Casglu ein gweddill gwybyddol gyda Clay Shirky

Cognitive Surplus gan Clay ShirkyDw i newydd darllen Cognitive Surplus gan Clay Shirky. Sa’ i eisiau sgwennu adolygiad go iawn, dim ond meddyliau.

Darllena’r llyfr ac Here Comes Everybody, dyna ni – fy adolygiad.

Y peth pwysicaf yw, dyw Shirky ddim wedi gorffen y llyfr. Dw i’n gofyn mwy o gwestiynau ar ôl y llyfr. Bydd rhaid i ni gorffen y waith. Dw i ddim yn siarad am adeiladu busnesu neu y Google nesaf; dw i’n siarad, fel Shirky, am mudiadau, newid, datrys problemau. Mae’r maes dal yn hollol agored.

Dw i’n methu anghytuno gyda Shirky yma ar tudalen 180 (clawr meddal):

The choice we face is this: out of the mass of our shared cognitive surplus, we can create an Invisible University – many Invisible Colleges doing the hard work of creating many kinds of public and civic value – or we can settle for Invisible High School, where we get lolcats but no open source software, fan fiction but no improvement in medical research. The Invisible High School is already widespread, and our ability to participate in ways that reward personal or communal value is in no imminent danger…

Creating real public or civic value, though, requires more than posting funny pictures.

Mae Shirky yn atgoffa fi o’i ffrind Tim O’Reilly yma, gweithia ar bethau pwysig – a phaid â taflu defaid.

Ond mae gweithgareddau chwaraeus yn bwydo’r projectau pwysig. Dyw’r gweddill ddim yn gweithio fel ‘na yn fy mhrofiad. Er enghraifft, addysgodd Sleeveface fi llawer mwy na fasai unrhyw un yn disgwyl gyda ‘lluniau doniol’. Nawr dw i ddim wedi trwsio llawer o broblemau cyhoedd neu dinesig chwaith ond o leia dw i’n meddwl amdanyn nhw bob dydd.

Wrth gwrs mae Sleeveface yn llawer well na lolcats! Ond mae Shirky wedi ateb ei pwynt ei hun gynt ar tudalen 18:

Let’s nominate the procss of making a lolcat as the stupidest possible creative act… Formed quickly and with a minimum of craft, the average lolcat image has the social value of a whoopee cushion and the cultural life span of a mayfly. Yet anyone seeing a lolcat gets a second, related message: You can play this game too

… a change from what we’re used to in the media landscape. The stupidest possible creative act is still a creative act…

Much of the objection to lolcats focuses on how stupid they are; even a funny lolcat doesn’t amount to much. On the spectrum of creative work, the difference between the mediocre and the good is vast. Mediocrity is, however, still on the spectrum; you can move from mediocre to good in increments. The real gap is between doing nothing and doing something, and someone making lolcats has bridged that gap.

Fel ffrind o’r iaith dw i bach yn cenfigennus o diwylliannau gyda’r gweddill.

Dyn ni wedi elwa gyda WordPress, Firefox ayyb a phaid anghofio Wicipedia Cymraeg.

Ond mae’r sefyllfa dal yn teimlo fel bod Shirky a’i ffrindiau wedi cyrraedd at tudalen 180 ond dyn ni dal ar tudalen 18, mewn ffordd. (Mae fe’n gallu cymryd teledu yn ganiataol hefyd ond stori arall.)

Dyw’r hanes o ddatblygiadau cyfryngau ddim yn ‘damweiniol’. (Gweler hefyd: Nicholas Carr a defnydd ‘accidentalism’ gan Shirky).

Rwyt ti’n gallu gweld hwn yn mudiadau cerddorol. Daw punk a wedyn post-punk. Roedd punk yn angenrheidiol fel chwildro DIY.

DIY arlein

Felly beth yw’r peth mwyaf ‘punk’ ti’n gallu postio arlein?

Dw i ddim yn siarad am gerddoriaeth punk o’r 70au yn enwedig, dw i’n siarad am yr agwedd.

