Gutenberg, ti a fi

Mae Ifan Morgan Jones wedi sgwennu cofnod diddorol iawn, Harry Potter, eLyfrau a’r Gymraeg. Mae lot o bwyntiau dilys yna ond o’n i eisiau rhoi ffocws ar un peth yn unig:

Mae’r cyhoeddwr hefyd yn rheoli ansawdd llyfrau. Dydyn nhw ddim yn mynd i ryddhau unrhyw hen sothach, ac mae unrhyw un sy’n prynu llyfr yn mynd i wybod ei fod wedi ei olygu ac o safon digon da i’r wasg fynd i’r drafferth i’w gyhoeddi. Heb y ‘rheoli ansawdd’ yma fe allai unrhyw hen rwtsh gael ei gyhoeddi ar y we, y gwenith yn gymysg â’r us, ac fe fyddai darllenwyr yn llawer llai hyderus wrth dalu arian da i lawrlwytho llyfr.

Fel arfer rydyn ni’n clywed y math o bwynt hwn trwy berson gyda rhyw fath o statws, talent, enw da ac ati, sydd yn wir o ran Ifan. Nes i glywed rhywbeth tebyg mewn sgwrs yn ddiweddar gydag academydd Cymraeg flaenllaw.

Mewn geiriau eraill: ‘rydyn ni, yr elit, wedi bod yn penderfynu pa fath o stwff dylai pobol ddarllen. Ond nawr mae’r plebs fel chi wedi cyrraedd.’

Hoffwn i edrych at y 15fed ganrif am sbel. Pam lai, dyma fy mlog.

  • 1440
    Gutenberg, dyfeisio’r wasg yn yr Almaen
  • 1473
    Caxton, cyhoeddi y llyfr printiedig cyntaf yn Saesneg (The Recuyell of the Histories of Troy) o’i wasg yn Bruges
  • 1476
    Caxton, sydd wedi dechrau’r wasg cyntaf yn Lloegr,  cyhoeddi’r llyfr printiedig cyntaf (Canterbury Tales) o’r wasg brodorol yna
  • 1546
    llyfr printiedig cyntaf yn Gymraeg (Yn Y Lhyvyr Hwnn, pwy sy’n ‘berchen’ ar y lhyvyr nawr yw stori arall), roedd rhaid i John Price mynd i wasg yn Llundain

Roedd y wasg yn bwgwth mawr i’r systemau llyfrau ar y pryd. Dwedodd copïwyr pethau debyg iawn i’r pwynt uchod. Y canlyniad oedd P45 i’r mynachod a chopiwyr yn yr enghraifft ’na. Roedd rhaid iddyn nhw ffeindio rhywbeth arall i’w cyfrannu i ddiwylliant yn y pen draw.

Y cwestiwn mawr i fi yw, beth ataliodd y wasg Cymraeg cynnar? Pam roedd rhaid i Gymry aros tan y ganrif nesaf, 73 mlynedd wedyn, am y llyfr cyntaf printiedig yn Gymraeg? Yn 1546 roedd darllenwyr Saesneg yn disgwyl straeon, hanes, chwedlau, Beiblau, llyfrau am ffydd a chrefydd a mwy – pan roedd y wasg Cymraeg yn jyst dechrau cyhoeddi lhyvyr. Roedd darllenwyr yn gallu dechrau gofyn ‘why should the Saes have all the best books?’.

Dwy her o fy safbwynt i:

  1. diffyg mynediad – technoleg cyhoeddi a dosbarthu
  2. diffyg ewyllys

Ers canrifoedd mae’r dwy her yma wedi stopio llyfrau o bob math – cyn iddyn nhw cael eu cyhoeddi neu hyd yn oed cyn iddyn nhw cael eu sgwennu.

Achosion diffyg mynediad? Diffyg statws, dim lot o arian, rhwystrau ar y llwybrau i’r farchnad. Rydyn ni’n gallu ychwanegu llythrennedd hefyd – dim digon o ddarllenwyr, dim galw.

