BBC + S4C + Ti == PYC

Beth mae pob(o)l yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw?

Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol.

Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er mwyn denu cynulleidfa ifanc a thalent newydd sbon i’r brand.

Er mwyn cefnogi uchelgais Digidol S4C ac i lansio’r Gronfa Ddigidol, Awst 2012, hoffai S4C gynnig cyfle i gwmnïau neu unigolion fod yn rhan o’r prosiect.

Mae’n gyfle i arloeswyr digidol gydweithio â chriw drama profiadol Pobol y Cwm ar brosiect newydd traws gyfrwng ‘PYC’. Bydd ‘PYC’ yn cynnwys: Webisodes, Digwyddiad Byw, Cymuned ar y We, Gemau Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaeth ar Leoliad dros Gymru gyfan.

[…]

Darllena’r datganiad llawn.

Meddyliau cynnar:

  • Pobol y Cwm yw’r cyfres mwyaf poblogaidd ar S4C felly mae modd profi pethau gyda chyunlleidfa chymuned mawr (mewn termau Cymraeg). Dw i ddim yn ymwybodol iawn o’r oedrannau/demograffig/ayyb ond dw i’n cymryd bod y sioe yn apelio at bob math o berson. Hefyd mae’n haws i hyrwyddo pethau digidol sydd yn gysylltiedig â chyfres mor amlwg ac eiconig, ‘addasiad digidol/arloesol o hen ffefryn’ ayyb
  • Braf i weld ‘meithrin dull newydd o ddweud stori’ yn enwedig – maen nhw yn ystyried cyfleoedd digidol fel rhywbeth tu hwnt i farchnata a chyhoeddusrwydd.
  • Mae lot o bobl yn pryderu am annibynniaeth golygyddol S4C ar y teledu (y shotgun marriage gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ayyb). Ond mae cwestiynau tebyg ynglŷn ag annibyniaeth S4C yn y tymor hir ar bethau digidol. Wrth gwrs mae S4C wedi cyd-weithredu gyda’r BBC fel partner ers y ddechrau. Ond ydy’r ffaith bod y peth cyntaf o’r gronfa ddigidol yn rhywbeth BBC yn arwyddocaol? Gobeithio fydd S4C gyda’r hyder yn y dyfodol i gynhyrchu pethau digidol ac aml-blatfform sydd yn annibynnol o’r BBC?
  • Pa fath o gemau sydd yn addas? Gawn ni Zombies Cwmderi?

Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?

Gawn ni mewnosod fideos S4C ar ein blogiau/gwefannau?

Fideos fel Y Sioe (rhyddha’r gwartheg duon!) a cariad@iaith.

Mae’n bosib. Roedd rhaid i mi edrych at y cod a thynnu darn mas.

Ond dyw e ddim yn hawdd iawn fel ag y mae ar YouTube/Vimeo ac ati – sdim angen hacio yna.

Bydd mwy o help gyda mewnosod yn codi y nifer o gyfranogwyr, y nifer o wylwyr a’r sgwrs o gwmpas y sioeau ac yn gyrru pobol i wefan Y Sioe, cariad@iaith ac yn y blaen.

Yn fy marn i, mae’n rhan bwysig o’r ystyr ‘amlblatfform’/S4C newydd. Bwyda ni gyda chodau fideos o.g.y.dd!

S4C Calon Cenedl – syniad da iawn ond…

O’r S4C Cynllun Cynnwys 2012, mae syniad da iawn:

Mi fyddwn ni’n sefydlu cainc newydd, Calon Cenedl, sef cyfres o raglenni byrion oddeutu tri munud o hyd i’w darlledu am 20.25. Bydd y cynnwys yn cynnig cyfle i ni arddangos holl agweddau o fywyd Cymreig drwy gyfres o bortreadau am ardaloedd, cymunedau a phobol. Gall y brand newydd gael ei ymestyn i raglenni hanner awr ar adegau eraill o fewn yr oriau brig pan fydd cryfder golygyddol y syniad yn arwain at hynny.