Bydd rhaid i ni torri trwy’r ceidwadaeth o gymdeithas Cymraeg hefyd. Gwnes i trio esbonio PenTalarPedia i rhywun mis diwetha. Atebodd hi ‘ond dyw e ddim yn rhywbeth swyddogol‘…

Tro nesaf, gofynais i ‘oh wnest ti ymweld PenTalarPedia ar y diwedd?’. Atebodd hi ‘Do. Mae’n anghyflawn. O’n i eisiau gweld y lleoliadau saethu’.

Cyfryngau newydd go iawn, Lost a Lostpedia

Dyn ni dal ar y cyfnod ‘mynd i’r capel mewn Levis’ gydag arlein.

Wedyn ti’n gallu cael dy Geraint Jarman, dy Datblygu, dy Tŷ Gwydr, dy SFA, dy Gorky’s a dy Tystion.

Dim sylwadau. Pingnôl punk yn unig.

Spotify: Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, o 1962

Tynged yr Iaith o 1962 gan Saunders Lewis ar Spotify (46:25)

Rhaid imi gychwyn a gorffen sgrifennu’r ddarlith hon cyn cyhoeddi ystadegau’r cyfrifiad a fu y llynedd ar y Cymry Cymraeg yng Nghymru. Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i’r rheini ohonom sy’n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg. Mi ragdybiaf hefyd y bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw, ond parhau’r tueddiad presennol, tua dechrau’r unfed ganrif ar hugain, a rhoi bod dynion ar gael yn Ynys Prydain y pryd hynny…

Adysgrif Tynged yr Iaith fel HTML

Adysgrif Tynged yr Iaith fel PDF gyda rhagair gan Meredydd Evans

Fate of the Language translation in English

Erthygl Wicipedia: Tynged yr Iaith

Mwy o Sain ar Spotify

4 categori o wefannau a blogiau yn Gymraeg

Mae lot o bobol yn gyffrous am y real-time web ar hyn o bryd.

Digon iawn. Ond hefyd mae gyda fi diddordeb yn y we BARHAUS. Yn enwedig y we Gymraeg.

Dw i wedi bod yn darllen trwy Maes-E, Morfablog, Gwenu Dan Fysiau, Daflog ac archifau o flogiau a gwefannau clasur eraill. Gwnaf i fwrw’r gwaelod cyn bo hir.

Dw i wedi ffeindio pedwar categori o wefannau ar fy siwrnai ar y ffordd. Sgen i’m bwriad bod yn sarhaus. Eisiau trafod y we barhaus.

1. “Dyma’r Ffordd i Fyw”
Blogiau a gwefannau sydd dal yn joio cofnodion newydd a diweddariadau. Dw i’n darllen nhw mewn Google Reader neu ddilyn dolenni ar Twitter. Mae’n hawsa i ffeindio nhw na gwefannau yn y categorïau isod. Dw i’n rhedeg gwefannau yn y categori hwn (Hacio’r Iaith, Y Twll, PenTalarPedia a Hedyn). Fel teclyn mae Blogiadur dal yn eitha da am ffeindio cofnodion dw i wedi colli ar y tro cyntaf.

2. “Sdim Eisiau Esgus”
Mae hwn yn grŵp mawr iawn. Dal yn fyw ar y we ond dyn nhw ddim yn cael eu diweddaru. Blog Gareth Potter yw enghraifft. Maen nhw yn “cysgu” mewn ffordd i’w blogwyr. Ond dyn ni’n gallu anghofio’r fantais o’r gwefannau yma – maen nhw yn fyw i’r darllenwyr. Felly dyn ni ddim eisiau esgus, mae’n iawn, ond paid colli dy hen blog! Dw i’n gallu gweld cyfleoedd i greu ffilteri e.e. teclynnau chwilio sy’n gynnwys y categori hwn (Google Custom Search a mwy). Dyna pam dw i eisiau casglu nhw ar Hedyn. Beth yw’r gwersi? Ystadegau hefyd. Pa fath o dyfiant ydyn ni wedi gweld? Faint o flogwyr sy wedi gadael blogiau nhw i gysgu? Syniadau am projectau ymchwil.

