Bywyd cynnwys Cymraeg – gwers Evernote

Dw i’n meddwl ers mis am yr ‘ymddiriedolaeth’ newydd tu ôl Evernote a’r stori Evernote yma:

[…] But Libin [o Evernote] believes that he can encourage even more people to park their data with Evernote if he can remove any question of doubt about his company’s long-term destiny. To this end, he plans to later this year introduce a legally binding promise that guarantees users 100 years of access to their files — not that his customers will be around that long.

This involves setting up a protected fund that, in the event of Evernote being taken over or shut down, will pay to maintain its data banks. […]

Dw i wedi blogio sawl gwaith am golled blogiau/gwefannau Cymraeg ac mae’r weledigaeth yn achos Evernote yn wych.

Hoffwn i weld rhywbeth tebyg ar gyfer cynnwys Cymraeg – sef fideos, testun, lluniau, awdio ayyb – ar draws y we i gyd. Y cynllun yw, rwyt ti orfod optio mewn er mwyn cadw dy gynnwys yn yr archif. Byddwn i’n cynnig fy mlog yn sicr. Wrth gwrs dw i wedi rhyddhau popeth dan drwydded rydd felly mae croeso i ti copïo fy mlog.

Yr unig beth tebyg ydy’r archif gwe yn Llyfrgell Genedlaethol ond does neb yn gwybod sut i gael gafael arno fe. Does dim byd o’r archif ar y we.

Dw i’n siŵr bod Cymry Cymraeg yn pryderu mwy am ddyfodol ‘cynnwys’ yn eu hiaith na lot o siaradwyr ieithoedd mawr hyd yn oed. Dylen ni. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob darn o gynnwys da, dydyn ni ddim yn ei gymryd yn ganiataol. Bydd cenhedloedd Cymru yn y dyfodol yn gwerthfawrogi archifau o hen gynnwys ac yn wondro pam mae ein cenhedlaeth ni wedi gadael lot o stwff ar y we i ddiflannu yn llwyr. Mae cyfle i fod yn arloesol yma ac wrth gwrs i sicrhau ein gwareiddiad deallusol.

Llyfrgell Genedlaethol: lluniau Geoff Charles


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth

Mae’r sylwadau ar fy nghofnod am Library of Congress wedi bod yn dda iawn.

I fod yn deg mae cannoedd o luniau o’r archifau Llyfrgell Genedlaethol yn y parth cyhoeddus.

Mae’r saith llun yma gan Geoff Charles. Mae lluniau gan ffotograffwyr eraill hefyd.

Maen nhw i gyd yn dweud ‘No known copyright restrictions’ ar Flickr, sy’n dda iawn.

Nawr allem ni rhyddhau’r llyfrau fel Yn y Lhyvyr Hwnn hefyd?
🙂

Mantais y parth cyhoeddus

Wyt ti erioed wedi clywed araith gan wleidydd na gwas sifil am fanteision y parth cyhoeddus? (Dw i erioed wedi. Ond dw i wedi clywed y geiriau ‘eiddo deallusol’, ‘intellectual property’ ac ‘IP’ sawl gwaith.)


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr

Mae’r lluniau hyfryd yma yn dod o’r archif Library of Congress. Dim trwydded, dim hawlfraint, dim ond ‘No known copyright restrictions’.

Dyma ddau wefan sydd wedi bod yn rhydd i rannu’r lluniau yn y pythefnos diwethaf:

Buzzfeed, mis Gorffenaf 2011 (31,631 yn dilyn ar Twitter, lluniau wedi cael 490 hoff, 69 ‘response’ hyd yn hyn)

How To Be A Retronaut, heddiw (9597 yn dilyn ar Twitter, 17600 yn dilyn y tudalen Facebook, mwy o bobol ar RSS ayyb)

Diolch Library of Congress, UDA. (Gweler hefyd: lluniau NASA)

Wrth gwrs mae lluniau yn dangos un math penodol o Gymru, sef yr 19eg ganrif. Ond mae’n iawn, mae’n rhan o’n hanes, diwylliant ac etifeddiaeth.

Dyma un mantais y parth cyhoeddus i bobol sy’n trio hyrwyddo Cymru neu codi ymwybyddiaeth am Gymru, e.e. Llywodraeth Cymru, Visit Wales.

Ond pa mor aml ydy blogiau o gwmpas y byd yn rhannu stwff o Gymru?

Paid anghofio’r parth cyhoeddus. Syniad da i Lyfrgell Genedlaethol sydd yn digido pethau o ganrifoedd yn ôl ac yn trio rhoi nhw dan drwydded hawlfraint gaeth iawn.

Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r parth cyhoeddus

Glyn Moody:

In other words, far from helping to make knowledge freely accessible to all and sundry, the British Library is actually enclosing the knowledge commons that rightfully belongs to humankind as a whole, by claiming a new copyright term for the digitised versions.

Mae’r stori yma yn fy atgoffa o bolisi digido Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

(Oeddet ti’n gwybod bod y delweddau o lawysgrif cyfraith Hywel Dda dan eu hawlfraint nhw? Doedd dim cysyniad o gyfraith hawlfraint yn ei gyfraith e…)

Dyma gyfle i fod yn arloesol – a gwell na’r Llyfrgell Brydeinig – rhyddha ein llyfrau yn ôl i’r parth cyhoeddus nawr gan gynnwys defnydd masnachol.

Llyfrgell Genedlaethol a’r Llyfrgell Fyd-eang

Gwnes i gymryd rhan yn sgwrs heddiw dan y teitl Y Dyfodol i Lyfrau – o archifau i’r dyfodol papur i e-lyfrau, y manteision ac anfanteision – yn y digwyddiad Bedwen Lyfrau yn Y Rhath, Caerdydd gyda Siôn T. Jobbins.

Yn diweddar dw i wedi bod yn meddwl am y we a’r rhyngrwyd yn y cyd-destun llyfrau ac dw i eisiau archwilio’r cwestiwn o archifau mwy yma: yn enwedig yn ôl un o’r cwestiynau Siôn, pa mor ddiogel fydd yr archif Google Books, sef casgliad gyda chwmni preifat o lyfrau digidol yn gynnwys llyfrau Cymraeg? Does neb yn gwybod beth fydd yn digwydd i Google yn 2020 neu 2111.

Gwnes i godi’r pwynt o lyfrau prin sydd yn fas o brint, Afal Drwg Adda gan Caradog Prichard yw fy hoff enghraifft ar hyn o bryd – o 1973.

Afal Drwg Adda gan Caradog Prichard

Felly dyw print ddim yn warant o argaeledd. Mae peryg eisoes o golled darnau o ein diwylliant. Hefyd mae’r system hawlfraint gallu bod yn gelyn i lyfrau, darllenwyr ac iaith – heb sôn am y cwmnïau. Ond wnes i ddim ateb y cwestiwn gwreiddiol.

Yn ôl bob sôn, doedd Y Rhyfel Oer ddim mor hwyl ar y pryd ond rydyn ni’n gallu bod yn diolchgar am un o’r canlyniadau: y technoleg rhwydwaith electronig tu ôl y rhyngrwyd. Yn ôl yr “athroniaeth” o’r project dylai’r rhwydwaith parhau hyd yn oed os mae darnau o’r rhwydwaith yn cwympo mas. (Os oes gyda ti ddiddordeb dylet ti ddarllen am ARPANET.)

Mae’r rhyngrwyd, gan gynnwys y we, yn broject dynol. Mae’n adlewyrchi ein blaenoriaethau deallusol i ryw raddau. Rydyn ni i gyd yn llyfrgellwyr i ryw raddau. Dw i wedi bod yn meddwl am wahaniaethau rhwng ein disgwyliadau o lyfrgelloedd traddodiadol a’r Llyfrgell Fyd-eang.

Fy prif pwynt am y Llyfrgell Fyd-eang – o ran archifau dydyn ni ddim yn dibynnu yn llwyr ar Google Books neu’r Llyfrgell Genedlaethol. Wrth gwrs rydyn ni’n diolchgar iddyn nhw am y waith digido ac archifo.

Y Gen gan traedmawr
delwedd gan traedmawr (Creative Commons)

O’n i’n darllen yr atebion i’r ymgynghoriad yr IPO yn diweddar. Dyma darn gan Llyfrgell Genedlaethol, maen nhw yn cyfaddef y gwendid yn y system:

Preservation is key to the future of our collection as an accessible resource for research and learning. But despite our best efforts to regulate and monitor the conditions under which the analogue collection is stored, it is virtually impossible to halt altogether the gradual deterioration of physical objects. Digitisation does not arrest the deterioration of physical material, but it does provide means of preserving the information contained within the original item.

Felly pam ddylen ni dibynnu ar unrhyw cyfrwng corfforol penodol yn dwylo unrhyw sefydliad neu cwmni? Mae’r archifau wedi cael eu ’datganoli’ i ni, pawb, ein sefydliadau, ein cwmnïau, ni fel unigolion. Dylen ni ddefnyddio’r rhwydwaith mwy.

