4 categori o wefannau a blogiau yn Gymraeg

Mae lot o bobol yn gyffrous am y real-time web ar hyn o bryd.

Digon iawn. Ond hefyd mae gyda fi diddordeb yn y we BARHAUS. Yn enwedig y we Gymraeg.

Dw i wedi bod yn darllen trwy Maes-E, Morfablog, Gwenu Dan Fysiau, Daflog ac archifau o flogiau a gwefannau clasur eraill. Gwnaf i fwrw’r gwaelod cyn bo hir.

Dw i wedi ffeindio pedwar categori o wefannau ar fy siwrnai ar y ffordd. Sgen i’m bwriad bod yn sarhaus. Eisiau trafod y we barhaus.

1. “Dyma’r Ffordd i Fyw”
Blogiau a gwefannau sydd dal yn joio cofnodion newydd a diweddariadau. Dw i’n darllen nhw mewn Google Reader neu ddilyn dolenni ar Twitter. Mae’n hawsa i ffeindio nhw na gwefannau yn y categorïau isod. Dw i’n rhedeg gwefannau yn y categori hwn (Hacio’r Iaith, Y Twll, PenTalarPedia a Hedyn). Fel teclyn mae Blogiadur dal yn eitha da am ffeindio cofnodion dw i wedi colli ar y tro cyntaf.

2. “Sdim Eisiau Esgus”
Mae hwn yn grŵp mawr iawn. Dal yn fyw ar y we ond dyn nhw ddim yn cael eu diweddaru. Blog Gareth Potter yw enghraifft. Maen nhw yn “cysgu” mewn ffordd i’w blogwyr. Ond dyn ni’n gallu anghofio’r fantais o’r gwefannau yma – maen nhw yn fyw i’r darllenwyr. Felly dyn ni ddim eisiau esgus, mae’n iawn, ond paid colli dy hen blog! Dw i’n gallu gweld cyfleoedd i greu ffilteri e.e. teclynnau chwilio sy’n gynnwys y categori hwn (Google Custom Search a mwy). Dyna pam dw i eisiau casglu nhw ar Hedyn. Beth yw’r gwersi? Ystadegau hefyd. Pa fath o dyfiant ydyn ni wedi gweld? Faint o flogwyr sy wedi gadael blogiau nhw i gysgu? Syniadau am projectau ymchwil.

3. “Byw Ar Y Briwsion”
Weithiau dyw pobol ddim yn adnewyddu eu enwau parth neu gwesteia. Felly dyn ni’n colli eu gwefannau. Pwy sy’n cofio Dim Cwsg, fforwm cymuned am godi plant? Dw i ddim angen y wybodaeth nawr – ond beth am y dyfodol? Beth ddigwyddodd gyda’r wefan Adam Price eleni? Dw i’n siomedig iawn os dw i’n ffeindio sôn am rywbeth ac wedyn dyw e ddim yn bodoli. Diolch byth am Archive.org – ond dyw e ddim yn gallu cadw popeth, jyst briwsion weithiau. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw archif eu hun yn ôl pob sôn – chwarae teg – ond ble mae e? (Mae unrhyw un yn gallu copïo fy mlog am unrhyw archif. Os oes gyda ti diddordeb, dw i wedi rhoi caniatâd i bawb dan Creative Commons.)

4. “Hwyl Fawr Heulwen”
Y categori olaf yw blogiau sy ddim ar y we, ddim ar Archif, ddim yn unlle, jyst yn dev/null. Mae ddoe yn ddoe – yn anffodus. Mae pobol yn colli eu blogiau a gwefannau weithiau am lot o resymau. Neu trwy ddamwain, diffyg gofal, dileu, colli enwau parth, colli gwesteia, gwasanaethau drwg a theclynnau drwg maen nhw yn colli eu blogiau a gwefannau. Ond nid jyst nhw, dw i’n colli nhw, ti’n colli nhw a mae pawb sy’n chwilio am bethau Cymraeg yn colli nhw. Mae pob iaith yn colli blogiau. Baswn i ddim yn colli lot o gwsg am blogiau Saesneg achos mae’r iaith yn iawn. Ond yn Gymraeg mae’r sefyllfa yn ddifrifol. Wrth gwrs mae gyda unrhyw un yr hawl i ddileu ei blog hefyd. Ond mae fe dal yn siomedig.

Yr ail degawd

Mae’r cofnod yma gan Nic Dafis, Ebrill 2001 yn gategori 2 (mae fe’n blogio ar Morfablog nawr).

Dyn ni’n symud i’r ail ddegawd o flogiau Cymraeg ac eisiau datblygu “cymunedau arlein” a thrafodaeth ar y we. Sa’ i’n eisiau ailadrodd beth sy wedi digwydd yn barod. Dw i eisiau datblygu’r drafodaeth mewn ffordd gyda’r gwersi’r degawd cyntaf.

