O’n i’n gobeithio am ’chydig mwy yn yr adroddiad S4C am ar-lein a’r we.
Un prif her, yn fy marn i, yw’r trawsnewidiad i fodolaeth cyffyrddus ar y we.
Dyma beth mae Huw Jones, cadeirydd S4C, wedi colli mas o’r adroddiad blynyddol newydd yn ei chyflwyniad:
Roedd 2010 yn flwyddyn gythryblus yn hanes S4C, gan greu penawdau papur newydd na fyddai neb wedi eu dymuno.
Fy ngobaith i yw troi’r sylw yn awr at yr her sydd o’n blaenau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i’r afael â’r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy’n ein hwynebu.
Plîs gawn ni cyfeiriad i gynnwys ar-lein, yn enwedig y we, yn yr amcanion a’r cyfansoddiad? (Dw i’n aelod o’r Fforwm Cyfryngau Newydd, sy’n ymgynghori i’r Awdurdod S4C. Dw i’n rhannu fy meddyliau i unrhyw sydd gyda diddordeb.)
Roedd safon darlledu S4C yn dda yn 2010 a’r hanner cyntaf 2011. Fy uchafbwyntiau:
Ar Lafar, 100Lle, Pen Talar, Cofio, Pethe. Dw i’n hoffi darlledu, yr amserlen, S4C Clic. Ond mae her arall. Dw i ddim yn cytuno gyda Dafydd El, burn the boats! ac arnofio yn ofod digidol.
Weithiau dw i’n meddwl bod rhai o bobol yn y diwydiant teledu yn meddwl am ar-lein fel dau peth yn unig.
- dim ond cyhoeddusrwydd (e.e. postio i Facebook/Twitter ‘gwylia Ar Lafar 9PM lle mae Ifor ap Glyn yn mynd i…’ ayyb)
- dim ond ail-brandio’r wefan sy’n bodoli eisioes (e.e. newid yr enw parth)
Iawn. Ond dw i’n ddim yn gofyn am y dau peth yma. Mae cyhoeddusrwydd y sianel yn iawn. Ac rydyn ni angen lot lot mwy nag ail-brandio.
Dw i ddim yn siarad am ddosbarthu rhaglennu llawn (e.e. Clic, yr ap iPhone) hyd yn oed. Wrth gwrs mae gwaith hefyd i’w wneud yna o ran mynediad i hen rhaglennu.
Am beth ydw i – a gobeithio pobol eraill sy’n pryderi am fywyd iachus i’r iaith Gymraeg ar y we – yn gofyn, felly? Dw i’n siarad am gynnwys ar y we fyd-eang. Fideo. Testun. Podlediadau. Gemau. ‘Profiadau’. Mapiau. Barddoniaeth. Straeon. Awdio. Trafodaeth. Sylwadau. UGC. Pethau creadigol. Barnau. Pethau cŵl. Pethau peniog. Cerddoriaeth. Blogiau. Trafod chwaraeon. Stwff o’r archif, ___, ___., ___… ac ati ac ati.
Rydyn ni’n trio tyfu gwe Gymraeg, dyma’r breuddwyd. Mae lot o dalent yn Gymru. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr (tu fas i Golwg360, stwff BBC yn Gymraeg, yr Amgueddfa, Cynulliad a Llywodraeth, efallai un neu dau arall). Mae’n anhygoel!
Felly dyma beth mae S4C Newydd yn golygu i fi yn y cyd-destun ar-lein. Model bosib yw uber-wefan fel bbc.co.uk, ond dw i’n hoff iawn o fodel gwe-eang.
Dylai fe bod yn rhan o’r broses comisiynu – o’r dechrau. Cywira fi os fi’n hollol rong – dw i’n dod o safbwynt y we yn hytrach na theledu.
Mae’r is-wefannau Cyw a Stwnsh yn wych (a’r ap Cyw). Mae’r darpariaeth i bobol ifanc iawn yn dda. (Eithriadau: gemau a chynnwys Ddoe am Ddeg, blog Ar Lafar…)
Yn gyffredinol, yng Nghymru, rydyn ni’n dda iawn gyda babanod. Efallai dw i wedi sylwi oherwydd ces i ddim plentyndod Cymraeg. (Llun gan Berberich dan CC.)
Ni’n rhoi ein blant yn gyntaf fel blaenoriaeth.
Babi yw’r brenin yn y byd Cymraeg.
Dw i’n meddwl am Cyw fel ‘ysgol feithrin’. O ran S4C a’r we, maen nhw yn cynnal ysgol feithrin hyfryd. Nawr beth am bethau i bawb arall? Ble mae’r ‘pybs’, ble mae’r ‘gigs’, ble mae’r ‘bingo’ – fel petai?
Fy nhyb i yw hyn, ond dwi’n rhagdybio falle bod S4C yn nodi wrth gomisiynu rhaglen y dylai rhyw elfen o rwydweithio cymdeithasol ddigwydd ymglwm a pob cyfres, ond bod gwahanol gwmniau yn well na’u gilydd. Mae Pehe yn engrhaifft da, ac Ar Lafar, tra tydy eraill jyst ddim yn ei dallt hi o gwbl – maen nhw’n dal i ddefnyddio’r cyfrwng fel tasai’n gyfrwng unffordd a nhw’n siarad gyda ni, ond ddimeisiau dim adborth nac yn gallu dychmygu byddai gan y chyhedd unrhwy beth i’w gyfrannu. Mae’n amrywio o raglen i raglen wrth gwrs ac yn dibynnu os yw wedi ei recordio yn ei gyfanrwyd do flaen llaw, neu os yw cyfres wrthi’n cael ei ffilmio fel mae’n cael ei ddarlledu.
Fel y nodaist ar Golwg360, mae’r sylwadau ar gofnod blog Syniadau yn rhai dylem ni fel gwilwyr ystyried, sef y diffyg clod dan ni’n roi i raglenni da…
I see tweets labelled #S4Cfail, destructive negative comment (can’t something be “poor” rather than “gwarth” or “sarhad” – shameful, digusting, degrading etc), usually with no hint of what could be done to improve things… Rarely do I see someone with a positive “they’ve tried something new that didn’t work – I’d like to see…” kind of attitude.
Tra mae yna bethau wirioneddol warthus, a nid jyst ’sal’, yn ymddangos ar y sianel, mae’n wir nad ydan ni’n rhoi digon o glod i’r rhagleni da sy’n ymddangos ar y sianel. Toi wedi nodi dy uchafbwyntiau dithau, a liciwn i ychwnaegu Yr Ynys, Y Daith, Gwlad Beirdd, 3 Lle. OK, yr un math o ragelnni yw’r rhain, ac at fy nant innau, ond mae’n nhw’n rai o safon sydd wedi plesio pobl.