Hedyn.net – thema MediaWiki newydd sbon

Mae croen newydd cyffrous ar Hedyn.net. Dw i wedi gosod Pivot fel arbrawf (efallai bod angen stopio dweud hyn achos mae popeth mewn ffordd yn arbrawf!) – yn rhannol achos mae’r dyluniad yn ymatebol. Hynny yw, mae’n ymateb i faint sgrîn ar ddyfeisiau gwahanol megis ffonau symudol a thabledi.

Ers sbel roedden ni’n rhedeg croen Vector sydd yn iawn ond nid yw e’n ymatebol. Dw i ddim yn hollol siŵr pam mae Wicipedia yn dal i redeg Vector. Stori arall ydy hon.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr mewngofnodedig bydd rhaid i chi newid i Pivot achos mae Vector dal ar gael fel opsiwn.

Sut mae gweld os mae dyluniad yn ymatebol? Cer i’r wefan ar ffôn neu dabled. Fel arall, ar gyfrifiadur newidwch siap a maint ffenestr eich porwr i edrych fel ffôn.

Gadewch wybod sut mae pethau’n mynd ar y croen newydd.

Mae Hedyn.net yn wefan wici sy’n rhedeg ers naw mlynedd fel canolbwynt am adnoddau am y we Gymraeg, e.e. Y Rhestr o flogiau, podlediadau, canllawiau ar sut i wneud pethau cŵl yn Gymraeg ar y we, cofnod o ddigwyddiadau Hacio’r Iaith, ac adnoddau WordPress i ddatblygwyr.

Dw i’n dal i feddwl bod lle i gasglu’r adnoddau yma. Yn wir, dw i’n ymweld â Hedyn.net sawl gwaith yn ystod yr wythnos er mwyn dod o hyd i wybodaeth. Fy ymdrech yw i nodi pethau yna yn gyhoeddus sydd arfer cael eu cadw mewn dogfennau preifat. Rydyn ni wastad yn croesawu syniadau am fentrau sy’n gallu digwydd ar Hedyn.net, ac yn well na hyn, cyfraniadau uniongyrchol i’r wici trwy olygu.

Cof y Cwmwd: gwefan wici am hanes Uwchgwyrfai

Dyma eitem Heno am Cof y Cwmwd, gwefan wici amlgyfranog newydd am ardal Uwchgwyrfai.

Pwrpas y wefan ydy casglu a rhannu gwybodaeth hanesyddol am yr ardal, ei sefydliadau a’i phobl.

Fel datblygydd gwe dw i wedi bod yn cydweithio â Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar y wefan hon. Dw i eisoes wedi blogio am fy ngwaith ar wefannau wici Cymraeg.

Mae pobl bellach yn cyfrannu lluniau ac erthyglau i’r wefan.

Mae hyn wedi cynyddu heddiw yn ystod y Golygathon cyntaf ar y wici, digwyddiad cymunedol i sbarduno cyfraniadau i’r wici. Arweinydd y Golygathon gan Jason Evans o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, dyn sy’n arddel y teitl Wicipediwr Preswyl ac sy’n gwybod llawer am dyfu wicis!

Fe fydd hi’n ddiddorol dros ben gweld sut mae prosiectau fel Wicipedia a’r wefan newydd Cof y Cwmwd yn rhannu cynnwys yn y dyfodol hefyd.

Llun Golygathon gan Jason Evans

Diwrnod Ada Lovelace 2017: Eleri James, Ceredigion

Dyma fy nghofnod blog ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace 2017 heddiw.

Mae Eleri James Ceredigion wedi cyfrannu llawer iawn o erthyglau a gwelliannau at y Wicipedia Cymraeg ers 2005 o leiaf.

Mae hi ymhlith y golygwyr mwyaf yna, un o’r rhesymau pam mae sefydliadau Cymreig bellach wedi dechrau sylweddoli pa mor bwysig ydy’r wefan.

Fe ges i’r fraint o gwrdd ag Eleri yn Eisteddfod Genedlaethol 2013 pan oedden ni’n rhedeg stondin Hacio’r Iaith ar y cyd.

Dyna pan ddygais fod hi wedi gwneud llawer mwy o bethau eraill ar sail wirfoddol gan gynnwys cyfieithu darnau sylweddol o MediaWiki, y feddalwedd tu ôl i Wicipedia sydd hefyd yn rhedeg Hedyn.

Diwrnod Ada Lovelace hapus i chi. Diolch i Eleri am dy gyfraniad at dechnoleg yn y Gymraeg!