1. Fel beth ydy rhaglenni ‘byrion oddeutu tri munud o hyd’ yn swnio? YouTube a fideo ar-lein.

Mae S4C yn gallu postio’r un fideos ar YouTube ac ar S4C Clic. Bydd e’n brofiad gwahanol ar YouTube – mewnosod ar wefannau, cynnig sylwadau a chael cynnwys parhaus heb derfyn amser fel y mae ar Clic.

2. Ond pam ydyn ni’n stopio yna? Ble mae’r cyfranogiad? Mae’r syniad gwreiddiol yn teimlo fel straeon digidol, erthygl o bapur bro mewn fideo fel petai. Ond rydyn ni dal yn meddwl am ddarlledu yn unig, hyd yn oed ar YouTube neu Vimeo neu beth bynnag.

Er mwyn bod fel papurau bro dylen ni rhoi’r cyfle, anogaeth a help os mae pobol eisiau creu a rhannu fideos eu hun. Bydd tag ‘swyddogol’ yn dechrau da, e.e. ‘defnyddia’r tag caloncenedl ar dy fideos lleol’. Pam lai? Gawn ni derbyn camerâu ffôn fel teclyn cyfathrebu rhad sydd ar gael i bobol Cymraeg tu allan i’r diwydiant teledu? Rydyn ni i gyd yn wylwyr ond mae rhai ohonom ni eisiau rhannu straeon o’n cymunedau. Fel papurau bro. Fel Derwen Gam neu Bodelwyddan neu Llangwm neu BaeColwyn neu Dolgellau neu Twthill neu Grangetown. Neu ____ (sgwenna dy bentref neu ardal yma).

Wrth gwrs mae unrhyw un yn gallu creu fideo gyda’r tag caloncenedl heddiw – heb S4C. (Cer amdani!)
Mewn gwirionedd bydd rhai o’r fideos amatur ar-lein yn ddiddorol a gwych – fydd ddim angen rhaglen smart sydd wedi cael ei golygu bob tro.

Ond bydd y rôl S4C fel yr endid sy’n osod y tag, rhannu’r tag gyda’r pobol yn y cymunedau (rhai yma), annog y fideos, blogio’r fideos ‘gorau’ neu perthnasol i Gymru ac yn rhedeg gweithdai yn bwysig iawn. Bydd pobol yn creu a gwylio fideos lot mwy gydag ymglymiad swyddogol S4C. Mae cyfleoedd ychwanegol go iawn i ddatblygu rhai o’r syniadau hefyd, i gynnig rhaglennu, cynnwys a phethau sydd ddim yn bosib gyda chamera ffôn.

Un dymuniad i S4C

O’n i’n gobeithio am ’chydig mwy yn yr adroddiad S4C am ar-lein a’r we.

Un prif her, yn fy marn i, yw’r trawsnewidiad i fodolaeth cyffyrddus ar y we.

Dyma beth mae Huw Jones, cadeirydd S4C, wedi colli mas o’r adroddiad blynyddol newydd yn ei chyflwyniad:

Roedd 2010 yn flwyddyn gythryblus yn hanes S4C, gan greu penawdau papur newydd na fyddai neb wedi eu dymuno.

Fy ngobaith i yw troi’r sylw yn awr at yr her sydd o’n blaenau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i’r afael â’r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy’n ein hwynebu.

Plîs gawn ni cyfeiriad i gynnwys ar-lein, yn enwedig y we, yn yr amcanion a’r cyfansoddiad? (Dw i’n aelod o’r Fforwm Cyfryngau Newydd, sy’n ymgynghori i’r Awdurdod S4C. Dw i’n rhannu fy meddyliau i unrhyw sydd gyda diddordeb.)

