Dechreuais i wylio S4C yn y flwyddyn 2007. O’n i’n ymwybodol o’i fodolaeth cyn hynny ond doedd neb wedi sôn wrthaf i am unrhyw raglen benodol o ddiddordeb. Gallwn i wedi enwi Pobol Y Cwm wrth gwrs ond bron dim rhaglen arall.
Gofynodd ffrind os oeddwn i’n ymwybodol bod band yn chwarae ar raglen Bandit ar y pryd ac y dylwn i diwnio mewn. Felly dyna beth wnes i.
Yn y flwyddyn honno ac yn gynyddol iawn wedyn o’n i’n diolchgar iawn am gael sianel uniaith Gymraeg. Dw i’n cofio darllen is-deitlau ar y pryd hefyd – yn Gymraeg.
Byddai hi’n WYCH pe tasai mwy o bobl yng Nghymru yn dechrau mwynhau rhaglenni S4C.
Dw i’n eithaf siŵr y byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n cwyno am is-deitlau gorfodol yn Saesneg ar S4C yr wythnos hon dal eisiau gweld MWY o wylwyr i’r sianel.
Mae sawl ffordd o wynebu’r her. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru; dylai’r sianel fod yn perthyn i bawb yng Nghymru – heb dorri’r egwyddor bwysig yn y ddeddf wreiddiol o gael gofod cyfrwng Cymraeg. (Gweler hefyd: Radio Cymru, ’Steddfod, Pantycelyn, ysgolion)
Mae’r is-deitlau gorfodol YN ymyrryd ar y profiad o wylio rhaglen teledu, teimlad a ddaeth i’r amlwg pan oedd ’na is-deitlau Saesneg gorfodol ar raglen Super Furry Animals y llynedd.
Dyma gyfres o feddyliau a syniadau am yr her o denu mwy o wylwyr.
-
- Ar ba ymchwil marchnad mae’r penderfyniad o orfodi is-deitlau ar bob gwyliwr yn seiliedig? Ble mae’r ddata? Ydy’r syniad yn dod yn syth o’r hafaliadau di-sail “Cymraeg = caeëdig/mewnblyg” ac “is-deitlau gorfodol yn Saesneg = croesawgar”? Y newyddion yw, mae modd bod yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn Gymraeg ar yr un pryd. O safbwynt marchnata mae’r Seisnigo graddol yn tanseilio ‘USP’ y sianel, dyna’r pryder yn yr hir dymor. Mae eisiau seilio penderfyniadau o’r fath ar DDATA: ymchwil marchnad cynhwysfawr.
- Nid data oedd fy stori uchod ond profiad unigolyn ac mae pob profiad yn wahanol. Ond mae ’na rhywbeth yn y syniad o hyrwyddo rhaglen benodol i grŵp/cymuned yn hytrach na jyst hyrwyddo’r sianel. Un rhaglen yw’r ‘gateway drug’ i’r sianel. Yn fy achos i, Bandit oedd y rhaglen gyntaf.
- Enghraifft: faint o aelodau o grwpiau ymgyrchu, hanes ac ati yn ymwybodol bod ’na rhaglen hynod ddiddorol am Philip Jones Griffiths a’r rhyfel Americanaidd yn Fietnam ar Clic, iPlayer, ac ati? Mae eisiau cysylltu gyda phob un ohonyn nhw, â’r grwpiau sy’n licio ffotograffiaeth.
- O’n i’n bwriadu dweud YouTube yna ond does DIM BYD O GWBL yna pan dw i’n chwilio am ‘philip jones griffiths s4c’. Mae modd gweld Michael Palin yn Fietnam yn Saesneg ond dim Philip Jones Griffiths yn Gymraeg. Dim ond un enghraifft ydy hynny. Dosbarthiad yw’r peth. Ac mae eisiau cynnwys a chlipiau go iawn nid treilars plîs.