Gweler hefyd: Diwrnod Ada Lovelace ar y blog hwn

MediaWiki a gwefannau wici Cymraeg

Mae hi’n braf cael gweithio ar brosiect wici i glient sef Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Maen nhw fel mudiad am gydweithio ar gyfres o erthyglau amlgyfrwng am hanes yr ardal o drafnidiaeth i chwareli i ysgolion i gapeli ac eglwysi. Fe fydd canlyniadau ein gwaith ar wici Uwchgwyrfai i’w gweld cyn hir.

O safbwynt y datblygwr mae sawl opsiwn ar gyfer meddalwedd wici. MediaWiki yw’r un sy’n cael ei defnyddio mwyaf. Dyna sy’n rhedeg Wicipedia a sawl prosiect perthnasol arall. Dyma fy nghyfrif ar y Wicipedia Cymraeg. Gweler hefyd: fy nghwaith ar gyfrif Twitter @wicipedia.

MediaWikiNid yw poblogrwydd MediaWiki fel y cyfryw yn digon o reswm i’w dewis. Mae’n ddarn o feddalwedd eithaf mawr ac mae lot fawr o opsiynau. Mae anfanteision eraill hefyd, yn dibynnol ar gyd-destun y prosiect. Ond mae hi’n wych ar gyfer rhywbeth amlgyfrwng ac mae’r rhyngwyneb ar gael yn Gymraeg, diolch i gyfieithwyr gwirfoddol.

Yn 2009 roeddwn i am ddechrau gwefan wici o’r enw Hedyn er mwyn rhannu adnoddau ymhlith datblygwyr a chyhoeddwyr sydd am ddefnyddio’r Rhyngrwyd a’r we yn Gymraeg. Dokuwiki oedd fy newis ar y dechrau ond fe benderfynais newid i MediaWiki wedyn oherwydd y niferoedd o bobl a oedd yn brofiadol ar y system. Mae MediaWiki yn parhau hyd heddiw fel sail y wefan.

Nid yw’r cyfle i greu wici newydd sbon yn ymddangos yn aml. Mae angen eithaf tipyn o ymdrech, amser, a chriw o bobl cefnogol er mwyn cynnal wici llwyddiannus. Does dim llawer o enghreifftiau o lwyddiant ar wicis yn y Gymraeg, efallai oherwydd yr angen i recriwtio llawer o gyfranwyr brwd ac i fuddsoddi lot fawr o amser i greu rhywbeth o werth.

Dilynwch @wicipedia am bethau diddorol bob dydd

Dilynwch gyfrif Twitter @wicipedia.

Mae pedwar math o drydariad bellach:

#ArYDyddHwn

Dyma ddigwyddiad sydd wedi digwydd ar y dydd hwn fel y mae’r enw yn awgrymu.

Mae dolen i erthygl Wicipedia Cymraeg bob tro, ac weithiau delwedd.

#Crëwyd

Wyddoch chi fod rhywun o’r enw Dafyddt newydd greu erthygl am Eirwyn Pontshân o’r diwedd y mis hwn? Dyma uchafbwyntiau o erthyglau Wicipedia Cymraeg newydd sbon a grëwyd gan wirfoddolwyr, arwyr y we Gymraeg!

#MenywodMewnCoch

Mae prosiect ar y Wicipedia Saesneg o’r enw Women In Red i sbarduno pobl i greu rhagor o erthyglau am fenywod.

Fel arfer mae llai o erthyglau am fenywod adnabyddus ar brosiectau Wicipedia mewn ieithoedd gwahanol. Ar yr un pryd mae llwythi o ddolenni coch – sef cyfeiriadau at erthyglau sydd ddim yn bodoli eto- at enwau menywod.

Dyma fy ffordd i o ddechrau prosiect tebyg yn y Gymraeg o’r enw MenywodMewnCoch a gwella cynrychiolaeth menywod.

Os ydych chi’n gweld trydariad fel yr isod, ewch amdani i greu erthygl.

#DelweddDirgel

Mae cannoedd o luniau mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi postio i Gomin Wicimedia.

Tybed os fydd pobl Cymru yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i ni am hen adeiladau a phobl yn y delweddau sydd ddim wedi cael eu henwi eto. Gawn ni weld yn fuan!

DIWEDDARIAD 29 Ebrill 2017

Dr Dylan Foster Evans yw’r cyntaf i roi gwybodaeth am ddelwedd dirgel. Gwaith da Dylan!

