Am faint fydd sioe Dylan Iorwerth yn barhau ar BBC iPlayer? Un wythnos yn unig.
Yfory bydd y sioe cyntaf o fis Tachwedd yn cwympo yn yr ebargofiant digidol Cymraeg. Bob dydd wythnos yma byddan ni’n colli sioe arall.
Ond wythnos nesaf bydd sgyrsiau am yr un pynciau yn y tafarnau, caffis, newyddion, blogiau a phlatfformau cymdeithasol ond tra bod nhw yn barhau bydd BBC a Dylan Iorwerth yn colli’r cyfle i gyfrannu i’r sgyrsiau ac i fanteisio am yr alw dyfodol. Anffodus.
Mae’n rhaid gofyn: pam mae’r cyfle i wrando, y ffenestr, mor fyr yma?
Heblaw ychydig o gerddoriaeth does dim hawliau anodd mewn sioeau fel Dylan Iorwerth neu teledu trafodaeth fel Pawb a’i Farn.
Model bosib fydd archif Desert Island Discs. Dw i ddim yn anghofio’r podlediadau BBC lle maen nhw yn ailgylchu’r cynnwys o rhai o’r sioeau, e.e. Ar y Marc. Maen nhw yn model o beth sy’n bosib ond er bod nhw yn MP3 heb unrhyw DRM iPlayer dydyn nhw ddim yn parhau ar y wefan am fwy na mis.
Dylai’r sgyrsiau fel ’na bod ar gael am byth, rhywsut.
Am faint fydd unrhyw erthygl a sylwadau ar Golwg360 parhau? Am flynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n gallu sgwennu dolen i unrhyw erthygl mewn cofnod blog neu ebost unrhyw bryd, e.e. erthygl a sgwrs am PRS a cherddorion. (Neu’r 64 cofnod blog gan Dylan Iorwerth.)
Mae toriadau yn y BBC, dw i’n deall, ac efallai does dim lot o gyllideb i gynnig mwy o ffrydiau awdio. (Er bod rhai o bethau ar iPlayer am flynyddoedd, e.e. ar eitem It Felt Like A Kiss gan Adam Curtis, deadline y cynnwys yw 11:59PM Dydd Gwener, 31 mis Rhagfyr 2038.) Un ffordd rhad i helpu’r trafodaethau bydd trwydded wahanol. Yn hytrach na ‘Hawlfraint BBC – cedwir pob hawl’ jyst dweud ‘Hawlfraint BBC – mae’r trafodaethau yn y sioe yma wedi cael ei rhyddhau dan Creative Commons BY-NC’. Mae trwydded BBC, sef y Creative Archive Licence, sy’n cael ei defnyddio bob hyn a hyn ond dw i ddim wedi gweld unrhyw ddefnydd ar gynnwys yn Gymraeg. Beth bynnag, fydd ddim angen unrhyw feddalwedd neu gostau newydd i newid y polisi achos mae pobol eraill yn gyfrifol am y gwesteia. Bydd unrhyw yn gallu copïo sioe i roi ar blog neu Soundcloud neu Audioboo ayyb. Mae pobol yn wneud e eisoes, e.e. Dave Datblygu ar Beti a’i Phobol.
Os mae’n werth cynhyrchu rhaglen mae’n rhaid bod modd sicrhau bywyd y rhaglen am fwy nag wythnos, modd cyfreithlon.
Siŵr o fod pobol yn y BBC yn cwrdd rhywbryd wythnos yma neu fis yma i drafod sut i godi niferoedd o wrandawyr a’i chyfranogiad, pherthnasedd a ‘reach’ y rhaglennu, proffil Dylan Iorwerth ac ati. Dyma un ffordd effeithiol.
(Gyda llaw un ffordd arall fydd cysoni’r enw a’r hashtag i naill ai Dylan Iorwerth #dylaniorwerth neu Dan yr Wyneb #danyrwyneb, nid y dau!)
A peth arall.. erbyn hyn mae rhaglen Newyddion ar yr iPlayer (a ddim RealPlayer neu WindowsMedia). Dadl arall yw’r defnydd o Flash.
Ta beth.. dim ond rhaglen ‘ddoe’ sydd yno. Pam ddim yr wythnos ddiwethaf o leia? Dyw e ddim fel petai newyddion yn llawn deunydd hawlfraint lle fyddai angen taliadau ychwanegol.
Dwi’n gwybod fod llawer o storiau unigol ar gael mewn ffurf fideo (sydd yna am byth?) ond does dim ffordd hawdd o weld rhestr o rheiny.
Un o fy hen mhrosiectau oedd creu mynegai i storiau newyddion BBC Cymru. Mae gen i fynegai chwiliadwy o bob erthygl rhwng 2000 a 2007 (a mae’r dolenni dal i weithio!). Yn anffodus wnes i roi’r gorau iddi pan wnaethon nhw ail-gynllunio’r tudalennau (o’n i’n arfer crafu’r tudalennau i gael gwybodaeth meta). Falle ddylen i ail-ddechrau’r peth.
Fideos – dyma beth dw i’n defnyddio i’w bori.
http://ybydysawd.com/?s=video
Beth yw’r mynegai, fel yr RSS…
http://ybydysawd.com/author/bbc-arlein-newyddion/
…gyda mwy o grynodeb?
Gyda llaw mae croeso i ti ddefnyddio ybydysawd.com, efallai dylen ni ei ail-lansio gyda ffocws gwahanol ar drafod newyddion. Efallai ‘adrannau’ gwahanol? Wrth gwrs mae’r enw yn trio profocio pobol i feddwl am newyddion a sgyrsiau amgen/uchelgeisiol.
Mae’n ymddangos bod ein hagwedd ni (neu o leiaf y darparwyr,y BBC ac S4C yr un fath) tuag at gynnwys Cymraeg yn debyg iawn i agweddau diweddar cymdeithas tuag at adnoddau’r blaned. Defnyddio pethau unwaith ail daflu i ffwrdd. Yn y ddwy achos, mae’n wastraff llwyr o adnoddau prin (boed yn adnoddau naturiol, arian, talent, gwybodaeth) ac mae’n ymylu ar fod yn anfoesol bron, yn bibynnu ar eich safbwyntiau personol wrth gwrs.
Diolch byth, mae agweddau at gamddefnydd o adnoddau’r ddaear yn newid (er yn araf), ac mae’r ‘tri R’ – Reduce, Reuse, Recycle – yn ymadrodd cyffredin.
Falle dylem greu rhywbeth tebyfg ar gyfer cynnwys Cymraeg arlein, y ‘tri A’ – Arddangos, Ailddangos, Ailgymysgu?
…neu rhywbeth fel’na.