Nôl i hanes:

  • 1990
    Tim Berners-Lee, llwyddo gyda’i arbrawf newydd y we fyd-eang, sef system cyhoeddi a dosbarthu cynnwys, testun, fideo ac ati
  • 2011 –
    Yn dibynnu!

O ran ddigidol, mae technoleg cyhoeddi yn lot haws. Mae unrhyw pleb yn gallu cyhoeddi ac yn bod fel John Price a’i mega smash hit Yn Y Lhyvyr Hwnn. Elyfrau yw cyfrwng cyhoeddi arall gyda blogiau a gwefannau o bob math – ac wrth gwrs llyfrau papur, sef technoleg cyhoeddi sydd dal yn boblogaidd iawn. Mae dyfeisiau fel Kindle neu Nook (fy hoff hyd yn hyn ond mae’r dau gyda DRM yn anffodus) yn dod gyda’r addewid o arian i awduron. Does dim amau bydd rhaid i’r diwydiant cyhoeddi dechrau trio pethau gwahanol ac i newid rhywsut.

Felly yr unig her fydd pwynt 2, ewyllys a gweledigaeth.

Mae lot o ‘rwtsh’ dw i eisiau darllen. Allai rhywun sylweddoli fy galw fel darllenwr ac efallai cwsmer? Pump enghraifft.

Roedd pethau yn Gymraeg yn rwtsh neu amherthnasol neu bron anweledig i gyhoeddwyr fel Gutenburg a Caxton, wnaethon nhw ddim cyhoeddi unrhyw Cymraeg. Prin iawn ydyn ni’n gweld llyfrau Cymraeg o gyhoeddwyr tu allan i Gymru nawr.

Bydd mwy o bobol yn sgwennu pethau Cymraeg am ddiddordebau arbennig fel cerddoriaeth electronig neu meddalwedd rydd neu hanes teulu di-nod neu casgliad o gerddi gan bardd lleol ifanc.

Perthyn i ddiddordebau arbennig yw bynciau sensitif, dadleuol ayyb. Rwyt ti’n gallu bod yn rhydd o grantiau ac unrhyw dermau, amodau a disgwyliadau sydd gyda nhw.

Awduron anhysbys. Enghraifft random o’r we a phob lwc iddo fe a’i tri darllenwr: Simon Dyda. Mae rhai o awduron yn profi llwyddiant bach gyda hunan-gyhoeddi ac yn symud i gytundebau gyda chyhoeddwyr hwyrach. (Beth fydd wedi digwydd yn yr achos trist iawn John Kennedy Toole yn y cyd-destun newydd tybed?) Ond arian yw un amcan bosib yn unig.

Hyd yn oed mae hen lyfrau yn rwtsh i rywun, e.e. Afal Drwg Adda gan Caradog Prichard achos does neb wedi ei ail-gyhoeddi ar unrhyw fformat ers 1973. Efallai mae’r llyfr yn rwtsh – rydyn ni’n gallu penderfynu ar ôl i ni ddarllen, diolch.

Llun anochel:

Afal Drwg Adda gan Caradog Prichard

O’r diwedd rydyn ni’n datgysylltu ‘poblogrwydd’ ac ‘ansawdd’ sy’n potensial cyffrous dros ben.

Mae chwyldro cyhoeddi Cymraeg ar y gorwel, yn ôl y breuddwyd o leiaf, efallai dylen ni ddisgwyl mwy o bryder am ‘rwtsh’. Mae’n debyg i’r sylwadau Angharad Mair am Twitter (un person dylanwadol yn y cyfryngau vs pawb yn y cyfryngau). Mae’r pwynt am ansawdd yn debyg i’r obsesiwn gyda safon yr iAITH hefyd.

Yr haf hwn: fy lhyvyr nesaf.

