Cymreictod – yn ôl llyfrau

Newydd gorffen hwn (o’r diwedd). O Lloyd George ymlaen roedd e’n darllenadwy iawn. Nes i joio’r peth cyfan ond bach yn “dwys” am sesiynau darllen hir iawn.

John Davies

Yn union fel cael y wlad i gyd yn dy ddwylo.

Mae fe’n wneud rhyw fath o sioe yn ystod Eisteddfod Treganna. Sy’n wych.

Rhywbryd hoffwn i ail-ddarllen yn yr iaith wreiddiol.

John Davies

Ond mae’r iaith ‘chydig rhy gymhleth ar hyn o bryd. Dw i’n gallu siarad am gyfryngau digidol ond dim llawer o hanes manwl iawn – eto!

Yn y cyfamser dw i’n darllen Gwyn Alf.

“Bill Hicks hanes Cymru” yn ôl sylwebydd epilgar fan hyn.

Gwyn Alf Williams

Nes i joio’r dychan Jan Morris mas draw llynedd. Er bod gyda fe’r clawr mwyaf crap erioed.

Jan Morris

Mae’n beniog iawn iawn. Efallai dylai rhywun ei haddasu ar gyfer teledu. Efallai?

Mae fersiwn arall yn yr iaith dew, cyfieithiad gan Twm Morys. Clawr gwell hefyd ond bydd yn ofalus gyda’r swasticas ar drafnidiaeth gyhoeddus ayyb.

Twm Morys a Jan Morris

Darllenais i’r casgliad newydd o erthyglau Siôn T. Jobbins am Gymreictod wythnos yma. Cythruddol gyda barnau cryf. Hoff penodau: Radio Ceiliog (radio morladron o… Waelod y Garth), papurau bro, Abertawe… bron popeth. Mae rhai ar ei wefan (ond mae’r system darllen yn reit weird).

Siôn T. Jobbins

Cafodd yr awdur ei fagu yng Nghaerdydd, roedd y sampl isod am Gymreictod yn y ddinas, o 2005, yn enwedig yn llawn mewnwelediadau profoclyd sy’n berthnasol i fy mhrofiad:

Caerdydd looms large in Welsh-language pop, and cyfryngis… are regularly lampooned in Welsh songs. Welsh-speakers from Cardiff are still treated with suspicion by many fellow-siaradwyr… They seem too happy and content – still a suspicious habit for a language unsure of its future in a culture nursing a Methodist hangover. The community is caricatured for its perceived lack of commitment to the ’em’ and for making good money on the back of Wales. To go to Cardiff, our capital city, in to ‘sell-out’, a funny state of affairs, and possibly unique. This perception is not helped by the unwillingness of so many of Cardiff’s Welsh speakers themselves to take sides or create a culture independent of their wages.

Oof!

Dw i’n cynnig y gweddill heb sylw.

Cardiff Welsh-language culture is at its most exciting and challenging in the hands of people who’ve learnt the language in adult life – and without them Welsh in the capital would wither on the vine.

BONWS: Ned Thomas a Siôn T. Jobbins gyda’u gilydd o’r diwedd – ar YouTube.

BONWS 2: The Welsh Extremist gan Ned Thomas – llyfr digidol am ddim.

5 Ateb i "Cymreictod – yn ôl llyfrau"

  1. Wow, diolch am y geiriau caredig Carl. Falch i ti gael blas ar y llyfr … neu ‘bron popeth’ hmmm, so pa rai nad oedd at dy ddant?!

    Bydd rhaid i mi gael fy ngwe-gynllunydd (OK, wncwl fy ngwraig) i roi’r erthyglau ‘blasu’ ar pdf yn lle word.

    Jan Morris … nes i ddim mwynhau ei llyfr. Gweld e braidd yn arwynebol ac amlwg. Efallai caf ail-gip arno, wnes i ddim ei gorffen (problem gyda ffuglen ti’n gweld!).

    When Was Wales?! – y bos. Dim mwy i’w ddweud. Dwi’n ceiso talu rhyw wrogaeth i’w gof gyda ‘what’s the point of Wales’ yn y llyfr.

