Mae pobol yn gofyn am DVDs o gyfresi fel Pen Talar, Alys a dramau eraill yn eithaf aml.
http://storify.com/carlmorris/pobol-yn-gofyn-am-dvd-pen-talar
Syniad…
Pam dydyn nhw (S4C neu’r cwmnïau cynhyrchu) casglu addewidion/pledges i asesu’r alw?
e.e. mae angen targed o 600 person i ryddhau Gwaith/Cartref ar DVD. Dwedwch ‘addwch yma os dych chi eisiau DVD o Gwaith/Cartref’ gyda chyfanswmfa/totalizer. Neu beth bynnag, dw i ddim yn sicr am y ffigyrau. Yn delfrydol bydd y wasanaeth yn casglu’r arian ac yn cadw’r arian yn saff.
Os fydd ddim digon o bobol i gyrraedd y targed mae pawb yn derbyn eu arian yn ôl – ar ôl mis neu dau neu dyddiad penodol.
Os rydyn ni’n bwrw’r targed, mae gyda ni rhyddhad DVD! DVDs yw’r enghraifft gorau ond mae’r syniad yn gweithio gyda llyfrau papur hefyd. Mae’r enw ‘pethe ar alw’ yn wir i ryw raddau heblaw am yr arhosiad bach. Gwnes i ffeindio enghraifft lwyddiannus o 1926 sef llyfr o farddoniaeth. Tybed os ydy rhywun wedi trio ers hynny? (Y Byd… mewn ffordd.)
Dyma un o nodweddion y model Kickstarter sydd yn bwysig i ni yng Nghymru, sef yr addewidion/pledges. Rydyn ni’n trio ffeindio modelau i gynnal cyfryngau mewn iaith leiafrifol. Felly mae ‘methiant’ yn opsiwn! Does dim cywilydd os ydyn nhw yn methu ffeindio cwsmeriaid. Efallai gwnewch y peth gyda lot o gyfresu gwahanol i sicrhau ryw fath o ryddhad ar y diwedd.
Wrth gwrs dw i ddim yn siarad am fersiynau digidol yma, dylai e-lyfrau a lawrlwythiadau/ffrydiau am arian o bethau newydd i gyd bod ar gael fel digidol.
Mewn ffordd mae’r syniad yn addas i unrhyw fenter lle mae cwmni yn gallu cyfathrebu am gynnyrch penodol dychmygol, e.e. llyfr, rhaglen, argraffiadau o waith celf, crysau-t.
Yn yr 17 mis ers diwedd Pen Talar, mi fasen nhw wedi gallu ryddhau yn ddigidol ar iTunes, Netflix, Lovefilm neu YouTube yn llawer cyflymach a haws.
Mae yna fantais o ddefnyddio brand a chefnogaeth S4C wrth gwrs.
Dwi wedi tueddu i brynu DVD/Bluray o ffilmiau dwi wir yn caru, yn bennaf er mwyn cael yr extras. Weithiau mae cyfresi prin ar gael ar DVD yn unig, neu mae’n bosib cefnogi cynhyrchwyr bach sy’n ryddhau stwff lleiafrifol. Ond dwi’n amau fod y farchnad Cymraeg yn rhy lleiafrifol i neb i’w gymryd o ddifri.
Erbyn hyn dwi’n gweld mwy o fantais i wefannau fel Netflix. Mae llawer o gynnwys BBC/ITV/Channel 4 arno fe ond dim llawer yn fwy diweddar na 2009. O bosib mae trwyddedau DVD yn golygu nad yw’r cyfresi diweddaraf arno.
Mae yna ddeunydd archif diddorol iawn yno hefyd – dwi wedi bod yn mwynhau “Fry and Laurie” a “Yes, Prime Minister” yn ogystal a hen gyfres Firefly. Dwi ddim yn gweld pam nad yw S4C wedi mentro o gwbl fan hyn (er dwi’n gwybod fod hyn yn y cynllun newydd ar gyfer datblygiadau digidol).
Mae DVDs yn dda fel anrhegion hefyd.
Yn sicr, o’n i’n cyfeirio at iTunes, Netflix, Hulu pan o’n i’n siarad am ddigidol.
Mae digidol yn gôl agored!