Dileu Cymraeg fel pwnc: llythyr at fy hen ysgol

ysgol-uwchradd-cantonian

Roedd ymddangosiad llefarydd o fy hen ysgol ar Newyddion BBC (fideo) yn digon i fy sbarduno i ysgrifennu llythyr ati hi.

Rwy erioed wedi cwrdd â’r llefarydd, sydd yn pennaeth ieithoedd yr ysgol, o’r blaen.

Does dim rheswm i amau ei safon fel athro ond o’n i’n ceisio mynegi yn gwrtais bod Cymraeg fel pwnc ail iaith wedi methu.

7fed o Fai 2014

Annwyl Mrs Gwilliam

Rwyf newydd wylio eitem ar wefan Newyddion y BBC am addysg Gymraeg (http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/27251064). Siom fawr oedd clywed eich meddyliau, fel arweinydd yn y maes, am yr ymgyrch gyffrous i ddileu Cymraeg fel pwnc ail iaith tocenistaidd ac i addysgu pob plentyn yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn i ymateb i’ch pwyntiau yn yr eitem yn y llythyr hwn.

Mynychais i ysgolion cyfrwng Saesneg gan gynnwys gwersi Cymraeg gorfodol rhwng 1992 a 1995. Er bod athrawon Cymraeg galluog yn yr ysgol pryd hynny, roedd y diffyg statws cymharol i’r iaith yn tanseilio’r ymdrechion i drosglwyddo sgiliau sylfaenol na hyd yn oed unrhyw frwdfrydedd dros yr iaith i fyfyrwyr. Rwy’n cofio’n glir beth oedd blaenoriaethau’r ysgol: ‘The core subjects are Mathematics, Science – and English.’, geiriau sy’n adlewyrchu polisïau a oedd yn is-raddio’r Gymraeg yn gyson yn ein meddyliau ifanc ni – a gafodd effaith niweidiol ar ein barn tuag at yr iaith am flynyddoedd i ddod. Roedd agwedd y bobl ifanc yn adlewyrchu agwedd y system.

Er fy mod i’n cydnabod mai dim ond ychydig eiliadau sydd ar gael i wneud pwynt mewn rhaglen newyddion, rwy’n cymryd eich bod chi am barhau gyda rhyw fersiwn o’r status quo. Dyna sy’n fy mhryderu i am eich sylwadau: yr awgrym nad yw’r Gymraeg yn ddigon pwysig i fod yn gyfrwng i bawb yn y brifddinas a’i bod hi’n iawn os ydy plant yn gadael yr ysgol gyda dim byd mwy na ‘Tourist Welsh’ yn eu gwlad eu hunain. Gallwch ddychmygu pa mor hurt fyddai safbwynt tebyg mewn ysgolion mewn gwledydd fel yr Almaen neu Sweden, llefydd lle mae pob un dinesydd ifanc yn y brif ffrwd yn gadael ysgol gyda sgiliau yn y briod iaith.

Fe fydd gweledigaeth Cantonian o ran y Gymraeg wastad o ddiddordeb i mi achos dyna oedd fy ysgol uwchradd i. Er gwaethaf datganoli a newidiadau yn y maes addysg ers 21 mlynedd does dim llawer i’w weld wedi newid ers fy amser i.

