Darparu ActivityPub o flog unigolyn – beth ddysgais i

Dw i wedi ychwanegu ffrwd ActivityPub i fy mlog bellach, fel gwasanaeth arbrofol.

Dyma rai nodiadau am y profiad:

  • Mae bellach dau gyfrif ar y Ffedisawd i bobl ddilyn os dymunir, @carlmorris@toot.wales (cyfrif Tŵt Cymru gyda phostiadau â llaw) a @carl (ffrwd awtomatig o’r blog yma).
  • Mae hyn yn arbrofol. Ond pam arbrofi? Yn fy marn i byddai hi’n braf cael ffordd agored ac annibynol o rannu a sgwrsio ar y we. Hynny yw, does dim rhaid i bobl ildio rheolaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn llwyr i gorfforaethau fel Twitter a Meta. Mae rhai pobl a sefydliadau eisiau cael grym a hyblygrwydd o fod yn annibynol o’r corfforaethau hynny.
  • Mewn gwirionedd mae Meta wedi datgan bod nhw am gydweithio gyda ActivityPub ‘yn fuan’ ta waeth. Yn y dyfodol agos bydd y systemau yn cydweithio.

  • Roedd hi’n neis cael arbrofi ar y cyd gyda ffrindiau ar Mastodon wedyn. Mae ychydig o bobl wedi dechrau dilyn y blog (gweler uchod) ac wedi gweld yr eitem yn eu hapiau (diolch i Iestyn am y llun isod o’r ap Ivory). Mae ychydig o bobl wedi postio ymatebion i’r eitem prawf hefyd. Mae ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar weinydd penodol yr ymatebwr ac hefyd fel sylwadau ar fy mlog (testun yn unig mae’n debyg – diolch Rhys).
  • Mae’r arbrawf yn arwain at gwestiynau fel… Ydy darparu dau gyfrif (neu fwy) ychydig yn ddryslyd i rai darllenwyr? Oes gwir angen cynnal dau? Sut mae gwahaniaethu? Ydy hyn yn fodel sydd angen ei ystyried gan eraill?
  • Dw i’n teimlo bod fy ngyfrif Tŵt Cymru yn iawn ar gyfer postio pethau cyflym ffwrdd-â-hi tra bod y blog yn canolbwyntio ar bethau ‘o bwys’. Ar hyn o bryd dw i wedi rhoi label ac afatar gwahanol ar y ‘ffrwd’ blog. Un her: dw i ddim yn gallu rheoli pa gyfeiriad mae pobl yn ei ddefnyddio pan yn @io. Efallai bydd rhai yn fy ngopïo mewn ar frys ac yna cyfeirio at y blog yn hytrach na’r cyfrif Tŵt Cymru. Gawn ni weld beth sy’n digwydd.
  • Mae ActivityPub yn ymdrech i gysylltu â phobl eto, darllenwyr, sylwebwyr, ac ati. Mewn theori mae ActivityPub yn fwy grymus na RSS. (Yn yr hen ddyddiau roedd ychydig o bobl yn dod i eitem blog trwy Google Reader a/neu Blogiadur. Yn anffodus mae’r ddau wedi gweld y machlud haul er bod modd i unrhyw un danysgrifio gyda darllenydd trwy RSS o hyd.)
Llun gan Iestyn
  • Er fy mod i’n cyhoeddi fersiwn Saesneg o rai o’r eitemau blog dim ond y cynnwys Cymraeg sydd ar gael trwy ActivityPub ar hyn o bryd i gadw pethau’n syml.
  • Mae ActivityPub o flog yn addawol iawn yn fy marn i. Ar ôl ychydig o waith mae’n gweithio – o ran y nod o roi eitem blog o flaen pobl – sydd yn galonogol. Mae statws beta i’r ategyn WordPress penodol dw i wedi gosod. Mae’r cyfan ‘mewn beta’ mewn gwirionedd.

