Addysg Gymraeg i bawb: fy stori i

Bron yn union pum mlynedd yn ôl yn 2008, blogiais i yn Saesneg am fy mhrofiadau o Gymraeg fel pwnc yn yr ysgol. ‘Sut ddylen ni addysgu ieithoedd yn yr ysgol?’ oedd fy nhwestiwn ar y diwedd, heb ymateb. Gwnes i gadw’r posibiliad o ailymwelediad i’r un pwnc hwyrach ymlaen. Wel, dyna ni:

Wrth gwrs mae llwyth o bethau sydd angen er mwyn gwireddu’r addewid o roi’r Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys addysg o’r radd flaenaf.

Mae un pwynt arall hoffwn i wneud i ddilyn y pwynt olaf yn y fideo. Beth sy’n ddiddorol i mi ydy’r ffaith bod llawer iawn o oedolion yng Nghymru eisiau’r gallu i siarad Cymraeg. Does dim tystiolaeth gyda fi (does dim cwestiwn yn y cyfrifiad…) ond mae pobl yn dweud pethau yn aml iawn wrtha i fel ‘oh I wish I could speak Welsh but…’. Efallai dydyn nhw ddim yn gallu ffeindio’r amser, efallai dydyn nhw ddim hyd yn oed eisiau mynd trwy’r broses o ddysgu fel oedolion. Ond mae lot fawr yn mynegi’r awydd. Dyna rywbeth i’w ystyried.

Fideo trwy Sianel 62. Diolch i Euros am waith camera.

#AddysgGymraegIBawb

Gwleidyddion, plant a’r iaith

Mae pobl yn anghofio sut mae’r byd yn edrych trwy lygaid ifanc. Mae plant yn sylwi ar bethau, maen nhw yn casglu data trwy’r amser sydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau.

Pan o’n i’n ifanc roedd rhaid i mi astudio lot o bynciau yn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gan gynnwys y Gymraeg. Ond, o’n i’n ddigon soffistigedig i weld sut oedd oedolion yn ystyried pynciau. Mae’r geiriau yn wahanol ym mhob ysgol ond mae themâu yn debyg. Dw i’n cofio’r geiriau’r athrawon yn fy ysgol i: ‘the core subjects are English, Maths and Science…’.

Dw i’n sgwennu’r cofnod blog yma i unrhyw oedolyn sydd eisiau meddwl am y pwnc, o unrhyw le ac unrhyw sefydliad.

Os wyt ti’n rhiant mae dy blant yn ddigon soffistigedig i weld sut wyt ti’n ystyried y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau tu hwnt i barthau fel y dosbarth a’r cartref. Maen nhw yn sylwi.

Os wyt ti’n athro neu wleidydd ac yn rhiant sydd ddim yn cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod dy waith, pa fath o neges wyt ti’n anfon i dy blant? Dylen ni fel oedolion cymryd yr iaith o ddifri cyn i ni ddisgwyl ein plant ni feddwl yr un peth.

Crwydro caeau Pentre-baen

Wel, mae Dic Mortimer wedi bod yn crwydro Pentre-baen a’r hen reilffyrdd yn ddiweddar:

Apart from Fairwater and Pentrebane locals, few Cardiffians ever go here.

[…] I was still conscious of treading on blighted ground marked for future destruction.  The ravishing beauty was intensified by a dull ache of regret.  I’d heard it so often before: “I remember when this was all fields…” my mother used to say about Llanrumney and my grandmother used to say about Penylan.  Now I could hear myself saying the same thing in 20 years time to my grandchildren about Waterhall.  Premature nostalgia.  This could be the last time…

Criss-crossing the area are a number of abandoned railway lines, providing a network of pathways that take you deep into otherwise inacessible zones. I followed the line of the ‘Waterhall Branch’, a fascinating, little-known mineral railway which, more by accident than design, is still largely extant. […]

O’n i’n arfer mynd i ysgol yn y Tyllgoed. Dw i’n siŵr bod i wedi cerdded lawr darn o lwybr heb sylweddoli bod e’n hen reilffordd o’r cymoedd – heb sôn am gwerthfawrogi’r hanes. Fy amgylchedd, fy milltir sgwar yn y 90au. Dylwn i fynd yn ôl.

