Problem dosbarthu cynnwys Cymraeg

Dyna sy’n wneud i mi feddwl am broblem dosbarthu cynnwys Cymraeg.

Dyma RS Thomas ar raglen Beti a’i Phobol:

https://soundcloud.com/beti-ai-phobol/beti-ai-phobol-r-s-thomas-rhan

Dim ond 74 o wrandawiadau wedi bod ers iddyn nhw lanlwytho’r hen raglen i Soundcloud ar 13 Tachwedd 2013.

Chwarae teg i’r tîm am eu rhoi nhw ar y we yn barhaol tu hwnt i gyfnod cyfyngedig iPlayer.

Ond mae nifer o wrandawyr yma yn siom i mi. Mae’r niferoedd yn debyg ar y rhaglenni Beti a’i Phobol eraill.

Efallai bod hi’n dangos pwysigrwydd hyrwyddo?

Efallai diffyg chwiliadau am y pwnc?

Diffyg disgwyliadau ar ran y cynulleidfa botensial?

Neu ddiffyg statws i’r Gymraeg ar ganlyniadau chwilio Google ac ati?

Ta waeth rwy newydd rannu’r rhaglen uchod ac wedi rhoi cwpl o ddolenni ar Wicipedia hefyd.

2 Ateb i “Problem dosbarthu cynnwys Cymraeg”

  1. Dwi ddim cweit yn siwr be yw’r broblem Carl. Os oes rhywun yn gyfarwydd a rhaglen Beti a’i Phobol, y lle naturiol i chwilio yw ar wefan y BBC. Mae yna archif cyfan yna o hen gyfweliadau gyda MP3s i’w lawrlwytho – http://www.bbc.co.uk/programmes/b007rkcw/episodes/downloads?page=6

    Ond mae nhw mewn trefn darlledu, neu ail-ddarlledu, felly mae nhw ychydig yn anoddach i’w chwilio fan yna.

    O’n i ddim yn ymwybodol fod yna gopiau ar Soundcloud nes gweld dy flog.

    Os oeddech chi’n gwybod dim am annwyl Beti neu jyst yn chwilio am gyfweliadau gyda R.S.Thomas, mae’n debyg byddai gwefan y BBC yn codi llawer uwch na Soundcloud yng nghanlyniadau Google. Y broblem sylfaenol yw dod o hyd iddo fe – dyw e ddim yn ymddangos wrth chwilio am “r.s.thomas cyfweliad” ond wrth chwilio am “r.s. thomas sgwrs” mae rhaglen Beti yn bedwerydd.

  2. Am wn i Soundcloud yw’r unig blatfform sy’n cynnig ystadegau Beti a’i Phobol yn gyhoeddus (heblaw am os oes ffigyrau yn y diwydiant radio).

    O’n i’n disgwyl i’r ffigyrau yn gyffredinol fod yn uwch ar Soundcloud rhywsut, er fy mod i ddim yn gwybod beth yw ffigyrau ar gyfer llefydd eraill sy’n darparu’r rhaglen.

    Ond efallai dy fod ti’n iawn Dafydd – dw i’n gobeithio.

Mae'r sylwadau wedi cau.