Nodyn i bobl sy’n cyfieithu ategion a themâu WordPress

Helo Gyfieithydd WordPress

Pan o’n i yn Y Gyngres Geltaidd yn Kemper, Llydaw yr wythnos diwethaf ces i syniad ac o’n i am ofyn i chi os fydd e’n defnyddiol o gwbl.

O ran themau ac ategion WordPress mae’n bwysig sicrhau bod termau yn Gymraeg ar gael os maen nhw yn:

  1. ymddangos i’r ymwelydd i’r wefan
  2. ymddangos yn aml

Ond mae hefyd termau sydd ddim yn gymaint o flaenoriaeth i’r cyfieithydd (e.e. y rhai sydd ar y bwrdd gwaith sydd ond yn weladwy i’r gweinyddwr/awdur/golygydd/ayyb, neu negeseuon am wallau arbennig/niche), ac yn gallu aros yn Saesneg – o leiaf am y tro.

Felly beth am i mi greu rhyw fath o system i wahaniaethu rhwng y ddau? Hynny yw, byddai hi’n rhedeg trwy osodiad WordPress yn awtomatig er mwyn canfod termau ‘hanfodol’ mewn themâu ac ategion?

Mewn byd delfrydol byddai Popeth Yn Gymraeg wrth gwrs, ac mae hyn yn hanfodol mewn cyrff, sefydliadau, a chwmnïau. Dw i’n meddwl yn bennaf yma am gyfieithu gwirfoddol a blogiau Cymraeg annibynnol, ac mae sawl achos lle mae angen gweld y Gymraeg cyn gynted ag y bo modd.

Ar ei symlaf byddai hi’n cynhyrchu fersiwn o’r ffeil POT gyda’r termau hanfodol yn unig i’w roi ar GlotPress.

Yn y pen draw gallai fe fod yn nodwedd sydd ar gael mewn GlotPress.

Fyddech chi am ddefnyddio system o’r fath? Neu allbwn o’r system?

Diolch am bob ystyriaeth.

Mae WordPress yn iachach yn Gymraeg na llawer o ieithoedd eraill, diolch i gyfieithwyr a gwirfoddolwyr. Er enghraifft dim ond 48% o’r system craidd sydd ar gael yn Llydaweg ar hyn o bryd.

Un Ateb i “Nodyn i bobl sy’n cyfieithu ategion a themâu WordPress”

  1. 1. Mae WordPress i raddau yn gwneud hyn yn barod. Yn GlotPress, mae cynigion cyffredin yn cael eu rhannu ar draws cyfieithiadau. Edrycha ar Themes>Percentage Completed.
    https://translate.wordpress.org/locale/cy/default/wp-themes?page=1&filter=percent-completed

    a wedyn Seismic Slate
    https://translate.wordpress.org/projects/wp-themes/seismic-slate/cy/default

    Mae GlotPress yn gwahodd cyfieithwyr ond mae e eisoes ar 91%. Mae’r cyfieithiadau wedi dod o themâu eraill *sy’n defnyddio’r un termau a brawddegau*.

    Felly, dylai’r rhan fwyaf o’r termau fod yn gyffredin ar draws themâu/ategion WordPress. Os nad ydyn nhw byddai modd codi’r peth fel cais i wordpress.org.
    2. Dyw hi ddim bob tro’n amlwg lle mae llinynnau’n mynd – yn y blaen neu’r cefn.
    3. Bore ma nes i brynu (ie, gwario arian… 😉 ) trwydded Poedit Pro+ sydd wedi ei ryddhau wythnos yma i ddefnyddwyr cyfredol.

    https://poedit.net/pro

    Mae’r fersiwn pro+ newydd ei ryddhau i ddefnyddwyr pro fel fi oedd wedi talu rhyw £15 y flwyddyn am nodweddion uwch. Mae pro+ sy tua £50, yn cynnwys cyfieithu gyda Google a DeepL.

    ‘If you want the absolute best machine translation the world has to offer, the true state of the art, that’s now possible in Poedit too. Due to the associated costs, Pro+ is a yearly subscription plan and includes unlimited machine translations by Google Translate or DeepL, and of course free major Poedit upgrades. You know Google Translate, I’m sure (if you didn’t use it recently, do: the neural network it now uses does a great job),… ‘

    Dyw DeepL ddim yn berthnasol i’r Gymraeg ond mae’r cyfieithu drwy Google, er nad yn berffaith, yn rhyfeddol o dda. Ychydig o olygu yma ac acw ac yn torri lawr y gwaith cyfieithu a gosod cod o fewn llinynnau’n sylweddol. Mi wna i anfon y copi o’r e-bost atat ti, Carl.

Mae'r sylwadau wedi cau.