Ymwadiad:

  • Pwy a ŵyr os fydd system fel hyn yn helpu datrys neu liniaru’r broblem benodol rydych chi’n gweld yn y disgwrs cyhoeddus ar-lein boed hynny’n twyll, sbam, ffugio, camarwain, sarhad, casineb, y diffyg democrataidd, hysbysebion amherthnasol, cael algorithm penodol o’ch dewis, dod o hyd i bethau Cymraeg ayyb. O’r hyn dw i’n deall mae’r Ffedisawd yn rhoi mwy o reolaeth a chyfrifoldeb mewn dwylo gweinyddwyr annibynol, sef y rhai sy’n cyfrifol am y cymuned/cymunedau. Ond does neb wir yn annibynol os ydyn ni am rwydweithio. Mae llawer o ystyriaethau pwysig yma… ar gyfer erthygl arall!

Rhai nodiadau am WordPress yn benodol:

  • I’r rhai sydd ar WordPress.org mae modd gosod yr ategyn beta ActivityPub. Roedd rhaid i mi ddiffodd ategyn Yoast SEO sydd yn awto-flaenyrru pobl o dudalen awdur. Dydy optimeiddio ar gyfer chwilio ddim yn hynod bwysig i’r wefan hon ta waeth. (DIWEDDARIAD 13/7/2023: mae modd rhedeg ategyn ActivityPub gyda Yoast SEO, mae angen troi archifau awduron ymlaen yn Yoast.)
  • Dw i wedi gwneud ychydig o waith cyfieithu ar yr ategyn ActivityPub ac mae croeso i bobl eraill gyfrannu mwy.
  • Mae rhai opsiynau yn yr ategyn ActivityPub dw i heb drio eto. Yn ogystal mae modd newid unrhyw WordPress i fod yn weinydd Ffedisawd go iawn sydd yn dilyn a dangos cyfrifon eraill (gyda’r ategyn Friends er enghraifft).

Prawf: eitem mewn ffrwd ActivityPub o fy mlog

Mae’r blog yma bellach yn darparu ffrwd ActivityPub o’i holl eitemau.

Os ydych chi ar Mastodon (neu systemau eraill megis Pleroma, Friendica, HubZilla, Pixelfed, SocialHome, a Misskey yn ôl y sôn) fe gewch chi ddilyn y ffrwd trwy’r cyfeiriad @carl

Yn bennaf dyma brawf i weld beth sy’n ymddangos. Gadewch wybod am eich profiad trwy bostio ymateb Mastodon (neu system arall). Mae sylwadau ‘traddodiadol’ ar agor islaw hefyd.

Bydd rhaid i mi flogio mwy o nodiadau am y profiad.

DIWEDDARIAD (20 munud ar ôl cyhoeddi): dw i wedi ehangu’r rhestr o blatfformau. Mae chwech eitem yn lle dau bellach. Tybed os fydd hyn yn ymddangos yn y ffrwd ActivityPub.

Gwefan Settled: helpu pobl gydag ymgeisiadau statws preswylydd sefydlog

Dw i wedi adeiladu gwefan i elusen newydd sbon o’r enw Settled.

Mae’r elusen yn helpu pobl sydd angen gwneud cais i’r Swyddfa Gartref i aros yng ngwledydd Prydain oherwydd Brecsit.

Mae’r broses yn gymhleth a dyrys fel y mae ac mae llawer o ffactorau eraill sy’n wneud pethau’n anoddach megis amgylchiadau bywyd y bobl sy’n ymgeisio.

Mae’r fersiwn cyntaf y wefan yn uniaith Saesneg gyda llawer iawn o ieithoedd gwahanol i ddod yn fuan. Hefyd bydd modd gweld dwsinau o sesiynau wyneb-i-wyneb, ac bydd platfform i wirfoddolwyr yr elusen yn ogystal.

