Petrus, gêm newydd sbon (i rai)

Dyma gêm newydd sbon i chi, Petrus.

Wel, efallai bod hi’n saffach dweud bod hi’n addasiad newydd o hen ffefryn.

Rhybudd: mae’r gêm yn gaethiwus iawn.

Dylai hi weithio ar ffonau symudol yn ogystal â chyfrifiaduron.

Mae hi’n addasiad Cymraeg o gêm gan rywun ar Github o’r enw Chvin, sydd yn seiliedig wrth gwrs ar gysyniad gwreiddiol gan Alexey Pajitnov a Vladimir Pokhilko.

Mae hi wedi bod yn gyfle i mi ymarfer rheoli fersiynau trwy Git, ac edrych at lyfrgell React am y tro cyntaf.

Dyma’r cod.

Petrus yw’r ail gêm mewn cyfres achlysurol. Mwy i ddod yn fuan!

Pŵl Cymru – gêm Gymraeg newydd

Chwaraewch a mwynhewch Pŵl Cymru yn eich porwr.

Mae’r gêm ar gyfer cyfrifiaduron yn unig. Ni fydd y gêm yn gweithio ar ffonau a dyfeisiau symudol.

Diolch i’r rhai sydd eisoes wedi profi fy addasiad Cymraeg, ac i Chen Shmilovich am ddatblygu‘r gêm yn y lle cyntaf.

Mae’r cod ar Github. Dysgais i ychydig am greu gemau mewn JavaScript yn ystod y broses o addasu a chyfieithu. Mae llyfr cyfan am y pwnc a lot o adnoddau eraill ar-lein.

Llyfrau Cymraeg ar Google Books, a’r rhai sydd fod ar gael

Yn ôl erthygl Steven Melendez mewn Fast Company mae hi’n hawdd gwneud cais i weld llyfr llawn ar Google Books mewn achos lle mae’r llyfr yn y parth cyhoeddus, ac mae Google yn darparu ffurflen.

Wrth gwrs edrychais i weld ambell i lyfr Cymraeg i weld os oes cyfle i gynyddu’r nifer o lyfrau sydd ar gael yn eu cyfanrwydd ar y we, fel arbrawf.

Er enghraifft mae sawl llyfr gan William Owen Pughe ond maen nhw i weld ar gael eisoes.

Dw i’n cymryd bod y statws yn glir i systemau Google Books mewn achosion lle mae’r awdur wedi marw dros 70 mlynedd yn ôl (y cyfnod hawlfraint).

Nodwch fod Melendez yn defnyddio enghraifft o gofnod gwrandawiad llywodraeth o 1965 yn yr UDA.

Ffeindiais i ddim byd a oedd angen gwneud cais i’w ryddhau ond byddwn i’n chwilfrydig i weld os ydych chi’n gallu ffeindio un.

Teclyn Llafariaid Cymraeg, ap gwe newydd

aeiouwy

Yn cyflwyno’r Welsh Language Vowel Locator.

Dyma declyn defnyddiol iawn i’r rhai ar y Rhyngrwyd sydd ddim yn cydnabod bodolaeth llafariaid Cymraeg.

Mae trydariadau am y teclyn wedi bod yn hollol bositif hyd yn hyn!

Mae’r cod ar Github.

Un arall o’r gyfres achlysurol #GorauArfArfDysg mae e.

Map i Gymru: adeiladu map agored yn Gymraeg

Mae’r blogiad hwn wedi ei bostio ar flog Sefydliad Data Agored Caerdydd hefyd. Diolch o galon i David Wyn Williams am fy helpu gyda’r geiriad.

Drafft o fap i Gymru

Cymrwch gip ar y map yma o Gymru, ble mae’r enwau lleoedd i’w gweld yn Gymraeg: https://openstreetmap.cymru

Mae nifer o bobl heb weld enwau megis Aberteifi, Treffynnon neu Aberdaugleddau ar fap arlein – neu’n wir unrhyw fap…

“Nid yw Hon ar fap” fel meddai T.H. Parry-Williams yn ei gerdd enwog.

Defnyddiwyd yr enwau yma am sawl cenhedlaeth hyd heddiw, yn nhrafodaethau, yn y cyfryngau ac ar arwyddion ffyrdd wrth gwrs. Mae gan Wicipedia Cymraeg erthyglau sy’n cyfeirio at yr enwau Cymraeg yma.

Serch hynny, nid yw’r enwau cyfarwydd yma fel arfer yn cael eu cynnig nac eu cydnabod gan yr enwau mawr yn y byd mapio rhyngwladol.

