Cofio pethe

Mae ‘cofio’ yn thema bwysig yn yr enaid Cymraeg. Sa’ i’n siŵr ble ffeindiais i’r syniad yn wreiddiol, trwy ddarllen rhywle efallai.

Mae ‘cofio’ yn ymddangos ym mhob man. Hyd yn hyn dw i’n gallu, errm, cofio:

  • ‘Cofia fi at…’
  • ’wyt ti’n cofio’r Ysgol Fomio…’ – Daw Fe Ddaw Yr Awr gan Dafydd Iwan
  • ’wyt ti’n cofio Macsen…’ – Yma O Hyd gan Dafydd Iwan
  • ‘… I gofio am y pethau anghofiedig…’ – Cofio gan Waldo Williams
  • Cofiwch Dryweryn
  • Cofio, rhaglen S4C
  • Geiriau fel ‘hunangofiant’, ‘coflech’

Mae sawl un arall dw i’n siwr, ydw i wedi colli unrhyw pethau ‘cofio’ pwysig?

Mae’r ystyr ‘cofio’ yn diddorol. Does neb sy’n byw nawr yn gallu cofio Macsen ac mae Cofiwch Dryweryn yn golygu rhywbeth i bobol sydd wedi cael eu geni ers y 60au. Mae rhyw fath o gof cyfunol yma, cof y werin.

Fydd cofio yn haws yn yr oes cyfryngau DIY a Wicipedia?

10 Ateb i “Cofio pethe”

  1. Fydd cofio yn haws yn yr oes cyfryngau DIY a Wicipedia?

    Mond os fydd pobl yn mynd ati i gofnodi pethau!

  2. Mae’r pwynt yma wedi cael ei wneud ynghylch etifeddiaeth Cymru yn y gorffennol. Mae ganddi digon o ddiwylliant a thrysorau ar ffurf cof a llafar, ond ddim cymaint o wrthrychau diriaethol fel y Rhufeiniaid neu’r Groegiaid.

  3. Y peth anodda mewn cymdeithas gyda gor-wybodaeth ydi gwybod beth sydd werth ei gofio. Hwnna ydi’n brwydr gyson fel Cymry debyg, am ein bod ni wastad yn brwydro am le yn y cof yn wyneb popeth arall, a pham bod pobol fel Dafydd Iwan a Waldo’n trio’n atgoffa ni o dro i dro beth sydd yn werth ei gofio fel cenedl.

  4. Yn wreiddiol derbynodd lot o Gymry negeseuon Dafydd Iwan a Waldo. Basen nhw yn di-enw os oedd y negeseuon yn amherthnasol.

    Nawr ydyn nhw jyst yn rhan o’r cofio-cyfryngau complex?

  5. Be fydd ein cenhedlaeth ni’n cofio? Be fyddwn ni’n cofio o’r 00au? Be fydd y linell o gerdd ney gân fydd yn aros yn y cof cenedl?

    Fydd na rwbath sydd yn trumpio DI a Waldo? Neu ydan ni’n euog o orffwys ar rwyfau atgoffwyr y gorffennol? (a dyna lle dwi’n meddwl ei bod hi’n annoddach creu symbolau newydd cryf erbyn hyn – mae gwasgariad SRG fel mudiad o ryw fath yn enghraifft o hyn dwi’n meddwl).

    Ma na beryg bod ni’n fetisheiddio rhai atgofion. Ma wal graffiti Cofiwch Dryweryn yn enghraifft o hyn dwi’n meddwl. Ma’r ffarmwr isio arian mawr i gadw’r wal mewn lle. Yn fy marn i y gymwynas orau allai rywun wneud a’r atgofwr yna ydi gwneud rhai eraill. Bydd y symbol yn parhau mewn llefydd eraill os ma’r ysbryd oedd tu ôl y weithred wreiddiol yn ddigon cryf. Sdim rhaid talu degau o filoedd i ffarmwr i gadw hwnna’n fyw.

    Dwi’n siwr bod llawer un wedi sgwennu ein bod ni fel cenedl yn gor-gofio ac yn edrych nôl ar draul creu o’r newydd.

  6. Pwynt teg, os wyt ti eisiau enghraifft o’r byd graffiti mae Rhys Mwyn yn gofyn os ydy Llyfrgell Gen yn fodlon cadw cofnod o graffiti FWA sydd yn edrych fel tag crap mewn unrhyw ddinas.

    Dw i wedi blogio ar Y Twll am retromania, ffenomen gyfoes mewn diwylliant Anglo-Americanaidd sydd yn waeth yn ddiwylliant Cymraeg!

    Mae lot o gyfeiriadau i’r gorffennol ond dim lot o bethau ffres. Er bod i’n licio’r rhaglen dw i ddim yn meddwl bod fersiwn Sibrydion o Gân yr Ysgol yn ystod credits Gwaith/Cartref yn golygu lot yn ein hoes ni.

    Ond hefyd byddan ni’n disgwyl darniad/fragmentation o ein cof cenedlaethol rhywbryd (nawr neu yn y dyfodol) os ydy’r diwylliant yn ffynu tu hwnt i mono-diwylliant y 60au.

    Ac efallai mae’r ysbryd mewn pethau eraill yn hytrach na neu yn sgil yr SRG…

  7. Ydi’r ‘rhithfro’ ei hun yn euog o retromania? Ydi’r term ‘rhithfro’ yn retromanic ei hun? Ma’r pining am wynfyd maes-e yn enghraifft. Oes mwy o bobol yn sgwennu yn Gymraeg arlein erbyn hyn? Oes siwr o fod.

    Mae angen ei gofiannwyr ar bob cymuned, ond ydan ni’n gymuned o gofiannwyr? Ydi hynna wedyn yn cau pobol allan sydd ddim yn ymuno yn y cofio?

  8. Mae’n ddiddorol meddwl fod llawer o’r atgoffwyr/cofianwyr ar yr un pryd yn grewyr – Waldo, Dafydd Iwan, Meic Stephens ac ati. Efallai fod hyn yn ein hatgoffa bod angen edrych â’r ddwy lygad, un ymlaen ac un yn ôl (gan osgoi mynd yn llygatgroes, wrth gwrs!)

  9. Dw i’n licio ‘rhithfro’. Mae cyfle (potensial) i ail-greu ac ail-ystyried popeth!

    O ran dy enghraifft o Maes E dw i’n meddwl bod ni wedi colli lot o elfennau da yn ein ffordd o bostio i’r we, e.e. gwasanaeth yng Nghymru i Gymry, cronfa o sgyrsiau, cyfrifon di-enw, pwyslais ar greadigrwydd (yn fy marn i)… Pwy sydd yn dweud bod y we wedi ‘symud ymlaen’ *yn llwyr* i wasanaethau dan gorfforaethau enfawr?

    Gweler Gwyn Alf am gofio + dadansoddi’r presennol

Mae'r sylwadau wedi cau.