Cyngor gyrfaoedd oddi wrth actor Hollywood enwog

Pan o’n i’n mynd i ysgol doedd dim prinder o negeseuon fel ‘dyma dy fywyd di nawr’, ‘carpe diem’, ’mae un siawns gyda chi’ ayyb.

Dw i newydd wylio’r hysbyseb Prifysgol De Cymru gydag Ioan Gruffudd sydd yn adlewyrchu agweddau tebyg. Mae Lloegr fel dewis lleoliad ac efallai’r diffyg darpariaeth Gymraeg yn materion dan sylw ar hyn o bryd.

Ond yr elfen arall sydd yn haeddu cwestiwn (o leiaf yn y fideo ac yn fy mhrofiad i) ydy unrhyw awgrym o’r posibilrwydd o newid meddwl yn ystod dy ‘yrfa’. Mae’r gair ‘gyrfa’ yn codi ofn ar lot o bobl ifanc. Doedd neb ar gael i esbonio i mi bod ‘gyrfa’ – neu beth bynnag yw’r gair – yn rhywbeth sydd yn gallu datblygu yn ara deg neu gam-wrth-gam neu fel igam-ogam hollol fler yn hytrach na rhywbeth rwyt ti’n penderfynu unwaith fel person 14-oed. Mae bywyd yn llawn posibiliadau a dewisiadau yn ogystal ac o dan sofraniaeth yr Hollalluog. Peidiwch gofyn i mi sut mae hynny yn gweithio.

Beth yw’r ots os wyt ti’n methu rhywbeth neu gorfod newid dy feddwl neu’n datblygu diddordeb mewn rhywbeth hwyrach ymlaen? Un o’r gwersi pwysicaf yw’r potensial o drawsnewid ambell i goc-yp i fendith. Dylai rhywun dweud wrth bobl mewn addysg bod ’na sawl cyfle a siawns mewn bywyd. Bydd cyfleoedd yn y dyfodol agos sydd ddim hyd yn oed yn bodoli eto.

Wedi dweud hyn i gyd pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n yn weddol breintiedig o ran cyfleoedd i drio pethau, cwrdd â phobl diddorol ac ati.

Dw i’n gobeithio bod hyn i gyd dal yn wir yn ystod y cawlach economaidd presennol ta waeth. Byddai buddsoddiad gwell mewn addysg a chyfleoedd i bobl yn lot fwy teilwng na phethau fel Trident, WMDs a mentrau i gyfiawnhau gweithredoedd y bancwyr. Ond y prif pwynt heddiw yw, does dim angen gymaint o bwysedd ar bobl mewn addysg. Gad iddynt cael ychydig o amser.

Mwydro am Steddfod a chyfryngau yng nghylchgrawn Tu Chwith

tu-chwith-cyfrol-39-520

Ie, mwydro. Dyma beth mae Rhodri ap Dyfrig a finnau yn wneud yn ein sgwrs am Steddfod, cyfryngau digidol a’r Gymraeg, sef yr un sgwrs yr ydym ni’n cynnal pob tro sydd yn wahanol pob tro. Tro yma, am ryw reswm mae’r golygydd gwadd Llŷr Gwyn Lewis wedi derbyn ein testun ar negeseua sydyn fel erthygl i Tu Chwith 39.

Mae’r lleill wedi gwneud cyfraniadau ‘go iawn’ dw i’n credu. Felly os dwyt ti ddim yn hoffi ein peth ni (sydd yn hollol, hollol bosib ac mae modd anfon cwynion at @llyrgwyn a @tuchwith) mae llwyth o ddifyrrwch, llenyddiaeth a phethau eraill.

Pryna Tu Chwith rhifyn Eisteddfod.

Dere i’r digwyddiad ar y maes eleni am 12:30YH ar ddydd Sadwrn y 10fed o Awst yng Nghaffi Maes B yn 2013! Mae digwyddiad Facebook.

Dwyreinioldeb a fi

http://www.youtube.com/watch?v=xwCOSkXR_Cw

Dw i wrthi’n darllen mwy am ddwyreinioldeb ac Edward W. Saïd ar ôl i mi ddychwelyd o Balesteina.