Er mwyn adeiladu map o Gymru yn iaith Cymru rydym wedi tynnu data agored trwyddedig, meddalwedd arbennig a dogfennaeth arbenigol oddi ar OpenStreetMap. Mae hyn yn dilyn gwaith gan gryn dipyn o gyfranogwyr ledled y byd, ac felly mae ein dyled ni yn fawr iddynt. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r gwaith cynnar yma sydd ar gychwyn gennym.

Adeiladu ar y map

Mae’r map hwn ar weinydd prototeip sydd yn rhoi cyfle i chi roi eich bysedd – neu eich llygoden – ar y tir ac i dynnu i mewn ac allan yn ôl yr angen. Dw i wrthi yn datblygu’r prosiect yma ar-lein ac i ddweud y gwir dw i’n hynod hapus gyda’r hyn rydym ni wedi medru cyflawni hyd yn hyn.

Serch hynny, efallai welwch chi ambell i bwbach neu nam wrth imi ddatblygu’r wefan ymhellach, sydd yn parhau i arddangos ambell i ardal sydd angen datblygu pellach.

Yn wir, wrth imi ysgrifennu’r blog hwn, rydym newydd dderbyn pecyn o wybodaeth werthfawr tu hwnt gan Swyddfa Comisiynydd Y Gymraeg sy’n ffrwyth blynyddoedd lawer o waith. Dyma enwau lleoedd dros Gymru gyfan; o’r dinasoedd mwyaf hyd at y pentrefi lleiaf oll, ac sydd wedi ei drwyddedi trwy Drwydded Agored y Llywodraeth.

Mi fyddaf yn cyflwyno nodwedd arall yn fuan iawn, sef y gallu i ddefnyddio a mewnosod y map hwn fel rhan o unrhyw wefan.

Gwella’r data

Dyma’r adran i chi petaech am wybod mwy am sut i wella’r wybodaeth sydd gennym ni ar ein map OSM ni – Map i Gymru – hyd yma.

Mae’r data newydd yn cael ei fewnforio bob nos. Er mwyn cyflymu’r broses, mae ambell i newid bach ar wedd y map ei hun hefyd yn cael ei wneud o flaen llaw.

Buasai gan y gronfa ddata berffaith tag name:cy ar gyfer pob eitem yn barod. Ni bell ffordd o fod yna eto!

Yn y cyfamser mae’r system dw i wedi datblygu yn defnyddio’r tagiau name:cy ac ambell i tag name hefyd (sef yr hyn sy’n dynodi beth mae’r cyfranwyr hyd yma wedi ystyried i fod yn ‘enw cyffredinol’).

name:cy sydd gyda’r flaenoriaeth. Petaech am ychwanegu enw yn Gymraeg, golygwch y map ar osm.org ac ychwanegwch tag name:cy wedi i chi gofrestru fel defnyddiwr newydd (os nad ydych chi wedi cofrestru eto). O gymryd bod eich gwaith golygu yn cael ei dderbyn gan y gymuned, bydd y gwaith hwn yn diweddaru ein map Cymraeg ni dros nos.

Diolch i’r drefn mae nifer o dagiau name:cy yn bodoli yn barod.

Yr her yw, bod rhai o’r enwau buasem am ddefnyddio dim ond ar gael wrth ddefnyddio’r tag name. Hynny yw, mae gan nifer o lefydd sydd yn berchen ar enw Cymraeg yn barod megis Llanelli ddim o reidrwydd yn eistedd yn y set data name:cy. Nid yw cyfranogwyr traddodiadol OSM wedi mynd i’r drafferth o ychwanegu’r name:cy i enwau sydd yn Gymraeg megis Morfa Nefyn, Abersoch, a’r nifer fawr o lefydd tebyg. Dyna pham rydym ni eich angen chi!

Ceisiais baratoi gwahanol fathau o’r map gan ddefnyddio gwahanol setiau data. Mae caniatáu’r holl enwau yn difetha’r ddelwedd o gael map Cymraeg. Ond wrth gael gwared ar y tag name… wel roedd hanner y llefydd wedi diflannu’n llwyr!

Felly dw i wedi gosod system er mwyn defnyddio name ar gyfer y mathau yma o lefydd. (Er gwybodaeth, dw i wedi rhoi enw y maes ar system osm.org mewn cromfachau.)

