Rhestrau Twitter, amlieithrwydd a fy ymgyrch anweledig

Hwn yw ateb i Sion Jobbins, dw i wedi ei bostio yn agored yn hytrach nag ebost preifat.

Postiodd Sion:

Cer i’r wefan Blog Golwg360 i weld e (ar enw parth gwahanol i’r prif wefan Golwg360 am ryw reswm). Wnes i ddarganfod fod nhw yn defnyddio fy rhestr Twitter o’r enw Cymraeg.

Cer i’r cod HTML a ti’n gallu gweld fy enw yna… Dw i’n rheoli’r rhestr. Mewn theori dw i’n gallu hysbysebu ar Golwg360 am ddim os dw i eisiau(!) Efallai dylen nhw greu rhestr eu hun. Neu (gwell) ffeindio ffordd wahanol, e.e. defnyddio ffrwd o ffefrynnau i reoli’r cynnwys.

Problem yw, mae fy mwriadau yn wahanol i fwriadau Golwg360.

Y newyddion da yw, roedd rhaid i mi greu ail restr o’r enw Cymraeg2 ac mae hon wedi bwrw’r terfyn o 500 aelod. Felly y cyfanswm siaradwyr Cymraeg ar Twitter (gyda chyfrifon agored) wedi pasio 1000 yn ddiweddar.

Beth yw’r diffiniad “siaradwyr Cymraeg”? Cwestiwn anghywir. Beth yw FY niffiniad gan greu rhestrau? Gan greu’r rhestr o’n i eisiau “hyrwyddo” defydd o Gymraeg ar Twitter. Felly dw i wedi bod yn ychwanegu defnyddwyr dwyieithog, dysgwyr, mabwysiadwyr, pobol sy’n uniaith Saesneg ar Twitter ond yn gallu siarad Cymraeg. Sef, y spectrum llawn achos medr != defnydd. Yn aml iawn, Cymraeg neu Cymraeg2 yw’r rhestr gyntaf i “groesawi” defnyddwyr Twitter hollol newydd sbon. (Dw i’n defnyddio chwilio a dw i’n ffeindio tweets gyda chyfeiriadau i bobol newydd, e.e. “croeso fy ffrind @gwalchmai!” neu beth bynnag.)

Y negeseuon i aelodau newydd yw: ti’n rhan o’r clwb, croeso i ti defnyddio Cymraeg ar Twitter, gyda llaw dyma bobol eraill. Mae gen ti ddewis!

Casglu oedd fy thema pan wnes i ddechrau’r rhestr Cymraeg. Weithiau does dim digon o gyfleoedd, hyder, neu cysylltiadau gyda’r “cymuned” gyda phobol. Dw i’n methu siarad o ran pobol tu ôl rhestrau eraill o siaradwyr Cymraeg.

Dyw’r rhestrau ddim yn ddigon unieithog am unrhywbeth fel y defydd cyhoeddus gan Golwg360.

Bydd platfformau cynnwys yn adlewyrchi dwyieithogrwydd o unigolion, e.e. fy nefnydd ar fy nghyfrif personol.

Ond ar yr un pryd dw i’n meddwl bod cyfrifon uniaith Cymraeg yn bwysig. Enghreifftiau: @haciaith, @ytwll, @shwmae. Mae’n golygu ymdrech, gofal gyda retweets ayyb.

Hoffwn i archwilio’r shifft ieithyddol, diglossia ac effeithiau ieithyddol eraill ar gyfryngau cymdeithasol mwy. Paid ag anghofio gwasanaethau fel Quora gyda pholisïau yn erbyn amlieithrwydd hefyd.

Dafydd Elis-Thomas vs. Teledu amlblatfform

Dw i wedi bod yn meddwl am “amlblatfform” yn y cyd-destun S4C. Mae pobol yn y diwydiant teledu yn defnyddio’r term trwy’r amser. Pa fath o amlblatfform teledu ydyn ni eisiau am bobol yng Nghymru a’r iaith Gymraeg?