- Yn ôl Ian Jones,
‘Y prif reswm pam nad yw pobl yn gwylio S4C yw oherwydd diffyg “hyder yn eu hiaith neu am nad ydyn nhw’n gallu deall Cymraeg o gwbl”‘.
Dw i’n credu bod camddealltwriaeth wedi bod o ran pam nad yw pobl yn tiwnio mewn neu’n glicio. Sa i’n dychmygu unrhyw un yn dweud ‘wel hoffwn i wylio Ochr 1 achos mae’r bandie yn wych ac mae Griff Lynch mor olygus, mae Newyddion 9 yn mynd i’r afael â materion cyfoes, roedd fy ffrind yn siarad am ei waith ar Heno neithiwr hefyd. Ond ti’n gwybod beth? Dw i jyst ddim yn hyderus yn Gymraeg felly wnai wylio rhyw raglen arall mewn iaith arall’. O safbwynt marchnata RHAGLENNI yw’r cyffur i’w gwerthu, nid sianel. Dwedwch wrth bobl am y RHAGLENNI penodol. Gosodwch y darged o roi tri theitl ym mhob brên yng Nghymru. A brên Ed Vaizey. Yn ogystal â Phobol y Cwm. - Beth am drefnu taith o ymddangosiadau ar draws Cymru, cynnig cyfleoedd i wylio pethau sy’n berthnasol neu o ddiddordeb arbennig i’r ardal? Dw i’n sôn am bentrefi yn ogystal â llefydd fel Chapter a Galeri. Wrth gwrs mae cost i’r math yma o waith. Gall leihau’r cost trwy anfon ffeil neu ddisc draw at rywun ym mhob cymuned; datganolwch y daith. Peidiwch ag anghofio nwyddau hefyd.
- Mae pobl ail iaith yn hanfodol yn y sgwrs yma. Mae eisiau ystyried y categori yna fel pobl gweithredol sy’n wneud prosiectau, ymgyrchoedd ac ati. Mae eisiau deall yn well sut mae’r sianel yn gallu arfogi nhw i ledaenu’r gair ymhlith ffrindiau ac ati. Dechreuwch gyda’r ‘dysgwyr y flwyddyn’ (er nad yw i’n hoff iawn o’r categorïau ‘dysgwyr’ a ’di-Gymraeg’).
- Mae lle i apiau sy’n debyg i Sibrwd a’r ail sgrin yma. Mae lot fawr o bethau cwl sy’n bosib gyda’r cyfryngau cymdeithasol, symudol ac ati.
- Mae angen meddwl am y ‘rhwydwaith cynnes’. Mae Elan Grug yn dweud:
“Ac S4C- be am y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd byth yn troi at y sianel? A digon o rheini yn aelwydydd uniaith? Pa ddathliad pum niwrnod sy’n cael ei baratoi ar eu cyfer nhw?” Dw i’n cytuno. Hefyd beth am y rhai sy’n gwylio un rhaglen yn unig? Am wn i does dim targedu ar sail diddordebau ar Clic. ‘Rydych chi wedi gwylio X, beth am wylio Y?’ Hefyd mae’r hen gerdyn hynafol statig yma yn ystod yr hysbysebion yn WASTRAFF o amser gwerthfawr tra bod treilars yn bodoli. Hefyd beth ddigwyddodd i’r cyfrif S4C Clic ar Twitter gyda dolenni i bob un rhaglen? Mae eisiau ail-ddechrau pethau fel hwnna. - Mae marchnata yn costio. Dw i’n pryderu am yr is-deitlau gorfodol oherwydd beth maen nhw yn awgrymu o ran costau. Ai nhw yw’r unig ymdrech sydd yn fforddiadwy erbyn hyn? Dyna pam mae angen i’r sianel ac Awdurdod fod yn gall ac yn gryf wrth ddelio gyda’r awdurdodau a llywodraethau er mwyn sicrhau’r cyllid digonol i redeg sianel deledu go iawn yn yr hir dymor.