Sut i greu mapiau o Gymru: cestyll, afonydd, blychau post, ffyrdd seiclo a mwy

Dyma ganllaw hwylus ac hwyl ar sut i greu mapiau o Gymru (neu unrhyw le) gyda nodweddion wedi eu pinio.

Does dim angen unrhyw brofiad o fapio na data. Nid yw creu mapiau yn weithred i arbenigwyr yn unig. Mae’n hawdd.

Mae hi’n braf cael breuddwydio am ymweld â rhai o’r llefydd hefyd hyd yn oed os nad oes modd teithio ar hyn o bryd.

Mae hi wedi bod yn wych cael gweithio fel rhan o dîm Mapio Cymru i wella mapio a data agored cyfrwng Cymraeg yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r canllaw yn rhan o’n hymdrech i ddangos OpenStreetMap fel adnodd i fwy o bobl, a chanfod elfennau o’r map sydd angen eu gwella.

Rhowch dro ar y canllaw.

Map i Gymru: adeiladu map agored yn Gymraeg

Mae’r blogiad hwn wedi ei bostio ar flog Sefydliad Data Agored Caerdydd hefyd. Diolch o galon i David Wyn Williams am fy helpu gyda’r geiriad.

Drafft o fap i Gymru

Cymrwch gip ar y map yma o Gymru, ble mae’r enwau lleoedd i’w gweld yn Gymraeg: https://openstreetmap.cymru

Mae nifer o bobl heb weld enwau megis Aberteifi, Treffynnon neu Aberdaugleddau ar fap arlein – neu’n wir unrhyw fap…

“Nid yw Hon ar fap” fel meddai T.H. Parry-Williams yn ei gerdd enwog.

Defnyddiwyd yr enwau yma am sawl cenhedlaeth hyd heddiw, yn nhrafodaethau, yn y cyfryngau ac ar arwyddion ffyrdd wrth gwrs. Mae gan Wicipedia Cymraeg erthyglau sy’n cyfeirio at yr enwau Cymraeg yma.

Serch hynny, nid yw’r enwau cyfarwydd yma fel arfer yn cael eu cynnig nac eu cydnabod gan yr enwau mawr yn y byd mapio rhyngwladol.

Er mwyn adeiladu map o Gymru yn iaith Cymru rydym wedi tynnu data agored trwyddedig, meddalwedd arbennig a dogfennaeth arbenigol oddi ar OpenStreetMap. Mae hyn yn dilyn gwaith gan gryn dipyn o gyfranogwyr ledled y byd, ac felly mae ein dyled ni yn fawr iddynt. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r gwaith cynnar yma sydd ar gychwyn gennym.

Adeiladu ar y map

Mae’r map hwn ar weinydd prototeip sydd yn rhoi cyfle i chi roi eich bysedd – neu eich llygoden – ar y tir ac i dynnu i mewn ac allan yn ôl yr angen. Dw i wrthi yn datblygu’r prosiect yma ar-lein ac i ddweud y gwir dw i’n hynod hapus gyda’r hyn rydym ni wedi medru cyflawni hyd yn hyn.

Serch hynny, efallai welwch chi ambell i bwbach neu nam wrth imi ddatblygu’r wefan ymhellach, sydd yn parhau i arddangos ambell i ardal sydd angen datblygu pellach.

Yn wir, wrth imi ysgrifennu’r blog hwn, rydym newydd dderbyn pecyn o wybodaeth werthfawr tu hwnt gan Swyddfa Comisiynydd Y Gymraeg sy’n ffrwyth blynyddoedd lawer o waith. Dyma enwau lleoedd dros Gymru gyfan; o’r dinasoedd mwyaf hyd at y pentrefi lleiaf oll, ac sydd wedi ei drwyddedi trwy Drwydded Agored y Llywodraeth.

Mi fyddaf yn cyflwyno nodwedd arall yn fuan iawn, sef y gallu i ddefnyddio a mewnosod y map hwn fel rhan o unrhyw wefan.