Dw i’n bwriadu archwilio’r term, chwilio am gyfleoedd ac efallai dysgu rhywbeth. Hoffwn i colli’r cysylltnod a felly didswyddo’r dirgelwch ychydig. Gweler fy nghofnodion eraill am amlblatfform.

Yn cofnod diwethaf Click on Wales, Cultural revolution will not be televised, mae Mari Beynon Owen yn ailadrodd rhywbeth sydd wedi poeni fi yn 2010.

(Dyw fersiwn Gymraeg o’r erthygl ddim ar gael yn anffodus. Dw i wedi meddwl amdano fe a does dim problem gyda fi yn cofnodion am S4C yn Saesneg neu unrhyw iaith arall. Ond hoffwn i weld mwy o’r sgwrs am S4C yn yr iaith Gymraeg. Mae’n teimlo fel cyfle ar goll. Dylai sgyrsiau perthnasol llifo trwy’r iaith. Mae’n priodol. Os dyn ni’n difrifol am arlein ac amlblatfform yn yr iaith Gymraeg, dylen ni dechrau yn 2011.)

Gwnaf i ddefnyddio dyfyniad gwreiddiol.

If we were setting out today to create and define a new cultural and media agenda, would we go about establishing a television channel? I suggest we wouldn’t.

One could argue that the concept of a core audience whose loyalty to the ‘brand’ overrides the remote is no longer valid for any broadcaster. Laptops, mobile phones, i-apps now deliver to us a multiplicity of information, entertainment and realities. The active user demands interactive pleasure from several different sources.

If we were creating a new media and cultural agenda today what would be required? The new media service would in all probability provide a platform on which several different content providers could be positioned, supplying content blocks which would be programmed by genre. These would include lifestyle, drama, arts, sports, but also social networks, online communities, access, support and streaming services, as well as national and local news channels. This is what I mean by multi-vision rather than television…

Am y tro anghofia’r amrywiaeth o wasanaethau (“streaming services”), platfformau (“national and local news channels”), dyfeisiau (“mobile phones”), genres cynnwys (“drama, arts”).

Dylen ni bod yn ofalus yma. Dyw technoleg newydd ddim yn disodli’r dechnoleg gynt.

(Dw i ddim yn siŵr iawn am y teitl “cultural revolution” chwaith, mae’n atgoffa fi o addewidion ac addunedau gwag yn hanes Tsieina.)

Mae Dafydd Elis Thomas wedi bod yn chwarae gyda syniadau debyg yn diwethaf.

“Everything has to be up for grabs. I don’t see any point in protecting the name or the brand of S4C.

“The idea that our priority should be to save a television channel appears to me to be bizarre because what we want to be looking for is as much Welsh language content with sufficient choice across as many platforms as possible. Obviously, it is a help if there is an identifiable place where some of this can be found.

“Now, I’m not sure a whether a broadcast channel run by an authority should be the repository of that; in fact, I don’t think it should be because we are well beyond that.”

Efallai mae’r dau ohonyn nhw yn euog o’r Displacive Fallacy. Geiriau gan Daniel J. Boorstin, llyfrgellydd a meddyliwr:

… we must be wary of falling into a common fallacy in the interpretation of history. This is what I call the Displacive Fallacy.

We are tempted to think – and this may be due in part to our excessive faith in technology – that, just as a victorious army defeats its enemies, so the new technology conquers the old technology. It is easy to find examples of mistaken prophecies based on the Displacive Fallacy. For example, there were confident predictions that the telephone would abolish the mail. There were firm predictions that the radio would make the telephone obsolete. That the phonograph would be the end of live concerts. That television would be the end of radio. Then, of course, that television would abolish the book. And now, that the computer will displace humankind.

All these predictions were based on a misconception. Shall we say a teleological misconception? A misconception about the purpose or end for which people invent technology and develop their institutions. It is a misconception which is quite un-American. For it rests on the notion that technology is simply a way to satisfy fixed needs. If you satisfy the needs in one way, then you won’t have to satisfy them in another way. The history of technology and of institutions is not, however, the story of “instead.” It is the story of “also.”

