Mae arafwch newyddion Cymraeg yn gymaint o siom.

Mae sut gymaint o newyddion pwysig wedi torri yn y pythefnos diwethaf.

Ac mae fe bron i gyd drwy gyfrwng y Saesneg ac ieithoedd eraill.

Mae newyddion yn arafach yn Gymraeg. Ffaith.

Cywirwch fi os mae hyn yn anghywir ond dw i ddim yn credu bod ‘na graffeg yn Gymraeg fel y cerdyn uchod.

Ydy llai o bethau sydd o ddiddordeb i wylwyr/ddarllenwyr Cymraeg fel ni yn digwydd yn y byd? Nac ydy.

Ydy’r newyddion yn gyffredinol yn effeithio arnom ni i raddfa lai? Nac ydy.

Oes ‘na diffyg awydd ar ran penaethiaid ein sefydliadau a chwmnïau cyfryngol i fentro ac ymdrechu i adrodd newyddion ‘poeth’ yn Gymraeg tra bod e’n digwydd? Oes.

Oes ‘na llai o gystadleuaeth ymhlith mentrau newyddion Cymraeg, llai o gystadlu am sylw drwy geisio adrodd yn gyflym? Oes.

Ydy hi’n symptom o diffyg adnoddau a diffyg buddsoddiad? Ydy, yn sicr.

Mae newyddion yn ddrud. Yn y Saesneg mae’r Guardian wedi dechrau adrodd rhagor o newyddion o’r UDA achos dyna le mae mwy o lygaid a mwy o farchnad hysbysebion. Mae hyn yn her fach i newyddion am wledydd Prydain, heb sôn am y Gymraeg.

Wrth gwrs mae amddiffyn y gwaith da sy’n digwydd eisoes yn Gymraeg yn digon o her drwy’r amser.

Er nad ydynt yn defnyddio’r union dermau mae plant weddol ifanc yn sylweddoli bod newyddion yn Gymraeg yn arafach.

Mae plant yn gweld pethau fel hyn mewn byd yr oedolion fel y niferoedd cymharol isel o gemau fideo, ffilmiau, cylchgronau, bwydlenni, crysau-t, hysbysebion, ac ati yn Gymraeg. Gweler hefyd: os nad yw Prif Weinidog Cymru yn defnyddio’r Gymraeg maen nhw yn sylwi.

Fydda i ddim yn hapus nes bod newyddion yn Gymraeg cystal â newyddion Saesneg – cyflym, rhyngwladol, amrywiol, amlgyfrwng, dwfn, cyfoethog. Fydda i ddim yn hapus nes bod y cyfryngau yn holliach yn Gymraeg a chystal ag unrhyw iaith arall. Dw i’n gwybod bod hyn i gyd yn hollol afrealistig ond dyna ni.

Tra ein bod ni’n ceisio meddwl am ffyrdd o ddatblygu’r maes yma (sori, dim datrysiadau heddiw!) dylen ni ystyried cefnogi cyfrifon fel @elliwsan, @owen_garry, @sianeaber sy’n ceisio torri newyddion yn Gymraeg. Oes ‘na rhai eraill?

Pob bendith i’r bobl eraill yma sy’n ceisio ein cyffroi drwy ddefnydd o’r geiriad ‘newyddion yn torri‘ ar Twitter!

Down ni â rhagor ar hyn tra bod y sefyllfa yn datblygu.

Problem dosbarthu cynnwys Cymraeg

Dyna sy’n wneud i mi feddwl am broblem dosbarthu cynnwys Cymraeg.

Dyma RS Thomas ar raglen Beti a’i Phobol:

https://soundcloud.com/beti-ai-phobol/beti-ai-phobol-r-s-thomas-rhan

Dim ond 74 o wrandawiadau wedi bod ers iddyn nhw lanlwytho’r hen raglen i Soundcloud ar 13 Tachwedd 2013.

Chwarae teg i’r tîm am eu rhoi nhw ar y we yn barhaol tu hwnt i gyfnod cyfyngedig iPlayer.