3. “Byw Ar Y Briwsion”
Weithiau dyw pobol ddim yn adnewyddu eu enwau parth neu gwesteia. Felly dyn ni’n colli eu gwefannau. Pwy sy’n cofio Dim Cwsg, fforwm cymuned am godi plant? Dw i ddim angen y wybodaeth nawr – ond beth am y dyfodol? Beth ddigwyddodd gyda’r wefan Adam Price eleni? Dw i’n siomedig iawn os dw i’n ffeindio sôn am rywbeth ac wedyn dyw e ddim yn bodoli. Diolch byth am Archive.org – ond dyw e ddim yn gallu cadw popeth, jyst briwsion weithiau. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw archif eu hun yn ôl pob sôn – chwarae teg – ond ble mae e? (Mae unrhyw un yn gallu copïo fy mlog am unrhyw archif. Os oes gyda ti diddordeb, dw i wedi rhoi caniatâd i bawb dan Creative Commons.)

4. “Hwyl Fawr Heulwen”
Y categori olaf yw blogiau sy ddim ar y we, ddim ar Archif, ddim yn unlle, jyst yn dev/null. Mae ddoe yn ddoe – yn anffodus. Mae pobol yn colli eu blogiau a gwefannau weithiau am lot o resymau. Neu trwy ddamwain, diffyg gofal, dileu, colli enwau parth, colli gwesteia, gwasanaethau drwg a theclynnau drwg maen nhw yn colli eu blogiau a gwefannau. Ond nid jyst nhw, dw i’n colli nhw, ti’n colli nhw a mae pawb sy’n chwilio am bethau Cymraeg yn colli nhw. Mae pob iaith yn colli blogiau. Baswn i ddim yn colli lot o gwsg am blogiau Saesneg achos mae’r iaith yn iawn. Ond yn Gymraeg mae’r sefyllfa yn ddifrifol. Wrth gwrs mae gyda unrhyw un yr hawl i ddileu ei blog hefyd. Ond mae fe dal yn siomedig.

Yr ail degawd

Mae’r cofnod yma gan Nic Dafis, Ebrill 2001 yn gategori 2 (mae fe’n blogio ar Morfablog nawr).

Dyn ni’n symud i’r ail ddegawd o flogiau Cymraeg ac eisiau datblygu “cymunedau arlein” a thrafodaeth ar y we. Sa’ i’n eisiau ailadrodd beth sy wedi digwydd yn barod. Dw i eisiau datblygu’r drafodaeth mewn ffordd gyda’r gwersi’r degawd cyntaf.

Wrth gwrs dyn ni eisiau ailymweld sgyrsiau ac erthyglau Cymraeg am wleidyddiaeth, cerddoriaeth, hanes, diwinyddiaeth, gwyddoniaeth a phob pwnc dan yr haul.

Er enghraifft, pan oedd Nic yn blogio am Maes-E mae fe wedi rhannu gwersi gyda ni yn y dyfodol am gymunedau a sgyrsiau ar y we.

(Gyda llaw, beth ddigwyddodd gyda’r archif Maes-E? Er enghraifft, dyw’r erthygl Tips ar neud Ffansin gan Mihangel Macintosh ddim ar gael trwy’r wefan – roedd rhaid i mi fynd i archive.org.) YCHWANEGOL: Ateb yn y sylwadau isod

Wrth gwrs dyw Facebook ddim yn helpu o gwbl gyda’r broblem cynnwys sy’n agored a pharhaus. Dyma pam dw i ddim yn licio Facebook llawer yn y cyd-destun hwn. Mae’n ddefnyddiol am lot o resymau wrth gwrs ond mae’n rhy breifat a rhy anodd i chwilio am bethau. Fel arfer mae’n well i blogio ar WordPress.com a rhannu dolenni ar Facebook neu gopïo’r testun i Facebook.