Rhagor am y bots

Dw i wedi gosod bots mewn PHP i bostio’r cyfan yn awtomatig bob dydd. Byddan nhw yn ddiddorol i bobl gobeithio ac wedyn yn sbarduno rhagor o ymweliadau i Wicipedia, rhagor o ddysgu, a rhagor o gyfraniadau i’r wefan mwyaf brysur yn y Gymraeg.

Gadewch i mi wybod os ydych chi eisiau trafod prosiectau eraill fel apiau gwe, bots, prosesu data, ac ati.

Diolch i Robin Owain am rai o’r syniadau ac am eu cefnogaeth brwd a diolch iddo fe a WikimediaUK am gomisiynu’r prosiect hwn.

Llun Björk gan deep schismic (CC BY)

Wicidelta/Wikidelta ar flog swyddogol Wikimedia UK

wicidelta-aromaneg

Dw i wedi dechrau fersiwn Gymraeg o gyfrif Twitter Wicidelta.

Mae gen ti ddewis!

O ran yr enwau yr unig wahaniaeth yw’r ‘c’ neu ‘k’ – Wicidelta neu Wikidelta.

Hefyd mae Wikimedia UK wedi fy ngwahodd i ymhelaethu am Wicidelta ac mae dwy fersiwn o’r blogiad newydd fynd yn fyw:

Diolch i Llywelyn2000 am ein cyflwyno.

Prin yw’r siaradwraig neu siaradwr Cymraeg sydd ddim yn ymddiddori mewn ieithoedd gwahanol dw i’n credu.

DIWEDDARIAD 9 Rhagfyr: newydd ychwanegu rheol sy’n atal erthyglau llai na 1000 nod er mwyn ceisio canfod mwy o’r ‘gorau’ o bob iaith. Fe oedd ’na ambell i erthygl rhy fach. Gawn ni weld pa gynnwys a ddaw. Fel o’n i’n dweud yn y blogiad mae ’na rheolau eraill hoffwn i ychwanegu.

Dadansoddi 283 iaith Wicipedia (yn ara deg)

Mae cymunedau ieithyddol yn cynnal sawl Wicipedia ac mae pob un yn wahanol. Mae rhywfaint o gyfieithu ac addasu ac mae rhywfaint o erthyglau sy’n unigryw i’r fersiwn Cymraeg, y fersiwn Catalaneg, y fersiwn Arabeg, ac ati.

Dechreuais i’r cyfrif Twitter awtomatig UnigrywUnigryw i rannu’r erthyglau sydd ond ar y Wicipedia Cymraeg.

Pa ganran o erthyglau unigryw sydd ar y Wicipedia Cymraeg?

Beth am BOB iaith Wicipedia?

Fel mae’n digwydd mae hi’n eithaf rhwydd addasu’r sgript feddalwedd PHP wreiddiol i edrych at ieithoedd gwahanol. Dw i wedi ymestyn y sgript tu ôl i @UnigrywUnigryw er mwyn dadansoddi POB iaith ar Wicipedia yn awtomatig.

Mae cyfanswm o 283 iaith o dan fy ystyriaeth. Mae rhai o ieithoedd yna sydd ddim yn gyfarwydd i mi o gwbl tan nawr, e.e. Wicipedia yn yr iaith অসমীয়া.

Allbwn y broses fydd fath o dabl o ieithoedd gwahanol. Ble mae’r Gymraeg ar y siart?! Ydy’r drefn ar y siart yn adlewyrchu’r nifer o erthyglau yn yr ieithoedd? Neu fuddsoddiad yn yr ieithoedd?

Beth am ieithoedd sy’n gysylltiedig drwy nifer helaeth o siaradwyr amlieithog, megis Sbaeneg-Catalaneg, Sbaeneg-Basgeg, Saesneg-Cymraeg, Wrdw-Arabeg, Iseldireg-Almaeneg, ayyb.?

Dw i’n gallu ceisio ymateb i’r cwestiynau uchod cyn hir…

Yr unig broblem gyda’r sgript feddalwedd dw i wedi ysgrifennu yw’r amser mae’n cymryd.

Mae fy sgript yn wneud ceisiadau i API Wicipedia, sydd yn cynnig pecyn o 20 erthygl ar hap i’w dadansoddi ar y tro. Mae angen cael lot fawr o becynnau er mwyn cael data dibynadwy.