Ond mae nifer o wrandawyr yma yn siom i mi. Mae’r niferoedd yn debyg ar y rhaglenni Beti a’i Phobol eraill.

Efallai bod hi’n dangos pwysigrwydd hyrwyddo?

Efallai diffyg chwiliadau am y pwnc?

Diffyg disgwyliadau ar ran y cynulleidfa botensial?

Neu ddiffyg statws i’r Gymraeg ar ganlyniadau chwilio Google ac ati?

Ta waeth rwy newydd rannu’r rhaglen uchod ac wedi rhoi cwpl o ddolenni ar Wicipedia hefyd.

Cwestiynu’r brif newyddion yn ôl BBC Cymru Fyw heddiw

Pennaeth canolfan Gymraeg yn ymddiswyddo.

Dyna’r brif stori ar wasanaeth newyddion Cymraeg y BBC ers chwe awr heddiw.

Dw i ddim yn dweud bod hi ddim yn addas fel stori fach o ddiddordeb i rai o bobl.

Ond ai dyna yw’r brif stori go iawn heddiw?

Mae ymwelwyr Cymraeg angen gwybod am yr economi, gwleidyddiaeth, trafnidiaeth, iechyd, addysg ac yn y blaen. Hefyd, ble mae’r newyddion rhyngwladol?

Dw i wedi sôn am hynny o’r blaen. Dw i’n hoff o BBC Cymru Fyw a dw i ddim yn rhoi bai ar y tîm newyddiadurol yng Nghymru o gwbl. Mae potensial i wneud rhywbeth gwell. Ai dyma yw’r peth gorau sy’n bosib yn y Gymraeg?

Mae’r sefyllfa yma yn adlewyrchu problemau sylfaenol gyda’r ffordd mae’r BBC fel corfforaeth yn ystyried y Gymraeg, iaith isradd ar gyfer materion plwyfol yn unig, iaith sydd ddim yn haeddu cael delio gydag unrhyw beth o bwys.

Ond mae dyletswydd ar y BBC i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus. ‘Hysbysu, addysgu a diddanu’ yw slogan y gorfforaeth. Yn y Gymraeg ar-lein dw i ddim yn gweld sut mae’r gorfforaeth yn llwyddo i gyrraedd y nod hynny.

Adroddiant gwrth-Gymraeg y BBC: tri ffactor

Pam mae eitemau gyda phwyslais gwrth-Gymraeg ar y BBC? Rwyt ti’n aros am rywbeth am Gymru ac mae mwy nag un eitem annifyr yn llifo mewn ar yr un pryd, e.e. Radio WalesRadio 4. Pam nawr?

Dw i’n credu bod mwy o eitemau gwrth-Gymraeg ar y ffordd oherwydd tri ffactor damcaniaethol.

1. Mae mwy o gystadleuaeth ymhlith cyfryngau gwahanol nag unrhyw bryd erioed ac mae eitemau dadleuol yn sbarduno niferoedd o wrandawyr. Yn bennaf, siaradwyr Cymraeg a chyfeillion o’r iaith sy’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o’r eitemau trwy Twitter, Facebook ac ati. Mae’r ffenomen yn debyg i drolio yn y papurau newydd ar-lein.

2. Mae BBC yn gyfrifol am ariannu S4C bellach sy’n achosi drwgdeimlad yn yr adrannau eraill, yn enwedig y rhai sy’n bryderu am doriadau. Beth bynnag rydych chi’n meddwl am Thatcher, roedd hi’n digon call i osod trefn arbennig ar gyfer S4C (yn y pen draw). Fel endid fe oedd y sianel yn annibynnol yn ei chyllideb. Mae’r sianel wedi colli’r mantais yna o ran y rhan fwyaf o’i chyllideb sydd bellach yn dod o’r BBC. Felly mae’r adrannau eraill fel Radio Wales yn troi at ymosod ar darged hawdd er mwyn ceisio amddiffyn eu bodolaeth nhw. Dyna’r effaith ‘cathod mewn sach’ a wnaeth pobl ein rhybuddio ni amdani hi yn 2010 yn ystod ymgyrch ‘Na i doriadau S4C’.