Mae gyda fi llwyth o fideo amrwd o bob math o’r Lan Orllewinol gan gynnwys Bethlehem, Hebron, Nablus (yn y llun) a Ramallah ac ychydig o Ddwyrain Jerusalem. Er fy mod i ddim yn ystyried fy hun fel crëuwr ffilm go iawn (fel Greg Bevan), dw i eisiau trio adrodd fy mhrofiadau.

nablus-2013

Hyd yn oed os fydd dim ond 50 o bobl yn ei gwylio mae’n teimlo yn anoddach o ran maint a phwnc na’r siop sglods yng Nghas-Gwent. Mae’r holl peth yn teimlo fel cyfrifoldeb. Efallai yn yr is-ymwybod dw i eisiau osgoi unrhyw fath o ddwyreinioldeb yn y ffilm!

O’n i’n ymwybodol o’r angen i ofyn yn ofalus am ganiatadau i gynrychioli unigolion. Mae lle yn y fideo i bethau difyr yn ogystal ag adroddiadau am y meddiannaeth a gwahaniaethu ethnig gan y wladwriaeth.

Mae rhywbeth diddorol iawn yn digwydd yn ystod prosiect golygu fideo. Mae angen canfod y clipiau arwyddocaol yn gyntaf. Wedyn dw i’n sylwi ar bethau mewn ffordd gwahanol. Hynny yw, dw i’n datblygu dealltwriaeth gwell o sefyllfaoedd a pherthnasau rhwng pobl. Dw i’n siwr bod rhywun wedi ysgrifennu testun academaidd amdano fe.

Sut i sicrhau bod arloesi agored yn wneud lles i’r byd

Dw i wedi bod yn meddwl lot am anfanteision arloesi agored a sut mae cwmniau/’actorion’ yn gallu defnyddio cynnyrch arloesi agored i wneud drwg. Er enghraifft mae Plaid Genedlaethol Prydain yn defnyddio cod agored WordPress fel sail gwefan nhw. Hefyd rydym ni newydd clywed am Prism, sef system sydd yn chwilio llwyth o ddata ar blatfformau Facebook, Google ayyb ar ran yr NSA a GCHQ i fonitro a sbio ar ddinasyddion. Mae’n debyg bod system o’i fath wedi cael ei adeiladu gyda Hadoop a Linux neu blatfformau tebyg o dan trwyddedau agored.

Es i i un o fy hoff ddigwyddiadau technoleg mis diwethaf, sef OpenTech yn Llundain.

Mae’r enghreifftiau uchod yn tanlinellu pam mae’r araith yma gan Bill Thompson yma o OpenTech eleni mor amserol a phwysig.

Os ydyn ni’n yn byw ‘yn y dyfodol’ pam mae’r economi a gwleidyddiaeth yn teimlo fel eu bod nhw o’r gorffennol? Ydyn ni’n adeiladu cymdeithas caeëdig ar ddata agored? Darllena’r testun.

Gyda llaw mae crynodeb o uchafbwyntiau OpenTech 2013 hefyd.

Radio Cymru: diwylliant Cymraeg a diwylliannau yn Gymraeg

y-gorfforaeth-ddarlledu-brydeinig

Mae pwyslais gwahanol yn yr erthygl Saesneg am sylwadau Rhodri Talfan.

[…] Mr Davies said it suggested the “language is in the midst of a fundamental shift” and, therefore, broadcasters like BBC Wales which produces English and Welsh language content across TV, radio and online faced challenges to appeal to a broad audience.

He said it was once a language learned at home by those using it all the time whereas now it more often taught in the classroom.

“The so-called homogenous Welsh language audience is becoming more diverse than ever before,” he said.

“At a functional level, their ability to use the language level (sic) varies more than ever before.

“And at a more emotional level their confidence in using the language is also becoming more varied.

“But perhaps most profound of all, the cultural and social reference points of Welsh speakers – both those fluent and those less so – are more varied than ever before.