Yn amlwg, rwyf wedi bod ar daith ddiddorol yn y cyfamser ac wedi bod yn ffodus i ddarganfod yr iaith drwy gerddoriaeth, ffrindiau a gwersi i oedolion a ddechreuwyd yn 2007. Wrth glywed fy stori i mae llawer o bobl heb ruglder yn y Gymraeg yn dweud yn aml wrthaf i eu bod nhw’n awyddus i siarad yr iaith hefyd. Ond fyddan nhw ddim i gyd yn ffeindio’r amser, yr arian na’r cyfleoedd i ddysgu fel oedolion. Fe fydd llawer o fyfyrwyr Cantonian yn meddwl pethau tebyg ac mae hi’n bryd i’r ysgol ymateb heddiw i ddyheadau cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r ffaith bod y Gymraeg yn tyfu yng Nghaerdydd yn galonogol ac mae dalgylch Cantonian yn cynnwys Treganna, y ward gyda’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas yn ôl Cyfrifiad 2011. Yn ôl eich sylwadau chi, nid oes digon o Gymraeg i’w glywed yn y gymuned leol. Ond dydy hynny ddim yn rhwystro’r ysgolion yn yr ardal sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae angen cymryd camau uchelgeisiol. Gall Cantonian arwain yn y maes a datgan ei bod hi’n awyddus i geisio gweithio gyda’r cyrff perthnasol i ddatblygu ffyrdd arloesol o gyflwyno’r Gymraeg i bob myfyriwr. Gallech alw ar Gyngor Caerdydd i fuddsoddi yn deg mewn Cymraeg yn yr ardal trwy weithgareddau, gwasanaethau cyhoeddus ac ati er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned. Gallech ymchwilio a gweithredu ar ffyrdd o ddatblygu sgiliau iaith ymhlith yr athrawon.

Hoffwn i fentro argymell hefyd y dylech chi ystyried manteisio ar eich cyfle nesaf i siarad yn gyhoeddus am ddyfodol addysg Gymraeg i ddweud un peth cadarnhaol o leiaf, megis cydnabod yr awydd ac ewyllys i geisio canfod trefn well na’r un ddiffygol sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Yn gywir

Carl Morris

Fe fydd e’n cymryd mwy nag un athro i newid y drefn. Ond rwy’n meddwl bydd cefnogaeth athrawon yn hollbwysig yn yr ymgyrch yma, yn enwedig y rhai sy’n defnyddio eu dylanwad i ymateb i ymgynghoriadau ac ati.

Efallai dylai mwy o bobl ysgrifennu yn gwrtais at eu hysgolion. Pe taswn i’n athro byddwn i eisiau clywed wrth gyn-fyfyrwyr (dw i’n meddwl!) ac yn sicr y rhai presennol.

Mae mwy ar y blog am #AddysgGymraegIBawb a fy stori i.

Mae hi wedi bod yn dipyn o brofiad i ymweld â gwefan yr ysgol. Gyda llaw mae’r defnydd o Google Translate i ddarparu’r fersiwn Cymraeg yn cyfrif fel ‘trosedd’. Ond un brwydr ar y tro eh? 🙂

Llun o’r ysgol gan John Carter (CC BY-SA)

Addysg Gymraeg i bawb: fy stori i

Bron yn union pum mlynedd yn ôl yn 2008, blogiais i yn Saesneg am fy mhrofiadau o Gymraeg fel pwnc yn yr ysgol. ‘Sut ddylen ni addysgu ieithoedd yn yr ysgol?’ oedd fy nhwestiwn ar y diwedd, heb ymateb. Gwnes i gadw’r posibiliad o ailymwelediad i’r un pwnc hwyrach ymlaen. Wel, dyna ni:

Wrth gwrs mae llwyth o bethau sydd angen er mwyn gwireddu’r addewid o roi’r Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys addysg o’r radd flaenaf.

Mae un pwynt arall hoffwn i wneud i ddilyn y pwynt olaf yn y fideo. Beth sy’n ddiddorol i mi ydy’r ffaith bod llawer iawn o oedolion yng Nghymru eisiau’r gallu i siarad Cymraeg. Does dim tystiolaeth gyda fi (does dim cwestiwn yn y cyfrifiad…) ond mae pobl yn dweud pethau yn aml iawn wrtha i fel ‘oh I wish I could speak Welsh but…’. Efallai dydyn nhw ddim yn gallu ffeindio’r amser, efallai dydyn nhw ddim hyd yn oed eisiau mynd trwy’r broses o ddysgu fel oedolion. Ond mae lot fawr yn mynegi’r awydd. Dyna rywbeth i’w ystyried.