3. Fel mae unrhyw un sy’n darllen y wasg yn gwybod, y gwasanaethau iechyd ac addysg yng Nghymru ydy hoff dargedau Cameron, Hunt, Fabricant et al ar hyn o bryd tra bod nhw yn ceisio ennill etholiad mewn ychydig dros 12 mis. Mae’r BBC yn cael ei dynnu i’r un cyfeiriad: ‘ai datganoli/polisïau Llafur Cymru/y Gymraeg (does dim gymaint o wahaniaethu rhyngddynt ar lefel Prydeinig) sy’n gyfrifol am fethiannau ysgolion yng Nghymru?!’ ayyb. Mae agweddau sy’n debyg i Lingen a’r Llyfrau Gleision yn ymddangos eto. Yr iaith sy’n derbyn y flak yn y brwydr dros San Steffan. Afraid dweud fod diffyg trafodaeth synhwyrol ar y materion hyn ar Radio 4 a diffyg diddordeb mewn beth yw’r problemau go iawn a beth sydd o les i Gymru. Nid ‘darlledwr gwladwriaeth’ fel y cyfryw ydy’r BBC ond gall dweud bod y Gorfforaeth yn cael ei demptio i roi platfform a ffafr i Lywodraeth San Steffan a chryfhau ei achos ar gyfer adnewyddu’r siarter yn 2016-17 hyd yn oed.

Os ydw i wedi cydnabod y ffactorau yma yn iawn ni fydd y sefyllfa yn newid yn fuan iawn. Gall disgwyl mwy o eitemau o’r fath.

 

Radio Cymru: diwylliant Cymraeg a diwylliannau yn Gymraeg

y-gorfforaeth-ddarlledu-brydeinig

Mae pwyslais gwahanol yn yr erthygl Saesneg am sylwadau Rhodri Talfan.

[…] Mr Davies said it suggested the “language is in the midst of a fundamental shift” and, therefore, broadcasters like BBC Wales which produces English and Welsh language content across TV, radio and online faced challenges to appeal to a broad audience.

He said it was once a language learned at home by those using it all the time whereas now it more often taught in the classroom.

“The so-called homogenous Welsh language audience is becoming more diverse than ever before,” he said.

“At a functional level, their ability to use the language level (sic) varies more than ever before.

“And at a more emotional level their confidence in using the language is also becoming more varied.

“But perhaps most profound of all, the cultural and social reference points of Welsh speakers – both those fluent and those less so – are more varied than ever before.

“For an increasing number of Welsh speakers, Welsh language culture is only one part of a patchwork of influences that straddle, Welsh, British and international cultures.” […]

Yn ôl beth dw i’n ddeall mae ffasiwn beth a ‘diwylliant iaith Gymraeg’ a phethau sydd yn unigryw i’r iaith. Ond mae modd mynegi unrhyw ddiwylliant (i raddau) trwy unrhyw iaith. Ac mae Radio Cymru yn mynegi’r diwylliannau yma eisoes, yn enwedig diwylliant Lloegr ac Anglo-Americanaidd. Sawl tro ydy’r sioeau yn cyfeirio at Lundain, Hollywood, timau pêl droed yn Lloegr ayyb? Sawl tro ydy pobl yn siarad Cymraeg am neu o wledydd gwahanol ar draws y byd? Pob bore maent yn adolygu’r papurau o Lundain ar drael cyfryngau Cymreig hyd yn oed. Mae cynrychiolaeth o ddiwylliannau gwahanol yn gryf.

Hoffwn i glywed mwy o bethau Cymreig a dweud a gwir. Er enghraifft oes modd cyfnewid adolygiad ffilm Hollywood bob hyn a hyn am ffilm neu rhaglen teledu yn Gymraeg? Mae’n hawdd iawn i ffeindio safbwyntiau am Hollywood ar unrhyw cyfrwng unrhyw le. Mae stwff Cymraeg yn dioddef o ddiffyg cariad a sylw.