Gwnes i ddechrau tua 12:40yp heddiw cyn mynd am dro i dre am ginio a dw i newydd gyfrif faint o ieithoedd mae’r peth wedi dadansoddi ers hynny. Bydd hi’n mynd trwy ieithoedd yn gyflymach yn y pen draw achos fydd ddim angen gymaint o sampl ar gyfer yr ieithoedd bychain bychain.

Ta waeth, ar y gyfradd yma bydd hi’n cymryd rhyw bedwar diwrnod i orffen!

Mae’n rhedeg ar weinydd pell dw i’n talu £5 y mis amdano fe, y math o letya mae rhywun yn rhoi gwefan fach arno fe. Mae’r un weinydd yn rhedeg UnigrywUnigryw felly mae hi’n ddefnydd da o arian.

Efallai dylwn i edrych at redeg algorithm cyfochrog ar rywbeth swish fel AWS.

Fel arall, oes ’na unrhyw un sydd am fenthyg amser ar uwchgyfrifiadur anferth i mi pls? 🙂

Delweddau: map y byd / Kraftwerk

DIWEDDARIAD 19 Gorffennaf 2016: Mae dwy iaith uwchben y Saesneg ar y siart o ieithoedd ‘mwyaf unigryw’ ar Wicipedia – hyd yn hyn! Mae’r system wrthi’n dadansoddi Hindi.

Ychwanegu ‘rhestr ddu’ i gyfrif @UnigrywUnigryw

Dw i wedi bod yn joio canlyniadau fy mhrosiect arbrofol @UnigrywUnigryw, cyfrif Twitter sy’n postio erthyglau sydd ond ar gael ar y fersiwn Cymraeg o Wicipedia.

Dyma rai o’r trydariadau diddorol hyd yn hyn: Hywel Hughes Bogotá, Toni CarollEilian, Edrych am Jiwlia, Gwawdodyn byr.

Mae’r detholiad yn hollol randym (‘ffug-hap’ yw’r term) – heb unrhyw dueddiadau. Hyd yn hyn…

Yn fy marn i mae ’na ychydig bach gormod o gyfeiriadau at lyfrau Saesneg.

Felly o’n i’n meddwl y byddai hi’n hwyl a diddorol i hidlo’r canlyniadau gyda ‘rhestr ddu’:

  • Categori:Llyfrau hanes yn y Saesneg
  • Categori:Nofelau Saesneg
  • Categori:Teithlyfrau Saesneg
  • Categori:Atgofion a hunangofiannau Saesneg
  • Categori:Llyfrau hanes yn y Saesneg
  • Categori:Hanes Crefydd yn Saesneg
  • Categori:Bywgraffiadau Saesneg
  • Categori:Llyfrau Saesneg ar hamdden
  • Categori:Nofelau Saesneg i bobl ifanc
  • Categori:Barddoniaeth Gymreig yn yr iaith Saesneg
  • Categori:Llenyddiaeth plant Saesneg
  • Categori:Bywgraffiadau Saesneg
  • Categori:Llyfrau Saesneg

O hyn ymlaen mae’r ap fach sy’n rhedeg yn y cefndir yn osgoi unrhyw erthyglau yn y categoriau uchod yn llwyr.

Mae hi’n digon hawdd ffeindio tudalennau o dan y categoriau yma os ydych chi’n chwilio Wicipedia am enwau’r categoriau. Does dim byd wedi digwydd i’r categoriau na’r tudalennau ar Wicipedia ei hun, a dw i’n falch bod nhw yn bodoli (diolch i Wicibrosiect Llyfrau Gwales).

Ond dw i wedi penderfynu fy mod i eisiau rhoi mwy o bwyslais ar bethau eraill drwy’r cyfrif ar hyn o bryd.

Mae cwmnïau meddalwedd fel Google a Facebook yn gwneud y math yma o newidiad bob dydd yn ôl eu mympwy. I ba raddau? Does neb tu fas i’r cwmnïau yn hollol sicr. Fyddai’r cwmnïau ddim mor agored â fi yn hynny o beth.

Er ei bod hi’n fach iawn dyma achos prin, dw i’n credu, o algorithm hollol awtomatig ar unrhyw gyfrwng cymdeithasol ar y we sy’n ffafrio pethau yn Gymraeg ar draul pethau Saesneg (neu iaith arall)! Hynny yw, mae’r cod yn osgoi pethau Saesneg o dan gategoriau penodol ‘yn fwriadol’. Byddwn i’n croesawu enghreifftiau eraill o hyn yn y sylwadau.

