Roedd ymddangosiad llefarydd o fy hen ysgol ar Newyddion BBC (fideo) yn digon i fy sbarduno i ysgrifennu llythyr ati hi.
Rwy erioed wedi cwrdd â’r llefarydd, sydd yn pennaeth ieithoedd yr ysgol, o’r blaen.
Does dim rheswm i amau ei safon fel athro ond o’n i’n ceisio mynegi yn gwrtais bod Cymraeg fel pwnc ail iaith wedi methu.
7fed o Fai 2014
Annwyl Mrs Gwilliam
Rwyf newydd wylio eitem ar wefan Newyddion y BBC am addysg Gymraeg (http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/27251064). Siom fawr oedd clywed eich meddyliau, fel arweinydd yn y maes, am yr ymgyrch gyffrous i ddileu Cymraeg fel pwnc ail iaith tocenistaidd ac i addysgu pob plentyn yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn i ymateb i’ch pwyntiau yn yr eitem yn y llythyr hwn.
Mynychais i ysgolion cyfrwng Saesneg gan gynnwys gwersi Cymraeg gorfodol rhwng 1992 a 1995. Er bod athrawon Cymraeg galluog yn yr ysgol pryd hynny, roedd y diffyg statws cymharol i’r iaith yn tanseilio’r ymdrechion i drosglwyddo sgiliau sylfaenol na hyd yn oed unrhyw frwdfrydedd dros yr iaith i fyfyrwyr. Rwy’n cofio’n glir beth oedd blaenoriaethau’r ysgol: ‘The core subjects are Mathematics, Science – and English.’, geiriau sy’n adlewyrchu polisïau a oedd yn is-raddio’r Gymraeg yn gyson yn ein meddyliau ifanc ni – a gafodd effaith niweidiol ar ein barn tuag at yr iaith am flynyddoedd i ddod. Roedd agwedd y bobl ifanc yn adlewyrchu agwedd y system.
Er fy mod i’n cydnabod mai dim ond ychydig eiliadau sydd ar gael i wneud pwynt mewn rhaglen newyddion, rwy’n cymryd eich bod chi am barhau gyda rhyw fersiwn o’r status quo. Dyna sy’n fy mhryderu i am eich sylwadau: yr awgrym nad yw’r Gymraeg yn ddigon pwysig i fod yn gyfrwng i bawb yn y brifddinas a’i bod hi’n iawn os ydy plant yn gadael yr ysgol gyda dim byd mwy na ‘Tourist Welsh’ yn eu gwlad eu hunain. Gallwch ddychmygu pa mor hurt fyddai safbwynt tebyg mewn ysgolion mewn gwledydd fel yr Almaen neu Sweden, llefydd lle mae pob un dinesydd ifanc yn y brif ffrwd yn gadael ysgol gyda sgiliau yn y briod iaith.
Fe fydd gweledigaeth Cantonian o ran y Gymraeg wastad o ddiddordeb i mi achos dyna oedd fy ysgol uwchradd i. Er gwaethaf datganoli a newidiadau yn y maes addysg ers 21 mlynedd does dim llawer i’w weld wedi newid ers fy amser i.
Yn amlwg, rwyf wedi bod ar daith ddiddorol yn y cyfamser ac wedi bod yn ffodus i ddarganfod yr iaith drwy gerddoriaeth, ffrindiau a gwersi i oedolion a ddechreuwyd yn 2007. Wrth glywed fy stori i mae llawer o bobl heb ruglder yn y Gymraeg yn dweud yn aml wrthaf i eu bod nhw’n awyddus i siarad yr iaith hefyd. Ond fyddan nhw ddim i gyd yn ffeindio’r amser, yr arian na’r cyfleoedd i ddysgu fel oedolion. Fe fydd llawer o fyfyrwyr Cantonian yn meddwl pethau tebyg ac mae hi’n bryd i’r ysgol ymateb heddiw i ddyheadau cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r ffaith bod y Gymraeg yn tyfu yng Nghaerdydd yn galonogol ac mae dalgylch Cantonian yn cynnwys Treganna, y ward gyda’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas yn ôl Cyfrifiad 2011. Yn ôl eich sylwadau chi, nid oes digon o Gymraeg i’w glywed yn y gymuned leol. Ond dydy hynny ddim yn rhwystro’r ysgolion yn yr ardal sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae angen cymryd camau uchelgeisiol. Gall Cantonian arwain yn y maes a datgan ei bod hi’n awyddus i geisio gweithio gyda’r cyrff perthnasol i ddatblygu ffyrdd arloesol o gyflwyno’r Gymraeg i bob myfyriwr. Gallech alw ar Gyngor Caerdydd i fuddsoddi yn deg mewn Cymraeg yn yr ardal trwy weithgareddau, gwasanaethau cyhoeddus ac ati er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned. Gallech ymchwilio a gweithredu ar ffyrdd o ddatblygu sgiliau iaith ymhlith yr athrawon.
Hoffwn i fentro argymell hefyd y dylech chi ystyried manteisio ar eich cyfle nesaf i siarad yn gyhoeddus am ddyfodol addysg Gymraeg i ddweud un peth cadarnhaol o leiaf, megis cydnabod yr awydd ac ewyllys i geisio canfod trefn well na’r un ddiffygol sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Yn gywir
Carl Morris
Fe fydd e’n cymryd mwy nag un athro i newid y drefn. Ond rwy’n meddwl bydd cefnogaeth athrawon yn hollbwysig yn yr ymgyrch yma, yn enwedig y rhai sy’n defnyddio eu dylanwad i ymateb i ymgynghoriadau ac ati.
Efallai dylai mwy o bobl ysgrifennu yn gwrtais at eu hysgolion. Pe taswn i’n athro byddwn i eisiau clywed wrth gyn-fyfyrwyr (dw i’n meddwl!) ac yn sicr y rhai presennol.
Mae mwy ar y blog am #AddysgGymraegIBawb a fy stori i.
Mae hi wedi bod yn dipyn o brofiad i ymweld â gwefan yr ysgol. Gyda llaw mae’r defnydd o Google Translate i ddarparu’r fersiwn Cymraeg yn cyfrif fel ‘trosedd’. Ond un brwydr ar y tro eh? 🙂
Llun o’r ysgol gan John Carter (CC BY-SA)