Lefi Gruffudd, Amazon a’r dewis amgen

Mae Lefi Gruffudd yn ddefnyddio ei golofn Western Fail heddiw i gwyno am Amazon – eto!

Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae’r Lolfa a chyfryngau Cymraeg wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r un darparwr e-lyfrau sawl gwaith. Gweler: sawl stori Golwg 360 ers 2011 a chofnod mis yma ar blog newydd Y Lolfa. Roedd erthygl yn gylchgrawn Lol eleni hefyd am Dafydd El a’i Kindle am ddim.

Mae’r dyfodol dosbarthiad e-lyfrau yn bwysig iawn i ddyfodol Cymru, gan gynnwys busnesau Cymraeg, addysg Cymraeg, diwylliant, democratiaeth a mwy. Mae’r rhyddid i ddosbarthu meddyliau yn y fantol hyd yn oed. Dyma pam dw i’n cytuno gyda lot o bwyntiau Lefi ar y cyfan. Rydyn ni wedi trafod pynciau tebyg wyneb i wyneb unwaith neu dwywaith. Ein casgliad, yn fras, oedd: mae Amazon yn mynd i ennill lot o’r farchnad e-lyfrau. Ond does dim eisiau helpu nhw.

Mae’r rhan fwyaf o’r erthygl heddiw yn siarad am Amazon gyda sôn bach ar y diwedd am opsiynau eraill, y Nook a’r Kobo. Byddai rhyw fath o ymgyrchu yn syniad da, gan gynnwys ymgyrchu yn erbyn Amazon. Ond Y Lolfa ydy cwmni – yn bennaf dw i eisiau gweld rhyw fath o ymgyrch marchnata i awgrymu beth ddylen ni wneud fel darllenwyr Cymraeg y Nadolig yma. Dyma beth sydd ar goll.

Does dim e-ddarllenydd gyda fi ar hyn o bryd. Dw i ddim yn erbyn y cysyniad o ddarllen e-lyfrau yn eu hanfod. Ond pob tro dw i’n ystyried y systemau tu ôl i e-lyfrau dw i’n dod yn ôl i brint. Mae’r sôn am gynnydd technolegol yn amherthnasol os fydda i’n colli’r rhyddid dw i’n cymryd yn ganiataol ar brint. Mae mwy o ryddid gyda llyfrau printiedig.
Pob tro mae rhywun yn prynu catalog, sori dyfais, Amazon maen nhw yn rhan o system Amazon. Darllena’r dudalen fer The Danger of E-books gan Richard Stallman – dadl glir iawn.

Yn ogystal â fy nghasgliad o lyfrau printiedig, dw i’n bwriadu prynu dyfais e-ddarllenydd rhywbryd. Mae pobl eraill yn yr un sefyllfa. Does dim clem gyda fi eto pa un i’w ddewis heblaw dw i’n sicr dw i ddim eisiau unrhyw beth Amazon.

Wel, pwy sydd yn mynd i werthu dyfais i fi? Tasai’r Lolfa neu unrhyw gyhoeddwr yng Nghymru, er enghraifft, yn argymell dyfais ‘Cyfeillgar i’r Gymraeg’ neu hyd yn oed cynnig dyfais ar werth byddwn i’n cymryd y cynnig o ddifrif. Dw i’n gallu dychmygu’r logo ar y sticeri nawr: Cyfeillgar i’r Gymraeg, y dewis amgen sydd angen. (Dw i wedi trafod cyfleoedd eraill i gyhoeddwyr.)

Mae’r cyhoeddwyr yng Nghymru, gyda help newyddion, blogiau a sefydliadau Cymraeg, mewn lle da i ddangos ‘ecosystem’ amgen i ni. Nook neu Kobo neu Sony? Neu rhywbeth arall?

Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg

Mae gymaint o flogiau Cymraeg am fwyd. Ond does dim llawer o fideos coginio.

Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio braidd ers fy fideo difrifol iawn am sut i greu bara garlleg. Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg. Bara brith falle?

Dw i eisiau dychmygu bod pobl eraill yn meddwl ‘byddwn i’n gallu creu rhywbeth lot gwell na hyn…’. Dyma fy strategaeth yn aml iawn – ysbrydoliaeth negyddol. Sa’ i’n meddwl bod e’n gweithio bob tro.

Wrth gwrs dw i’n ystyried ymdrechion gwirfoddol yn bennaf.

Pwll aur yn Rwmania

Wrthi’n gwrando ar sioe BBC Gwasanaeth y Byd am gynllun i adeiladu’r pwll aur mwyaf yn Ewrop yn Rwmania. Bydd MP3 ar gael cyn hir. Os oes rhywbeth mae Gwasanaeth y Byd yn licio maen nhw yn joio siarad am broblemau tramor.

Mae’r stori yn debyg i ambell i gynllun datblygiad yng Nghymru. Wel, mae tebygrwydd.

 

BBC + S4C + Ti == PYC

Beth mae pob(o)l yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw?

Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol.

Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er mwyn denu cynulleidfa ifanc a thalent newydd sbon i’r brand.

Er mwyn cefnogi uchelgais Digidol S4C ac i lansio’r Gronfa Ddigidol, Awst 2012, hoffai S4C gynnig cyfle i gwmnïau neu unigolion fod yn rhan o’r prosiect.