Fel arfer rydyn ni’n clywed y math o bwynt hwn trwy berson gyda rhyw fath o statws neu dalent neu swydd. Nes i glywed rhywbeth tebyg mewn sgwrs yn ddiweddar gydag academydd Cymraeg flaenllaw ddienw. 

Oedran a thechnoleg

Pam ydy pobol yn cyfeirio at oedran yn aml iawn yn y cyd-destun technoleg a chyfryngau digidol?

Enghreifftiau o ddatganiadau sy’n blino fi:

‘Bydd y wefan yma yn gweithio yn iawn efo pobol ifanc ond fydd hen bobol ddim yn iwso fo’.

‘Iawn os ti eisiau defnyddio YouTube ond bydd yr hen bobol yn ddisgwyl rhywbeth arall fel DVD.’

‘Dylen ni penodi Gwilym am y busnes blogio ’ma yn y cwmni achos mae fe’n ifanc.’

‘Mae diddordeb mawr gyda fi yn y pwnc ond does dim gobaith o ran y system ’ma. Achos dw i’n hen.’

Dw i wedi sylwi’r agweddau yma yn aml iawn gyda phobol Cymraeg.

Siwr, rydyn ni’n gweld straeon am ddefnydd o’r teclyn newyddaf yn y wasg tu allan i Gymraeg o ran y ‘silver surfers’. Oh wow, mae hen bobol yn defnyddio e-bost (tua 1997-2000), blogio (tua 2002-2006), Twitter (tua 2010-2011) achos maen nhw eisiau cyfathrebu fel pobol eraill! QUELLE SURPRISE! (Gweler y darn am oedran yn y llyfr Cognitive Surplus gan Clay Shirky neu cofnod Suw).

Dw i ddim wedi gwneud unrhyw ymchwil go iawn ond dw i wedi clywed enghreifftiau o’r brawddegau uchod, yn Gymraeg yn enwedig, eithaf lot yn diweddar. Y gwir yw:

  1. Mae pobol sydd ddim yn gyffyrddus/hyderus gyda thechnoleg gallu bod yn ifanc.
  2. Ac mae pobol sydd yn gyffyrddus/hyderus gyda thechnoleg gallu bod yn ‘hen’ (beth bynnag ydy ‘hen’).
  3. Bydd pobol o bob math yn defnyddio pethau defnyddiol a diddorol os fydd gyda nhw cyfleoedd go iawn.
  4. Os rydyn ni – a’r wasg – yn tybio bod unrhyw grŵp neu demograffig yn geidwadol neu rhy araf neu tu hwnt i obaith, bydd rhai ohonyn nhw yn mabwysiadu’r ystrydeb i ryw raddau.

Rydyn ni’n cyfeirio at manteision pobol dros 50 oed neu 60 oed, sef profiad, straeon, weithiau doethineb. Dylen ni. Ond pa mor aml ydyn ni’n clywed am ymdrechion i ddysgu gyda’n gilydd – fel pobol o bob math gyda’n gilydd?

Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r parth cyhoeddus

Glyn Moody:

In other words, far from helping to make knowledge freely accessible to all and sundry, the British Library is actually enclosing the knowledge commons that rightfully belongs to humankind as a whole, by claiming a new copyright term for the digitised versions.

Mae’r stori yma yn fy atgoffa o bolisi digido Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

(Oeddet ti’n gwybod bod y delweddau o lawysgrif cyfraith Hywel Dda dan eu hawlfraint nhw? Doedd dim cysyniad o gyfraith hawlfraint yn ei gyfraith e…)

Dyma gyfle i fod yn arloesol – a gwell na’r Llyfrgell Brydeinig – rhyddha ein llyfrau yn ôl i’r parth cyhoeddus nawr gan gynnwys defnydd masnachol.

Fy hoff app.

Beth yw fy hoff app?

Ateb: y we fyd-eang.

