Mae gymaint o flogiau Cymraeg am fwyd. Ond does dim llawer o fideos coginio.
Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio braidd ers fy fideo difrifol iawn am sut i greu bara garlleg. Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg. Bara brith falle?
Dw i eisiau dychmygu bod pobl eraill yn meddwl ‘byddwn i’n gallu creu rhywbeth lot gwell na hyn…’. Dyma fy strategaeth yn aml iawn – ysbrydoliaeth negyddol. Sa’ i’n meddwl bod e’n gweithio bob tro.
Wrth gwrs dw i’n ystyried ymdrechion gwirfoddol yn bennaf.
Cytuno mai dyna’t cam nesaf i fi, ffeindio allan sut i wneud fideo o fi’n coginio. Angen gweithio allan y logistics i ddechrau!
Mae’r fideo uchod yn gweithio rhywsut, bach yn fler heb olygu. Felly bydd dy fideos di yn well yn sicr Elliw!
Cofnodi fideo ‘Crymbl ysgawen a gwsberins’ gan Nwdls: http://vimeo.com/m/5274585
Nes i feddwl yr union peth heno tra’n Tesco!
Bwyd cymreig ar ei orau:
http://www.youtube.com/watch?v=_0fecHGiuUo
Yr un peth i fi – fel dywedodd Elliw – y ‘logistics’ – pe byddwn i’n gwneud fideo coginio bydde bwyd yn mynd ar fy nghamera ac allwn i ddim ganolbwyntio ar y coginio ei hun!