Hefyd dw i eisiau cerdded neu beicio lan yr Afon Elái o Grangetown i Donypandy rhywbryd.

Cymreictod – yn ôl llyfrau

Newydd gorffen hwn (o’r diwedd). O Lloyd George ymlaen roedd e’n darllenadwy iawn. Nes i joio’r peth cyfan ond bach yn “dwys” am sesiynau darllen hir iawn.

John Davies

Yn union fel cael y wlad i gyd yn dy ddwylo.

Mae fe’n wneud rhyw fath o sioe yn ystod Eisteddfod Treganna. Sy’n wych.

Rhywbryd hoffwn i ail-ddarllen yn yr iaith wreiddiol.

John Davies

Ond mae’r iaith ‘chydig rhy gymhleth ar hyn o bryd. Dw i’n gallu siarad am gyfryngau digidol ond dim llawer o hanes manwl iawn – eto!

Yn y cyfamser dw i’n darllen Gwyn Alf.

“Bill Hicks hanes Cymru” yn ôl sylwebydd epilgar fan hyn.

Gwyn Alf Williams

Nes i joio’r dychan Jan Morris mas draw llynedd. Er bod gyda fe’r clawr mwyaf crap erioed.

Jan Morris

Mae’n beniog iawn iawn. Efallai dylai rhywun ei haddasu ar gyfer teledu. Efallai?

Mae fersiwn arall yn yr iaith dew, cyfieithiad gan Twm Morys. Clawr gwell hefyd ond bydd yn ofalus gyda’r swasticas ar drafnidiaeth gyhoeddus ayyb.

Twm Morys a Jan Morris

Darllenais i’r casgliad newydd o erthyglau Siôn T. Jobbins am Gymreictod wythnos yma. Cythruddol gyda barnau cryf. Hoff penodau: Radio Ceiliog (radio morladron o… Waelod y Garth), papurau bro, Abertawe… bron popeth. Mae rhai ar ei wefan (ond mae’r system darllen yn reit weird).

Siôn T. Jobbins

Cafodd yr awdur ei fagu yng Nghaerdydd, roedd y sampl isod am Gymreictod yn y ddinas, o 2005, yn enwedig yn llawn mewnwelediadau profoclyd sy’n berthnasol i fy mhrofiad:

Caerdydd looms large in Welsh-language pop, and cyfryngis… are regularly lampooned in Welsh songs. Welsh-speakers from Cardiff are still treated with suspicion by many fellow-siaradwyr… They seem too happy and content – still a suspicious habit for a language unsure of its future in a culture nursing a Methodist hangover. The community is caricatured for its perceived lack of commitment to the ’em’ and for making good money on the back of Wales. To go to Cardiff, our capital city, in to ‘sell-out’, a funny state of affairs, and possibly unique. This perception is not helped by the unwillingness of so many of Cardiff’s Welsh speakers themselves to take sides or create a culture independent of their wages.

Oof!

Dw i’n cynnig y gweddill heb sylw.

Cardiff Welsh-language culture is at its most exciting and challenging in the hands of people who’ve learnt the language in adult life – and without them Welsh in the capital would wither on the vine.

BONWS: Ned Thomas a Siôn T. Jobbins gyda’u gilydd o’r diwedd – ar YouTube.

BONWS 2: The Welsh Extremist gan Ned Thomas – llyfr digidol am ddim.

Pa fath o ddigwyddiad fydd Eisteddfod Treganna?