Y we fyd-eang yw app. Pa fath o app? App aml-gyfrwng sy’n rhedeg ar y platfform digidol mwyaf yn y byd, sef y rhyngrwyd.

Rwyt ti’n gallu cael mynediad i’r we o gyfrifiaduron o bob math, ffonau symudol o bron bob math, tabledi ac ati. Rwyt ti’n gallu darllen, gwylio neu postio. Does neb yn berchen ar y we fyd-eang. Felly mae pawb – i ryw raddau – yn berchen arno fe.

Un nodwedd sy’n bwysig iawn ar y we ydy’r dolen.

Ddylen ni edrych at cyfleoedd i ddatblygu apps sy’n rhedeg ar blatfformau eraill? Er enghraifft ar iPhone, iPad, Android, Facebook, Twitter ac ati? Efallai dylen ni. Mae grŵp o bobol ar bob platfform yna. Ond, yn sicr, cyn i ti ystyried datblygu unrhyw app dylet ti ystyried defnydd o’r WE.

Chwilio am blatfform? Osgoi unrhyw beth secsi…

Dw i ddim yn proffwydo bywyd sefydlog i Tumblr fel platfform blog.

(Dw i’n meddwl am flogio bob dydd, yn arbennig achos rydyn ni’n casglu blogiau Cymraeg ar hyn o bryd ar Y Rhestr Hedyn.net fel archwiliad ac adnodd.)

Pam ydy pobol yn defnyddio Tumblr?

Wel mae’n hawdd. Mae’n gweithio heddiw.

Mae’n ffasiynol.

Mae’n secsi.

Fel unrhyw beth fel ’na bydd e’n mynd mas o steil rhywbryd yn y dyfodol. I fi mae’n teimlo fel ffad. Ateb blogio i’r hoola hoop.

Mae unrhyw beth yn gallu digwydd i blatfformau, mae’n dibynnu ar lot o bethau. Weithiau mae cwmniau cryf yn tynnu’r plwg achos mae gyda nhw rhywbeth “gwell”, e.e. mae Google Video yn dod i ben achos mae gyda nhw YouTube.

Ond fel arfer mae’n digwydd achos mae cwmnïau yn prynu cwmnïau bychain, am y talent neu adnoddau eraill yn unig weithiau, a chael gwared â rhai o’r gwasanaethau (Pownce) neu stopio ei datblygiad (FriendFeed). Weithiau mae diffyg datblygiad, defnyddwyr a chariad – fel Geocities, mae Yahoo yn anfon y peth, gyda dy waith yn dy iaith, i’r machlud haul. Dydyn ni’n methu dibynnu ar archifau neu Archive.org bob tro t’mod.

Neu wrth gwrs mae’r cwmnïau jyst yn dod i ben.

Mae Tumblr yn teimlo, i fi, fel rhywbeth o’r un fath. Dim ond teimlad sydd gyda fi. Bydd cwmni cyfryngau enfawr di-glem sydd eisiau pwyntiau cŵl yn ei brynu. Efallai MTV. Ie, MTV. (Rhagfynegiad! Y cwmni mawr tu ôl MTV fydd y cwmni i’w brynu. Yn 2013.)

Dw i wedi ei brofi a dyw e ddim yn ddibynadwy o ddydd i ddydd chwaith.

Yn diweddar mae un o’r blogwyr mwyaf cyson dw i’n dilyn wedi newid o WordPress i Tumblr, sef Morfablog. Mae rhai fel Guto Dafydd wedi dechrau postio pethau bychain ar y platfform hefyd. Mae’n braf iawn i weld y blog arddechog Dyl Mei o’i chasgliad o gerddoriaeth hefyd. Ond efallai ddim ar Tumblr.

Bydd y stwff yna wythnos nesaf? Dw i’n meddwl. Beth am flwyddyn nesaf? Mae’n debyg. Ond blynyddoedd i ddod? Hmm.