Pa grwpiau eraill yn galw am farwolaeth y brif sianel am ryw fath o weledigaeth technoleg gyffrous? Ydy CNN neu Al Jazeera yn mynd arlein yn unig? Beth am sianeli BBC? Gadawa sylw os ti’n ffeindio enghraifft.

O’r dyfyniad Elis-Thomas dw i ddim yn hoffi “across as many platforms as possible” chwaith. Heblaw “platfformau pobol” (e.e. BitTorrent), pam? Pam fasen ni ddim yn dewis y platfformau mwyaf priodol am ein pwrpasau?

Chwaraeodd Elis-Thomas rhan fawr yn farwolaeth “platfform” Cymraeg arall yn 2010, Y Cofnod gydag addewid o “dechnoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar” – rhyw fath o iawndal amwys yn rhyw dyfodol amhendant.

Nawr mae fe eisiau cael gwared o’r unig sianel teledu Cymraeg yn y byd. Dyw hwn ddim yn swnio fel amlblatfform go iawn i fi.

Holi am y Drwydded Llywodraeth Agored yn y DU

Swyddfa Tramor a thrwyddedu

Un enghraifft o ddatganiad gan adran Llywodraeth dan y drwydded agored newydd gan Lywodraeth DU. Newyddion da am lawer o resymau.

Pam greodd Llywodraeth DU trwydded newydd? Dw i’n methu ffeindio rheswm digon da i osgoi Comins Creadigol am ddata a dogfennau.

O’r tudalen am meddalwedd:

  • Software which is the original work of public sector employees should use a default licence. The default licence recommended is the Open Government Licence.
  • Software developed by public sector employees from open source software may be released under a licence consistent with the open source software.

Meddalwedd, dogfennau, beth yw’r gwahaniaeth? LLAWER! Dw i ddim yn deall pam dyn nhw ddim yn defnyddio GPL neu BSD am feddalwedd newydd.

Mae’r trwyddedau BSD yn fwy rhydd na GPL ond maen nhw dal yn gweithio gyda’i gilydd. (Dyna pam mae Apple yn gallu defnyddio systemau Unix fel sylfaen a dosbarthu – heb ddosbarthu cod ffynhonnell.)

Fy mhwynt. Dylet ti ddarllen pa mor dda a chynhwysfawr ydy’r GPL: termau ac amodau am ailddefnydd, cod ffynhonnell, cod crynodol, ategion ayyb.

Dyn ni’n gallu cyd-ddefnyddio’r dogfennau dan y Drwydded a dogfennau dan Gomins Creadigol. Ond ble mae’r addewid gyda meddalwedd?

Mae meddalwedd yn edrych fel ôl-ystyriaeth yma.

Sa’ i eisiau cwyno am y syniad, mae’n wych. Bydd e’n gyffrous i weld y projectau, busnesau newydd, straeon sy’n dadansoddi’r data yn y wasg, atebolrwydd gwell ayyb.

Sa’ i eisiau fersiwn Cymraeg o’r drwydded, dw i’n chwilio am resymau pam mae trwydded newydd yn bodoli o gwbl. Gobeithio mae gyda nhw rhesymau da nid jyst trwydded ego.

Joi Ito a thrwyddedau gwahanol:

Companies and governments are beginning to create vanity licenses either for purely branding and egotistical reasons or because there are certain features that they would like to “tweak”. What many of these communities don’t understand is that tweaking a free content license is a lot like tweaking character codes or the Internet protocol. While you may have some satisfaction of a minor feature or a feeling of ownership, you will introduce the friction of yet another license that we all have to understand and in many cases, fundamental incompatibility and lack of interoperability.

Cwestiwn olaf: pryd fydd Llywodraeth Cymru yn wneud rhywbeth tebyg?

YCHWANEGOL 05/10/2010:

Dw i wedi derbyn atebion i rai o fy nghwestiynau am destun/data a meddalwedd. Dw i wedi dysgu rhywbeth am ddata a thestun, mae’n edrych yn dda iawn.

