Mae llechen neu ffôn yn Gymraeg yn bosibl
Werthais i ddim byd yn uniongyrchol trwy’r blog yma erioed ond mae heddiw yn wahanol.
Ers y tro diwethaf i mi flogio am Android Cymraeg dw i wedi creu llechen Cymraeg trwy osod meddalwedd rydd ar ddyfais ail law:

Mae’r mab wedi bod yn ei ddefnyddio a mwynhau:

Ac rydyn ni wedi bod yn paentio:

Ar werth
Nawr mae dau lechen Samsung Galaxy Tab A7 arall ar fy nesg, dau o’r ychydig rai yn y byd sy’n rhedeg Android Cymraeg.
Ymhlith yr apiau a brofwyd yn lwyddiannus arnyn nhw mae Cywion Bach, TuxPaint (enghraifft yn y llun uchod), SuperTuxKart (enghraifft yn y llun uchod) ac IronFox (porwr gwe sy’n seiliedig ar Firefox).
Byddan nhw yn berffaith i blant, yn enwedig o feddwl bod ychydig o gyfnodau glawiog o’n blaenau (gobeithio).
Yn fras mae’r ddau lechen ar fy nesg yn rhedeg fersiwn arbrofol o Android o’r enw LineageOS, sy’n cynnig yr opsiwn o gael rhyngwyneb Cymraeg. Ar hyn o bryd dyma’r unig ffordd o gael llechen Cymraeg neu ffôn Cymraeg nes bod cwmnïau fel Google, Samsung ac eraill yn cynnwys y Gymraeg fel lleolaeth.
Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn arbrawf, cael bach o hwyl, a bod yn rhan o’r sgwrs mae cyfle i chi brynu un heddiw.
Telerau / nodwch plîs
Nodwch fod mod yn cynnig y llechen ar ei ben ei hun. Bydd rhaid i chi ffeindio gwefrwr USB-C i’w wefru – ac maen nhw yn digon cyffredin.
Mae’n syniad da i brynu rhyw fath o waled, ces, neu glawr ar ei gyfer hefyd.
Nodwch fod y ddau lechen yn rhedeg LineageOS, fersiwn arbrofol o Android. Mae siawns na fydd rhai apiau yn gweithio arno fe, e.e. bancio. Mae’n well peidio dibynnu arno fe i wneud unrhyw beth rhy “bwysig” – heblaw am chwarae a dysgu wrth gwrs!
Mae oddeutu 99% o’r system LineageOS ar gael yn Gymraeg. Ar hyn o bryd mae ychydig o’r gosodiadau anghysbell ayyb yn dal i fod yn Saesneg. (Diolch i’r bobl sydd wedi cyfrannu at y cyfieithiad.)
Fel tad sy’n hacio llechennau yn ei amser sbar er mwyn tyfu defnydd o’r Gymraeg yn y byd symudol ac i wneud pwynt, nid oes modd i mi gynnig warantî ffurfiol i chi. Fel rhan o’r pryniant gallech chi gael un sgwrs 20-munud i ofyn cwestiynau a thrio datrys unrhyw broblemau. Byddaf hefyd yn dogfennu unrhyw bwyntiau arwyddocaol o’r sgwrs ar Hedyn, yn ddi-enw, er mwyn helpu eraill.
Archebu
Gadewch sylw isod neu e-bostiwch carl@morris.cymru os ydych chi eisiau prynu un, a nodwch ba fodel o’r rhestr isod. Cyntaf i’r felin.
SM-T500
Samsung Galaxy Tab A7 10.4″
Lliw: du
Di-wifr yn unig
£80
SM-T505
Samsung Galaxy Tab A7 10.4″
Lliw: du
Di-wifr a 4G
£95
Mae’r ddau yn ail law mewn cyflwr gwych. Mae’r prisiau yn cynnwys cludiant i Gymru a gwledydd Prydain.
Bydd modd i chi dalu punnoedd trwy Paypal neu BACS.
Nid yw’r llechen Cymraeg ar gael mewn unrhyw siopau!