Mae Facebook yn cyflymu symudiad ieithyddol hefyd. Cofnod arall.

Bygythiadau

Bygythiad yw teclynnau sy’n byrhau URLs. Dw i ddim yn hoffi nhw o gwbl achos dw i eisiau URLs sy’n gweithio am flynyddoedd. Weithiau ar Twitter rhaid i mi defnyddio rhywbeth yn anffodus felly dw i’n dewis bit.ly achos mae’n poblogaidd o leia. Safety in numbers – gobeithio.

Ond mae pob gwasanaeth am ddim yn beryglus mewn ffordd, e.e. Geocities. Bydd lot o wasanaethau am ddim yn gorffen neu yn anfon ein gwaith i gategori 4. Bydd yn ofalus gyda dy waith caled.

Rydyn ni angen termau hawlfraint fyrrach

Meddai blogwr maximus Nic Dafis yn ei cofnod am Gomins Creadigol:

Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cytuno bod angen sustem hawlfraint newydd i Gymru, a ddim yn gweld sut byddai hynny’n gweithio tra bod Cymru a Lloegr yn rhannu cyfundrefn cyfreithiol yn gyffredinol. Pan daw’r chwyldro gogoneddus, wrth gwrs, bydd popeth yn wahanol, ond tan hynny dylai fod yn ddigon i hybu defnydd o’r Comins Creadigol mor eang ag sy’n bosibl, yng Nghymru fel yng ngweddill y byd.

Ond mae Comins Creadigol yn “optio i mewn”. Iawn amdanat ti a fi. Iawn am artistiaid, awduron a bandiau sy’n gallu defnyddio fe yn 2010 gyda gwaith newydd. Neu hen waith.

Ond dyw e ddim yn iawn am 56 mlynedd o destun sydd yn mas o brint. Neu 56 mlynedd o bethau dyn ni’n gallu ailddefnyddio – tu allan o jyst ddelio teg.

Term hir yw problem yn ieithoedd eraill hefyd, e.e. Saesneg. Mae’n fwy o broblem yn Gymraeg. Fel arfer, dyn ni’n teimlo’r un pethau yn iaith leiafrifol ond MWY. Ble wnes i ffeindio’r nifer 56 mlynedd? Term am destunau gan gynnwys llyfrau a chylchgronau yw 70 mlynedd o’r farwolaeth yr awdur. Dw i’n dychmygu cymdeithas gyda therm 14 mlynedd o’r farwolaeth yr awdur.

(Dw i wedi bod yn geidwadol yma. Roedd y term gwreiddiol o’r ddeddf hawlfraint gyntaf yn 1709 yn 14 mlynedd ar ôl y gwaith gyda 14 mlynedd opsiynol os oedd yr awdur dal yn byw.)

Dychmyga 56 mlynedd o lyfrau, drama, barddoniaeth, lluniau, fideo ac awdio ar gael ar y we am unrhw ddefnydd.

Basai term hawlfraint fyrrach yn well i Saesneg ac yn well i Gymraeg. Mae pobol wedi esbonio’r problemau yn y cyd-destun Saesneg ac wedi dychmygu’r canlyniadau o dermau byrrach. (Gweler hefyd: Open Rights Group yn y DU.)

Nid cyfreithiwr ydwyf ond sgwennais i awgrymiadau os ti eisiau ailddefnyddio deunydd Cymraeg sydd yn fas o brint.

Argyfwng cynnwys arlein yn Gymraeg? Hawlfraint a chaniatâd

Heno dw i’n meddwl am hawlfraint a’r iaith Gymraeg (eto).

Dw i’n meddwl am hen lyfrau a chynnwys arlein.

Stori gyntaf. Sgwennais i un o fy hoff gofnodion ym mis Mawrth 2010, Tafodieithoedd Melys (diolch blog Pethe am atgoffa fi, ti newydd wedi troi pingbacks ymlaen efallai).