Anghofiais i bwynt dilys ar yr ochr meddalwedd, ti’n methu ail-trwyddedu cod sydd dan GPL dan unrhyw drwydded arall. Mae ailddefnydd o feddalwedd yn gyffredin iawn – mewn rhai o gyd-destunau mae GPL yn de facto yn ymarferol.

Mae pobol yn trafod OGL yn y cyd-destun meddalwedd ar y gofrestr UK Government Data Developers fan hyn. Mae National Archives dal ar agor am adborth.

YCHWANEGOL 14/10/2010:

Newydd sylwi ateb am copyleft, GPL a meddalwedd.

4 categori o wefannau a blogiau yn Gymraeg

Mae lot o bobol yn gyffrous am y real-time web ar hyn o bryd.

Digon iawn. Ond hefyd mae gyda fi diddordeb yn y we BARHAUS. Yn enwedig y we Gymraeg.

Dw i wedi bod yn darllen trwy Maes-E, Morfablog, Gwenu Dan Fysiau, Daflog ac archifau o flogiau a gwefannau clasur eraill. Gwnaf i fwrw’r gwaelod cyn bo hir.

Dw i wedi ffeindio pedwar categori o wefannau ar fy siwrnai ar y ffordd. Sgen i’m bwriad bod yn sarhaus. Eisiau trafod y we barhaus.

1. “Dyma’r Ffordd i Fyw”
Blogiau a gwefannau sydd dal yn joio cofnodion newydd a diweddariadau. Dw i’n darllen nhw mewn Google Reader neu ddilyn dolenni ar Twitter. Mae’n hawsa i ffeindio nhw na gwefannau yn y categorïau isod. Dw i’n rhedeg gwefannau yn y categori hwn (Hacio’r Iaith, Y Twll, PenTalarPedia a Hedyn). Fel teclyn mae Blogiadur dal yn eitha da am ffeindio cofnodion dw i wedi colli ar y tro cyntaf.

2. “Sdim Eisiau Esgus”
Mae hwn yn grŵp mawr iawn. Dal yn fyw ar y we ond dyn nhw ddim yn cael eu diweddaru. Blog Gareth Potter yw enghraifft. Maen nhw yn “cysgu” mewn ffordd i’w blogwyr. Ond dyn ni’n gallu anghofio’r fantais o’r gwefannau yma – maen nhw yn fyw i’r darllenwyr. Felly dyn ni ddim eisiau esgus, mae’n iawn, ond paid colli dy hen blog! Dw i’n gallu gweld cyfleoedd i greu ffilteri e.e. teclynnau chwilio sy’n gynnwys y categori hwn (Google Custom Search a mwy). Dyna pam dw i eisiau casglu nhw ar Hedyn. Beth yw’r gwersi? Ystadegau hefyd. Pa fath o dyfiant ydyn ni wedi gweld? Faint o flogwyr sy wedi gadael blogiau nhw i gysgu? Syniadau am projectau ymchwil.

3. “Byw Ar Y Briwsion”
Weithiau dyw pobol ddim yn adnewyddu eu enwau parth neu gwesteia. Felly dyn ni’n colli eu gwefannau. Pwy sy’n cofio Dim Cwsg, fforwm cymuned am godi plant? Dw i ddim angen y wybodaeth nawr – ond beth am y dyfodol? Beth ddigwyddodd gyda’r wefan Adam Price eleni? Dw i’n siomedig iawn os dw i’n ffeindio sôn am rywbeth ac wedyn dyw e ddim yn bodoli. Diolch byth am Archive.org – ond dyw e ddim yn gallu cadw popeth, jyst briwsion weithiau. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw archif eu hun yn ôl pob sôn – chwarae teg – ond ble mae e? (Mae unrhyw un yn gallu copïo fy mlog am unrhyw archif. Os oes gyda ti diddordeb, dw i wedi rhoi caniatâd i bawb dan Creative Commons.)