 

@UnigrywUnigryw – erthyglau sydd ond ar Wicipedia Cymraeg

Fel o’n i’n dweud y tro diwethaf dw i wedi bod yn creu rhaglenni bach sy’n postio pethau i Twitter yn awtomatig.

Dyma un newydd sbon: @UnigrywUnigryw

Mae @UnigrywUnigryw yn postio dolenni i erthyglau Wicipedia sydd dim ond ar gael ar y fersiwn Cymraeg o Wicipedia. Hynny yw, mae pob un erthygl yn unigryw i’n fersiwn ni o Wicipedia.

Mae pob trydariad yn syndod i mi achos mae’r system yn postio erthyglau ar hap. Ond dw i wedi cael cipolwg ar y mathau o erthyglau sy’n debygol o ymddangos.

Hyd yn hyn mae lot fawr o bethau daearyddol, pobl hanesyddol (ac enwau cyfarwydd eraill), a llyfrau.

Pam?

Pam ddilyn? Pam dalu sylw? Dyma rhai o’r rhesymau dw i’n gallu dychmygu:

  • Ffordd o ddod o hyd i erthyglau diddorol ar hap
  • Gweld pa fath o erthyglau mae pobl yn creu
  • Nodi beth sy’n unigryw am Wicipedia Cymraeg (ac am y Gymraeg a diwylliannau cyfrwng Cymraeg o bosib?)
  • Ysgogi mwy o weithgaredd ar Wicipedia Cymraeg a sbarduno rhagor o welliannau i dudalennau, a rhagor o dudalennau newydd
  • Cynnig cyfle i bobl gysylltu tudalennau gyda fersiynau ohonyn nhw mewn ieithoedd eraill, os maen nhw yn bodoli (yn yr achos yma mae’r system yn camddeall bod erthyglau yn unigryw oherwydd diffyg cysylltau)
  • Cynnig cyfle i bobl greu cyfieithiadau ar fersiynau eraill o Wicipedia – os maen nhw yn awyddus i wneud hynny, sbo

Yn yr achos olaf os ydych chi’n creu cyfieithiadau ayyb byddech chi’n wneud Wicipedia Cymraeg yn llai unigryw mewn ffordd. Ond mae rhesymau iawn am wneud hynny weithiau! Dw i ddim yn gallu rheoli sut mae pobl yn manteisio ar y gwybodaeth.

Datblygiad

Byddai hi’n neis postio delweddau hefyd. Dydy Wicipedia ddim yn rhannu cardiau Twitter; byddai angen i mi ychwanegu cod i gipio mân-luniau ar gyfer trydariadau hefyd. Dyna un i fy rhestr o nodweddion arfaethedig.

Gallwn i greu cyfrif arall sy’n postio’r dolenni coch er mwyn annog rhagor o fewnbwn a thwf Wicipedia Cymraeg.

I’r rhai sy’n chwilfrydig mae fy ngweinydd yn rhedeg sgript php drwy cron job. Mae’r sgript yn wneud ceisiadau am JSON drwy API Wicipedia ac yn defnyddio codebird-php i drydar.

Gweler archifau’r tag UnigrywUnigryw am ragor o ddiweddariadau.

Sawl wici sydd yn Gymraeg?

Tra o’n i’n siarad gyda chyfieithiwr MediaWiki ar y maes ddoe o’n i’n meddwl: sawl prosiect wici sydd yn Gymraeg? Rydyn ni’n casglu blogiau, beth am wiciau?

WikiMedia yw’r sefydliad tu cefn i MediaWiki sydd yn gyfrifol am:

Diolch i WikiMedia mae’r system wici meddalwedd rydd MediaWiki yn bodoli. Dw i wedi bod yn rhedeg

gyda Rhys Wynne ac eraill am sbel (ers i ni newid o’r hen system DokuWiki).

Roedd Suw yn arfer rhedeg wici i ddysgwr. Ac mae ambell i gyfeiriad i Wiki Deddfu, prosiect Hywel Williams AS sydd ddim ar y we rhagor. Gwnes i drio gosod wici dwyieithog unwaith i gleient (Cyngor Prydeinig).

Oes wiciau eraill ar y we yn Gymraeg? Mae wiciau da yn cymryd buddsoddiad o amser i lwyddo, dw i ddim argymell llwyth o wiciau newydd di-ri yma achos mae angen rheswm penodol i lansio un. Ond byddai mwy o enghrefftiau yn ddidorol.