Taith fach o Android Cymraeg i blant (ac eraill)

Dyma daith fach o Android Cymraeg i chi.

Yn fras dw i wedi gosod LineageOS 23 ar lechen i’r mab 6-oed ddefnyddio. Mae hi’n wych bod e’n gweld popeth yn Gymraeg ar y system. Mae angen gwaith nawr i fynd â’r profiad i fwy o blant a phobl eraill.

Un fantais arall yw bod LineageOS yn well nag Android arferol o ran preifatrwydd. Does dim angen cyfrif Google a does dim tracio na chasglu data personol gan y system.

Gyda llaw dyma’r tro cyntaf i mi gyhoeddi recordiad sgrin a sain o’r llechen. Er bod ychydig o sŵn gwyn yn y cefndir mae’n edrych ac yn swnio’n eithaf da i mi.

Gadewch sylwadau neu gysylltwch am sgwrs!

Gweler hefyd: Ar werth nawr: llechen Android Cymraeg

DIWEDDARIAD 5/9/2026: dyw fy sylw am F-Droid yn y fideo ddim yn hollol deg. Dw i wedi gweld bod rhai fersiynau heb eu diweddaru (e.e. y tro diwethaf i mi edrych doedd y cyfieithiad Cymraeg ddim yn rhan o’r fersiwn SuperTuxKart ar F-Droid ond roedd Aurora yn ei gynnig). Er hynny mae F-Droid yn chwarae rhan bwysig fel storfa apiau sy’n darparu meddalwedd rydd a chod agored.  Mae’n siŵr bod modd gwella’r sefyllfa o ran y fersiynau.

Ar werth nawr: llechen Android Cymraeg

Mae llechen neu ffôn yn Gymraeg yn bosibl

Werthais i ddim byd yn uniongyrchol trwy’r blog yma erioed ond mae heddiw yn wahanol.

Ers y tro diwethaf i mi flogio am Android Cymraeg dw i wedi creu llechen Gymraeg trwy osod meddalwedd rydd ar ddyfais ail law:

Mae’r mab chwe oed wedi bod yn ei defnyddio a mwynhau:

Ac rydyn ni wedi bod yn paentio:

Ar werth

Nawr mae dwy lechen Samsung Galaxy Tab A7 arall ar fy nesg, dwy o’r ychydig rai yn y byd sy’n rhedeg Android Cymraeg.

Ymhlith yr apiau a brofwyd yn lwyddiannus arnyn nhw mae Cywion Bach, TuxPaint (enghraifft yn y llun uchod), SuperTuxKart (enghraifft yn y llun uchod) ac IronFox (porwr gwe sy’n seiliedig ar Firefox).

Byddan nhw yn berffaith i blant, yn enwedig o feddwl bod ychydig o gyfnodau glawiog o’n blaenau (gobeithio).

Yn fras mae’r ddwy lechen ar fy nesg yn rhedeg fersiwn arbrofol o Android o’r enw LineageOS, sy’n cynnig yr opsiwn o gael rhyngwyneb Cymraeg. Ar hyn o bryd dyma’r unig ffordd o gael llechen Gymraeg neu ffôn Cymraeg nes bod cwmnïau fel Google, Samsung ac eraill yn cynnwys y Gymraeg fel lleolaeth.

Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn arbrawf, cael bach o hwyl, a bod yn rhan o’r sgwrs mae cyfle i chi brynu un heddiw.

Telerau / nodwch plîs

Nodwch fy mod yn cynnig y llechen ar ei phen ei hun. Bydd rhaid i chi ffeindio gwefrwr USB-C i’w gwefru – ac maen nhw yn digon cyffredin.

Mae’n syniad da i brynu rhyw fath o waled, ces, neu glawr ar ei chyfer hefyd.

Nodwch fod y ddwy lechen yn rhedeg LineageOS, fersiwn arbrofol o Android. Mae siawns na fydd rhai apiau yn gweithio arni hi, e.e. bancio. Mae’n well peidio dibynnu arni hi i wneud unrhyw beth rhy “bwysig” – heblaw am chwarae a dysgu wrth gwrs!

Mae oddeutu 99% o’r system LineageOS ar gael yn Gymraeg. Ar hyn o bryd mae ychydig o’r gosodiadau anghysbell ayyb yn dal i fod yn Saesneg. (Diolch i’r bobl sydd wedi cyfrannu at y cyfieithiad.)

