Llyfrgell Genedlaethol: lluniau Geoff Charles


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth


Gwybodaeth

Mae’r sylwadau ar fy nghofnod am Library of Congress wedi bod yn dda iawn.

I fod yn deg mae cannoedd o luniau o’r archifau Llyfrgell Genedlaethol yn y parth cyhoeddus.

Mae’r saith llun yma gan Geoff Charles. Mae lluniau gan ffotograffwyr eraill hefyd.

Maen nhw i gyd yn dweud ‘No known copyright restrictions’ ar Flickr, sy’n dda iawn.

Nawr allem ni rhyddhau’r llyfrau fel Yn y Lhyvyr Hwnn hefyd?
🙂

Mantais y parth cyhoeddus

Wyt ti erioed wedi clywed araith gan wleidydd na gwas sifil am fanteision y parth cyhoeddus? (Dw i erioed wedi. Ond dw i wedi clywed y geiriau ‘eiddo deallusol’, ‘intellectual property’ ac ‘IP’ sawl gwaith.)


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr


Fersiwn mawr

Mae’r lluniau hyfryd yma yn dod o’r archif Library of Congress. Dim trwydded, dim hawlfraint, dim ond ‘No known copyright restrictions’.

Dyma ddau wefan sydd wedi bod yn rhydd i rannu’r lluniau yn y pythefnos diwethaf:

Buzzfeed, mis Gorffenaf 2011 (31,631 yn dilyn ar Twitter, lluniau wedi cael 490 hoff, 69 ‘response’ hyd yn hyn)

How To Be A Retronaut, heddiw (9597 yn dilyn ar Twitter, 17600 yn dilyn y tudalen Facebook, mwy o bobol ar RSS ayyb)

Diolch Library of Congress, UDA. (Gweler hefyd: lluniau NASA)

Wrth gwrs mae lluniau yn dangos un math penodol o Gymru, sef yr 19eg ganrif. Ond mae’n iawn, mae’n rhan o’n hanes, diwylliant ac etifeddiaeth.

Dyma un mantais y parth cyhoeddus i bobol sy’n trio hyrwyddo Cymru neu codi ymwybyddiaeth am Gymru, e.e. Llywodraeth Cymru, Visit Wales.

Ond pa mor aml ydy blogiau o gwmpas y byd yn rhannu stwff o Gymru?

Paid anghofio’r parth cyhoeddus. Syniad da i Lyfrgell Genedlaethol sydd yn digido pethau o ganrifoedd yn ôl ac yn trio rhoi nhw dan drwydded hawlfraint gaeth iawn.

Newidiadau yng Nghaerdydd a Chymru

This post is written in Welsh and is about changes happening in Cardiff and Wales, where I live. The Google Translate version will give you the gist in English or another language of your choice. Incidentally the title means “Changes in Cardiff and Wales”. Each placename happens to have a Welsh mutation in the title. A mutation is a change to the first letter of a noun, which sometimes occurs. A lot of learners think it’s voodoo – until they learn the rules for it. It’s just part of the language.

Dw i erioed wedi nabod newidiadau fel hwn – tu fewn un mis – yn y ddinas.

Ddoe, es i i lansiadau rhaglen National Theatre Wales a man cyfarfod Cardiff Arts Institute ar yr un dydd. Mae dau prosiect yn cyffrous iawn.

Gobeithio dw i ddim yn swnio fel “dyddiadur cymdeithasol” yma, ha ha.

Beth bynnag, dw i dal yn DJo a mae’n braf i cael rhywle newydd i wneud e, Cardiff Arts Institute. Efallai mae nhw yn tyfu scenius yna. Dw i’n licio’r enw – does dim rhaid i ti gofyn unrhyw awdurdod i defnyddio enw fel “sefydliad” neu “institute” – pam lai?

Mae National Theatre Wales yn genedlaethol wrth gwrs. Cafodd e ei lansiad rhaglen yng Nghaerdydd a rhedeg swyddfa nhw yng Nghaerdydd. Mae gen i diddordeb yn ffyrdd i adeiladu prifddinas cryf a gwasanaethu’r gwlad cyfan. Dw i ddim yn siwr os mae “gwasanethu” yw gair cywir yma, dw i ddim yn rhugl eto! Ond mae pob gwlad llwyddiannus yn cael prifddinas cryf. Ond mae’n hawdd i dweud wrth gwrs achos dw i’n byw yn y prifddinas hon. Allwn i ddim yn sylwi popeth ym mhob man.

Sut allai prifddinas yn gwasanaethu’r gwlad cyfan? Fel Native, ro’n i’n cynghori’r cwmni am strategaeth arlein. Mae nhw eisiau agor broses i cwmniau a phobol eraill. Hefyd, mae nhw eisiau creu cyfleoedd newydd am artistiaid yng Nghymru cyfan. Os ti’n gallu ateb cwestiynau fel ‘na, dylet ti ymweld ac ymuno’r cymuned a thrafod a blogio dy meddyliau yna. Neu dylet ti blogio dy meddyliau ar dy flog dy hun. Rwyt ti’n gallu dylanwadu.

Mae Chapter yn pwysig yn y golygfa “creadigol” yma hefyd. Mae nhw wedi ail-agor mis diwetha gyda safleoedd newydd a bar newydd. Dw i wastad yn nerfus am cynlluniau mawr. Ond nawr dw i’n hoffi’r adeilad newydd.

Cyn Nadolig, mae Canolfan Siopa Dewi Sant yw newid amlwg. Ro’n i’n meddwl am cystadleuaeth stare-out rhwng y Ganolfan a dirwasgiad.

Mae nhw wedi creu swyddi newydd yna siwr y fod. Mae digon o bobol yn hoffi’r canolfan hefyd. Ond dw i ddim yn teimlo fel rhan o’r pethau yn digwydd yna.

Beth oedd y dywediad Dewi Sant wreiddiol? “Gwnewch y pethau bychain”, dw i’n credu. Ond mae canolfan yn teimlo gwahanol iawn i’r dywediad y Sant. Mae canolfan yn llawn gyda brands mawr a dw i’n defnyddio gair Americaniad am rheswm.

Darllena Capital Times (Pravda Caerdydd? Ha ha.) Pam ydyn ni wastad yn siarad am cynlluniau MAWR? Mae cynghorwyr ac aelodau Cynulliad yn trafod cynlluniau mawr mwy nawr, dw i’n meddwl. Ond dw i’n hapus gyda llawer o pethau arbennig bach.

Dw i’n hoffi busnes llwyddiannus. Dw i’n hoffi siopau, caffi, tafarnau, safleoedd – eglwysi hefyd – pan gallwn i cwrdd, siarad a nabod pobol eraill yna. Os dw i’n dechrau unrhyw le fel ‘na baswn i creu rhywle gyda awyrgylch fel hon.

Felly pan es i i Ganolfan Dewi Sant, ro’n i’n gadael – syth ymlaen i Spillers am diwylliant a sgwrs cyfeillgar gyda perchennog am cerddoriaeth ska yn y 60au.