Ar y ffordd i Lydaw am Gouel Broadel ar Brezhoneg 2019

Dros y penwythnos byddaf i’n cymryd rhan mewn Gouel Broadel ar Brezhoneg yn Langoned, Llydaw.

Mae’r gair ‘broadel’ yn gyfieithu i ‘cenedlaethol’. Gŵyl genedlaethol trwy gyfrwng y Llydaweg yw hi ac bydd naws eisteddfodol i’r peth am wn i, er nad ydw i’n ymwybodol bod gymaint o farnu na chystadlu.

Mae dau beth ar wahân ar yr amserlen i mi: cyflwyniad am gyfryngau, a DJo.

Cyflwyniad am y we Gymraeg yw’r briff. Mae’r paratoad wedi bod yn anodd achos dim ond hanner awr sydd i ddweud y cyfan. Mae’n rhaid cydnabod bod sut gymaint o weithgaredd ar hyn o bryd, hyd yn oed o fewn categori penodol megis Wicipedia Cymraeg neu’n gwaith ar mapio, newyddion cymunedol a Bro360, defnydd o blatfformau corfforaethol fel Twitter a Facebook, neu fideos a chynnwys o bob math ar-lein, ac yn y blaen.

Ar yr un pryd mae’n wych cael derbyn briff mor agored ac eang, a chael siarad yn blwmp ac yn blaen am drafferthion, problemau ac heriau’r platfformau corfforaethol cyfalafol yn ogystal â sut i geisio manteisio arnyn nhw.

Wedyn byddaf i’n troelli tiwns Cymraeg ar y llwyfan. Mae’r briff ar gyfer hwnna yn eang hefyd ac byddaf i am chwarae pethau electroneg, hip-hop, reggae, ac ati. Dylai DJ swnio fel DJ dw i’n credu – amrywiaeth o gynhyrchiadau, seiniau arallfydol a phethau sydd yn amhosibl yn fyw.

Dw i wedi dweud hyn o’r blaen ond dyma’r gân Gymraeg ‘wleidyddol’ orau y blynyddoedd diwethaf. Nid oes llawer iawn o ganeuon sy’n sôn am yr hinsawdd gyda samplau dychanol o Trump (cyn iddo fe gael ei ethol).

Edrychaf ymlaen at weld Chroma a Lleuwen sydd yn cynrychioli’r Gymraeg yn fyw yn yr ŵyl yn ogystal â llwythi o artistiaid gwerinol a roc a genres eraill o Lydaw sydd ddim yn gyfarwydd iawn i mi eto.

Mewn sgwrs gyda Ronan Hirrien mae Aneirin Karadog wedi nodi bod Llydawyr yn well na ‘Cymry Cymraeg’ am ddysgu’r chwaeriaith.

https://twitter.com/NeiKaradog/status/1135652494510612480

Y tro diwethaf i mi ymweld â Llydaw (y Gyngres Geltaidd yn Kemper llynedd) ces i sawl trafodaeth yn Gymraeg gyda Llydawyr. Dw i am fwynhau dysgu mwy o’i hiaith nhw y tro hwn. O ran y Llydaweg bydd y rhestr o frawddegau yma yn ddefnyddiol.

Dydy Google a Bing yn eu holl ddoethineb ddim yn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar gyfer Llydaweg ond mae peiriant cyfieithu peirianyddol sylfaenol gan Apertium sy’n edrych yn well na dim byd.

Sgyrsiau am y dyfodol ar bodlediad annibynnol newydd Cymru Fydd

Podlediad newydd sbon ydy Cymru Fydd sy’n cynnig:

cyfres o sgyrsiau a seiniau eraill yn edrych ar y dyfodol o safbwynt Cymreig.

Yn y bennod gyntaf dyma Rhodri ap Dyfrig a finnau fel gwestai yn sgwrsio am amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • meddalwedd rydd
  • hen recordiau
  • Mastodon
  • safon y trafodaeth ar Twitter (eithaf gwael)
  • Facebook ac ymerodraethau eraill
  • fy nheulu ym Malaysia
  • ieithoedd bychain y byd a gwaith K David Harrison

Fel arall mae modd gwrando mewn sawl app, e.e. Spotify.