  2. Nes i joio Jan Morris yn Saesneg, dw i ddim wedi darllen y fersiwn Cymraeg. Ond mae pawb yn wahanol STJ. Ti’n casau’r 80au yn ôl y llyfr ond ces i fy magu yn yr 80au felly mae nhw yn OK yn fy marn i!

  3. Cytuno gyda Siôn am Eln Llyw Cyntaf ac alla i ddim dychymgu y byddai rhywfaint gwell yn Saesneg.

    Heb gael cyfle i ddarllen llyfr The Phenomenon of Welshness eto – dw i’n addo prynu copi unwiath bydd fy ngwriag yn codi’r gwaharddiad ar byrynnu llyfrau newydd.

    Ddw i’n blino/casau pan mae’r di-Gymraeg yn dod mas gyda ystradebau am siaradwyr Cymraeg (yn aml wedi eu selio ar eu syniad nhw o’r “Pontcanna Welsh speaking elite”), ond pan mae beirniaindaeth o Gymry Cymraeg y brifddinas yn dod o fewn y gumuned Gymraeg, mae’n cyffwrdd nerf go iawn. Mae hyn oherwydd bod gwirioedd yn y pethau mae Siôn yn nodi – cymryd safbwyntiau gwleidyddol a chyfranu i’r ‘gymdeithas’ Gymraeg. Does dim wythnos yn mynd heibio nad ydyw i’n teimlo euogrwydd am adael y fro, ac ers sawl blwyddyn rwan, dw i a fy ngwraig yn arteithio ein hunain wrth geisio penderfynu beth ydym am wneud – aros yng Nghaerdydd am byth, neu symud i Ddyffryn Clwyd i fro fy mebyd.

    Ond y phemomenon yma ynglyn a siaradwyr Cymraeg y brifddinas…

    O ran ymgyrchu gwleidyddol, dw i’n teimlo (a sawl un arall fel fi mae’n siwr) ein bod yn ragrithiol yn mynd ymlaen y dranc yr iaith yn y cadarnleodd, gan ein bod yn ein hunain yn cyfranu tuag ato drwy fod wedi gadael.

    O ran pethau cymdeithasol, mae wedi fy nharo i ychydig yn od nad oes yn rhywbeth fel eisteddfod lleol yn y brifddinas fel sy yn ‘Y Fro’, o ystyried cymaint o siartadwyr Cymraeg sy yn y ddinas a chymaint o’r rheini ( edrych ar nifer y corau sydd yma) yn amlwg yn mwynhau y ‘pethe’ a chystadlu eisteddfodol. Mae’r trigolion yma yn ddigon bobdloni gyda digwyddiadau sefydliadol fel Llen Ar Y Lli (trefnir gan yr Academi), dramau (yn cael eu trefnu gan Sherman, Chapter ayyb). Mae Tafwyl gyda ni nawr, ond mae trefnu gwyl lleol yn un o amodau ariannu mae Bwrdd yr Iaith yn osod a’r Fentrau, ac gan bod cyfarfodydd trefnu yn cael eu cynnal yn ystod oriau gwaith, modn pobl cyflogedig i sefydliadau fel yr Urdd, y Cyngor ayyb sy’n rhan ohono.

    Falle dylid postio ‘snipets’ fel sy yn y cofnod blog yma at Y Dinesydd a gofyn am sylwadau gan ddarllenwyr? Byddai’n ysgogi trafodaeth (a falle’n helu gwerthiant?!)

  4. Rhys – euogrwydd/hiraeth … euogrwydd Cymreig!?

    Mae ‘na ddadl gref dros wneud yr ‘aliya’ nôl ond os wyt ti’n Gaerdydd beth am ail-gynnai ysbryd y 1970au yn y ddinas? (ac mae ‘na Eisteddfod Treganna i fod nawr hefyd!).

    Carl – roeddet ti’n rhy ifanc i gofio’r 1980au yn llawn, frawd! Nid y ddegawd yn unig oedd yn wael ond gorfod rhoi lan gyda lefftis yn mynd ymlaen ac ymlaen am Thatcher 20 mlynedd wedi iddi ymddiswyddo er mwyn profi i ni ac iddynt eu hunain eu bod yn radical ac asgell chwith! Bôring!

Mae'r sylwadau wedi cau.