Beth ddigwyddodd? Stori fer:

  • Gwelais i fap gwych o felysion yn y llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg (1989). Gwych!
  • Gwnes i ddangos y llyfr at un ffrind yn y llyfrgell. Mae hi’n hoffi awgrymiadau da.
  • Chwilio am gopi o’r llyfr arlein. Dim canlyniad. Hollol mas o brint. Grêt.
  • Rhaid i mi rannu’r map. Dylai’r byd weld y map yma.
  • Tuag wythnos hwyrach… Es i yn ôl i’r llyfrgell gyda gliniadur a sganiwr yn fy mhag.
  • Pum munud hwyrach… Mae gyda fi copi o’r tudalen a’r clawr, heb unrhyw drwydded swyddogol.

Ac wedyn gwnes i feddwl am y map eto. Dim ar gael. Ar goll – efallai am byth. Ond dw i’n gallu cadw’r map am blant, dysgwyr, academyddion, ieithyddion a chefnogwyr melysion ym mhob man! Mae’n rhy hawdd – trwy fy mlog.

Ond does dim caniatâd swyddogol gyda fi. Bydd yr awduron a phobol eraill yn anghytuno gyda fy nghofnod map? Ydy e’n fair dealing dan y gyfraith Cymru a Lloegr? Throw caution to the wind, meddyliais i.

Bydd fydd yn digwydd? Efallai llythyr cease and desist? Beth yw cease and desist yn Gymraeg beth bynnag? Yn fy marn i, efallai mae cease and desist yn golygu ein hiaith arlein hefyd. Dyma’r dewisiad tro ‘ma. Dw i ddim yn poeni gormod am y perygl cyfreithiol achos dw i’n gallu tynnu unrhyw beth lawr yn syth yn y dyfodol.

Os wyt ti eisiau gwybod beth ddigwyddodd…

Digwyddodd dim byd heblaw sylw neis gan un o’r awduron gwreiddiol!

Rhyw fath o ganiatâd?

(Gyda llaw, dyw’r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg ddim ar gael ar y wefan Casgliad y Werin – eto.)

Mae Lawrence Lessig wedi sgwennu llawer am hawlfraint yn yr oes arlein – yn y cyd-destun Saesneg yn enwedig. Ond mae’r sefyllfa Cymraeg yn eitha gwahanol. Dyn ni’n siarad am argyfwng yma. Ydw i’n rhy gynnar i ddefnyddio’r gair argyfwng? Nac ydw, mae’r iaith Gymraeg yn rhy wan arlein yn 2010.

Dyma un o’r heriau fawr i Gymraeg yn 2010.

Gyda llaw, i sôn am Lessig postiais i gofnod diwetha am Creative Commons. Ond dw i ddim wedi dod i siarad am Creative Commons tro ‘ma.

Dyn ni angen rhyw fath o gyfraith arbennig am hawlfraint Cymraeg yn fy marn i.

Ond ddylen ni ddim yn aros. Fel un datrys i’r broblem cynnwys arlein (dim ond rhan o’r datrysiad), dyn ni’n gallu ail-cyhoeddi hen gynnwys.

Faint o lyfrau ydyn ni’n colli? Neu: faint o lyfrau ydyn ni’n gallu rhyddhau?

Cyfreithiwr dw i ddim.

Ond dw i’n gallu awgrymu ‘rheolau’ bosib am hen gynnwys a llyfrau. Beth wyt ti’n meddwl?

  1. Ydy e’n hen waith mas o hawlfraint, yn y parth cyhoeddus? Os ydy, ewch i bwynt 6 yn syth!
  2. Ydy’r awduron neu gwmni cyhoeddi dal yn marchnata’r gwaith? Ydy’r gwaith ar gael fel fersiwn digidol? Os ydy, stopiwch.
  3. Ydy e’n fas o brint (neu ddim ar gael) yn bendant? Os nac ydw, stopiwch.
  4. Gofynnwch am ganiatâd os mae’n bosib. Ymchwiliwch y credit os mae’n bosib.
  5. Pam dych chi eisiau ail-cyhoeddi e? Dych chi’n fasnachol o gwbl? Well i chi peidiwch. Mae’n gymhleth heb ganiatâd penodol.
  6. Ydy e’n bodoli arlein mewn ffurf dda yn barod? Os ydy, sgwennwch ddolenni iddo fe neu ail-cyhoeddwch / ail-gymysgwch. Os nac ydy…
  7. Rhannwch nawr! Byddwch yn moesgar – peidiwch anghofio’r credit. Mwynhewch!