  • annedd/ adeilad unigryw (isolated_dwelling)
  • fferm (farm)
  • sgwâr (square)
  • pentrefan (hamlet)
  • cymdogaeth (neighbourhood)
  • pentref (village)
  • tref (town)
  • ynys (island)
  • ardal leol (locality)

Ar gyfer elfennau arall rydw i hefyd wedi defnyddio rhestr wen a rhestr ddu; e.e. mae ‘Ysgol’, ‘Capel’ ac ‘Eglwys’ ar y rhestr wen: bydd y map angen y rheiny!

Yn naturiol, bydd grym name:cy yn disodli pob ystyriaeth uchod. Ychwanegwch enwau Cymraeg ar y tagiau name:cy pan welwch chi ddiffyg hynny. A gyda llaw bydd eich mewnbwn ar gael ar draws y byd ar yr holl fapiau sy’n defnyddio OpenStreetMap.

Defnydd ac apiau yn y dyfodol agos

Mae’r hyn welwch chi nawr dim ond yn un ap posib sy’n defnyddio’r data Cymraeg er mwyn arddangos map o Gymru.

Bydd gwefannau ac apiau eraill yn gallu gweithio gyda’r gweinydd map mewn sawl ffordd.

Mae creu map o’r fath yn cynnig posibiliadau cyffrous ym mhob math o feysydd;

  • dysgu
  • fforio
  • chwarae
  • ymchwil
  • cyfathrebu
  • mordwyo

Cof y Cwmwd: gwefan wici am hanes Uwchgwyrfai

Dyma eitem Heno am Cof y Cwmwd, gwefan wici amlgyfranog newydd am ardal Uwchgwyrfai.

Pwrpas y wefan ydy casglu a rhannu gwybodaeth hanesyddol am yr ardal, ei sefydliadau a’i phobl.

Fel datblygydd gwe dw i wedi bod yn cydweithio â Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar y wefan hon. Dw i eisoes wedi blogio am fy ngwaith ar wefannau wici Cymraeg.

Mae pobl bellach yn cyfrannu lluniau ac erthyglau i’r wefan.

Mae hyn wedi cynyddu heddiw yn ystod y Golygathon cyntaf ar y wici, digwyddiad cymunedol i sbarduno cyfraniadau i’r wici. Arweinydd y Golygathon gan Jason Evans o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, dyn sy’n arddel y teitl Wicipediwr Preswyl ac sy’n gwybod llawer am dyfu wicis!

Fe fydd hi’n ddiddorol dros ben gweld sut mae prosiectau fel Wicipedia a’r wefan newydd Cof y Cwmwd yn rhannu cynnwys yn y dyfodol hefyd.

Llun Golygathon gan Jason Evans

Gwefan ddwyieithog neu amlieithog mewn WordPress

System cyfieithu WordPress yn rhestru sawl iaith

Yng Nghymru rydyn ni wedi dod i arfer gyda’r model o wefan gwbl ddwyieithog ond mae modelau ac arferion eraill o gwmpas y byd (megis Wicipedia sydd yn cynnal sawl iaith yn annibynnol gyda rhyw faint o addasu a chyfieithu rhwng yr ieithoedd).

Dw i wedi bod yn creu gwefannnau dwyieithog ac amlieithog ers tro. Fy record byd personol fel petai yw gwefan bedairieithog i brosiect theatr Ewropeiaidd yn Llundain a ddatblygais ar y cyd ychydig blynyddoedd yn ôl.

Mae cyfieithu yn cael ei ystyried fel ffordd o ddarparu’r ieithoedd ac mae’r defnydd o gof cyfieithu yn cynyddu. Ond nid cyfieithu yw’r unig ffordd neu’r ffordd orau o wneud hyn wrth gwrs.

Nid oes esgus i beidio darparu gwefan amlieithog o’r radd flaenaf erbyn hyn. Mae hi’n gallu bod yn brofiad poenus cael ceisio defnyddio gwefan sy’n isradd o ran hyn ac rydyn ni i gyd yn gwybod pa iaith sydd fel arfer yn dioddef o ddiffyg cariad. Dylai iaith fod yn graidd i drafodaeth am brofiad y defnyddiwr. Mae’r meddalwedd yn bodoli ac mae’r arbenigedd yn bodoli. Mae sawl enghraifft o arfer da ac mae help i gael!!

Tu fas i sefyllfa y sefyliadau dyma fi, person llawrydd sydd wedi ychwanegu adran gwaith i fy ngwefan i, morris.cymru.

