Llyfr Martin Luther King a’r dull di-drais o brotestio

Gadawodd Martin Luther King y byd hwn union 45 mlynedd yn ôl.

Heno dw i wedi cael cip arall ar y llyfr Martin Luther King gan T.J. Davies y cyhoeddiwyd yn 1969.

martin-luther-king-t-j-davies-511

Mae darn sylweddol am y dull di-drais o brotestio. O’n i ddim o gwmpas yn ’69 ond mae’n debyg y darllenodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y geiriau hyn gyda diddordeb ar y pryd.

Martin Luther King gan T.J. Davies

Martin Luther King gan T.J. Davies

Does bron neb yn gallu cael gafael y llyfr yma. Mae prinder o gyfleoedd i’w ddarganfod. Does neb yn wneud arian neu dderbyn clod am y gwaith – does neb wedi gwneud yr ymdrech i’w rhyddhau eto gan gynnwys e-lyfr neu fersiwn digidol.

Mae’r llyfr bron yn anweledig! Dw i wedi gwneud pwyntiau tebyg o’r blaen, e.e. Afal Drwg Adda ond dw i’n dweud eto.

Os wyt ti eisiau darllen mwy o’r llyfr hwn gadewch sylw isod achos dw i’n gallu rhannu’r llyfr gyda chi os oes digon o alw. Dw i’n meddwl bod hynny yn hollol iawn heblaw os oes problem gydag unrhyw un.

Dyma lyfr yn Gymraeg sydd yn delio gyda phwnc sydd ddim yn Gymreig o reidrwydd. O ran llyfrau newydd fyddai llyfr o’i fath yn cael ei gomisiynu yn Gymraeg y dyddiau hyn? Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ’diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?

Mwynhau cerdded Rhondda ac Ogwr

ogwr-aled-2-mawrth-2013

Mae gymaint o lefydd tu hwnt i’r A470! Ac mae’r bryniau o gwmpas y cymoedd Rhondda ac Ogwr yn hyfryd iawn yn yr haul, ymhlith y gorau ar ddaear Duw. Diolch i Glwb Mynydda Cymru am drefnu’r anturiaeth dydd Sadwrn.

Bydd rhaid i mi ail-ymweld. Oes unrhyw argymelliadau o lwybrau tra fy mod i’n aros am Fwrdd Twristiaeth y Cymoedd i ddychwelyd fy negeseuon (neu ddod i fodolaeth)?

Dyna ni, efallai rydyn ni wedi newid i’r fath o flog sydd yn rhannu data di-ri am amserau ymarfer corff. (Dad-danysgrifiwch nawr!) Wedi dweud hynny, dyw’r ddata ddim yn hollol dibynadwy. O’n i’n defnyddio ap symudol My Tracks fel arbrawf ac roedd GPS yn methu ambell waith am ryw reswm felly mae bylchau. Roedd cyfanswm go iawn y daith ychydig yn llai na 14 milltir. Y daith hiraf dw i wedi gwneud ers tro a dweud y gwir.

Mudiadau cymdeithasol a’r rhyngrwyd

Mae Evgeny Morozov wastad yn brofoclyd:

There are two ways to be wrong about the Internet. One is to embrace cyber-utopianism and treat the Internet as inherently democratizing. Just leave it alone, the argument goes, and the Internet will destroy dictatorships, undermine religious fundamentalism, and make up for failures of institutions.

Another, more insidious way is to succumb to Internet-centrism. Internet-centrists happily concede that digital tools do not always work as intended and are often used by enemies of democracy. What the Internet does is only of secondary importance to them; they are most interested in what the Internet means. Its hidden meanings have already been deciphered: decentralization beats centralization, networks are superior to hierarchies, crowds outperform experts. To fully absorb the lessons of the Internet, urge the Internet-centrists, we need to reshape our political and social institutions in its image. […]

Darllena’r erthygl llawn – adolygiad Morozov o’r llyfr Future Perfect gan Steven Johnson.

Y Bont: cwrdd â Kye a Dwynwen (Theatr Genedlaethol)

Y Bont yw’r sioe newydd gan Theatr Genedlaethol. Dyma nodyn bach sydyn i ddweud dy fod ti’n gallu cwrdd â dau cymeriad o’r sioe ar y we.

Daw Dwynwen o Landwrog yng Ngwynedd ac mae’n disgrifio ei hun fel ‘Cyflwynwraig. Ymchwilydd PhD. Cymraes.’ ar ei gwefan. Mae hi wedi bod yn cyfweld rhai o’r bobl a oedd yn protestio dros statws i’r Gymraeg ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn 1963. Mae hi’n ferch uchelgeisiol. http://dwynwenjones.com

Mae Kye yn gerddor o Ferthyr Tudful sydd yn hoff iawn o’r agwedd ‘DIY’ tuag at gerddoriaeth, celf – a bywyd. Cafodd Kye a Dwynwen berthynas ramantus yn ystod 2012 ond dydyn nhw ddim gyda’i gilydd rhagor. http://kyemerthyr.tumblr.com

P’un ai ydych chi’n dod i weld Y Bont yn Aberystwyth ar 3ydd o Chwefror neu beidio, fe allwch ddilyn y digwydd ar Twitter trwy’r dydd trwy ddilyn @ybont2013. Cofiwch ddefnyddio #ybont os fyddwch chi am rannu sylwadau, delweddau a/neu fideos o’r dydd.

Am ragor o wybodaeth cer i wefan Theatr Genedlaethol.

Mae’r gwaith yn cyfle i mi adeiladu ar wersi nes i ddysgu yn ystod The Beach.