Mae’n gyfle i arloeswyr digidol gydweithio â chriw drama profiadol Pobol y Cwm ar brosiect newydd traws gyfrwng ‘PYC’. Bydd ‘PYC’ yn cynnwys: Webisodes, Digwyddiad Byw, Cymuned ar y We, Gemau Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaeth ar Leoliad dros Gymru gyfan.

[…]

Darllena’r datganiad llawn.

Meddyliau cynnar:

  • Pobol y Cwm yw’r cyfres mwyaf poblogaidd ar S4C felly mae modd profi pethau gyda chyunlleidfa chymuned mawr (mewn termau Cymraeg). Dw i ddim yn ymwybodol iawn o’r oedrannau/demograffig/ayyb ond dw i’n cymryd bod y sioe yn apelio at bob math o berson. Hefyd mae’n haws i hyrwyddo pethau digidol sydd yn gysylltiedig â chyfres mor amlwg ac eiconig, ‘addasiad digidol/arloesol o hen ffefryn’ ayyb
  • Braf i weld ‘meithrin dull newydd o ddweud stori’ yn enwedig – maen nhw yn ystyried cyfleoedd digidol fel rhywbeth tu hwnt i farchnata a chyhoeddusrwydd.
  • Mae lot o bobl yn pryderu am annibynniaeth golygyddol S4C ar y teledu (y shotgun marriage gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ayyb). Ond mae cwestiynau tebyg ynglŷn ag annibyniaeth S4C yn y tymor hir ar bethau digidol. Wrth gwrs mae S4C wedi cyd-weithredu gyda’r BBC fel partner ers y ddechrau. Ond ydy’r ffaith bod y peth cyntaf o’r gronfa ddigidol yn rhywbeth BBC yn arwyddocaol? Gobeithio fydd S4C gyda’r hyder yn y dyfodol i gynhyrchu pethau digidol ac aml-blatfform sydd yn annibynnol o’r BBC?
  • Pa fath o gemau sydd yn addas? Gawn ni Zombies Cwmderi?

Crwydro caeau Pentre-baen

Wel, mae Dic Mortimer wedi bod yn crwydro Pentre-baen a’r hen reilffyrdd yn ddiweddar:

Apart from Fairwater and Pentrebane locals, few Cardiffians ever go here.

[…] I was still conscious of treading on blighted ground marked for future destruction.  The ravishing beauty was intensified by a dull ache of regret.  I’d heard it so often before: “I remember when this was all fields…” my mother used to say about Llanrumney and my grandmother used to say about Penylan.  Now I could hear myself saying the same thing in 20 years time to my grandchildren about Waterhall.  Premature nostalgia.  This could be the last time…

Criss-crossing the area are a number of abandoned railway lines, providing a network of pathways that take you deep into otherwise inacessible zones. I followed the line of the ‘Waterhall Branch’, a fascinating, little-known mineral railway which, more by accident than design, is still largely extant. […]

O’n i’n arfer mynd i ysgol yn y Tyllgoed. Dw i’n siŵr bod i wedi cerdded lawr darn o lwybr heb sylweddoli bod e’n hen reilffordd o’r cymoedd – heb sôn am gwerthfawrogi’r hanes. Fy amgylchedd, fy milltir sgwar yn y 90au. Dylwn i fynd yn ôl.

Hefyd dw i eisiau cerdded neu beicio lan yr Afon Elái o Grangetown i Donypandy rhywbryd.

Amlieithrwydd Global Voices (Eidaleg, Rwsieg a mwy)

Mis diwethaf gwnes i sgwennu erthygl am heriau i’r we Gymraeg i Global Voices.

Mae pobl wedi cyfieithu’r erthygl bellach i Eidaleg a Rwsieg. Gwych! (Diolch i Barbara Constantino a GV Russian.)

Oes galw am erthyglau Global Voices o bob math yn Gymraeg? Os oes galw, oes gwirfoddolwyr sydd yn fodlon cyfieithu o ieithoedd eraill i’r Gymraeg? Fydd ddim angen fersiwn llawn o’r wefan ar y ddechrau ond efallai byddai erthygl pob hyn a hyn yn dda.

Cofio bywyd Eileen Beasley

Bu farw Eileen Beasley bore dydd Sul.

Mae’r teulu Beasley wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar Gymru ers eu gweithred lwyddiannus i sicrhau biliau treth yn Gymraeg. Roedd yr arddangosfa ar faes yr Eisteddfod wythnos diwethaf yn bwerus iawn.

Ac mae’r stori heddiw yn haeddu sylw yn y cyfryngau. Ar hyn o bryd, yr unig beth newydd ar wefan BBC yw’r stori yn Gymraeg. Gawn ni weld os fydd erthygl Saesneg dydd Llun. Dw i’n credu bod y stori yn berthnasol i bawb yng Nghymru ac i lawer o bobl tu hwnt i Gymru.

DIWEDDARIAD: Mae erthygl Saesneg ar BBC News Wales.

Mae rhywun wedi ychwanegu mwy o wybodaeth i’r erthygl Wicipedia Cymraeg amdani hi gan gynnwys dolenni i’r erthyglau cynhwysfawr ar Golwg360. Mae erthygl newydd sbon, Eileen Beasley, wrthi’n dechrau ar Wikipedia Saesneg ar hyn o bryd.