Gwleidyddion, plant a’r iaith

Mae pobl yn anghofio sut mae’r byd yn edrych trwy lygaid ifanc. Mae plant yn sylwi ar bethau, maen nhw yn casglu data trwy’r amser sydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau.

Pan o’n i’n ifanc roedd rhaid i mi astudio lot o bynciau yn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gan gynnwys y Gymraeg. Ond, o’n i’n ddigon soffistigedig i weld sut oedd oedolion yn ystyried pynciau. Mae’r geiriau yn wahanol ym mhob ysgol ond mae themâu yn debyg. Dw i’n cofio’r geiriau’r athrawon yn fy ysgol i: ‘the core subjects are English, Maths and Science…’.

Dw i’n sgwennu’r cofnod blog yma i unrhyw oedolyn sydd eisiau meddwl am y pwnc, o unrhyw le ac unrhyw sefydliad.

Os wyt ti’n rhiant mae dy blant yn ddigon soffistigedig i weld sut wyt ti’n ystyried y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau tu hwnt i barthau fel y dosbarth a’r cartref. Maen nhw yn sylwi.

Os wyt ti’n athro neu wleidydd ac yn rhiant sydd ddim yn cymryd pob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod dy waith, pa fath o neges wyt ti’n anfon i dy blant? Dylen ni fel oedolion cymryd yr iaith o ddifri cyn i ni ddisgwyl ein plant ni feddwl yr un peth.

Cyfeiriadau gwe yn Gymraeg a rhyngwynebau dwyieithog

Atgoffodd sylw ar Golwg360 fi o’r strwythur cyfeiriadau gwe ar wefannau yng Nghymru.

Gweler y gwahaniaeth rhwng yr enghreifftiau isod:

  1. http://www.assemblywales.org/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm
  2. http://www.assemblywales.org/cy/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm

Maen nhw dau yn mynd i fersiynau gwahanol o’r un dudalen. Yn fy marn i, mae’r datblygwyr wedi dewis yr opsiwn diog ar gyfer y system yma. Dw i wedi rhoi ffocws ar wefan y Cynulliad ond mae sawl enghraifft arall wrth gwrs.

Felly dyma rywbeth bach ond pwysig heddiw. Mae’n rhan o fy ngalwedigaeth i ddadansoddi pethau fel hyn!

Mae’r strwythur cyfeiriadau gwe (URLs) yn elfen bwysig o ryngwyneb y gwefan. Mae defnyddwyr yn darllen cyfeiriadau gwe. Maen nhw yn rhoi nhw mewn e-byst, cofnodion blog a sylwadau. Maen nhw yn golygu cyfeiriadau gwe yn aml er mwyn ffeindio stwff yn ôl ymchwil.

Mae’r system uchod yn tanseilio beth sydd yn unigryw am y dudalen Cymraeg. Dw i’n eithaf siŵr bydd y drefn yn cael effaith gwael ar chwilio trwy Google a pheiriannau chwilio eraill achos mae’r cyfeiriad i’r dudalen Saesneg yn edrych bron yn union fel yr un Gymraeg.

Hefyd mae cyfle coll i bwysleisio dwyieithrwydd y sefydliad. Ond mae hynny yn bwnc hollol wahanol… 🙁

Bil ieithoedd swyddogol: o #westernfail i fethiannau go iawn

Cofia #westernfail ym mis Mai? Roedd yr erthygl barn yn cyfeirio at bil ieithoedd swyddogol. Roedd cwynion gan gannoedd o bobl – yn y ddwy iaith. Wel, digwyddodd y bleidlais yn y Cynulliad ddoe.

Cyhoeddodd BBC Wales News erthygl Saesneg amdano fe, Language bill puts Welsh and English on equal footing, sydd yn waeth na’r erthygl barn gan Martin Shipton yn y Western Mail. Er roedd ei erthygl ar y dudalen blaen, roedd Shipton yn mynegi barn am y Gymraeg – ’na gyd. Ond mae BBC Wales News yn methu adrodd y gwirionedd, sef y ffaith roedd pryderon difrifol am degwch i’r Gymraeg ymhlith aelodau cynulliad o bob plaid ac ymgyrchwyr am y bil. Mae’r stori BBC yn edrych fel y datganiad i’r wasg Saesneg, puff piece, heb unrhyw dadansoddiad. Dyma pam mae’r erthygl BBC yn methiant ac yn waeth na #westernfail wythnos yma.

Daeth y cwynion #westernfail o du hwnt i siaradwyr Cymraeg – ond ddoe roedd methiant y gwelliannau yn mater i ddarllenwyr Cymraeg o’r BBC yn unig. Mae’r stori yn Golwg360 yn haeddu sylw hefyd wrth gwrs. (DIWEDDARIAD: Gyda llaw mae BBC bellach wedi ychwanegu ychydig bach i’r stori Saesneg am bryderon ymgyrchwyr.)