Fel tad prysur sy’n hacio llechennau yn ei amser sbar er mwyn tyfu defnydd o’r Gymraeg yn y byd symudol ac i wneud pwynt, nid oes modd i mi gynnig warantî ffurfiol i chi. Fel rhan o’r pryniant gallech chi gael un sgwrs 20-munud i ofyn cwestiynau a thrio datrys unrhyw broblemau. Byddaf hefyd yn dogfennu unrhyw bwyntiau arwyddocaol o’r sgwrs, yn ddi-enw, ar Hedyn er mwyn helpu eraill.

Archebu

Gadewch sylw isod neu e-bostiwch carl@morris.cymru os ydych chi eisiau prynu un, a nodwch ba fodel o’r rhestr isod. Cyntaf i’r felin.

SM-T500
Samsung Galaxy Tab A7 10.4″
Lliw: du
Di-wifr yn unig
£80

SM-T505
Samsung Galaxy Tab A7 10.4″
Lliw: du
Di-wifr a 4G
£95

Mae’r ddwy yn ail law mewn cyflwr gwych. Mae’r prisiau yn cynnwys cludiant i Gymru a gwledydd Prydain.

Bydd modd i chi dalu punnoedd trwy Paypal neu BACS.

Nid yw’r llechen Gymraeg ar gael mewn unrhyw siopau!

Tuag at fyd symudol Cymraeg – ffonau, llechennau a mwy

Mae rhai pethau sy’n hollbwysig i’w cael yn Gymraeg. Mae’r gallu i ddefnyddio system dyfais symudol yn yr iaith yn enghraifft o hynny – oherwydd y ffaith bod y ffôn a llechen yn gymaint o bresenoldeb yn ein bywydau.

Dyw’r Gymraeg ddim ar gael fel opsiwn ar unrhyw ddyfais mewn siopau yn 2026, oddi ar y silff hynny yw…

Sôn ydw i am y system weithredu, y gallu i wneud pethau sylfaenol megis:

  • gweld y dyddiad heddiw
  • gwneud cysylltiadau fel di-wifr a Bluetooth
  • newid gosodiadau
  • gweld negeseuon gwall!
  • defnyddio apiau sy’n rhan o’r system fel y ffôn, lluniau, cloc, cyfrifiannell ac ati

Byddai hi’n dda cael gweld ymchwil ar iaith rhyngwynebau a pha effaith maen nhw yn eu cael ar agweddau tuag ar yr iaith. Dyw hyn ddim yn debygol o gymryd lle rhianta ac addysgu trwy’r Gymraeg, ond yn ddelfrydol mae’n cryfhau’r ymdrechion hyn.

Mae mantais clir i mi o ddychmygu sefyllfa lle mae plant yn gweld y Gymraeg a derbyn ei bod yn iaith dechnoleg, ac yn dysgu rhai termau trwy ddefnyddio’r ffôn. Ar hyn o bryd mae fy mhlant i yn benthyg fy ffôn i er mwyn chwarae Antur Cyw a Tux Paint. Mae hi’n debygol eu bod yn sylwi ar iaith y system yn barod – Saesneg yn fy achos i.

Dyma rai ffeithiau perthnasol am Android:

  • Mae Android yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Mae nifer o ffynonellau yn datgan mai hi yw’r system weithredu fwyaf poblogaidd yn y byd – gyda mwy o ddyfeisiau yn ei defnyddio na Windows, a mwy na iOS. Mae fersiynau Android yn rhedeg ar ffonau, llechennau, e-ddarllenwyr, rhai setiau teledu, rhai ceir…
  • Mae’r term “ffôn Android” ar lafar yn aml yn cyfeirio at ddosbarthiad penodol sy’n cynnwys AOSP + Google Mobile Services (systemau perchnogol Google) + systemau mae darparwyr ffôn yn eu creu, nad sydd yn aml yn god agored / meddalwedd rydd. Yn anffodus dyw Cymreigio ddim mor uniongyrchol â phethau sy’n rhoi rheolaeth llwyr i mi/ni megis meddalwedd gweinydd dan GPL/Apache.
  • Felly mae’r ecosystem estynedig Android yn fawr ac yn gymhleth, ac mae sawl fforc. Mae hynny yn fantais ac yn anfantais. Mae modd hacio ac addasu dyfeisiau Android trwy ddilyn proses boenus sydd â risg o fricio’r dyfais. Mae grwpiau trefnus sy’n gwneud hyn, mae rhyw fath o sîn. Calonogol yw gweld bod pobl sydd yn defnyddio ieithoedd nad sydd ar y rhestr swyddogol.
  • Twf ac aeddfedrwydd y fforc LineageOS yn enwedig yw’r sbardun i’r eitem blog hwn.