Roedd safon darlledu S4C yn dda yn 2010 a’r hanner cyntaf 2011. Fy uchafbwyntiau:
Ar Lafar, 100Lle, Pen Talar, Cofio, Pethe. Dw i’n hoffi darlledu, yr amserlen, S4C Clic. Ond mae her arall. Dw i ddim yn cytuno gyda Dafydd El, burn the boats! ac arnofio yn ofod digidol.

Weithiau dw i’n meddwl bod rhai o bobol yn y diwydiant teledu yn meddwl am ar-lein fel dau peth yn unig.

  1. dim ond cyhoeddusrwydd (e.e. postio i Facebook/Twitter ‘gwylia Ar Lafar 9PM lle mae Ifor ap Glyn yn mynd i…’ ayyb)
  2. dim ond ail-brandio’r wefan sy’n bodoli eisioes (e.e. newid yr enw parth)

Iawn. Ond dw i’n ddim yn gofyn am y dau peth yma. Mae cyhoeddusrwydd y sianel yn iawn. Ac rydyn ni angen lot lot mwy nag ail-brandio.

Dw i ddim yn siarad am ddosbarthu rhaglennu llawn (e.e. Clic, yr ap iPhone) hyd yn oed. Wrth gwrs mae gwaith hefyd i’w wneud yna o ran mynediad i hen rhaglennu.

Am beth ydw i – a gobeithio pobol eraill sy’n pryderi am fywyd iachus i’r iaith Gymraeg ar y we – yn gofyn, felly? Dw i’n siarad am gynnwys ar y we fyd-eang. Fideo. Testun. Podlediadau. Gemau. ‘Profiadau’. Mapiau. Barddoniaeth. Straeon. Awdio. Trafodaeth. Sylwadau. UGC. Pethau creadigol. Barnau. Pethau cŵl. Pethau peniog. Cerddoriaeth. Blogiau. Trafod chwaraeon. Stwff o’r archif, ___, ___., ___… ac ati ac ati.

Rydyn ni’n trio tyfu gwe Gymraeg, dyma’r breuddwyd. Mae lot o dalent yn Gymru. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr (tu fas i Golwg360, stwff BBC yn Gymraeg, yr Amgueddfa, Cynulliad a Llywodraeth, efallai un neu dau arall). Mae’n anhygoel!

Felly dyma beth mae S4C Newydd yn golygu i fi yn y cyd-destun ar-lein. Model bosib yw uber-wefan fel bbc.co.uk, ond dw i’n hoff iawn o fodel gwe-eang.

Dylai fe bod yn rhan o’r broses comisiynu – o’r dechrau. Cywira fi os fi’n hollol rong – dw i’n dod o safbwynt y we yn hytrach na theledu.

Mae’r is-wefannau Cyw a Stwnsh yn wych (a’r ap Cyw). Mae’r darpariaeth i bobol ifanc iawn yn dda. (Eithriadau: gemau a chynnwys Ddoe am Ddeg, blog Ar Lafar…)

Babi yw'r brenin yn y byd Cymraeg.Yn gyffredinol, yng Nghymru, rydyn ni’n dda iawn gyda babanod. Efallai dw i wedi sylwi oherwydd ces i ddim plentyndod Cymraeg. (Llun gan Berberich dan CC.)

Ni’n rhoi ein blant yn gyntaf fel blaenoriaeth.

Babi yw’r brenin yn y byd Cymraeg.

Dw i’n meddwl am Cyw fel ‘ysgol feithrin’. O ran S4C a’r we, maen nhw yn cynnal ysgol feithrin hyfryd. Nawr beth am bethau i bawb arall? Ble mae’r ‘pybs’, ble mae’r ‘gigs’, ble mae’r ‘bingo’ – fel petai?

Gwefannau lleol, blodau yn tyfu ym mhob man

Tri dolen heddiw am wefannau lleol (dim trefn penodol):

1. Nodiadau gan Gareth Morlais o’r digwyddiad Talk About Local yng Nghaerdydd ar y blog Hacio’r Iaith – a thrafodaeth gan eraill. (Mae Gareth yn sgwennu BaeColwyn.com sef blog lleol ardderchog.)

Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

2. Roedd y sylw uchod gan Rhodri ap Dyfrig. Mae fe’n adrodd meddyliau ar ôl Cymanfa Ddychmygu S4C Newydd.

Sut i ddechrau blog lleol

3. Fy nghyfraniad i’r sgwrs am lleol yng Nghymru: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr, tudalen newydd ar Hedyn

Dyw e ddim yn gyflawn eto ond os ti’n gofyn “Blogiau bach lleol di-ri? Neu uber-safle monolithig?”, dylai fy marn i fod yn glir.

Dyma pam gwnes i ddefnyddio’r enw Hedyn am y wefan wici pan gwnes i gofrestru’r enw dwy flynedd yn ôl. Nid achos o’n i’n meddwl am newyddion lleol yn enwedig ond o’n i’n meddwl: beth fydd llwyddiant ar y we Gymraeg yn gyffredinnol? Sydd yn gynnwys newyddion lleol.

Cliw arall: yr enw Pethau Bychain tu ôl ein digwyddiad llwyddiannus yn 2010. Rydyn ni’n gallu mwynhau o leiaf rhai o’r credit am yr enw. 🙂

Dyw sefydliadau Cymreig ddim yn hoffi’r athroniaeth o bethau bychain yma achos maen nhw yn licio platfformau MAWR, NEWYDD ac eisiau ordero canapés am y lansiad a bwydo’r buddsoddwyr, gwleidyddion a’r Western Mail.

Ond weithiau rydyn ni jyst angen y pethau BYCHAIN ar blatfformau sy’n bodoli EISOES – ond wrth gwrs gyda defnydd arloesol a chreadigol.

Ti’n gallu gweld y gwahaniaeth. Y “lansiad” fydd rhwydwaith cryf o bobol ar wahan – sy’n defnyddio’r we yn yr iaith Gymraeg am amcanion gwahanol nhw.

(Er enghraifft, dychmyga Casgliad y Werin heb y platfform. Efallai rhywbeth fel cyfres o weithdai Flickr a YouTube o gwmpas Cymru yn hytrach. Dyw e ddim yn swnio’n ddrwg o gwbl. Fyddan ni wedi arbed miloedd o bunnau o’r cyllideb meddalwedd (perchnogol) sy’n ailadrodd Flickr a YouTube. Rhy hwyr dw i’n gwybod. Cywira fi os fi’n rong.)

I fod yn onest dw i’n trio meddwl am rôl unrhyw uber-safle. Aggregator, mae rhai yn ddweud. Wel, pa fath? Mae Google Blog Search yn bodoli yn barod. Rhywbeth sy’n casglu’r straeon fel Umap am flogiau lleol – gyda map o Gymru falle? Wel, wyt ti rili eisiau mynd trwy newyddion lleol o ardaloedd gwahanol? Yr un cwestiwn yn geiriau gwahanol: pryd oedd y tro diwethaf wnest ti ddarllen papur bro o ardal gwahanol i fwydo diddordeb personol? Diffiniad newyddion lleol yw diddordeb lleol. Mae’n symud i newyddion genedlaethol os mae’n perthyn i bobol tu allan.

Dw i’n edmygu Glo Mân (papur bro ardal Dyffryn Aman) ond mae’r rhan fwyaf yn amherthnasol i fi yn Grangetown. Efallai yr unig aggregator posib fydd blog gan person o’r goreuon a doniol o gwmpas Cymru.

Mae Dave Winer, tad blogio ac RSS, yn cytuno:

Lately it’s dawning on people that the mass aggregators of local information aren’t achieving critical mass among the locals. Outside.in, a site that never made much sense to me, sold to AOL for $10 million. A lot less money than the VCs had invested in it.