4. “Hwyl Fawr Heulwen”
Y categori olaf yw blogiau sy ddim ar y we, ddim ar Archif, ddim yn unlle, jyst yn dev/null. Mae ddoe yn ddoe – yn anffodus. Mae pobol yn colli eu blogiau a gwefannau weithiau am lot o resymau. Neu trwy ddamwain, diffyg gofal, dileu, colli enwau parth, colli gwesteia, gwasanaethau drwg a theclynnau drwg maen nhw yn colli eu blogiau a gwefannau. Ond nid jyst nhw, dw i’n colli nhw, ti’n colli nhw a mae pawb sy’n chwilio am bethau Cymraeg yn colli nhw. Mae pob iaith yn colli blogiau. Baswn i ddim yn colli lot o gwsg am blogiau Saesneg achos mae’r iaith yn iawn. Ond yn Gymraeg mae’r sefyllfa yn ddifrifol. Wrth gwrs mae gyda unrhyw un yr hawl i ddileu ei blog hefyd. Ond mae fe dal yn siomedig.

Yr ail degawd

Mae’r cofnod yma gan Nic Dafis, Ebrill 2001 yn gategori 2 (mae fe’n blogio ar Morfablog nawr).

Dyn ni’n symud i’r ail ddegawd o flogiau Cymraeg ac eisiau datblygu “cymunedau arlein” a thrafodaeth ar y we. Sa’ i’n eisiau ailadrodd beth sy wedi digwydd yn barod. Dw i eisiau datblygu’r drafodaeth mewn ffordd gyda’r gwersi’r degawd cyntaf.

Wrth gwrs dyn ni eisiau ailymweld sgyrsiau ac erthyglau Cymraeg am wleidyddiaeth, cerddoriaeth, hanes, diwinyddiaeth, gwyddoniaeth a phob pwnc dan yr haul.

Er enghraifft, pan oedd Nic yn blogio am Maes-E mae fe wedi rhannu gwersi gyda ni yn y dyfodol am gymunedau a sgyrsiau ar y we.

(Gyda llaw, beth ddigwyddodd gyda’r archif Maes-E? Er enghraifft, dyw’r erthygl Tips ar neud Ffansin gan Mihangel Macintosh ddim ar gael trwy’r wefan – roedd rhaid i mi fynd i archive.org.) YCHWANEGOL: Ateb yn y sylwadau isod

Wrth gwrs dyw Facebook ddim yn helpu o gwbl gyda’r broblem cynnwys sy’n agored a pharhaus. Dyma pam dw i ddim yn licio Facebook llawer yn y cyd-destun hwn. Mae’n ddefnyddiol am lot o resymau wrth gwrs ond mae’n rhy breifat a rhy anodd i chwilio am bethau. Fel arfer mae’n well i blogio ar WordPress.com a rhannu dolenni ar Facebook neu gopïo’r testun i Facebook.

Mae Facebook yn cyflymu symudiad ieithyddol hefyd. Cofnod arall.

Bygythiadau

Bygythiad yw teclynnau sy’n byrhau URLs. Dw i ddim yn hoffi nhw o gwbl achos dw i eisiau URLs sy’n gweithio am flynyddoedd. Weithiau ar Twitter rhaid i mi defnyddio rhywbeth yn anffodus felly dw i’n dewis bit.ly achos mae’n poblogaidd o leia. Safety in numbers – gobeithio.

Ond mae pob gwasanaeth am ddim yn beryglus mewn ffordd, e.e. Geocities. Bydd lot o wasanaethau am ddim yn gorffen neu yn anfon ein gwaith i gategori 4. Bydd yn ofalus gyda dy waith caled.

Argyfwng cynnwys arlein yn Gymraeg? Hawlfraint a chaniatâd

Heno dw i’n meddwl am hawlfraint a’r iaith Gymraeg (eto).

Dw i’n meddwl am hen lyfrau a chynnwys arlein.