Fe ddechreuodd y wefan hon o dan enw arall yn 2008 ar gyfer meddyliau a chofnodion am ddiddordebau amryw. Dros amser fe ysgrifennais ragor o stwff fel hyn yn Gymraeg a llai yn Saesneg, ac yn gynyddol mae angen rhannu mwy o stwff gwaith a phrosiectau llawrydd. O’n i hefyd yn awyddus i fanteisio ar enwau parth .cymru, symud o quixoticquisling.com, ac ailgyfeirio’r holl gyfeiriadau i’r enw parth newydd morris.cymru.

Dw i wedi cadw’r naw mlynedd o archifau cofnodion blog, ac wedi ychwanegu cod a gosodiadau er mwyn dangos neges os nad yw cofnod blog hanesyddol ar gael mewn iaith a dewiswyd gan y defnyddiwr.

O hyn ymlaen mae’r wedd a threfn newydd yn fy ngalluogi i bostio rhywbeth am brosiect gwaith neu gofnod blog am unrhyw fater dan haul. Byddwn i’n croesawu adborth wrth i’r wefan esblygu i’r ail ddegawd yn 2018.

Dyma’r cefndir technegol. Dw i’n defnyddio WordPress.org ac nid oes ots pa ategyn a ddefnyddir mae angen ffeiliau iaith .mo ar gyfer craidd WordPress core, y thema, ategion yn ogystal â thestun ar gyfer teclynnau, dewislenni, categorïau, a mwy. QTranslate X sydd orau ar hyn o bryd yn fy marn i (heblaw am faneri i ddinodi ieithoedd) ac mae’r ategyn yn awtomeiddio chwilio am ffeiliau iaith. Nodwch fod angen gwneud eithaf tipyn o osod ac addasu ar yr ategyn hwn.

Cysylltwch am sgwrs os ydych chi eisiau help ar hyn!

MediaWiki a gwefannau wici Cymraeg

Mae hi’n braf cael gweithio ar brosiect wici i glient sef Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Maen nhw fel mudiad am gydweithio ar gyfres o erthyglau amlgyfrwng am hanes yr ardal o drafnidiaeth i chwareli i ysgolion i gapeli ac eglwysi. Fe fydd canlyniadau ein gwaith ar wici Uwchgwyrfai i’w gweld cyn hir.

O safbwynt y datblygwr mae sawl opsiwn ar gyfer meddalwedd wici. MediaWiki yw’r un sy’n cael ei defnyddio mwyaf. Dyna sy’n rhedeg Wicipedia a sawl prosiect perthnasol arall. Dyma fy nghyfrif ar y Wicipedia Cymraeg. Gweler hefyd: fy nghwaith ar gyfrif Twitter @wicipedia.

MediaWikiNid yw poblogrwydd MediaWiki fel y cyfryw yn digon o reswm i’w dewis. Mae’n ddarn o feddalwedd eithaf mawr ac mae lot fawr o opsiynau. Mae anfanteision eraill hefyd, yn dibynnol ar gyd-destun y prosiect. Ond mae hi’n wych ar gyfer rhywbeth amlgyfrwng ac mae’r rhyngwyneb ar gael yn Gymraeg, diolch i gyfieithwyr gwirfoddol.

Yn 2009 roeddwn i am ddechrau gwefan wici o’r enw Hedyn er mwyn rhannu adnoddau ymhlith datblygwyr a chyhoeddwyr sydd am ddefnyddio’r Rhyngrwyd a’r we yn Gymraeg. Dokuwiki oedd fy newis ar y dechrau ond fe benderfynais newid i MediaWiki wedyn oherwydd y niferoedd o bobl a oedd yn brofiadol ar y system. Mae MediaWiki yn parhau hyd heddiw fel sail y wefan.

Nid yw’r cyfle i greu wici newydd sbon yn ymddangos yn aml. Mae angen eithaf tipyn o ymdrech, amser, a chriw o bobl cefnogol er mwyn cynnal wici llwyddiannus. Does dim llawer o enghreifftiau o lwyddiant ar wicis yn y Gymraeg, efallai oherwydd yr angen i recriwtio llawer o gyfranwyr brwd ac i fuddsoddi lot fawr o amser i greu rhywbeth o werth.

Rhagfarn ac annhegwch mewn algorithmau

Mae Joy Buolamwini yn ‘fardd cod’ sydd wedi ymchwilio rhagfarn ac annhegwch mewn algorithmau.

Meddalwedd sydd fod adnabod gwynebau ar gamera ond yn methu adnabod gwynebau croenddu yw’r enghraifft cyntaf yn ei araith yma.

Engrheifftiau eraill mewn lluniau: fe drwsiwyd FaceApp er mwyn cael gwared â phroblem o ‘algorithm hiliol’. Roedd angen i Google ymddiheuro am fod eu system wedi tagio dau berson groenddu fel gorilas.