Roedd y profiad o wneud hyn yng Nghaerfyrddin yn lot fawr o hwyl ac wedi profocio fy meddwl llawer.

Mae’n bwysig nodi bod hyn yn sgwrs anffurfiol, ac yn anghyflawn o ran triniaeth o roi o’r pynciau dan sylw. Yn sicr gallwn i wedi ymhelaethu (mwydro) llawer mwy, yn enwedig ar rai o’r pethau dadleuol. Dw i’n difaru peidio sôn am fudiadau gwleidyddol a’i ddylanwad nhw ar safon trafodaethau ar-lein. Hynny yw, nid mater o unigolion yn ymddwyn yn ‘gas’ yw’r unig broblem ond shifft fawr sylweddol sydd wedi digwydd yng nghymdeithas.

Ar yr un pryd dw i’n ddiolchgar iawn i Rhodri am olygu mas y darnau mwyaf ffurfiol/sych yn ein sgwrs!

Mae’r holl bennod o dan drwydded Comin Creu BY-SA.

Dyma’r ffrwd i chi danysgrifio i bennodau newydd, ac mae’r ddwy bennod nesaf eisoes ar y gweill.

Oedran, gwefannau bro, a’r cyfryngau digidol

Mae hi’n galonogol cael gweld bod Golwg360 am ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro. Falch bod rhywun gyda’r galluoedd penodol wedi gweld yr angen yma – o’r diwedd!

Dyma gopi o fy sylw ar yr eitem ar Golwg360:

Mae hi’n hen bryd cryfhau darpariaeth o newyddion lleol ar y we. Da iawn.

Mae’n rhaid cwestiynu’r pwyslais ar ganfod ‘pobol ifanc’ i wneud y gwaith – yn hytrach na pobol brwdfrydig a phrofiadol o unrhyw oedran.

Heblaw am hynny mae’r fenter yn swnio’n addawol iawn.

Ar yr eitem am hyn ar Newyddion 9 neithiwr dwedodd Dylan Iorwerth bod llwyddiant y papurau bro gwreiddiol oherwydd ymdrechion pobl ifanc. Efallai bod hyn yn wir ond dydy hyn ddim yn rheswm i eithrio pobl hŷn y tro hwn, neu gynnig rheswm iddyn nhw anwybyddu’r datblygiad.

Mae hyn yn fy atgoffa o SAWL eitem ar y teledu a radio am sawl agwedd o’r cyfryngau digidol dros y blynyddoedd o wefannau i apiau i ddigwyddiadau am dechnoleg, “Ai rhywbeth i’r to ifanc ydy hyn?”, “Rhywbeth i bobl ifanc y mae hyn yn dydy […]” ayyb ayyb. O’r Post Cyntaf i Taro’r Post i Heno, oes ’na rhyw fath o friff sydd yn gorfodi cwestiynau o’r fath? Mae’n od.

Ta waeth mae’r pwyslais yma yn hollol ddiangen, yn ystrydebol, ac yn eithrio pobl sydd ddim yn hunan-ddiffinio fel ‘ifanc’ – ac sydd fel arall am gyfrannu i fentrau fel hyn.

O hyn ymlaen gawn ni bwysleisio’r cyfraniadau gwerthfawr mae pob demograffeg yn gallu gwneud?

Hedyn.net – thema MediaWiki newydd sbon

Mae croen newydd cyffrous ar Hedyn.net. Dw i wedi gosod Pivot fel arbrawf (efallai bod angen stopio dweud hyn achos mae popeth mewn ffordd yn arbrawf!) – yn rhannol achos mae’r dyluniad yn ymatebol. Hynny yw, mae’n ymateb i faint sgrîn ar ddyfeisiau gwahanol megis ffonau symudol a thabledi.