Fideo trwy Sianel 62. Diolch i Euros am waith camera.

#AddysgGymraegIBawb

Aran Jones: rhesymau eraill i flogio yn Gymraeg

Aran Jones yn dweud:

[…] a’r gwir ydi, wrth gwrs, mae’r Saesneg yn fam iaith i mi ac yn iaith dw i’n medru ei thrin yn gyflym ac yn gyfforddus.

Nid felly mae’r Gymraeg.  Hi ydi iaith fy nghalon, ac iaith fy aelwyd; iaith fy nghariad tuag at fy mlant a’m gwraig; iaith newidiodd fy myd.

Ond nid yw hi o dan fy meistrolaeth, o bell ffwrdd – ac mae sgwennu heb reolaeth llwyr, yn ymwybodol y daw camgymeriadau, yn gweithio o fewn ffiniau cymaint yn fwy gyfyngedig na iaith gogoneddus […] yn teimlo fel gollwng ddeugain o flynyddoedd ac eistedd eto ar lawr y dosbarth heb syniad yn y byd sut byddai modd i mi fod o werth fy hun.

Dyna, wrth gwrs, yr her seicolegol mae unrhyw ddysgwr yn ei wynebu – colli hyder a gallu yr oedolyn er mwyn baglu ac is-raddio eu hunain mewn iaith arall – mae iaith mor ganolog i’n hunaniaeth a’n hunan-werth, mae mynd heb dy iaith rugl fel gorfod cau dy lygaid am ddiwrnod, neu glymu dy ddwylo tu ôl i dy gefn. […]

Mae lot i’w ystyried yma. Dw i wedi dweud o’r blaen pam dw i ddim yn hoff o’r term dysgwr ond dw i’n adnabod yr union deimladau a heriau yn yr hyn mae Aran yn eu dweud.

Mae’r cyfan yn werth eich sylw ar Trafodaeth, blog newydd sbon.

Cynseiliau ieithyddol ar y we

Mae Ifan Morgan Jones newydd gyhoeddi siart o’i hoff blogiau ar Golwg360 sy’n ddiddorol (er bod y dewisiadau bach yn drwm ar yr ochr sosejol, fel lot o bethau yng Nghymru batriarchaidd).

Mae fe’n dweud:

[…] Rhif 6: Quixotic Quisling
Efallai fod cynnwys blog ddwyieithog yn gosod cynsail peryglus […]

Wel, mae’n dibynnu ar bobol eraill. Hoffwn i feddwl bydd mwy o flogiau uniaith Saesneg ar y we yn dechrau cyhoeddi yn Gymraeg…

🙂

[D] Cymraeg

Mae Vaughan Roderick yn gofyn am y ‘ffin ieithyddol yng Nghymru’r dyddiau hyn’.

Yng Nghymru mae bron pawb yn gwybod ‘diolch’, ‘bore da’, ‘nos da’, ‘iechyd da’, ‘araf’ a ‘gwasanaethau’. Dyma sut mae unrhyw un yn dysgu iaith fel babi, yn yr awyrgylch ieithyddol, mae’n naturiol. Ac maen nhw wedi gadael ein categori statig ‘di-Gymraeg’.

Mewn gwirionedd does na ddim grŵp ‘di-Gymraeg’ yng Nghymru.

Maen nhw i gyd gallu bod yn [D] Cymraeg.

Ac mae lot o’r [D] Cymraeg eisiau clywed mwy o Gymraeg o’i chwmpas, nid llai.

Mae cyfleoedd i glywed Cymraeg yn brin iawn ac yn werthfawr iddyn nhw.