Mae dwy ochr i’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’. Ar y wyneb mae’n bwysicach i wneud pethau yn hytrach na siarad. Beth am flaenoriaethau ein cynrychiolwyr a methiant yr ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb go iawn? Mae’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’ ar yr ochr arall yn darparu ffordd effeithiol i asesu sefyllfa democratiaeth yng Nghymru. Faint o bobl sydd yn ymwybodol o’r bleidlais? Ydyn ni’n rhoi ffocws ar y ’neud’ neu y ‘deud’? Efallai mae sensitifrwydd arbennig i eiriau yn ein cymeriad fel cenedl, dyma pam mae’r dyfyniad mor briodol. Roedd lot mwy o helynt am y ‘deud’ yn y Western Mail na’r methiannau go iawn ddoe. Dyna her i unrhyw un o blaid democratiaeth a thegwch yng Nghymru.

Lefi Gruffudd, Amazon a’r dewis amgen

Mae Lefi Gruffudd yn ddefnyddio ei golofn Western Fail heddiw i gwyno am Amazon – eto!

Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae’r Lolfa a chyfryngau Cymraeg wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r un darparwr e-lyfrau sawl gwaith. Gweler: sawl stori Golwg 360 ers 2011 a chofnod mis yma ar blog newydd Y Lolfa. Roedd erthygl yn gylchgrawn Lol eleni hefyd am Dafydd El a’i Kindle am ddim.

Mae’r dyfodol dosbarthiad e-lyfrau yn bwysig iawn i ddyfodol Cymru, gan gynnwys busnesau Cymraeg, addysg Cymraeg, diwylliant, democratiaeth a mwy. Mae’r rhyddid i ddosbarthu meddyliau yn y fantol hyd yn oed. Dyma pam dw i’n cytuno gyda lot o bwyntiau Lefi ar y cyfan. Rydyn ni wedi trafod pynciau tebyg wyneb i wyneb unwaith neu dwywaith. Ein casgliad, yn fras, oedd: mae Amazon yn mynd i ennill lot o’r farchnad e-lyfrau. Ond does dim eisiau helpu nhw.

Mae’r rhan fwyaf o’r erthygl heddiw yn siarad am Amazon gyda sôn bach ar y diwedd am opsiynau eraill, y Nook a’r Kobo. Byddai rhyw fath o ymgyrchu yn syniad da, gan gynnwys ymgyrchu yn erbyn Amazon. Ond Y Lolfa ydy cwmni – yn bennaf dw i eisiau gweld rhyw fath o ymgyrch marchnata i awgrymu beth ddylen ni wneud fel darllenwyr Cymraeg y Nadolig yma. Dyma beth sydd ar goll.

Does dim e-ddarllenydd gyda fi ar hyn o bryd. Dw i ddim yn erbyn y cysyniad o ddarllen e-lyfrau yn eu hanfod. Ond pob tro dw i’n ystyried y systemau tu ôl i e-lyfrau dw i’n dod yn ôl i brint. Mae’r sôn am gynnydd technolegol yn amherthnasol os fydda i’n colli’r rhyddid dw i’n cymryd yn ganiataol ar brint. Mae mwy o ryddid gyda llyfrau printiedig.
Pob tro mae rhywun yn prynu catalog, sori dyfais, Amazon maen nhw yn rhan o system Amazon. Darllena’r dudalen fer The Danger of E-books gan Richard Stallman – dadl glir iawn.

Yn ogystal â fy nghasgliad o lyfrau printiedig, dw i’n bwriadu prynu dyfais e-ddarllenydd rhywbryd. Mae pobl eraill yn yr un sefyllfa. Does dim clem gyda fi eto pa un i’w ddewis heblaw dw i’n sicr dw i ddim eisiau unrhyw beth Amazon.

Wel, pwy sydd yn mynd i werthu dyfais i fi? Tasai’r Lolfa neu unrhyw gyhoeddwr yng Nghymru, er enghraifft, yn argymell dyfais ‘Cyfeillgar i’r Gymraeg’ neu hyd yn oed cynnig dyfais ar werth byddwn i’n cymryd y cynnig o ddifrif. Dw i’n gallu dychmygu’r logo ar y sticeri nawr: Cyfeillgar i’r Gymraeg, y dewis amgen sydd angen. (Dw i wedi trafod cyfleoedd eraill i gyhoeddwyr.)

Mae’r cyhoeddwyr yng Nghymru, gyda help newyddion, blogiau a sefydliadau Cymraeg, mewn lle da i ddangos ‘ecosystem’ amgen i ni. Nook neu Kobo neu Sony? Neu rhywbeth arall?

Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg

Mae gymaint o flogiau Cymraeg am fwyd. Ond does dim llawer o fideos coginio.

Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio braidd ers fy fideo difrifol iawn am sut i greu bara garlleg. Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg. Bara brith falle?

Dw i eisiau dychmygu bod pobl eraill yn meddwl ‘byddwn i’n gallu creu rhywbeth lot gwell na hyn…’. Dyma fy strategaeth yn aml iawn – ysbrydoliaeth negyddol. Sa’ i’n meddwl bod e’n gweithio bob tro.

Wrth gwrs dw i’n ystyried ymdrechion gwirfoddol yn bennaf.

Pwll aur yn Rwmania

Wrthi’n gwrando ar sioe BBC Gwasanaeth y Byd am gynllun i adeiladu’r pwll aur mwyaf yn Ewrop yn Rwmania. Bydd MP3 ar gael cyn hir. Os oes rhywbeth mae Gwasanaeth y Byd yn licio maen nhw yn joio siarad am broblemau tramor.

Mae’r stori yn debyg i ambell i gynllun datblygiad yng Nghymru. Wel, mae tebygrwydd.