Wrth gwrs dyn ni eisiau ailymweld sgyrsiau ac erthyglau Cymraeg am wleidyddiaeth, cerddoriaeth, hanes, diwinyddiaeth, gwyddoniaeth a phob pwnc dan yr haul.

Er enghraifft, pan oedd Nic yn blogio am Maes-E mae fe wedi rhannu gwersi gyda ni yn y dyfodol am gymunedau a sgyrsiau ar y we.

(Gyda llaw, beth ddigwyddodd gyda’r archif Maes-E? Er enghraifft, dyw’r erthygl Tips ar neud Ffansin gan Mihangel Macintosh ddim ar gael trwy’r wefan – roedd rhaid i mi fynd i archive.org.) YCHWANEGOL: Ateb yn y sylwadau isod

Wrth gwrs dyw Facebook ddim yn helpu o gwbl gyda’r broblem cynnwys sy’n agored a pharhaus. Dyma pam dw i ddim yn licio Facebook llawer yn y cyd-destun hwn. Mae’n ddefnyddiol am lot o resymau wrth gwrs ond mae’n rhy breifat a rhy anodd i chwilio am bethau. Fel arfer mae’n well i blogio ar WordPress.com a rhannu dolenni ar Facebook neu gopïo’r testun i Facebook.

Mae Facebook yn cyflymu symudiad ieithyddol hefyd. Cofnod arall.

Bygythiadau

Bygythiad yw teclynnau sy’n byrhau URLs. Dw i ddim yn hoffi nhw o gwbl achos dw i eisiau URLs sy’n gweithio am flynyddoedd. Weithiau ar Twitter rhaid i mi defnyddio rhywbeth yn anffodus felly dw i’n dewis bit.ly achos mae’n poblogaidd o leia. Safety in numbers – gobeithio.

Ond mae pob gwasanaeth am ddim yn beryglus mewn ffordd, e.e. Geocities. Bydd lot o wasanaethau am ddim yn gorffen neu yn anfon ein gwaith i gategori 4. Bydd yn ofalus gyda dy waith caled.

Y Geocities Nesaf

A cautionary example about who you trust with your stuff. Blog post in Welsh, use Google Translate if you want the gist in another language.

Mae Geocities wedi cau heddiw a rydyn ni wedi colli llawer o safleoedd o’r 90au.

Dw i erioed wedi dechrau safle ar Geocities ond dw i’n teimlo’r poen heddiw. Pam? Dw i’n meddwl am y cyfraniadau mawr i diwylliannau arlein, gwaith caled a breuddwydion gan pobol o gwmpas y byd.

Gofiaist ti papur, finyl ayyb? Ydyn ni’n byw yn yr unig oes pan dydy pobol ddim yn recordio eu stwff yn iawn?

Collen ni safleoedd Cymraeg ar Geocities (darllena’r post Geocities gan Dafydd). Dw i’n meddwl am y canlyniadau – am y we Cymraeg. Dw i dal yn meddwl bod Cymraeg yn rhy dawel arlein beth bynnag.

Pa safleoedd dyn ni’n colli nesaf?

Efallai fy hen cwmni meddalwedd wreiddiol pan o’n i’n ifanc, ar Angelfire! (Rhywle arall ar y hinternet).

Dw i’n clywed bod MySpace yn colli arian ar hyn o bryd a dydy Rupert Murdoch, pennaeth News Corporation, ddim yn deall e.

Ydy cwmniau mawr yn poeni am dy cynnwys? Neu Cymraeg? Nac ydy, dim llawer – yn y tymor hir, mae diddordebau gwahanol gyda nhw.

Yn cyffredin, pan rwyt ti’n defnyddio gwasanaethau am ddim, dwyt ti ddim yn rheoli cynnwys dy hun. Bydd yn ofalus os ti’n cadw dy syniadau a gwaith ar unrhyw safleoedd fel ’na. Fel arfer mae’n anodd iawn i allforio dy cynnwys.

(Facebook, dw i’n edrych at ti. Gallwn i sgwennu mwy am Facebook. Efallai tro nesaf.)

Dyma pam dw i’n defnyddio WordPress fy hun ar safle fy hun. Dw i ddim yn dibynnu ar wordpress.com – mae nhw yn gallu newid y gwasanaeth. Dw i’n newid fy safle pan dw i eisiau. Mae WordPress yn cryf ar hyn o bryd wrth gwrs ond mae’n wella i bod yn annibynnol gyda enw parth dy hun.

Gyda llaw, dw i’n rheoli fy hunaniaeth a phrofiad darllenwyr. Does dim ots gyda fi os mae fy dylunio yn ddrwg. Dyna FY dylunio!

Dydy gwasanaethau tanysgrifiad ddim yn diogel chwaith, e.g. Sidekick.

Dw i’n awgrymu dau blog am pethau pwysig fel hwn – Dave Winer a Chris Messina.

Mae nhw yn sgwrsio am ffyrdd i datblygu’r we ac amddiffyn y we agor. Hoffwn i datblygu eu syniadau yn y cyd-destun y we Cymraeg.