Yn ôl Buolamwini, ‘y person sy’n cael creu’r system yn cael mewnosod ei barn/farn‘.

Dw i’n dychmygu y bydd y problemau yn cynyddu tra bod rhagor o systemau dysgu peirianyddol yn cael eu defnyddio, yn enwedig os mae’r systemau wedi cael ei hyfforddi gyda setiau cyfyngedig o ddata.

Mae’n debyg y byddan ni’n gweld achosion o bobl yn methu cael yswiriant, swyddi a chyfleoedd eraill oherwydd penderfyniadau gan beiriannau. Wrth gwrs fydd hi ddim wastad yn amlwg i’r person sydd yn dioddef. Er enghraifft byddai rhywun yn clywed bod e/hi heb lwyddo i ennill cyfweliad am swydd ond fydd hi ddim yn amlwg bod system wedi dehongi ei CV neu ddata bersonol mewn ffordd ragfarnllyd.

Mae Buolamwini wedi cael sawl profiad personol o ragfarn mewn algorithmau ers blynyddoedd ac wedi ysgrifennu eithaf tipyn o erthyglau am hyn. Yn ogystal mae hi’n cyfeirio at lyfr o’r enw Weapons of Math Destruction gan Cathy O’Neil.

Mae’r gwaith wedi arwain at fudiad o’r enw Algorithmic Justice League a sefydlwyd gan Buolamwini eleni er mwyn casglu rhagor o achosion ac ymgyrchu dros degwch mewn algorithmau.

Dw i wrthi’n ceisio deall yr union ddiffiniad o ‘ragfarn mewn algorithmau’.

Fe ges i gyfarfod gyda swyddogion Google yn Llundain sbêl yn ôl i drafod eu polisïau nhw o ran y Gymraeg, nid yn unig mewn rhyngwynebau ond diffygion sy’n gallu cael eu hystyried fel rhai algorithmig megis statws y Gymraeg ar ganlyniadau chwilio ac o bosib y broses o adeiladu’r mynegai.

Ydy hyn yn berthnasol i’r sgwrs am ragfarn mewn algorithmau? Mae Rhodri ap Dyfrig wedi sôn am hyn.

Yn y bôn ‘dydy cefnogi’r Gymraeg yn iawn ddim yn werth chweil yn fasnachol i ni’ oedd ymateb Google. Mae hi’n bwysig nad ydyn ni’n ildio i’r syniad bod angen i ni greu rhagor o gynnwys Cymraeg er mwyn cyrraedd radar Google a chwmnïau eraill. Er enghraifft mae creu rhagor o erthyglau Wicipedia ac ati yn Gymraeg yn beth da yn ei hun. Mae Google wedi gwneud digon o arian yng Nghymru eisoes ac wedi mwynhau ffafr llywodraeth San Steffan ac awdurdodau eraill mewn sawl ffordd. Dylen ni hefyd cydnabod bod unrhyw ‘feini prawf’ o’r fath megis nifer o erthyglau Wicipedia neu beth bynnag yn hollol, hollol fympwyol.

Beth am feddalwedd yr iPhone (a systemau eraill) sy’n mynnu ‘cywiro’ eich geiriau oherwydd diffyg geiriaduron Cymraeg? Mae sôn hefyd am yr ‘exclusion overhead’, yr ymdrech mae’n rhaid i ddefnyddwyr wneud er mwyn cael meddalwedd i weithio’n iawn tra bod ’na diffygion dal yn y system.

Pa wers y mae plant yn dysgu bob tro mae bysellfwrdd neu brosesydd geiriau yn newid y gair ‘i’ ac yn mewnosod ‘I’ yn lle yn awtomatig, er enghraifft?

Beth am fformiwla ffrwd Facebook? Pa mor effeithiol ydy systemau fel hyn gyda chynnwys Cymraeg, geiriau Cymraeg, treigladau? Mae hi’n anodd dadansoddi hyn.

Efallai bod yr Echo ac Alexa yn berthnasol yma er bod cwmni Amazon wedi dweud yn blwmp ac yn blaen bod y peiriant ond yn deall dwy iaith, Almaeneg a Saesneg!

Fyddwn i ddim yn synnu pa tasai pobl yn canfod sawl achos o ragfarn ieithyddol mewn algorithmau o fewn sawl gwasanaeth, ‘rhagfarn’ sy’n gweithio yn erbyn ieithoedd lleiafrifedig o gwmpas y byd.

Gadewch wybod yn y sylwadau os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw rai.