DYn fy mhrofiad i, yn y brifddinas, siaradwyr Cymraeg rhugl ydy’r pobol sydd yn atal ymdrechion i helpu’r ‘di-Gymraeg’ i fod yn [D] Cymraeg. Gyda thipyn bach mwy o amynedd bydd mwy o [D] Cymraeg yn parhau ar yr antur ieithyddol. Dyw e ddim yn helpu o gwbl i feddwl bod nhw yn dod mewn rhyw fath o grŵp statig di-Gymraeg achos genedigaeth neu prinder o gyfleoedd.

Dyma enghraifft o fy mywyd. Dw i’n siarad 100% Cymraeg i un o fy ffrindiau. Mae fe’n ateb 50% Cymraeg a 50% Saesneg, sydd yn hollol iawn.

Amser Nadolig bydd e’n ateb 55% neu 60% Cymraeg dw i’n siwr.

Dylwn i wedi dweud bod i’n siarad 100% Cymraeg ond i’n cyfathrebu gyda thipyn o charades i helpu dealltwriaeth, à la Ifor ap Glyn yn y gyfres Popeth yn Gymraeg.

Datblygu gyda Datblygu

Llyfrau, llun gan Dogfael

I need to set myself some new challenges with my Welsh learning. The next will be book-related. That means picking one up and reading it. But it needs to be a good one with the right level of challenge. (Previous posts about learning Welsh)

Rhaid i mi fendio her newydd yn fy anturiaethau Cymraeg.

Dw i’n teimlo eitha statig ar hyn o bryd (fel dysgwr).

Dw i’n gallu cofio pob carreg filltir ar y ffordd. Dechraiais i fy ngwers gyntaf dwy flynedd a hanner yn ôl. Carreg filltir. Datrys ebostiau yn y dyddiau cynnar cyn Google Translate. Ha ha. Ac wedyn, cwrddais i rywun “yn Gymraeg” am y tro cyntaf. Dw i’n cofio’r person cyntaf. Dyn ni dal yn siarad ond dyn ni ddim yn siarad un rhywbeth ac eithrio Cymraeg. Dydy’r enw nhw ddim yn bwysig iawn am y cofnod hwn. Ond oedd y foment yn bwysig. Cychwyn newydd.

Allwn i ddweud popeth dw i eisiau dweud?

Ddylwn i amneidio, honni, pan dw i ddim yn deall?

Pryd fyddan ni dechrau siarad yn normal? Byth.

Oedd y teimlad fel cwympo mas o awyren. Freefall.

Mae llawer o bobol yn gofyn am awgrymiadau cyrsiau nawr. Ydy mwy o bobol yn chwilio am gyrsiau Cymraeg? Fel prawf, dydy’r casgliad ddim yn deg. Mae mwy o bobol yn gofyn fi achos maen nhw yn gwybod dw i wedi dysgu. Gobeithio byddan nhw i gyd yn mynd i ddysgu rhywbryd, pan fyddan nhw yn barod.

Dw i’n meddwl am bob penderfyniad da yn fy mywyd. Gyda phob peth da, dylai i wedi dechrau yn gynharach. Er enghraifft. Dechrais i Gymraeg yn 2007. Dylai i wedi dechrau yn 2003. Ond does dim ots. Dylwn i benderfynu’r peth nesaf i wneud NAWR.

Mae fy straeon a barnau yma yn bersonol. Mae termau ac amodau arferol dal yn sefyll wrth gwrs.

Nawr dw i’n gallu gweithio, cwrdd â phobol newydd, cyfieithu ychydig o feddalwedd rydd. Dw i ddim yn gallu deall areithiau neu bregethau yn dda. Dw i dal yn ddrwg yn unrhyw gyd-destun gyda llawer o bobol sy’n siarad yn gyflym – cyfarfodydd go iawn neu grwpiau yn y tafarn.

Bydd fy sialens newydd yw gorffen llyfr. Nid jyst dechrau llyfr.

