Rhwydwaith hysbysebu cyntaf i wneud llwyddiant go iawn o Gymraeg? Facebook

Facebook hysbysebu ieithoedd Cymraeg

Dylen ni meddwl am Facebook fel ffurlen gais am hysbysebu.

Mae’r platfform wedi bod yn llwyddiannus iawn o hyd gyda gwybodaeth am dy ffrindiau, diddordebau, teulu, crefydd, gwleidyddiaeth, dewisiadau rhywiol, ayyb.

Ond maen nhw wedi bod yn colli un darn pwysig o wybodaeth: ieithoedd.

Mae’r targedu wedi bod yn anodd am dy ieithoedd heblaw dy ddewisiad iaith am y rhyngwyneb.

Nawr maen nhw yn gofyn.

Fel ymchwil dw i wedi dewis pob math o Gymraeg i weld yr hysbysebion: “Welsh”, “Old Welsh”, “Middle Welsh”, “Welsh-Romani”. Dw i’n newid fy niddordebau o bryd i’w gilydd, fel ymchwil hefyd.

Facebook fydd y rhwydwaith hysbysebu cyntaf i wneud llwyddiant go iawn o Gymraeg?

Faint ydy Google AdWords yn cymryd o hysbysebion Cymraeg ar hyn o bryd? Dim llawer. Er bod gyda nhw mwy o gynnwys Cymraeg nag unrhyw un arall trwy’r we agored. Mae Facebook yn dod yn ail gyda’u platfform caeedig.

Wrth gwrs baswn i licio sefyllfa lle mae’r arian hysbysebu yn aros yng Nghymru. Bydd mwy o siawns gyda’r we agored. Roedd Tim Berners-Lee yn hollol gywir.

Yr unig obaith am unrhyw rwydwaith hysbysebu yng Nghymru? Mae’r we agored yn trosgynnu ffasiwn. Dyw Facebook ddim.

YCHWANEGOL 6/12/10: Mae un neu dau person yn cwyno am “Welsh” ayyb eisioes. Ond o leia maen nhw yn atgoffa ni o’r sefyllfa – cwmni yn California sy’n cyfrannu i’r brain drain ar y we agored Cymraeg. Efallai well i ni peidio cwyno amdano fe.

2 Ateb i “Rhwydwaith hysbysebu cyntaf i wneud llwyddiant go iawn o Gymraeg? Facebook”

  1. Pwynt difyr iawn Carl. Mae gen i brofiad diweddar yn y gwaith o weld llwyddiant marchnata ymgyrch ar Facebook – wedi anelu tuag at Gymry Cymraeg. Mae’n hynod lwyddiannus ac yn esiampl i eraill ei ddilyn dwi’n siwr.

  2. Mae hysbysebu Facebook gallu bod yn effeithiol iawn wrth gwrs. Dyma pam dw i’n poeni amdano fe mwy. O leia mae Google yn annog y we agored. Bydd presenoldeb ar y we agored yn well i’r iaith Gymraeg yn y tymor hir. Mewn ffordd mae Facebook yn cystadlu gyda’r we agored.

Mae'r sylwadau wedi cau.