“For an increasing number of Welsh speakers, Welsh language culture is only one part of a patchwork of influences that straddle, Welsh, British and international cultures.” […]

Yn ôl beth dw i’n ddeall mae ffasiwn beth a ’diwylliant iaith Gymraeg’ a phethau sydd yn unigryw i’r iaith. Ond mae modd mynegi unrhyw ddiwylliant (i raddau) trwy unrhyw iaith. Ac mae Radio Cymru yn mynegi’r diwylliannau yma eisoes, yn enwedig diwylliant Lloegr ac Anglo-Americanaidd. Sawl tro ydy’r sioeau yn cyfeirio at Lundain, Hollywood, timau pêl droed yn Lloegr ayyb? Sawl tro ydy pobl yn siarad Cymraeg am neu o wledydd gwahanol ar draws y byd? Pob bore maent yn adolygu’r papurau o Lundain ar drael cyfryngau Cymreig hyd yn oed. Mae cynrychiolaeth o ddiwylliannau gwahanol yn gryf.

Hoffwn i glywed mwy o bethau Cymreig a dweud a gwir. Er enghraifft oes modd cyfnewid adolygiad ffilm Hollywood bob hyn a hyn am ffilm neu rhaglen teledu yn Gymraeg? Mae’n hawdd iawn i ffeindio safbwyntiau am Hollywood ar unrhyw cyfrwng unrhyw le. Mae stwff Cymraeg yn dioddef o ddiffyg cariad a sylw.

Mae sylwadau uchod yn adlewyrchu’r ystrydeb o Radio Cymru ar ran pobl sydd ddim yn wrando yn hytrach nag allbwn go iawn yr orsaf dw i’n meddwl.

Gyda llaw, prif gwendidau Radio Cymru yw’r diffyg cryfder signal ar DAB (yn fy ardal o Gaerdydd). Hefyd mae wir angen amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg yn ystod y dydd yn fy marn i. Mae llwyth o bop Cymraeg da o ddegawdau a fu.

DIWEDDARIAD: Cai Larsen yn siarad am ‘USP’ Radio Cymru yn erbyn gorsafoedd eraill, sef y Gymraeg. Pwynt da iawn. Dw i heb weld/darllen yr araith lawn chwaith – methu cael gafael arno fe ar hyn o bryd.

DIWEDDARIAD: Dw i newydd darllen yr araith. Hmm.

Llyfr Martin Luther King a’r dull di-drais o brotestio

Gadawodd Martin Luther King y byd hwn union 45 mlynedd yn ôl.

Heno dw i wedi cael cip arall ar y llyfr Martin Luther King gan T.J. Davies y cyhoeddiwyd yn 1969.

martin-luther-king-t-j-davies-511

Mae darn sylweddol am y dull di-drais o brotestio. O’n i ddim o gwmpas yn ’69 ond mae’n debyg y darllenodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y geiriau hyn gyda diddordeb ar y pryd.

Martin Luther King gan T.J. Davies

Martin Luther King gan T.J. Davies

Does bron neb yn gallu cael gafael y llyfr yma. Mae prinder o gyfleoedd i’w ddarganfod. Does neb yn wneud arian neu dderbyn clod am y gwaith – does neb wedi gwneud yr ymdrech i’w rhyddhau eto gan gynnwys e-lyfr neu fersiwn digidol.

Mae’r llyfr bron yn anweledig! Dw i wedi gwneud pwyntiau tebyg o’r blaen, e.e. Afal Drwg Adda ond dw i’n dweud eto.

Os wyt ti eisiau darllen mwy o’r llyfr hwn gadewch sylw isod achos dw i’n gallu rhannu’r llyfr gyda chi os oes digon o alw. Dw i’n meddwl bod hynny yn hollol iawn heblaw os oes problem gydag unrhyw un.

Dyma lyfr yn Gymraeg sydd yn delio gyda phwnc sydd ddim yn Gymreig o reidrwydd. O ran llyfrau newydd fyddai llyfr o’i fath yn cael ei gomisiynu yn Gymraeg y dyddiau hyn? Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ’diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?