Dyma’r fideo o fy sesiwn Fflachio’r Iaith i’w wylio eto ac eto!
(Yn y fideo dw i’n sôn am rhedeg Android ar efelychydd Eclipse ar dy gyfrifiadur. Dylet ti chwarae gydag Eclipse oes os diddordeb gyda ti.)
Dyma beth ddysgais i:
- Mae’n bwysig iawn i ailadrodd y Rheol Dau Droed, sef os wyt ti eisiau gadael unrhyw bryd dylet ti adael. O’n i’n gwybod oedd y pwnc yn niche felly gwnes i atgoffa pobol ar y dechrau.
- Mae’n bosib gwneud sesiwn Hacio’r Iaith heb unrhyw baratoad. Ac mae lle i sesiynau ymarferol amlgyfrannog. Baddiel and Skinner Unplanned yn hytrach na Christmas Lectures.
- Mae’r fformat sgrin + cyflwynydd + cynulleidfa yn creu disgwyliadau i ryw raddau. Cawson ni lot o help a chyfranogiad ond efallai bydd e’n haws i greu awyrgylch neis gyda strwythur ‘agored’, e.e. cylch o seddau. Diolch i bawb am ddod a chyfrannu!
- Dw i wedi bod yn rhan o Hacio’r Iaith ers y dechrau, tri cynhadledd a sesiynau mewn Chapter ayyb, dw i’n hapus i ddweud bod i erioed wedi darparu ’darlith traddodiadol’! Er bod darlith traddodiadol yn hollol iawn dw i’n gweithio mewn ffordd gwahanol.
- Cyn i mi ddechrau tro nesaf dylwn i dreulio tri neu bedwar munud i baratoi’r stafell i annog cyfranogiad. Er enghraifft ambell waith mae’n well i fod yng nghanol y stafell gyda dwy sgrin – un mewn gliniadur ac un allanol i ddangos y sgrin i bobol gyferbyn.
- Mae gyda phobol lot i’w gyfrannu, yn enwedig y pobol ‘technegol’. Ond ar hyn o bryd mae rhai ohonyn nhw yn eithaf distaw, efallai dydyn nhw ddim yn teimlo digon hyderus i fentro sesiwn? Neu ydyn nhw eisiau mwy o anogaeth i ffeindio pwnc diddorol? Ar y cyfan roedd y cynrychioliad o bobol yn eithaf da: dynion a benywod, pob oedran, pynciau a diddordebau gwahanol, ayyb. Tra bod Hacio’r Iaith yn ymestyn i bobol o bob arbenigaeth (ac yn croesawu tips am sut i fod yn gyfartal) mae angen cofio a chefnogi’r gîcs. Efallai bydd sesiynau niche iawn yn syniad.
- Tra bod i’n siarad dw i’n symud fy mreichiau eithaf lot. Mae angen ail-asesu effeithiolrwydd y dull yma yn sicr.
- O safbwynt symudol roedden ni’n methu rhedeg yr ap Helo Byd ar ffôn (yn hytrach na chyfrifiadur). Felly roedd y sesiwn yn fethiant! Paid ag ofni methiant.
- Y term llinyn (yn y cyd-destun meddalwedd).
- Mae dal galw am Android Cymraeg! Mae’r system yn enfawr ond dylai fe fod yn bosib gyda chyd-weithredu. Gwnaf i drio gosod system cyfieithu hawdd ar-lein (gydag XML, schemas ac ati yn y cefndir yn saff).
- Mae galw am wybodaeth hygyrch am sgwennu cod – rhyw fath o gwrs byr am ddim ar-lein fel Codeacademy? Wrth gwrs dw i’n meddwl am rhywbeth yn Gymraeg gyda chynnwys brodorol. Mae’n bwysig, hyn yn oed, i fabwysiadu pethau yn Gymraeg er mwyn llifo trwy’r sgwrs a phobol Cymraeg a newid yr ‘agenda’.
Diolch yn fawr am hwn Carl. Cytuno efo llawer o be ti’n deud. Mae ganddon ni dal dipyn i’w ddysgu o ran sut i wneud Hacio’r Iaith fynd yn llyfnach a bod yn brofiad gwell. Proses iterative!
Diolch i ti Rhodri. Yn fy mhrofiad i mae Hacio’r Iaith wedi gwella bob tro. Ac mae rhaid dweud bod e wedi bod yn rhan hanfodol o fy natblygiad personol fel petai gan gynnwys rhedeg gweithdai, siarad Cymraeg, newid agwedd, ayyb.
Gyda llaw o’n i ddim yn siŵr lle i flogio’r nodiadau. Fel arfer dyma le dw i’n postio pethau os dw i ddim eisiau darllenwyr!