Rydyn ni’n siarad am flogiau o ansawdd yma, nid jyst lluniau o sneakers, graffiti a phobol noeth fel lot o flogiau Tumblr eraill.

Mae hwn yn beryg i unrhyw blatfform dan gwmni, dyma pam dw i’n rhedeg y cod WordPress fy hun.

Ond i bobol sy’n chwilio am blatfform hawdd a chyflym fel arfer dw i’n awgrymu WordPress.com. Does dim byd rong gyda Blogger chwaith, mae pobol yn ei defnyddio a dyw e ddim yn cystadlu ar bortffolio Google gydag unrhyw beth arall (heblaw efallai Buzz ond ni’n saff yna). Yn hytrach na hipsters yn unig mae busnesu a hipsters yn defnyddio WordPress.com a Blogger, sydd yn beth positif. Dyna ni – platfformau gyda safety in numbers, solet, ac sydd ddim yn secsi o gwbl (dyna dy swydd di, nid y blatfform). Ar WordPress.com mae lot o’r defnyddwyr yn talu am y gwasanaeth, maen nhw yn gwsmeriaid go iawn.

Gobeithio fi’n hollol anghywir yma. Ond dw i ddim yn ymddiried Tumblr gyda fy ngwaith – neu fy iaith.

Blog barnau dyddiol, yr angen

Mae Click on Wales newydd ail-gyhoeddi naw (9!) adolygiad llyfr ar yr un pryd gan gynnwys erthygl gan Daniel G. Williams, sef adolygiad o Bydoedd gan Ned Thomas. Fel crynodeb Saesneg o’r dyn a’i gwaith a meddwl mae’n wych.

Dw i wastad yn meddwl am Click on Wales a beth fyddwn i wneud gyda fe petasai rywun yn gofyn. Eithaf lot. Yn amlwg un o amcanion nhw yw dylanwad a thwf yn y busnes, y tanc meddwl. Gallen nhw wneud lot mwy i dyfu’r gymuned/cynulleidfa o gwmpas y blog.

Mae IWA ac Agenda yn wneud cyfraniad i Gymru ac efallai Click on Wales yw’r blog gorau, mwyaf cyson, am wleidyddiaeth a materion Cymreig ar hyn o bryd – er bod gyda nhw un gwendid.

Stori. Dw i wedi cyfrannu i’r blog. Nes i gynnig rhywbeth yn y ddwy iaith – ond doeddwn nhw ddim eisiau cyhoeddi’r fersiwn Cymraeg. Pam? Bydd unrhyw ddefnydd o Gymraeg yn agor y drysau i ormod o ddisgwyliadau. Well i ni ganolbwyntio ar Saesneg pur achos does dim digon o adnoddau gyda ni i “gyfieithu”, cyhoeddi erthyglau yn Gymraeg a chefnogi’r alw yna. Dyna oedd y polisi, yn llythrennol, pan nes i ofyn. Cofia, mae digon o le ar y we – nes i anfon yr erthygl dwywaith, erthygl am ddigwyddiad Cymraeg, a nes i dreulio amser i gywiro’r gramadeg gyda siaradwr iaith gyntaf. Dw i dim ond yn gofyn am erthygl Cymraeg nawr ac eto. (Dyma’r fersiwn Cymraeg – aeth e i’r we yn y pen draw, ar y blog yma.)

Yr unig beth fi angen dweud yw: dw i wedi bod yn meddwl mwy am y syniad o flog barnau yn Gymraeg, dyddiol. Dw i eisiau ei weld mwy nag erioed. Materion cyfoes, gwleidyddiaeth, amgylchedd, sefydliadau, arbenigwyr gwahanol. Fel arfer ar-lein dw i’n creu’r pethau dw i eisiau gweld (neu allanoli fy nymuniadau ar broject rhywun arall…!). Ond mae’r syniad yma yn wahanol, bydd rhaid i mi ofyn am dy help.