Fy syniad gorau am yr uber-safle fydd copi o WordPress am newyddion lleol. Lawrlwytha’r cod a chynnig y peth fel darpariaeth i flogwyr lleol, e.e. ubersafle.com/llanrug ac ubersafle.com/eglwyswrw gyda blogiau ar wahan ar yr un enw parth Mae’n hollol iawn dan GPL. Ond PAM? Y peth pwysicaf fydd y hyfforddi a gweithdai – dal.

Mae gyda ni’r syniad o uber-safle trwm ac yn chwilio am reswm.

Dw i’n gallu meddwl am rôl enfawr o ran sefydliadau Cymraeg yma – yn gynnwys S4C. Sef: gweithdai, mynediad i offer, adnoddau fel lluniau a fideo (enghraifft: Eisteddfod Bae Colwyn 1947), adnoddau eraill, hyfforddi (sut i ddadfwndeli dy newyddion fel cofnodion a pheidio dibynnu ar ffeiliau PDF am bopeth!), grwpiau Flickr, blogiau bychain (fel Pethe), digwyddiadau agored fel Talk About Local a Hacio’r Iaith, tudalennau ar y we fel Sut i ddechrau blog lleol. Her yw, bydd pob un yn achosi llwyddiannau bach. Dim canapés!

Gyda llaw croeso i ti cyfrannu: Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr

Byw Yn Y Byd ar-lein

Braf i weld y flog newydd Byw Yn Y Byd ar gyfer y rhaglen S4C. Mae’n defnydd da o WordPress.com. Creuodd rhywun y flog yn 2 munud, am ddim. Gwych. Dw i’n meddwl bod Russell Jones, y cyflwynydd, yn flogio ei hun. Gobeithio.

Mae unrhyw un yn gallu creu blog ar WordPress.com am ddim.

Byw Yn Y Byd yw dyddiadur ond does dim rhaid i flog bod yn dyddiadur.

Strategaeth ar-lein dibynadwy: ar y cychwyn gydag unrhyw project dw i’n gofyn “ble fyddan ni blogio?”. Rydyn ni angen rheswm arbennig i beidio blogio. Dweda’r gair cyhoeddi os ti ddim yn licio’r gair blogio. Blogio yw’r ffordd gyflymaf i ychwanegu tudalen i’r we. Mae blog yn dod â newyddion am dy broject, system rheoli CYFLYM, dolenni dwfn a pharhaol – hawdd i’r rhannu ar Facebook/Twitter, ffrwd RSS a sylwadau. (Neu gofynna cwmni lan y stryd am brochure monolithig, efallai yn Flash, heb unrhyw system ar gyfer diweddaru – dy benderfyniad!)

Dyw blogiau ddim mor trendi â rhywbeth fel… apps symudol dyddiau ’ma. Sori ond dw i’n poeni am ddefnydd. Plis cer i flogio am tri neu chwech mis o leiaf, datblygu dy brofiad, cyn i ti sôn am rhyddhau app.

Darllena’r sylwadau ar y flog Pethe o fis Medi 2010. Fydd sgwrs am bethau diddorol a pherthnasol byth yn mynd mas o ffasiwn!

Mae’r cod Pethe o WordPress.org yn hytrach na .com gyda thema arbennig.

Rydyn ni’n casglu cyfeirlyfr o flogiau ar Hedyn. Dyma’r blogiau sy’n gysylltiedig â S4C hyn yn hyn. Cofia Yahoo yn y 90au? Dyddiau gynnar o’r we Saesneg. Gwersi am Gymraeg heddiw yn fy marn i. Gwnaf i archwilio cyn hir. Plis ychwanega mwy os ti’n gallu.