Dw i’n gwybod am y gwaith Llyfrgell Genedlaethol a Chasgliad y Werin Cymru. Maen nhw wedi rhyddhau llawer o hen bethau yn Gymraeg. Dw i’n ddiolchgar ond dylem ni fynd ymhellach na hynny. Beth am gynnwys o’r ugeinfed ganrif? Beth yw dy hoff lyfrau mas o brint?

Arlein dyn ni’n casglu casglu casglu – felly paid a bod yn unig

Thema fi ar hyn o bryd yw “casglu”.

Casglu’r pethau bychain.

Mae nwdls yn casglu fideos gyda fideobobdydd.

Dw i’n casglu defnyddwyr Cymraeg ar Twitter ar fy cofrestrau. (Tua 609 person heddiw.)

Dyn ni’n casglu gwefannau, blogiau a theclynnau ar Hedyn.

Dyn ni’n casglu pobol a dealltwriaeth gyda Hacio’r Iaith – arlein ac yn y cigfyd.

Ro’n i’n hoffi Blogiadur. Dyn ni’n gallu deall pam casglodd Aran Jones blogiau gwahanol yna. (Ond mae’r wefan angen diweddariad gyda blogiau newydd.) Darllena’r papur “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” gan Daniel Cunliffe – dw i’n methu ffendio’r dolen heddiw.

Dyn ni eisiau ffeindio pobol a gwefannau sy’n bodoli yn barod a’u thynnu nhw at ei gilydd i fod mwy agos. Paid a bod yn unigrwydd. Ymuna’r parti!

Cydgrynhoad yw gair da arall.

Dw i’n gofyn am wasanaeth newydd i gasglu canlyniadau Cymraeg ar Google gyda’u gilydd. Gweler post diwetha (wrth gwrs bu farw’r Wenhwyseg achos caeth siaradwyr eu gwasgaru).

Mae’r we Gymraeg yn rhy frith.

Pwy sy eisiau ymuno’r Gymdeithas Yn Erbyn Entropi?

entropi

Llun gan ario_

YCHWANEGOL: Mae Rhys Wynne wedi postio dolen “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” yn y sylwadau isod. Cyfrannodd Courtenay Honeycutt i’r papur hefyd.

Fideo Bob Dydd – 730 darn o cynnwys arlein Cymraeg o leiaf bob blwyddyn

Mae’n braf iawn i weld fideobobdydd.com (da iawn nwdls).

Mae’n enghraifft da o wefan WordPress wrth gwrs. Dyn ni’n gallu ychwanegu e i’r cofrestr WordPress.

Dw i’n meddwl llawer am y diffyg cynnwys arlein Cymraeg. Nawr mae fideobobdydd yn cyfrannu cofnod a thweet bob dydd. Dyna 365 cofnod a 365 tweet awtomatig o leiaf bob blwyddyn! Fideos ardderchog hefyd, dyma’r pwynt.

Mae’n tyfu’r rhwydwaith hefyd achos mae’n hybu fideos YouTube ar gael yn Gymraeg. Weithiau mae’n ddigon i gasglu cynnwys (a chynulleidfa/cymuned). Dolenni yw cynnwys hefyd. Mae’n annog crewyr fideos.

Dyn ni’n gallu annog hefyd gydag ein sylwadau.

(Ychwanegol am gynnwys arlein Cymraeg: dw i dal yn siomedig am Y Cofnod am yr un rhesymau.)