Gwella’r data

Dyma’r adran i chi petaech am wybod mwy am sut i wella’r wybodaeth sydd gennym ni ar ein map OSM ni – Map i Gymru – hyd yma.

Mae’r data newydd yn cael ei fewnforio bob nos. Er mwyn cyflymu’r broses, mae ambell i newid bach ar wedd y map ei hun hefyd yn cael ei wneud o flaen llaw.

Buasai gan y gronfa ddata berffaith tag name:cy ar gyfer pob eitem yn barod. Ni bell ffordd o fod yna eto!

Yn y cyfamser mae’r system dw i wedi datblygu yn defnyddio’r tagiau name:cy ac ambell i tag name hefyd (sef yr hyn sy’n dynodi beth mae’r cyfranwyr hyd yma wedi ystyried i fod yn ‘enw cyffredinol’).

name:cy sydd gyda’r flaenoriaeth. Petaech am ychwanegu enw yn Gymraeg, golygwch y map ar osm.org ac ychwanegwch tag name:cy wedi i chi gofrestru fel defnyddiwr newydd (os nad ydych chi wedi cofrestru eto). O gymryd bod eich gwaith golygu yn cael ei dderbyn gan y gymuned, bydd y gwaith hwn yn diweddaru ein map Cymraeg ni dros nos.

Diolch i’r drefn mae nifer o dagiau name:cy yn bodoli yn barod.

Yr her yw, bod rhai o’r enwau buasem am ddefnyddio dim ond ar gael wrth ddefnyddio’r tag name. Hynny yw, mae gan nifer o lefydd sydd yn berchen ar enw Cymraeg yn barod megis Llanelli ddim o reidrwydd yn eistedd yn y set data name:cy. Nid yw cyfranogwyr traddodiadol OSM wedi mynd i’r drafferth o ychwanegu’r name:cy i enwau sydd yn Gymraeg megis Morfa Nefyn, Abersoch, a’r nifer fawr o lefydd tebyg. Dyna pham rydym ni eich angen chi!

Ceisiais baratoi gwahanol fathau o’r map gan ddefnyddio gwahanol setiau data. Mae caniatáu’r holl enwau yn difetha’r ddelwedd o gael map Cymraeg. Ond wrth gael gwared ar y tag name… wel roedd hanner y llefydd wedi diflannu’n llwyr!

Felly dw i wedi gosod system er mwyn defnyddio name ar gyfer y mathau yma o lefydd. (Er gwybodaeth, dw i wedi rhoi enw y maes ar system osm.org mewn cromfachau.)

  • annedd/ adeilad unigryw (isolated_dwelling)
  • fferm (farm)
  • sgwâr (square)
  • pentrefan (hamlet)
  • cymdogaeth (neighbourhood)
  • pentref (village)
  • tref (town)
  • ynys (island)
  • ardal leol (locality)

Ar gyfer elfennau arall rydw i hefyd wedi defnyddio rhestr wen a rhestr ddu; e.e. mae ‘Ysgol’, ‘Capel’ ac ‘Eglwys’ ar y rhestr wen: bydd y map angen y rheiny!

Yn naturiol, bydd grym name:cy yn disodli pob ystyriaeth uchod. Ychwanegwch enwau Cymraeg ar y tagiau name:cy pan welwch chi ddiffyg hynny. A gyda llaw bydd eich mewnbwn ar gael ar draws y byd ar yr holl fapiau sy’n defnyddio OpenStreetMap.

Defnydd ac apiau yn y dyfodol agos

Mae’r hyn welwch chi nawr dim ond yn un ap posib sy’n defnyddio’r data Cymraeg er mwyn arddangos map o Gymru.

Bydd gwefannau ac apiau eraill yn gallu gweithio gyda’r gweinydd map mewn sawl ffordd.

Mae creu map o’r fath yn cynnig posibiliadau cyffrous ym mhob math o feysydd;

  • dysgu
  • fforio
  • chwarae
  • ymchwil
  • cyfathrebu
  • mordwyo