Os ti’n hoffi rhywbeth, cadwa copi.

Addasa. Darllena dy hoff barddoniaeth ar fideo.

Neu dechrau blog o dy hoff cerddi. Paid ag anghofio Wikisource a Wikiquote.

Dylen ni poeni am hawlfraint ac arian hwyrach. Ti’n tyfu‘r marchnad. O ddifri.

Cafodd y system hawlfraint ei dylunio heb bwyslais ar iaith leiafrifol. Mae gymaint o broblemau i ddefnydd o Saesneg heb sôn am Gymraeg. Dyw Google Books ddim yn poeni gormod am hawlfraint, maen nhw yn aros am lythyrau cyfreithiol. Strategaeth dda.

Mae llawer iawn o gopïau o rhai o’r destunau yn y Llyfrgell Fyd-eang, e.e. yr eiriau Mae Hen Wlad Fy Nhadau, Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, delweddau gan Kyffin Williams ayyb. Mae’r rhai enwog ohonyn nhw yn ddiogel. Fydd y byd byth yn eu colli neu anghofio. Sut ydyn ni’n gallu hyrwyddo a chopïo’n hoff stwff i fod yn enwog, neu ychydig mwy enwog ar y sbectrwm?

Llynedd yma, sgwennais i’r isod, sydd yn tanlinellu yr elfen fyd-eang o’r Llyfrgell Fyd-eang:

Many, many things lie decaying in archives. They don’t make a penny for anyone and they need to be released somehow. Fritz Lang’s film Metropolis was made available recently in an extended director’s cut because a reel containing lost scenes was found in Argentina. That was lucky in a way. It’s a warning for us and shows us what we need to emulate – to the power of a hundred – with Welsh culture. We can’t rely on a tiny number of decaying copies somewhere. Nevermind old things which have gone into the public domain, I actually think we are missing wider availability and business opportunities by not copying the cultural treasures of TODAY. By copying we increase not only the long term value of a work but its value today. But there are more ways to maximise this value.

Wrth gwrs mae unrhyw archifau ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol yn rhan o’r Llyfrgell Fyd-eang. Ond maen nhw yn gallu chwarae rôl enfawr yma: rhyddhau mwy o bethau ar-lein, hyfforddi a helpu pobol i fod yn blogwyr, sgrifennwyr, copïwyr fel ‘llyfrgellwyr’ ar-lein, trwyddedau synhwyrol a rhyddhau pethau i’r parth cyhoeddus – a chadw pethau ar fformatau gwahanol gan gynnwys papur.

Mwy o gofnodion am Llyfrgell Genedlaethol.

40,000 llun yn yr archif Llyfrgell Genedlaethol

“Mae’n dal i sioc i sawl un, ond mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i 40,000 o luniau” meddai cofnod newydd ar blog Llyfrgell Genedlaethol.

Dw i’n meddwl am y diffyg cynnwys ar y we Gymraeg/Cymru bob dydd felly gallwn i awgrymu dwy strategaeth efallai. Achos ddylai hwn ddim bod yn sioc.

Defnyddia TinEye, chwilio gweledol, i asesu poblogrwydd lluniau. 0 canlyniad hyd yn hyn. Dylai hwn bod yn sioc. Cf. American Gothic ar TinEye: 1235 canlyniad.

1a. Diffyg rhannu lluniau a diffyg anogaeth amlwg

Diolch i’r Llyfrgell am rhannu’r llun Harbwr Aberystwyth o 1792 isod.

Diolch hefyd iddyn nhw am rhannu’r llun yma o’r Harbwr rhwng 1880 a 1899.

Mae Siôn yn dweud

Mae’r Llyfrgell yn edrych ar drwyddedu agored ar hyn o bryd.

Rydym am gasglu rhagor o dystiolaeth ynghylch opsiynau trwyddedu cyn gwneud penderfyniad ar ba ddeunydd i’w drwyddedu a’r math o drwydded agored i’w defnyddio.

Un munud…

Blwyddyn 1792? Blwyddyn 1899? Rydyn ni’n siarad am lluniau sy’n mwy na 100 mlynedd oed. Does dim enw arlunydd i gael am y ddau lun yma. Ond mae’n debyg bod nhw yn y parth cyhoeddus. Fu farw’r arlunydd cyn 1af mis Ionawr 1941? Parth cyhoeddus.

Felly pam ydyn ni’n siarad am drwyddedau agored o gwbl yn y cyd-destun yma?