Dyma’r camau i’w dilyn tuag at bopeth yn Gymraeg yn y byd symudol, y theori newid os liciwch chi:

  1. Cyfieithu Android/AOSP a chyfieithu LineageOS neu’i debyg, ac adeiladu ar y gwaith cyfieithu sydd eisoes wedi digwydd (diolch Aled Powell). Byddai angen i mi gael arian er mwyn ymrwymo i’r prosiect, o bosib trwy ariannu torfol er mwyn prynu’r oriau a dyddiau sydd angen.
  2. Creu dyfeisiau Cymraeg prototeip unigol. Bydd yn ffordd o adnabod a thrio datrys problemau a smwddio unrhyw anhawsterau, ac amlygu’r angen i boblogeiddio symudol Cymraeg fel categori. Bydd carfan o bobl yn hapus i ddefnyddio prototeip, rhoi nhw i blant, ayyb. Fydd y rhan fwyaf o bobl ddim yn hapus gyda phrototeip achos maen nhw yn dibynnu’n llwyr ar eu dyfeisiau a/neu ond eisiau cadw un ddyfais yn eu bag neu boced!
  3. Lansio’r unig ffôn Cymraeg masnachol yn 2026-7 (gan gofio mai Samsung S5600 oedd “y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg” – stori ddiddorol).
  4. Apelio at awdurdodau Cymru i ddylanwadu ar ddarparwyr fel Google, Samsung, Sony, ac ati i greu a chefnogi lleolaeth sy’n cynnwys Cymraeg. Mae hyn yn achos cryfach os yw’r system eisoes ar gael yn Gymraeg – mae dangos yn haws na dweud.
  5. Mae apiau cwmwl yn cyflwyno lefel stac arall o waith. Eto mae’n haws cael cyflwyno’r achos i ddarparwyr os yw’r lleolaeth yn bodoli ar draws pob dosbarthiad Android yn y dyfodol.
  6. Mae Apple yn ymuno yn hwyrach yn y gêm, dyw hi erioed wedi arwain yn y maes amlieithrwydd mewn tech hyd y gwelaf i. Mae ffrindiau sy’n siarad ieithoedd Ewropeaidd fel Basgeg yn cyfeirio at hyn hefyd. Efallai bod modd dylanwadu ar y gorfforaeth trwy normaleiddio Android Cymraeg yn gyntaf?
  7. Y rhai cwbl anghysbell yn sylweddoli bod angen ap yn Gymraeg, fel Bws Caerdydd.

Mae rhai sgyrsiau eraill sy’n gysylltiedig mewn rhyw ffordd neu’i gilydd:

  • Yr angen i fuddsoddiad mewn profiadau a chynnwys o bob math, trwy bethau fel apiau a gwasanaethau, y Fenter Ddigidol Gymraeg e.e. gemau ac apiau ffitrwydd, ac ati.
  • Mae nifer o apiau symudol sydd eisoes ar gael yn Gymraeg, diolch i ymdrechion Cymry, e.e. apiau S4C, Firefox, K-9 Mail, Toot Wales, GPC, Ap Geiriaduron, Tux Paint, ac ati, ac ati.
  • Pobl sy’n dewis tech heb Google (fel Murena /e/OS) ac yn fwy cyffredinol, bywyd heb gorfforaethau tech Americanaidd. Mae nifer o gyrff yn Ewrop eisoes yn ymbellhau o’r corfforaethau oherwydd sefyllfa gwleidyddol yr UDA a polisïau.
  • Yr arfer o achub dyfeisiau o’r domen sbwriel (defnydd o postmarketOS i ymestyn bywyd dyfeisiau – diolch David Clubb am dynnu fy sylw at y system)
  • Defnydd cyfryngau cymdeithasol, neu beidio, gan bobl ifanc – beth yw’r effaith a beth yw rôl y gyfraith
  • (Diffyg) moeseg y diwydiant ffonau a dyfeisiau symudol, Fairphone fel prosiect

Fel y welwch o’r broses uchod dyw’r frwydr iaith benodol hon ddim yn syml. Teimlaf fod camau 1 a 2 o greu prototeip yn anhepgor, ac mae’n bosib dychmygu sut allen ni gyflawni nhw. Gadewch wybod os ydych chi eisiau cymryd rhan.