Mae sylwadau uchod yn adlewyrchu’r ystrydeb o Radio Cymru ar ran pobl sydd ddim yn wrando yn hytrach nag allbwn go iawn yr orsaf dw i’n meddwl.

Gyda llaw, prif gwendidau Radio Cymru yw’r diffyg cryfder signal ar DAB (yn fy ardal o Gaerdydd). Hefyd mae wir angen amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg yn ystod y dydd yn fy marn i. Mae llwyth o bop Cymraeg da o ddegawdau a fu.

DIWEDDARIAD: Cai Larsen yn siarad am ‘USP’ Radio Cymru yn erbyn gorsafoedd eraill, sef y Gymraeg. Pwynt da iawn. Dw i heb weld/darllen yr araith lawn chwaith – methu cael gafael arno fe ar hyn o bryd.

DIWEDDARIAD: Dw i newydd darllen yr araith. Hmm.

BBC Newyddion: amser cyhoeddi fel problem ‘dan y cownter’

Efallai dylwn i wneud adduned blwyddyn newydd i beidio cwyno gymaint am ddiffyg buddsoddiad BBC yn y Gymraeg ar-lein. Ond yn y cyfamser…

  1. BBC yn torri stori yn Saesneg (e.e. Recordiau Sain ar werth heno)
  2. Lot o bobl yn rhannu ac yn anfon traffig i’r stori yn Saesneg
  3. Maent yn cyhoeddi stori yn Gymraeg 38 munud wedyn
  4. BBC yn honni diffyg diddordeb yn wasanaethau Cymraeg

Gwnes i sylwi ar rywbeth tebyg ar ddiwrnod canlyniadau’r cyfrifiad hefyd. Dydy straeon am y Gymraeg neu cwmni Cymraeg hyd yn oed yn cael blaenoriaeth ac mae gwerth y stori yn Gymraeg yn lleihau pob munud yn ystod y 38 munud.

Dyma beth mae ‘dan y cownter‘ yn golygu ar BBC ar-lein yn yr oes amser real. Mae amser cyhoeddi yn broblem yn ogystal â diffyg presenoldeb ar y prif ryngwynebau a diffyg hyrwyddo.

Diffiniad dan y cownter: bydd pethau Cymraeg i gael rhywle ond mae angen i ti wybod amdanynt er mwyn gofyn amdanynt (a’i derbyn mewn bag papur brown).

Wrth gwrs rydyn ni wedi gweld problemau tebyg gyda BT, cyngorau sir ac ati.

Problemau ‘dan y cownter’ yw un o’r rhesymau pam mae sawl gwasanaeth BBC wedi cael y fwyell. Cofia newyddion o’r byd? Roedd newyddion o’r byd ar BBC ar-lein yn Gymraeg! Tasai’r gwasanaeth yn bodoli byddai modd darllen straeon fel Ynyswyr Chagos ar BBC yn Gymraeg. Wedyn aeth yr adran chwaraeon i’r wal, wedyn y Cylchgrawn. Beth nesaf?

Bil ieithoedd swyddogol: o #westernfail i fethiannau go iawn

Cofia #westernfail ym mis Mai? Roedd yr erthygl barn yn cyfeirio at bil ieithoedd swyddogol. Roedd cwynion gan gannoedd o bobl – yn y ddwy iaith. Wel, digwyddodd y bleidlais yn y Cynulliad ddoe.

Cyhoeddodd BBC Wales News erthygl Saesneg amdano fe, Language bill puts Welsh and English on equal footing, sydd yn waeth na’r erthygl barn gan Martin Shipton yn y Western Mail. Er roedd ei erthygl ar y dudalen blaen, roedd Shipton yn mynegi barn am y Gymraeg – ‘na gyd. Ond mae BBC Wales News yn methu adrodd y gwirionedd, sef y ffaith roedd pryderon difrifol am degwch i’r Gymraeg ymhlith aelodau cynulliad o bob plaid ac ymgyrchwyr am y bil. Mae’r stori BBC yn edrych fel y datganiad i’r wasg Saesneg, puff piece, heb unrhyw dadansoddiad. Dyma pam mae’r erthygl BBC yn methiant ac yn waeth na #westernfail wythnos yma.