Paid camddeall – dw i’n ffan mawr o drwyddedau agored, Creative Commons yn enwedig. Dw i wedi blogio amdanyn nhw sawl gwaith. Mae unrhyw trwydded am gynnwys – o “cedwir pob hawl” i Creative Commons yn dibynnu – ar hawlfraint. Wrth gwrs mae’r Llyfrgell yn berchen ar luniau mwy newydd felly bydd trwydded agored yn wych yna.

Ond beth sy’n digwydd yma? Wel mae’n edrych fel mae’r Llyfrgell yn tynnu lluniau o’r delweddau ac yn trio perchen ar y delweddau. Dw i ddim yn siwr gyda lluniau ond maen nhw yn wneud rhywbeth debyg gyda llyfrau, dw i wedi cael sgwrs ar y flog yma gyda nhw. (Crynodeb: os ti eisiau postio lluniau o’r llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg, sef Yn y Lhyvyr Hwnn o 1546, maen nhw yn gofyn am £6. Anhygoel!)

Ydw i’n torri’r rheolau gan bostio’r lluniau uchod?

Pam ydw i mor obsesed gyda hawlfraint ar hyn o bryd? Achos dw i’n hoffi lluniau fel yr enghreifftiau uchod a dw i’n caru Cymru, yr iaith Gymraeg ac ein hetifeddiaeth.

Dw i’n ddiolchgar iawn am waith y Llyfrgell Genedlaethol yma ond dylen nhw rannu/dosbarthu ac annog rhannu heb gyfyngiad am lluniau yn y parth cyhoeddus. Byddan nhw yn werthu mwy o brintiau yn bendant.

rhannwch-pliz?!!

1b. Diffyg ffrydiau

Un ffordd pwerus iawn i godi defnydd ac ymwybyddiaeth yw ffrydiau o luniau. Mae archif o 40,000 yn wych mewn theori. Ond gawn ni weld un – dim ond un – llun sy’n berthnasol heddiw? Sut ydw i’n gallu bod yn ffan o luniau Cymru, Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol? Sut ydw i’n gallu dilyn?

Dw i newydd dechrau blog arall am lluniau Cymru:

http://einlluniau.tumblr.com

Wrth gwrs mae hwn yn gyflym, prawf o’r cysyniad.

Gweler hefyd: lluniau MAWR ar The Big Picture ac In Focus. Neu dilyna @big_picture a @in_focus.

Cer i chwilio am mwy o’r archif lluniau. Bydd yn ofalus gyda hawlfraint – ond os maen nhw yn fas o hawlfraint, defnyddia nhw. Cofia: newid / addasu. Dydy’r Llyfrgell Genedlaethol ddim yn gallu siwio pawb. Mewn gwirionedd, dw i’n meddwl bydd pawb, yn gynnwys Cymru a’r Llyfrgell, yn ennill trwy fwy o ddefnydd.

Cymru yn y gofod (NASA a hawlfraint)

Cymru gan NASA

Hen erthygl o fis Tachwedd 2003 yn Wired (gan Danny O’Brien, cyn-cyd-golygydd NTK):

There’s no copyright at NASA. It’s a federal agency, and the government cannot legally hold any copyright. You can download and reproduce some of the most expensive photographs in history from one of the richest public storehouses on the planet. As long as you don’t imply that NASA is a big fan of the nightclub or credit card you’re advertising, you’re good to go. File-share all the pictures of Neil Armstrong you want.

Gwych. Mae’r canllaw swyddogol gan NASA yn rhoi’r manylion pellach i ni:

NASA still images; audio files; video; and computer files used in the rendition of 3-dimensional models, such as texture maps and polygon data in any format, generally are not copyrighted. You may use NASA imagery, video, audio, and data files used for the rendition of 3-dimensional models for educational or informational purposes, including photo collections, textbooks, public exhibits, computer graphical simulations and Internet Web pages. This general permission extends to personal Web pages.

This general permission does not extend to use of the NASA insignia logo (the blue “meatball” insignia), the retired NASA logotype (the red “worm” logo) and the NASA seal. These images may not be used by persons who are not NASA employees or on products (including Web pages) that are not NASA-sponsored.

NASA should be acknowledged as the source of the material except in cases of advertising. See NASA Advertising Guidelines.

If the NASA material is to be used for commercial purposes, especially including advertisements, it must not explicitly or implicitly convey NASA’s endorsement of commercial goods or services. If a NASA image includes an identifiable person, using the image for commercial purposes may infringe that person’s right of privacy or publicity, and permission should be obtained from the person.

Mae termau ac amodau yn bwysig iawn – fel datganiad o hawliau a rhyddid. Mae pobol yn wneud mwy os ti’n rhoi caniatâd eglur ac amlwg.