Wythnos yng Nghymru Fydd – ym Mhatagonia

Mae Gruff Rhys yn dweud:

[…] Yn ystod ymweliad ar Gaiman yn y ffilm dwi’n cyfeirio at y reddf ddynol/ddynesol/fynwesol (?) sy’n galluogi ieithoedd i barhau er gwaethaf gormes. Barn optimistaidd (fyrbwyll efallai) ydi hon yn amlwg – gan mai iaith atodol ydi’r Gymraeg bellach o fewn y gymuned leiafrifol wledig Gymreig ym Mhatagonia.

Beth sy’n arswydus ydi fod union yr un broses yn digwydd bellach yn ardaloedd gwledig Cymru fel y tanlinellwyd gan y cyfrifiad diweddar. Bod perygl – yn nghadernleoedd yr iaith, i’r Gymraeg ddatblygu mewn i iaith atodol – nad yw’n cael ei defnyddio heblaw i’w hymarfer yn achlysurol mewn cyd destun diwyllianol.

Y gwahaniaeth mawr yng Nghymru wrth gwrs ydi y dylsem fod yn deddfu, arianu a chynllunio i atal hyn rhag digwydd. Mae’r grym gennym bellach, ond efallai ddim y meddylfryd. Ond mae gennym y dewis – sy’n rywbeth sy’n anoddach i’w weithredu yn yr Ariannin. […]

Mae’r dyfyniad yn dod o gofnod hirach am ei ffilm Separado.

BBC Newyddion: amser cyhoeddi fel problem ’dan y cownter’

Efallai dylwn i wneud adduned blwyddyn newydd i beidio cwyno gymaint am ddiffyg buddsoddiad BBC yn y Gymraeg ar-lein. Ond yn y cyfamser…

  1. BBC yn torri stori yn Saesneg (e.e. Recordiau Sain ar werth heno)
  2. Lot o bobl yn rhannu ac yn anfon traffig i’r stori yn Saesneg
  3. Maent yn cyhoeddi stori yn Gymraeg 38 munud wedyn
  4. BBC yn honni diffyg diddordeb yn wasanaethau Cymraeg

Gwnes i sylwi ar rywbeth tebyg ar ddiwrnod canlyniadau’r cyfrifiad hefyd. Dydy straeon am y Gymraeg neu cwmni Cymraeg hyd yn oed yn cael blaenoriaeth ac mae gwerth y stori yn Gymraeg yn lleihau pob munud yn ystod y 38 munud.

Dyma beth mae ‘dan y cownter‘ yn golygu ar BBC ar-lein yn yr oes amser real. Mae amser cyhoeddi yn broblem yn ogystal â diffyg presenoldeb ar y prif ryngwynebau a diffyg hyrwyddo.

Diffiniad dan y cownter: bydd pethau Cymraeg i gael rhywle ond mae angen i ti wybod amdanynt er mwyn gofyn amdanynt (a’i derbyn mewn bag papur brown).

Wrth gwrs rydyn ni wedi gweld problemau tebyg gyda BT, cyngorau sir ac ati.

Problemau ’dan y cownter’ yw un o’r rhesymau pam mae sawl gwasanaeth BBC wedi cael y fwyell. Cofia newyddion o’r byd? Roedd newyddion o’r byd ar BBC ar-lein yn Gymraeg! Tasai’r gwasanaeth yn bodoli byddai modd darllen straeon fel Ynyswyr Chagos ar BBC yn Gymraeg. Wedyn aeth yr adran chwaraeon i’r wal, wedyn y Cylchgrawn. Beth nesaf?

Stori’r Ynyswyr Chagos: trosedd yn erbyn dynoliaeth

Dw i newydd wylio’r ffilm Stealing A Nation gan John Pilger am sut cynllwyniodd gwladwriaeth Prydain a’r UDA i symud Ynyswyr Chagos oddi ar eu tir gan gynnwys yr ynys Diego Garcia. Bellach mae’r UDA yn defnyddio sylfaen milwrol anferth ar Diego Garcia i lansio ymosodiadau bomio ar Irac ac Afghanistan.

Oeddwn i eisiau gwybod mwy am y sefyllfa oherwydd mae’r Llys ‘Hawliau Dynol’ Ewrop yn Strasbourg wedi gwrthod ystyried achos y brodorion heddiw oherwydd iawndal pitw y gwnaeth y Deyrnas Unedig rhoi iddyn nhw – mewn amgylchiadau amheus iawn.

Dyma ragor o wybodaeth am y ffilm o 2004 sydd yn werth 56 munud o dy amser.

Gwleidyddion, plant a’r iaith

Mae pobl yn anghofio sut mae’r byd yn edrych trwy lygaid ifanc. Mae plant yn sylwi ar bethau, maen nhw yn casglu data trwy’r amser sydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau.

Pan o’n i’n ifanc roedd rhaid i mi astudio lot o bynciau yn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gan gynnwys y Gymraeg. Ond, o’n i’n ddigon soffistigedig i weld sut oedd oedolion yn ystyried pynciau. Mae’r geiriau yn wahanol ym mhob ysgol ond mae themâu yn debyg. Dw i’n cofio’r geiriau’r athrawon yn fy ysgol i: ‘the core subjects are English, Maths and Science…’.

Dw i’n sgwennu’r cofnod blog yma i unrhyw oedolyn sydd eisiau meddwl am y pwnc, o unrhyw le ac unrhyw sefydliad.

Os wyt ti’n rhiant mae dy blant yn ddigon soffistigedig i weld sut wyt ti’n ystyried y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau tu hwnt i barthau fel y dosbarth a’r cartref. Maen nhw yn sylwi.

Os wyt ti’n athro neu wleidydd ac yn rhiant sydd ddim yn cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod dy waith, pa fath o neges wyt ti’n anfon i dy blant? Dylen ni fel oedolion cymryd yr iaith o ddifri cyn i ni ddisgwyl ein plant ni feddwl yr un peth.