Stori gyntaf. Sgwennais i un o fy hoff gofnodion ym mis Mawrth 2010, Tafodieithoedd Melys (diolch blog Pethe am atgoffa fi, ti newydd wedi troi pingbacks ymlaen efallai).

Beth ddigwyddodd? Stori fer:

  • Gwelais i fap gwych o felysion yn y llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg (1989). Gwych!
  • Gwnes i ddangos y llyfr at un ffrind yn y llyfrgell. Mae hi’n hoffi awgrymiadau da.
  • Chwilio am gopi o’r llyfr arlein. Dim canlyniad. Hollol mas o brint. Grêt.
  • Rhaid i mi rannu’r map. Dylai’r byd weld y map yma.
  • Tuag wythnos hwyrach… Es i yn ôl i’r llyfrgell gyda gliniadur a sganiwr yn fy mhag.
  • Pum munud hwyrach… Mae gyda fi copi o’r tudalen a’r clawr, heb unrhyw drwydded swyddogol.

Ac wedyn gwnes i feddwl am y map eto. Dim ar gael. Ar goll – efallai am byth. Ond dw i’n gallu cadw’r map am blant, dysgwyr, academyddion, ieithyddion a chefnogwyr melysion ym mhob man! Mae’n rhy hawdd – trwy fy mlog.

Ond does dim caniatâd swyddogol gyda fi. Bydd yr awduron a phobol eraill yn anghytuno gyda fy nghofnod map? Ydy e’n fair dealing dan y gyfraith Cymru a Lloegr? Throw caution to the wind, meddyliais i.

Bydd fydd yn digwydd? Efallai llythyr cease and desist? Beth yw cease and desist yn Gymraeg beth bynnag? Yn fy marn i, efallai mae cease and desist yn golygu ein hiaith arlein hefyd. Dyma’r dewisiad tro ’ma. Dw i ddim yn poeni gormod am y perygl cyfreithiol achos dw i’n gallu tynnu unrhyw beth lawr yn syth yn y dyfodol.

Os wyt ti eisiau gwybod beth ddigwyddodd…

Digwyddodd dim byd heblaw sylw neis gan un o’r awduron gwreiddiol!

Rhyw fath o ganiatâd?

(Gyda llaw, dyw’r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg ddim ar gael ar y wefan Casgliad y Werin – eto.)

Mae Lawrence Lessig wedi sgwennu llawer am hawlfraint yn yr oes arlein – yn y cyd-destun Saesneg yn enwedig. Ond mae’r sefyllfa Cymraeg yn eitha gwahanol. Dyn ni’n siarad am argyfwng yma. Ydw i’n rhy gynnar i ddefnyddio’r gair argyfwng? Nac ydw, mae’r iaith Gymraeg yn rhy wan arlein yn 2010.

Dyma un o’r heriau fawr i Gymraeg yn 2010.

Gyda llaw, i sôn am Lessig postiais i gofnod diwetha am Creative Commons. Ond dw i ddim wedi dod i siarad am Creative Commons tro ’ma.

Dyn ni angen rhyw fath o gyfraith arbennig am hawlfraint Cymraeg yn fy marn i.

Ond ddylen ni ddim yn aros. Fel un datrys i’r broblem cynnwys arlein (dim ond rhan o’r datrysiad), dyn ni’n gallu ail-cyhoeddi hen gynnwys.

Faint o lyfrau ydyn ni’n colli? Neu: faint o lyfrau ydyn ni’n gallu rhyddhau?

Cyfreithiwr dw i ddim.

Ond dw i’n gallu awgrymu ‘rheolau’ bosib am hen gynnwys a llyfrau. Beth wyt ti’n meddwl?