Eisteddfod TregannaRydyn ni’n cynllunio Eisteddfod yng Nghaerdydd, yn Nhreganna, gyda lot o bobol eraill, benywod a dynion. Croeso i ti gymryd rhan. Ond pa fath o ddigwyddiad fydd Eisteddfod Treganna? Sut ydyn ni gallu cydbwyso gydag elfennau traddodiadol a phethau cyfoes? Rydyn ni eisiau “cynrychioli’r gymuned” felly beth ddylen ni wneud?

Dyma rhai o’r meddyliau gan Colin a fi (darlledwyd yn wreiddiol ar Shwmae mis diwethaf).

Os oes gyda ti diddordeb, cer i’r wefan treganna.org, hoffi’r tudalen Facebook, neu dilyna’r cyfrif Twitter.

logo gan Huw Aaron

Glyn Ebwy, Glynebwy a gofod rhyngom ni (Adendwm)

Adendwm bach i ddilyn y cofnod wythnos diwetha am enwau Glynebwy/Glyn Ebwy, trwy ebost gan fy ffrind Barry (gyda’i chaniatâd):

Roedd e’n ddiddorol, ac hefyd yn ddoniol, i weld y boi ‘na’n mynd yn grac dros sillafiad yr enw, oherwydd cyfieithiad o’r Saesneg yw “Glyn Ebwy”, nid enw gwreiddiol y dref.

Yn yr hen ddyddiau pan oedd pawb yn y dref yn siarad Cymraeg, eu henw i’r dref oedd Pen y Cae, nid Glyn Ebwy – ond cafodd yr enw ei ynganu fel “Ben Cē” yn y dafodiaith lleol.

Nid fi sy’n dweud hyn – mae’n dod o lyfr Mary Wiliam, “Blas ar iaith Blaenau’r Cymoedd”, wedi’i rhestru o dan “Ben-cē”.

Glyn Ebwy, Glynebwy a gofod rhyngom ni

So derbynais i sylw ar un o fy nghofnodion heddiw:

Awdur  : Gethin (IP: 147.143.242.94 , ResNetUser-Tegfan-147.143.242.94.bangor.ac.uk)
E-bost : ▓▓▓▓▓▓▓▓▓▓▓▓▓▓
URL    :
Sylw:
Os wyt ti eisiau hacio’r iaith, beth am sillafu Glynebwy yn gywir Carl yn lle'r
cyfieithiad slafaidd o'r Saesneg.

Rhywun ym Mhrifysgol Bangor o’r enw Gethin. Dw i’n gallu teimlo dicter fe trwy’r sgrin. Aelod arall o’r heddlu iaith efallai, ro’n i’n meddwl. Fi, achos arall o drais ieithyddol.

Ond dw i wastad yn hapus am gyfle i ddysgu rhywbeth. Felly nai ymchwilio’r enwau Glyn Ebwy / Glynebwy arlein trwy Google.

Mae rhywun o’r enw Hellyes4cress wedi bod yn brysur ar Wicipedia hefyd p’nawn ‘ma – i trwsio’r enw ar y tudalennau Glynebwy a Blaenau Gwent.

O’r crynodeb Wicipedia:

Enw’r dref ydy Glynebwy ac nid Glyn Ebwy, sôn am gyfieithi’n slafaidd.

Mae fe ychydig yn hwyr am fy nghofnod. Digwyddodd ein sesh ym mis Awst tua saith wythnos yn ôl. Digwyddodd y cofnod gynt. Ond peth yw, nes i copio’r enw “Glyn Ebwy” o dim ond y safle Eisteddfod Genedlaethol. Os mae rhywun yn grac am gofnod bach dychmyga’r WEFAN GŴYL DDIWYLLIANNOL BWYSICAF CYMRU (geiriau nhw). Yn ôl y wefan, yr enw yw Glyn…….saib…….Ebwy.

Sef, Glyn……(bwlch hir iawn lle gallai gwareiddiad yn cwympo)…………….Ebwy.