Ers sbel roedden ni’n rhedeg croen Vector sydd yn iawn ond nid yw e’n ymatebol. Dw i ddim yn hollol siŵr pam mae Wicipedia yn dal i redeg Vector. Stori arall ydy hon.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr mewngofnodedig bydd rhaid i chi newid i Pivot achos mae Vector dal ar gael fel opsiwn.

Sut mae gweld os mae dyluniad yn ymatebol? Cer i’r wefan ar ffôn neu dabled. Fel arall, ar gyfrifiadur newidwch siap a maint ffenestr eich porwr i edrych fel ffôn.

Gadewch wybod sut mae pethau’n mynd ar y croen newydd.

Mae Hedyn.net yn wefan wici sy’n rhedeg ers naw mlynedd fel canolbwynt am adnoddau am y we Gymraeg, e.e. Y Rhestr o flogiau, podlediadau, canllawiau ar sut i wneud pethau cŵl yn Gymraeg ar y we, cofnod o ddigwyddiadau Hacio’r Iaith, ac adnoddau WordPress i ddatblygwyr.

Dw i’n dal i feddwl bod lle i gasglu’r adnoddau yma. Yn wir, dw i’n ymweld â Hedyn.net sawl gwaith yn ystod yr wythnos er mwyn dod o hyd i wybodaeth. Fy ymdrech yw i nodi pethau yna yn gyhoeddus sydd arfer cael eu cadw mewn dogfennau preifat. Rydyn ni wastad yn croesawu syniadau am fentrau sy’n gallu digwydd ar Hedyn.net, ac yn well na hyn, cyfraniadau uniongyrchol i’r wici trwy olygu.

Nodyn i bobl sy’n cyfieithu ategion a themâu WordPress

Helo Gyfieithydd WordPress

Pan o’n i yn Y Gyngres Geltaidd yn Kemper, Llydaw yr wythnos diwethaf ces i syniad ac o’n i am ofyn i chi os fydd e’n defnyddiol o gwbl.

O ran themau ac ategion WordPress mae’n bwysig sicrhau bod termau yn Gymraeg ar gael os maen nhw yn:

  1. ymddangos i’r ymwelydd i’r wefan
  2. ymddangos yn aml

Ond mae hefyd termau sydd ddim yn gymaint o flaenoriaeth i’r cyfieithydd (e.e. y rhai sydd ar y bwrdd gwaith sydd ond yn weladwy i’r gweinyddwr/awdur/golygydd/ayyb, neu negeseuon am wallau arbennig/niche), ac yn gallu aros yn Saesneg – o leiaf am y tro.

Felly beth am i mi greu rhyw fath o system i wahaniaethu rhwng y ddau? Hynny yw, byddai hi’n rhedeg trwy osodiad WordPress yn awtomatig er mwyn canfod termau ‘hanfodol’ mewn themâu ac ategion?

Mewn byd delfrydol byddai Popeth Yn Gymraeg wrth gwrs, ac mae hyn yn hanfodol mewn cyrff, sefydliadau, a chwmnïau. Dw i’n meddwl yn bennaf yma am gyfieithu gwirfoddol a blogiau Cymraeg annibynnol, ac mae sawl achos lle mae angen gweld y Gymraeg cyn gynted ag y bo modd.

Ar ei symlaf byddai hi’n cynhyrchu fersiwn o’r ffeil POT gyda’r termau hanfodol yn unig i’w roi ar GlotPress.

Yn y pen draw gallai fe fod yn nodwedd sydd ar gael mewn GlotPress.

Fyddech chi am ddefnyddio system o’r fath? Neu allbwn o’r system?

Diolch am bob ystyriaeth.

Mae WordPress yn iachach yn Gymraeg na llawer o ieithoedd eraill, diolch i gyfieithwyr a gwirfoddolwyr. Er enghraifft dim ond 48% o’r system craidd sydd ar gael yn Llydaweg ar hyn o bryd.