Mae casgliad gyda fi o lyfrau dw i wedi dechrau (Saunders Lewis, Islwyn Ffowc Elis). Hwyl am y tro. Ond buan.

Mae’n hawdd iawn i orffen ffilm neu albwm. Eistedda ac aros. Dw i’n darganfod cyfrinachau gwahanol, manylion bach bob tro (e.e. Mwng).

Hei, dw i dal yn gwrando ar hiphop heb ddealltwriaeth am y cyfeiriadau diwylliannol weithiau.

Mae fy llyfr nesaf yw Atgofion Hen Wanc gan David R. Edwards. (Unrhyw awgrymiadau eraill? Llyfrau debyg.)

Mae diddordeb mawr gyda fi yn gerddoriaeth, 80au post punk a phethau tebyg yn enwedig. Dw i wedi nabod yr enw Datblygu ers blynyddoedd wrth gwrs. Ro’n i’n teimlo parod am gerddoriaeth Datblygu ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Dw i ddim yn siŵr os mae’n syniad da i ddarllen y cyfieithiadau Saesneg yn Wyau/Pyst/Libertino ond dw i wedi darllen nhw yn barod, beth bynnag.

85 tudalen. Reit, dylwn i gau fy ngheg tan dw i’n gorffen y llyfr.

Llun gan Dogfael

Peiriant cyfieithu yn y dyfodol, agos a phell

On my blog I am now using two languages – English and Welsh. The English language posts will continue as before. Every Welsh language post (of which below is the first) will have a quick summary at the top in English (like this one). This is something I’ve decided to adopt, to fit the way I do things. I gave an explanation last time (while presuming to throw down some kind of gauntlet to people who can use Welsh but decide to blog in English).

If you like the summary you can ask a friend to translate the post or use machine translation to get the gist. Fittingly the subject of the following post is machine translation of languages, now that Google Translate supports Welsh.

Dyma fy post cyntaf yn yr hen iaith. Fel arfer mae post cyntaf yn eitha anodd. Mae hi’n teimlo fel cam yn parth newydd. Rwyt ti’n teimlo fel person cyntaf ar y llawr yn disco! Felly dylet ti wneud rhywbeth, gorffena dy post yn gyflym ac ewch ymlaen. Dere a dawnsia.

Ers fy post diweddar, oedd rhywun yn benderfynu i ail-dechrau eu blog fe ar ôl toriad. Oedd y person hon yn Nic Dafis, arloeswr yn y byd arlein yn Gymraeg. Yn wreddiol, dechreodd e eu flog Gymraeg yn y dyddiau gynnar blogio. Mae e wedi dod yn ôl felly mae’n braf i weld. (Tanysgrifia!)

Dw i wedi defnyddio peiriant cyfieithu ers lawnsiad Babelfish. Ond darllenaist ti newyddion Google Translate? Os ti eisau cefndir, darllena Murmur neu Metastwnsh.

Darllenais i sgwrs am Google Translate ar Clwb Malu Cachu yn diweddar. Rhaid i ti ymuno’r grwp os ti eisiau darllen.

Fel technoleg, mae peiriant cyfieithu yn cyffrous iawn.

Mae arbennigwyr wedi ymchwilio’r ardal hwn gyda ieithoedd gwahanol. Dw i’n gallu siarad am meddyliau gynnar.

Oedd peiriant cyfieithu yn defnyddiol pan penderfynais i i flogio yn y Gymraeg. Mae fy stwff yn agor i pobol di-Gymraeg. Pan dw i’n blogio dw i ddim yn poeni am pobol yn cyffredin o gwmpas y byd. Dw i ddim eisiau bod yn enwog fel blogwr. Dw i’n meddwl am fy “gymuned” fy hun – ar enghraifft fy ffrindiau, fy gyfeillion, pobol sy’n chwilio, pobol gyda diddordebau yn cyffredin.