Dw i’n dychmygu fy teimladau yn yr un sefyllfa. Nope. Dw i’n methu bod yn grac amdano fe sori. Gobeithio mae’r cymhariaeth yn teg yma, Glynebwy a Chaerdydd.

Os ti’n mynd i Llyfrgell Caerdydd Canolog, mae gyda nhw celf tu allan y mynedfa: gwaelod gyda sillafiadau gwahanol o Gaerdydd, Cardiff, Kaerdydd, Kairdiff dros y blynyddoedd. HUNLLEF.

Mae pobol yn galw fe The Diff hefyd weithiau. Mewn gwirionedd does dim ots os dyn ni’n hoffi e neu ddim. Dyn ni ddim yn gallu newid e.

Mae enwau trefi yn pwysig iawn i bobol, DW I’N DEALL. Ond mae gyda pawb yr hawl i enwi unrhyw le unrhyw beth. Yn gynnwys The Diff.

Mae arwyddion ffyrdd yn bwnc gwahanol. Ond dw i’n sgwennu blog, dw i ddim yn gweithio i’r cyngor.

Nes i ateb:

Peidiwch â gwastraffu ynni gyfaill

Ond hefyd dw i’n diolchgar am bobol fel Mistar Gethin Hellyes4cress. Go iawn! Maen nhw yn rhedeg Wikipedia, er enghraifft. Pobol manylion. Does dim byd rong gyda zealots ifanc (err heblaw terfysgwyr ayyb). Dw i’n teimlo debyg weithiau am bethau pwysig. A phethau “pwysig” sy ddim yn bwysig. (Dw i’n gwybod bod e’n ifanc achos nes i ffeindio fe arlein ond sa’ i eisiau rhoi ffocws arno fe yn enwedig. Enghraifft yn unig.)

Zealots ieithyddol hefyd. Yn ôl geiriau Kingsley Amis, dw i’n berk a wanker weithiau – mae’n dibynnu ar y diwrnod.

Glyn Ebwy neu Glynebwy? Sa’ i’n siwr beth sy’n cywir gorau ond mae dau fersiwn yn bodoli.

LYNEBWY hefyd. Dyw enwau Cymraeg ddim yn statig o gwbl. Poeni am sillafiadau gwahanol eh? That is SO Saesneg.

Mae pawb yn berchen ar enwau lleoliadau. Yr unig gobaith i ti yw gweithgareddau ac efallai dylanwad. Yr unig ffordd i ddylanwadu yw blog neu gwefan neu project neu eisteddfod neu sianel neu llyfr dy hun. Sgwenna llyfr o’r enw GLYNEBWY, GYFEILLION. Neu lansia sianel o’r enw GLYNEBWY: GOFOD HEB GOFOD. Wrth gwrs dw i wedi troi off sylwadau felly bydd rhaid i ti dechrau blog dy hun am sylwadau.

Gyda llaw, fel rhywun ailiaith dw i ddim yn dilyn lot o safonau. Yn anffodus. I ti.

(Fy uchelgais yw “camgymeriadau” ieithyddol fel I Can’t Get No Satisfaction gan Rolling Stones. Diolch David Crystal am y mewnwelediad.)

Ers fy ngofnod cyntaf yn Gymraeg ym mis Medi 2009 dw i wedi sgwennu 159 cofnod ar haciaith.com, 35 cofnod ar ytwll.com, 15 cofnod ar shwmae.com a 44 ar morris.cymru (paid a sôn am Twitter). Dw i’n llenwi’r we gyda gramadeg anarferol a sillafiadau creadigol. Ond dw i’n sgwennu yn well bob tro, gobeithio.

Bron blwyddyn hwyrach, croeso i fy 254ydd cofnod yn Gymraeg.

Mae’r waith Dafydd ap Gwilym dal yn bodoli. Mae gwareiddiad dal yn bodoli. Mae’r iaith dal yn bodoli.

Beth fyddoch chi wneud? Crio dros y “clais” bach neu bwyta’r afal. Neu planu coeden afal.