Daeth y cwynion #westernfail o du hwnt i siaradwyr Cymraeg – ond ddoe roedd methiant y gwelliannau yn mater i ddarllenwyr Cymraeg o’r BBC yn unig. Mae’r stori yn Golwg360 yn haeddu sylw hefyd wrth gwrs. (DIWEDDARIAD: Gyda llaw mae BBC bellach wedi ychwanegu ychydig bach i’r stori Saesneg am bryderon ymgyrchwyr.)

Mae dwy ochr i’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’. Ar y wyneb mae’n bwysicach i wneud pethau yn hytrach na siarad. Beth am flaenoriaethau ein cynrychiolwyr a methiant yr ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb go iawn? Mae’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’ ar yr ochr arall yn darparu ffordd effeithiol i asesu sefyllfa democratiaeth yng Nghymru. Faint o bobl sydd yn ymwybodol o’r bleidlais? Ydyn ni’n rhoi ffocws ar y ‘neud’ neu y ‘deud’? Efallai mae sensitifrwydd arbennig i eiriau yn ein cymeriad fel cenedl, dyma pam mae’r dyfyniad mor briodol. Roedd lot mwy o helynt am y ‘deud’ yn y Western Mail na’r methiannau go iawn ddoe. Dyna her i unrhyw un o blaid democratiaeth a thegwch yng Nghymru.

BBC + S4C + Ti == PYC

Beth mae pob(o)l yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw?

Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol.

Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er mwyn denu cynulleidfa ifanc a thalent newydd sbon i’r brand.

Er mwyn cefnogi uchelgais Digidol S4C ac i lansio’r Gronfa Ddigidol, Awst 2012, hoffai S4C gynnig cyfle i gwmnïau neu unigolion fod yn rhan o’r prosiect.

Mae’n gyfle i arloeswyr digidol gydweithio â chriw drama profiadol Pobol y Cwm ar brosiect newydd traws gyfrwng ‘PYC’. Bydd ‘PYC’ yn cynnwys: Webisodes, Digwyddiad Byw, Cymuned ar y We, Gemau Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaeth ar Leoliad dros Gymru gyfan.

[…]

Darllena’r datganiad llawn.

Meddyliau cynnar:

  • Pobol y Cwm yw’r cyfres mwyaf poblogaidd ar S4C felly mae modd profi pethau gyda chyunlleidfa chymuned mawr (mewn termau Cymraeg). Dw i ddim yn ymwybodol iawn o’r oedrannau/demograffig/ayyb ond dw i’n cymryd bod y sioe yn apelio at bob math o berson. Hefyd mae’n haws i hyrwyddo pethau digidol sydd yn gysylltiedig â chyfres mor amlwg ac eiconig, ‘addasiad digidol/arloesol o hen ffefryn’ ayyb
  • Braf i weld ‘meithrin dull newydd o ddweud stori’ yn enwedig – maen nhw yn ystyried cyfleoedd digidol fel rhywbeth tu hwnt i farchnata a chyhoeddusrwydd.
  • Mae lot o bobl yn pryderu am annibynniaeth golygyddol S4C ar y teledu (y shotgun marriage gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ayyb). Ond mae cwestiynau tebyg ynglŷn ag annibyniaeth S4C yn y tymor hir ar bethau digidol. Wrth gwrs mae S4C wedi cyd-weithredu gyda’r BBC fel partner ers y ddechrau. Ond ydy’r ffaith bod y peth cyntaf o’r gronfa ddigidol yn rhywbeth BBC yn arwyddocaol? Gobeithio fydd S4C gyda’r hyder yn y dyfodol i gynhyrchu pethau digidol ac aml-blatfform sydd yn annibynnol o’r BBC?
  • Pa fath o gemau sydd yn addas? Gawn ni Zombies Cwmderi?