Flickr: 249,528 canlyniad am NASA

YouTube: tua 236,000 am NASA

Sa’ i’n sicr faint ohonyn nhw yn wreiddiol neu annibynnol o NASA ond siŵr o fod llawer.

Dw i’n creu ailgymysgiad yma mewn ffordd. Dw i’n defnyddio llun Cymru gyda thestun.

Gobeithio bydd hwn yn ysbrydoliaeth i ein sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru. Rhaid i ni ofyn a thalu os dyn ni eisiau ailddefnyddio delwedd o lyfr sgwennwyd yng Nghymru (yn 1546), cyhoeddwyd yng Nghymru a sganiwyd yng Nghymru.

Ond dyn ni’n gallu defnyddio llun Cymru gan sefydliad Americanaidd unrhyw bryd.

Diolch i NASA am y llun Cymru.

Anturiaethau yn y Jyngl – hawlfraint a llawer mwy!

Mae’n braf i weld blog newydd Anturiaethau yn y Jyngl gan Dafydd Tudur – “Blog sy’n rhannu gwybodaeth ac ysgogi trafodaeth am eiddo deallusol drwy gyfrwng y Gymraeg”.

Dyn ni wedi trafod un neu dau beth yn barod.

Mae fe wedi ateb fy nghofnod am Lyfrgell Genedlaethol a sganio llyfrau, dw i wedi ateb gyda sylw arall.

Hefyd dyn ni’n trafod statws yr hawlfraint yn recordiad Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis ar Twitter ar hyn o bryd.

Dyn ni’n rhannu diddordeb yn dechnoleg, cynnwys Cymraeg a dyfodol yr iaith Gymraeg. Gobeithio bydd rhywun tu allan yn ffeindio rhywbeth o werth yn ein trafodaeth.

Dw i’n coginio cofnod am y term “eiddo deallusol” ar hyn o bryd. Os wyt ti eisiau ateb ar dy flog dy hun, cer amdani.

Diwylliant rhydd: gofyn i’r Llyfrgell Genedlaethol am ein hetifeddiaeth

Canslwyd. Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delwedd tu ol y nodyn yma.

Diwrnod Pethau Bychain hapus!

Dw i’n postio pethau amrywiol yn safleoedd gwahanol. Ond ro’n i eisiau postio delwedd o Yn Y Lhyvyr Hwnn (y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf o 1546) yma. Basai’n ffordd briodol o ddathlu’r chwyldro cyhoeddi newydd, o’n i’n meddwl. Ond dyw Llyfrgell Genedlaethol ddim eisiau rhannu’r delweddau ar hyn o bryd. Dw i wedi postio’r llythyr isod iddyn nhw.

Annwyl Llyfrgellydd

Dw i wedi darllen darnau o’r llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf, Yn y Lhyvyr Hwnn. Dw i eisiau eu ail-cyhoeddi nhw ar fy mlog. Does dim copi o’r llyfr gyda fi yn anffodus ond ffeindiais i luniau ar eich gwefan.

Mae’r lluniau yn dweud “Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delweddau a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd”.

Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn 1546 yn wreiddiol felly mae’r llyfr yn mas o hawlfraint. Baswn i awgrymu bod mai y cyhoedd sydd yn ei berchen e, yn cynnwys y pobol o Cymru.

Hoffwn i’ch ofyn i chi i newid y statws y delweddau i’r parth cyhoeddus – am Yn y Lhyvyr Hwnn a phob llyfr arall yn eich casgliad arlein. Maen nhw i gyd yn weithiau hollol deilliadol sydd yn deillio’n llwyr o’r llyfrau gwreiddol. Mae arian cyhoeddus yn cefnogi’r Llyfrgell felly dylai popeth yn y casgliad arlein fod yn y parth cyhoeddus.

Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am y delweddau o Yn y Lhyvyr Hwnn a llawer o lyfrau eraill. Ond dyw’r mynedfa i’r casgliad ar hyn o bryd ddim yn digon llydan. Ar hyn o bryd rhaid i bobol gofyn o flaen llaw ar gyfer am ail-gyhoeddi, ail-ddefnyddio neu ail-gymysgu o’r delweddau.

Dw i’n edrych ymlaen at eich ymateb.

Oddi wrth

Carl Morris

Dyn ni’n siarad am ein llyfrau yn y parth cyhoeddus yma, ein hetifeddiaeth.

Gwnaf i bostio unrhyw ateb. (Diolch Rhys Wynne am help gyda gramadeg y llythyr yma.)

Mwynha weddill y diwrnod Pethau Bychain!