  1. Ydy e’n hen waith mas o hawlfraint, yn y parth cyhoeddus? Os ydy, ewch i bwynt 6 yn syth!
  2. Ydy’r awduron neu gwmni cyhoeddi dal yn marchnata’r gwaith? Ydy’r gwaith ar gael fel fersiwn digidol? Os ydy, stopiwch.
  3. Ydy e’n fas o brint (neu ddim ar gael) yn bendant? Os nac ydw, stopiwch.
  4. Gofynnwch am ganiatâd os mae’n bosib. Ymchwiliwch y credit os mae’n bosib.
  5. Pam dych chi eisiau ail-cyhoeddi e? Dych chi’n fasnachol o gwbl? Well i chi peidiwch. Mae’n gymhleth heb ganiatâd penodol.
  6. Ydy e’n bodoli arlein mewn ffurf dda yn barod? Os ydy, sgwennwch ddolenni iddo fe neu ail-cyhoeddwch / ail-gymysgwch. Os nac ydy…
  7. Rhannwch nawr! Byddwch yn moesgar – peidiwch anghofio’r credit. Mwynhewch!

Dw i’n gwybod am y gwaith Llyfrgell Genedlaethol a Chasgliad y Werin Cymru. Maen nhw wedi rhyddhau llawer o hen bethau yn Gymraeg. Dw i’n ddiolchgar ond dylem ni fynd ymhellach na hynny. Beth am gynnwys o’r ugeinfed ganrif? Beth yw dy hoff lyfrau mas o brint?

Y we, technoleg a meddalwedd yn Eisteddfod Glyn Ebwy 2010

Dyn ni wedi cyhoeddi lot o gofnodion am bethau technolegol yn Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy eleni. Ydyn ni wedi anghofio unrhyw beth? Gadawa sylw.

Yn anffodus, wnes i colli’r trafodaeth cyfryngau cymdeithasol yn y pabell Prifysgol Aberystwyth bore dydd Mawrth. (Annwyl pawb, gawn ni recordiad am unrhyw sesiwn trafodaeth technoleg yn y dyfodol os gwelwch yn dda? Dyn ni i gyd yn colli pethau trwy’r amser dw i’n gwybod ond mae Flipcam yn rhad iawn dyddiau yma a digon bach am dy boced…)

Hacio’r Iaith! Ces i amser da iawn eto gyda’r criw Hacio’r Iaith yn y dafarn The Picture House, Glyn Ebwy. Daeth yr usual suspects wrth gwrs ond oedd e’n casgliad unigryw ohonyn ni am y tro dw i’n meddwl.

Oedd e’n plesir i weld Telsa eto. Fydda i ddim yn enwi’r lleill ond dylet ti dod tro nesaf os oes gyda ti unrhyw diddordeb yn y we, blogio, technoleg a meddalwedd yn y Gymraeg – dyn ni’n croesawi unrhyw oed, unrhyw lliw, benywod a dynion. Neu trefna digwyddiad dy hun yn dy ardal (sut?).

Dyn ni’n cynllunio Hacio’r Iaith Mawr ar hyn o bryd (Aberystwyth ym mis Ionawr, mae’n debyg – fel eleni).

Yn Hacio’r Iaith, dyn ni’n trafod pynciau debyg bob tro, dyn ni rili angen “chwildro cynnwys” yn enwedig. Mae pob chwildro yn dechrau gyda hardcore o bobol, yr usual suspects, yn fy marn i. Dyn ni ddim yn disgwyl cwmniau cyfryngau mawr i wneud POPETH. Felly dyn ni dal yn meddwl am ffyrdd i annog a helpu pobol “normal” i lenwi’r we gyda Cymraeg, e.e. Pethau Bychain – diwrnod i bostio pethau Cymraeg (fideos, lluniau, testun, awdio) a dathlu Cymraeg arlein ar Ddydd Gwener 3ydd mis Medi 2010 (agor i bawb, mwy o fanylion ar y ffordd).

Wnaethon ni trafod lot o syniadau eraill cyffrous yn Hacio’r Iaith.

Dw i’n datblygu gwefan i drafod newyddion yn Gymraeg ar hyn o bryd. Mwy ar y ffordd…

Dw i rili eisiau gweld “Rheolwr S4C”, gem cyfrifiadur fel y gemau pel-droed e.e. Championship Manager

Arlein dyn ni’n casglu casglu casglu – felly paid a bod yn unig

Thema fi ar hyn o bryd yw “casglu”.