Dadfwndelu a chynnwys Cymraeg ar-lein

Mae Mathew Ingram yn drafod y golled mantais technoleg yn y diwidiant newyddion. Mewn geiriau eraill, mae unrhyw un yn gallu cyhoeddi/copïo newyddion ar-lein, dyw busnesau newyddion ddim yn defnyddio technoleg arbennig ac unigryw i fod yn gystadleuol yn 2011.

the media industry is in the process of being unbundled, just like the telecom business has been, and it’s even harder for media and content companies because there is no technological aspect to their business, the way there is with telephones and infrastructure and bandwidth. All the media business has is content, which can take a million different forms, and which is available to everyone as soon as you click “publish” or “send.”

Gweler hefyd: Om Malik ar yr un pwnc.

Dadfwndelu a chynnwys

Hoffwn i drafod cynnwys a dadfwndelu yn eu ystyr ehangaf – newyddion, LOLs, barn, blogiau, fideo, papurau bro arlein.

Dyn ni ddim yn trafod am fusnes cynnwys yn yr un ffordd a’r UDA ond dw i’n meddwl bod y gwersi yn debyg. Er enghraifft, dw i ddim eisiau gweld enghreifftiau fel BBC Chwaraeon eto. Mae’r broblem darpariaeth newyddion am chwaraeon yn Gymraeg yn anodd, angen bod yn gystadleuol mewn ffordd i dynnu’r ymwelwyr Cymraeg o wefannau eraill. Yn gyffredinol, sut ydyn ni’n gallu dylunio llwyddiannau ar-lein?

Teyrngarwch

Pa mor DEYRNGAR fydd ymwelwyr yn y dyfodol i wefannau Cymraeg? Mae rhai yn darllen achos mae’r cynnwys yn Gymraeg ond paid â dibynnu arnyn nhw yn unig – dylet ti cynnig rhywbeth DA yn erbyn y safon y byd/Saesneg. Fy ateb yw, paid â dibynnu ar deyrngarwch.

Oes pwynt 1. cyfieithu neu addasu pethau o gwmpas y we neu dylen ni 2. rhoi ffocws pur ar gynnwys unigryw? Mae 1 yn OK ond ti’n mynd head-to-head gyda’r fersiwn Saesneg. Problem gydag opsiwn 2 yw, angen bod yn greadigol iawn neu dyn ni’n dibynnu ar ddim ond yr un pynciau hawdd sy’n unigryw: S4C, Cymru, Cymraeg fel mae Rhodri ap Dyfrig wedi dweud. Os ti’n nabod fi byddi di wybod bod dw i eisiau gwe Gymraeg amrywiol iawn, y byd(ysawd) trwy llygaid Cymraeg.

Angen barn

Dw i’n gallu gweld cyfle mawr am wefan barn – gydag erthyglau bob dydd. Sgwennu da gyda fideo/lluniau, bob bob dydd, amrywiaeth o bynciau, amrywiaeth o gyfranwyr, uniaith Gymraeg. Gadawodd pobol 29 sylw da yn Gymraeg ar Skdadl/Angharad Mair, mae cyfleoedd am drafodaeth dda. Mae’r ymgeiswyr gorau ar hyn o bryd yn dangos elfennau da ar wahan: blog Golwg360 (barn am newyddion cyfoes), Barn arlein (amrywiaeth o gyfranwyr ond rhy anaml) a BlogMenai (yn aml, ond un awdur yn unig). Mae gyda ni dewisiadau felly, does dim rhaid i ni ofyn Click on Saesneg i ddweud ein dweud. Mae Golwg360 yn gallu mynd am y goron yma, dylen nhw gopïo’r enghraifft Huffington Post – mae’r drysau yna ar agor. Mae pobol fel George Clooney yn cyfrannu achos maen nhw yn gwybod bod gyda nhw platfform. Efallai bydd y farn yn tynnu pobol i’r cynnwys arall.