Dylwn i dweud dw i’n siarad am fy sefyllfa fy hun – fel dysgwr, fel “dinesydd” (ha ha). Your mileage may vary. Beth bynnag, nawr bydd fy postiau Cymraeg yn agor i fy gymuned. Diolch i Google Translate. Bydda i parhau gyda postiau yn Saesneg achos dw i’n gallu esbonio pethau – fy profiadau a phethau eraill – yn well. Dw i’n hoffi Saesneg. Os dw i’n gallu dweud fy profiadau, fy storiau, efallai byddan nhw yn helpu pobol eraill. Dyma’r athroniaeth we agor.

(Gyda llaw, ymddiheuriadau am fy gramadeg yma.)

Weithiau mae pobol yn ofni peiriant cyfieithu. Dydy e ddim yn perffaith o gwbl – ar hyn o bryd. Mae safon cyfieithu ar arwyddion ayyb yn ddrwg, dw i’n cytuno. Os ti eisiau enghreifftiau, ewch i gwrp Scymraeg ar Flickr. Mae grwp ydy syniad wreddiol gan Nic Dafis eto. Dwyt ti ddim yn gallu ei osgoi e arlein.

Nawr gallai unrhyw un yn brofi unrhyw cyfieithiad go iawn o gyfieithwr proffesiynol. Dyma un mantais. Efallai basen ni’n osgoi camgymeriadau mawr fel yr enwog “nid yn y swyddfa”. Dw i’n siwr rwyt ti’n gwybod yr enghraifft.

Ond rhaid iddyn ni nabod manteision ein offerynnau – a chyfyngiadau. Ar hyn o bryd, os ti eisiau cyfieithu rhaid i ti defnyddio cyfieithwr. Rwyt ti’n defnyddio Google Translate pan ti eisiau cael sylwedd, yn unig. Mae pawb yn deall a chytuno gyda hwn – gobeithio.

Dydy cyfieithwyr ddim yn cystadlu gyda peiriant cyfieithu – gobeithio, eto. Mae’r broses cyfieithu yn creadigol ond mae Google Translate yn defnyddio proses ystadegol.

Bydd Google yn datblygu Google Translate yn sicr.

Beth fasai’n digwydd yn y dyfodol os fydd Google (neu rhywun arall) yn gallu wneud cyfieithu perffaith rhwng ieithoedd?

Beth am realtime headsets cyfieithu fel ffilmiau ffuglen-wyddonol? Mae pobol wedi sgwennu nofelau ffuglen-wyddonol yn y Gymraeg (ar enghraifft Wythnos Yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis). Oedd unrhyw un yn cael peiriant cyfieithu yn y storiau?

Ydy peiriant cyfieithu “perffaith” yn bosib beth bynnag? Dyn ni’n gwybod, bydd y safon peiriant cyfieithu yn mynd lan.

Os fydd pobol di-Gymraeg yn gallu defnyddio peiriant cyfieithu basen nhw yn penderfynu i dysgu’r iaith? Efallai ar hyn o bryd mae byd Gymraeg yn cau i pobol di-Gymraeg. Efallai os mae nhw yn gweld y byd basen nhw yn ymuno. Heddiw, mae mantais Gymraeg yn eitha glir. Ydy e’n hybu ieithoedd lleiafrifol? Ydy, dw i’n meddwl. Weithiau. (Does dim esgus gyda fi i osgoi Cymraeg ar fy mlog!)

Yn fy marn i, dyn ni’n derbyn unrhyw technoleg fel Faustian pact. Rhaid iddyn ni deall arferion da gyda technoleg. A rhaid iddyn ni esbonio ac hybu arferion da. Byddan ni weld camddefnydd a byddan ni weld pethau da.

Hefyd, mae peiriant cyfieithu ydy profiad mediated. Baswn i defnyddio realtime headset gyda ieithoedd eraill. Ond dw i’n meddwl bydd pawb yn gwybod mae dealltwriaeth go iawn wastad yn gorau.