BBC + S4C + Ti == PYC

Beth mae pob(o)l yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw?

Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol.

Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er mwyn denu cynulleidfa ifanc a thalent newydd sbon i’r brand.

Er mwyn cefnogi uchelgais Digidol S4C ac i lansio’r Gronfa Ddigidol, Awst 2012, hoffai S4C gynnig cyfle i gwmnïau neu unigolion fod yn rhan o’r prosiect.

Mae’n gyfle i arloeswyr digidol gydweithio â chriw drama profiadol Pobol y Cwm ar brosiect newydd traws gyfrwng ‘PYC’. Bydd ‘PYC’ yn cynnwys: Webisodes, Digwyddiad Byw, Cymuned ar y We, Gemau Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaeth ar Leoliad dros Gymru gyfan.

[…]

Darllena’r datganiad llawn.

Meddyliau cynnar:

  • Pobol y Cwm yw’r cyfres mwyaf poblogaidd ar S4C felly mae modd profi pethau gyda chyunlleidfa chymuned mawr (mewn termau Cymraeg). Dw i ddim yn ymwybodol iawn o’r oedrannau/demograffig/ayyb ond dw i’n cymryd bod y sioe yn apelio at bob math o berson. Hefyd mae’n haws i hyrwyddo pethau digidol sydd yn gysylltiedig â chyfres mor amlwg ac eiconig, ‘addasiad digidol/arloesol o hen ffefryn’ ayyb
  • Braf i weld ‘meithrin dull newydd o ddweud stori’ yn enwedig – maen nhw yn ystyried cyfleoedd digidol fel rhywbeth tu hwnt i farchnata a chyhoeddusrwydd.
  • Mae lot o bobl yn pryderu am annibynniaeth golygyddol S4C ar y teledu (y shotgun marriage gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ayyb). Ond mae cwestiynau tebyg ynglŷn ag annibyniaeth S4C yn y tymor hir ar bethau digidol. Wrth gwrs mae S4C wedi cyd-weithredu gyda’r BBC fel partner ers y ddechrau. Ond ydy’r ffaith bod y peth cyntaf o’r gronfa ddigidol yn rhywbeth BBC yn arwyddocaol? Gobeithio fydd S4C gyda’r hyder yn y dyfodol i gynhyrchu pethau digidol ac aml-blatfform sydd yn annibynnol o’r BBC?
  • Pa fath o gemau sydd yn addas? Gawn ni Zombies Cwmderi?

5 Ateb i “BBC + S4C + Ti == PYC”

  1. Mae ’na drafodaeth bywiog am Bobol y Cwm (192 tudalen hyd rwan) yn bodoli mewn fforwm ar gwefan Digital Spy gyda phob agwedd o’r storiau a’r cymeriadau yn cael eu trafod yno pob dydd gan bobl, mae’n debyg, na sy’n Gymry Cymraeg na chwaith yn byw yng Nghymru.

  2. Carl, dilynias dy ddolen at y cofnod iplayer i elyfr a gadael sylw

    Rhys September 1, 2012 at 13:45

    This is an awsome idea. I teach Welsh as a second language for adults. As the BBC produce the Welsh soap Pobol y Cwm it’s available on i-player. I could use something like this in class for dialogue work as the programme is subtitled in both Welsh and English.

    Yna, ces i’r ymateb hyn:

    Mark Longstaff-Tyrrell September 2, 2012 at 00:27

    Dyna syniad gwych! Unfortunately my local transmitter doesn’t carry BBC Cymru and for some reason subtitles don’t seem to be available for Pobol y Cwm on iPlayer at the moment. If you can get a dump of the DVB stream we could try it out.

    Sut mae cael dymp DVB o’r ffrwd? Os wyt yn gwybod sut allet ti wneud un ar gyfer PYC ac un ar gyfer Rownd a Rownd? Mae’r boi yn swnio’n awyddus!

Mae'r sylwadau wedi cau.