Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?

Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?

Fideos fel Y Sioe (rhyddha’r gwartheg duon!) a cariad@iaith.

Mae’n bosib. Roedd rhaid i mi edrych at y cod a thynnu darn mas.

Ond dyw e ddim yn hawdd iawn fel ag y mae ar YouTube/Vimeo ac ati – sdim angen hacio yna.

Bydd mwy o help gyda mewnosod yn codi y nifer o gyfranogwyr, y nifer o wylwyr a’r sgwrs o gwmpas y sioeau ac yn gyrru pobol i wefan Y Sioe, cariad@iaith ac yn y blaen.

Yn fy marn i, mae’n rhan bwysig o’r ystyr ‘amlblatfform’/S4C newydd. Bwyda ni gyda chodau fideos o.g.y.dd!

2 Ateb i “Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?”

  1. Sylwais ddoe bod Sgorio yn cadw hen uchafbwyntiau pel-droed ar eu gwefan.

    Ar hyn o bryd, mae modd edrych ar rai o Awst 2010 hyd yma, drwy clicio ar fathodyn pob clwb er mwyn gweld uchafbwyntiau gemau’r clwb hynny.

    Heddiw, ar golwg360, sylwais bod nhw’n cyhoeddi crynhodeb o holl gemau Uwchgynhrair Cymru y penwythnos ar ddydd Llun, gan gynnwys fideos uchafbwyntiau Sgorio wedi eu mewnosod. Dw i’n cymryd bod nhw wedi derbyn caniatad. Enghraifft arddechog o brif ddarparwyr cyfryngau Cymraeg yn ailddefnydio cynnwys eu gilydd.

    (Hefyd, dyma ddefnydd answyddogol (falle) o uchafbwyntiau Sgorio. Os rhywbeth mae hwn yn un mor bwysig gan bod gwasanaeth uniaith Saesneg,a gwirfoddol, yn gweld gwrth yng nghynnyrch S4C)

Mae'r sylwadau wedi cau.