Dylai’r fanteision y syniad yma bod yn hollol amlwg. Llifo sgwrs trwy’r iaith Gymraeg a mwynhau’r buddion unigryw. “Language is the endlessly evolving basis for human creativity and identity” yn ôl Ned Thomas (yn ôl Daniel G. Williams).

Os oes gydag unrhyw un diddordeb dw i wedi paratoi cynllun drafft, cynllun “busnes” i ryw raddau. Dw i wedi clywed sôn am rhwydwaith hysbysebu gan Golwg360, bydda i’n fodlon mewnosod widget hysbysebu ond beth fydd y termau?

Anodd i ddilyn barnau ar Golwg360

Dw i eisiau darllen mwy o farnau yn Gymraeg. Mae lot o bobol eraill eisiau hefyd.

Felly dyma neges agored i Golwg360.

Mae rhannu cymdeithasol yn bwysig, lot mwy na SEO weithiau. Ac mae pobol yn licio sylwadau, barn, pethau dadleuol ayyb.

Ar hyn o bryd mae gyda Golwg360:

Dw i ddim yn dilyn @golwg360, mae’r ffrwd yn ormod (i fi). Ar hyn o bryd mae cymysgiad o straeon golygyddol a chofnod neu dau. Ond mae’r cofnodion ar goll yn y ffrwd. Hoffwn i ddilyn rhwybeth fel @golwg360blog (blog yn unig, o’r ffrwd RSS). A rhywbeth fel @golwg360sylw (dolenni i sylwadau newydd) – neu yr un peth trwy ffrydiau RSS ar wahan.

Mae galw am ffrydiau – mae’r ystadegau ar @golwg360 yn eitha da. Rhwng 10 a 35 clic yn ôl bit.ly (ychwanega arwydd + i’r diwedd yr URL, e.e. i weld ystadegau http://bit.ly/jdDHRZ, cer i http://bit.ly/jdDHRZ+

Dw i’n postio’r peth yma achos fi’n ffan Golwg360 a hefyd achos dylai’r cyfryngau eraill meddwl am y cyfleoedd yma. Dylai’r cwmni rhedeg y cyfrifon. Dw i ddim eisiau creu rhywbeth fel @s4cclic bob tro (croeso iddyn nhw gofyn am y cyfrif unrhyw bryd).

Gweler hefyd: Crowdbooster (ystadegau manwl iawn), New York Times a Twitter a’r peth pwysicaf ar Facebook os ti’n postio newyddion fel cwmni/sefydliad.

Ein Caerdydd a blogiau lleol newydd ledled Cymru

Braf iawn i weld Ein Caerdydd gan Rhys Wynne (ac efallai cyfranwyr eraill?).

Trelluest, hwre!

Wrth gwrs mae lot o flogiau o Gaerdydd wedi bodoli am flynyddoedd (rhai ohonyn nhw ar Y Rhestr). Ond mae gwahaniaeth rhwng blog o Gaerdydd a blog lleol gyda ffocws ar Gaerdydd, yr ardal benodol, i bobol leol.

Mae pob blog yn dod o rywle. Ond gyda’r rhai sy’n delio gyda’r lleoliad fel y pwnc, ydyn ni’n gweld twf yn blogiau lleol o ardaloedd gwahanol o Gymru?

Mae Blog Dolgellau a BaeColwyn.com wedi bod yn tyfu yn ddiweddar hefyd.

Methu ffeindio blog lleol yn dy ardal o Gymru? Neu eisiau rhoi ffocws ar ardal penodol – dy bentref, dy maestref, dy stryd, dy ysgol. Does dim angen aros am gefnogaeth o unrhyw sefydliadau. Ti’n gallu dechrau heno. Darllena’r canllaw yma: sut i ddechrau blog lleol.

Gobeithio bydd pobol yn cyd-drefnu pethau gyda’r papurau bro hefyd.