Casglu’r pethau bychain.

Mae nwdls yn casglu fideos gyda fideobobdydd.

Dw i’n casglu defnyddwyr Cymraeg ar Twitter ar fy cofrestrau. (Tua 609 person heddiw.)

Dyn ni’n casglu gwefannau, blogiau a theclynnau ar Hedyn.

Dyn ni’n casglu pobol a dealltwriaeth gyda Hacio’r Iaith – arlein ac yn y cigfyd.

Ro’n i’n hoffi Blogiadur. Dyn ni’n gallu deall pam casglodd Aran Jones blogiau gwahanol yna. (Ond mae’r wefan angen diweddariad gyda blogiau newydd.) Darllena’r papur “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” gan Daniel Cunliffe – dw i’n methu ffendio’r dolen heddiw.

Dyn ni eisiau ffeindio pobol a gwefannau sy’n bodoli yn barod a’u thynnu nhw at ei gilydd i fod mwy agos. Paid a bod yn unigrwydd. Ymuna’r parti!

Cydgrynhoad yw gair da arall.

Dw i’n gofyn am wasanaeth newydd i gasglu canlyniadau Cymraeg ar Google gyda’u gilydd. Gweler post diwetha (wrth gwrs bu farw’r Wenhwyseg achos caeth siaradwyr eu gwasgaru).

Mae’r we Gymraeg yn rhy frith.

Pwy sy eisiau ymuno’r Gymdeithas Yn Erbyn Entropi?

entropi

Llun gan ario_

YCHWANEGOL: Mae Rhys Wynne wedi postio dolen “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” yn y sylwadau isod. Cyfrannodd Courtenay Honeycutt i’r papur hefyd.

Chwilio Google, sillafu ac awgrymiadau awtomatig yn y Gymraeg (cyfle?)

Siomedig eto!

Ro’n i eisiau darllen rhywbeth am Wenhwyseg.

Wnes i trio “gwenhwysig” (dim ond 3 canlyniad Google). Hmm…

Ar ôl ychydig o waith, wnes i ffeindio’r sillafiad cywir “gwenhwyseg” (775 canlyniad Google).

Y “Wenhwyseg” hefyd. (3240 canlyniad Google)

Mae awgrymiadau awtomatig yn ddefnyddiol iawn yn Saesneg. Ond os ti’n chwilio am “Estury English” (sic), mae fe’n gallu deall dy air a trwsio dy gamsillafiad.

Dw i ddim yn sôn am yr eiriau yma yn enwedig. Dw i’n trio dychmygu’r we gorau am y Gymraeg. Dyn ni ddim wedi cyrraedd eto.

Mae Cysill yn gallu trwsio’r camsillafiadau. Ond faint o bobol/plant/dysgwyr fasai’n defnyddio fe cyn chwilio?

Dyw Google ddim yn adnabod geiriau Cymraeg. Dyw e ddim yn deall camsillafiadau. Dyw e ddim yn deall treigladau. Dyma pham dw i’n siomedig achos dw i eisiau teclynnau gwell.

Felly mae gyda fi awgrymiad agored am broject nesaf i’r dynion a benywod Cysill (neu unrhyw un)!

Does dim peiriant chwilio sy’n “deall” Cymraeg ar gael. Felly dw i’n eisiau Google + Cysill (neu rhywbeth debyg). Dw i eisiau defnyddio cragen Cymraeg ar Google. Mae’n bosib gyda Google Search API.

Does dim ots gyda fi os mae Google yn cynnig rhyngwyneb Cymraeg. OK da iawn mae rhyngwynebau yn neis ond mae lot mwy yn bosib na rhyngwynebau .

Dychmyga’r cyfle: cynulleidfa mawr am hysbysebion ayyb. Efallai dyn ni’n siarad am y brif wefan Cymraeg.

(Gyda llaw, eisiau gwrando ar enghraifft o Wenhwyseg? 0 canlyniad YouTube o gwbl.)