Dadfwndelu a theledu

Mae rhai o bobol eisiau neidio off y clogwyn S4C i mewn i’r môr dadfwndelu. Ydyn nhw yn deall bod dadfwndelu yn golygu marwolaeth ar hyn o bryd? Amlblatfform yw’r “lle” mwyaf cystadleuol ERIOED. Mae diffyg straeon llwyddiannus ar hyn o bryd. (Gweler: Dafydd El a Mari Beynon Owen vs. Daniel J. Boorstin. Mae gyda Martin Owen yn WalesHome rhai o bwyntiau perthnasol ond mae’r prif bwynt – lladd S4C – yn hollol rong.) Strategaeth well am y byd amlblatfform yw llawer o brojectau bach ac arbrofol, adeiladu ein CV arlein fel cenedl/iaith, tyfu ein rhwydweithiau a rhannu tips am lwyddiant gyda’n gilydd.

Y Bydysawd – trafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu

Gofyn am help gyda phroject newydd o’r enw Y Bydysawd. Plis cer i ybydysawd.com a wedyn gadawa sylw ar erthygl. Dylai fe bod yn hawdd ond gofyn isod os ti eisiau help. Diolch.

Fel Google dw i heb wedi lansio’n swyddogol ond dw i’n profi gydag unrhyw un ar y we sydd eisiau helpu. Mae Google yn neidio o’r soffa ac yn dresio ar y ffordd i’r gig. Strategaeth dda.

Mae gyda fi lot o syniadau ond o’n i ddim eisiau atal profiad yn fyw gyda phobol yn fyw.

Y Bydysawd

Mwy o wybodaeth am Y Bydysawd.

Trafoda’r gwasanaeth ei hun ar unrhyw cofnod dan y categori Newyddion Y Bydysawd.

Syniad mapio am gyfres 100 Lle

DIWEDDARIAD 14/1/11: Eureka, mae Rhys Llwyd wedi dechrau 100lle.net. Ardderchog! Croeso i ti gadael sylw a chynnig help isod. (Gwers: rhanna dy syniadau cyn iddynt marw.)

S4C 100 Lle Aled Samuel Dr John DaviesEdrych ymlaen i’r gyfres 100 Lle ar S4C gydag Aled Samuel a’r hanesydd John Davies. Cofnod sydyn. Dylai (DYLAI!) rhyw fath o fap yn bodoli gyda’r llefydd gwahanol. Mae’r crynodeb y gyfres yn sgrechian “MAP ARLEIN!”.

Beth am:

  • map o Gymru fel canllaw i’r llefydd yn y gyfres
  • dolenni i Wicipedia, rhaglennu ar Clic, efallai cyfeiriadau i’r llyfr gan John Davies a Marian Delyth

Nodweddion bonws:

  • gaf i farcio’r llefydd dw i’n nabod, lle dw i wedi ymweld? Rhyw fath o “leaderboard”/gêm?
  • efallai rhannu straeon/profiadau (gweler hefyd map i’ch Pen-y-bont fel rhan o’n gwaith gyda National Theatre Wales a Sherman Cymru)
  • efallai rhannu lluniau a fideos
  • ffyrdd amgen o gyflwyniad/ffiltro, e.e. chwilio, llinell amser am yr hanes

Ond croeso i unrhyw un wneud y syniad gyda Google Maps, OpenStreetMap neu debyg. Efallai gwnaf i helpu ond sa’ i eisiau bod yn gyfrifol amdano fe dro yma. (Ar hyn o bryd dw i’n rhoi mwy o bwyslais ar waith i fy nghwsmeriaid yn hytrach na projectau arbrofol.)

Pwynt dw i eisiau archwilio heddiw yw, dyw “amlblatfform” ddim yn golygu dim ond Teledu Ar Y We. Mae’n naturiol i feddwl am y rhaglennu cyntaf (cofia’r dramâu teledu gynnar – fel theatr arferol ond gyda chamera). Ond mae arlein yn dod gyda chyfleoedd newydd i ddweud straeon, fel gwrthran am gyfres teledu. Neu vice-versa? (Neu ymchwilio straeon, fel PenTalarPedia.)

Gwnaf i gadw’r sylwadau ar agor am ddolenni ayyb.