (DYLAI!) rhyw fath o fap yn bodoli gyda’r llefydd gwahanol. Mae’r crynodeb y gyfres yn sgrechian “MAP ARLEIN!”.
Beth am:
- map o Gymru fel canllaw i’r llefydd yn y gyfres
- dolenni i Wicipedia, rhaglennu ar Clic, efallai cyfeiriadau i’r llyfr gan John Davies a Marian Delyth
Nodweddion bonws:
- gaf i farcio’r llefydd dw i’n nabod, lle dw i wedi ymweld? Rhyw fath o “leaderboard”/gêm?
- efallai rhannu straeon/profiadau (gweler hefyd map i’ch Pen-y-bont fel rhan o’n gwaith gyda National Theatre Wales a Sherman Cymru)
- efallai rhannu lluniau a fideos
- ffyrdd amgen o gyflwyniad/ffiltro, e.e. chwilio, llinell amser am yr hanes
Ond croeso i unrhyw un wneud y syniad gyda Google Maps, OpenStreetMap neu debyg. Efallai gwnaf i helpu ond sa’ i eisiau bod yn gyfrifol amdano fe dro yma. (Ar hyn o bryd dw i’n rhoi mwy o bwyslais ar waith i fy nghwsmeriaid yn hytrach na projectau arbrofol.)
Pwynt dw i eisiau archwilio heddiw yw, dyw “amlblatfform” ddim yn golygu dim ond Teledu Ar Y We. Mae’n naturiol i feddwl am y rhaglennu cyntaf (cofia’r dramâu teledu gynnar – fel theatr arferol ond gyda chamera). Ond mae arlein yn dod gyda chyfleoedd newydd i ddweud straeon, fel gwrthran am gyfres teledu. Neu vice-versa? (Neu ymchwilio straeon, fel PenTalarPedia.)
Gwnaf i gadw’r sylwadau ar agor am ddolenni ayyb.
Syniadau da. Sylwais bod y wefan i gyd-fynd a chyfres Y Dref Gymreig yn defnyddio GoogleMaps, gyda pob adeilaad o bob rhifyn wedi eu plotio (a’r opsiwn i unigolion blotio eu hoff adeiladau nhw hefyd – er ceisais wneud hyn fy hyn gyda Dinbych ambell waith heb unrhyw lwc). Mae’r wefan dal i fyny, ond dyw’r eflen GoggleMaps ddim yn ymddangos belach (er os ti’c scrolio i lawr, i waaelod y dudalen mae delwedd yn dangos sut oedd yn edrych.
Da iawn. Pwyntiau da ac amlwg.
Dwi’n dwli chwarae a plotio pethau ar Gwgl maps. Wnai arbrofi gyda 100 lle dros y dyddiau nesa os caf i amser.
Wedi dechrau’r map fyny fan yma:
http://maps.google.co.uk/maps/ms?ie=UTF8&hl=en&msa=0&msid=217843373443252088940.000499b77d0c86046f42c&ll=53.200275,-4.22287&spn=0.487815,0.962677&z=10
Anfon neges i fi os chi ishe bod yn gyfrannwr
Wedi cofrestru 100lle.net i ddatblygu’r syniad nawr.
Mae’n debyg bod ti wedi ei weld yn barod, ond dyma ddolen ar y map mae Rhys llwyd wedi ei ddechrau http://www.100lle.net/
Gwych Rhys, braf i’w weld!