This post is written in Welsh and is about changes happening in Cardiff and Wales, where I live. The Google Translate version will give you the gist in English or another language of your choice. Incidentally the title means “Changes in Cardiff and Wales”. Each placename happens to have a Welsh mutation in the title. A mutation is a change to the first letter of a noun, which sometimes occurs. A lot of learners think it’s voodoo – until they learn the rules for it. It’s just part of the language.
Dw i erioed wedi nabod newidiadau fel hwn – tu fewn un mis – yn y ddinas.
Ddoe, es i i lansiadau rhaglen National Theatre Wales a man cyfarfod Cardiff Arts Institute ar yr un dydd. Mae dau prosiect yn cyffrous iawn.
Gobeithio dw i ddim yn swnio fel “dyddiadur cymdeithasol” yma, ha ha.
Beth bynnag, dw i dal yn DJo a mae’n braf i cael rhywle newydd i wneud e, Cardiff Arts Institute. Efallai mae nhw yn tyfu scenius yna. Dw i’n licio’r enw – does dim rhaid i ti gofyn unrhyw awdurdod i defnyddio enw fel “sefydliad” neu “institute” – pam lai?
Mae National Theatre Wales yn genedlaethol wrth gwrs. Cafodd e ei lansiad rhaglen yng Nghaerdydd a rhedeg swyddfa nhw yng Nghaerdydd. Mae gen i diddordeb yn ffyrdd i adeiladu prifddinas cryf a gwasanaethu’r gwlad cyfan. Dw i ddim yn siwr os mae “gwasanethu” yw gair cywir yma, dw i ddim yn rhugl eto! Ond mae pob gwlad llwyddiannus yn cael prifddinas cryf. Ond mae’n hawdd i dweud wrth gwrs achos dw i’n byw yn y prifddinas hon. Allwn i ddim yn sylwi popeth ym mhob man.
Sut allai prifddinas yn gwasanaethu’r gwlad cyfan? Fel Native, ro’n i’n cynghori’r cwmni am strategaeth arlein. Mae nhw eisiau agor broses i cwmniau a phobol eraill. Hefyd, mae nhw eisiau creu cyfleoedd newydd am artistiaid yng Nghymru cyfan. Os ti’n gallu ateb cwestiynau fel ’na, dylet ti ymweld ac ymuno’r cymuned a thrafod a blogio dy meddyliau yna. Neu dylet ti blogio dy meddyliau ar dy flog dy hun. Rwyt ti’n gallu dylanwadu.
Mae Chapter yn pwysig yn y golygfa “creadigol” yma hefyd. Mae nhw wedi ail-agor mis diwetha gyda safleoedd newydd a bar newydd. Dw i wastad yn nerfus am cynlluniau mawr. Ond nawr dw i’n hoffi’r adeilad newydd.
Cyn Nadolig, mae Canolfan Siopa Dewi Sant yw newid amlwg. Ro’n i’n meddwl am cystadleuaeth stare-out rhwng y Ganolfan a dirwasgiad.
Mae nhw wedi creu swyddi newydd yna siwr y fod. Mae digon o bobol yn hoffi’r canolfan hefyd. Ond dw i ddim yn teimlo fel rhan o’r pethau yn digwydd yna.
Beth oedd y dywediad Dewi Sant wreiddiol? “Gwnewch y pethau bychain”, dw i’n credu. Ond mae canolfan yn teimlo gwahanol iawn i’r dywediad y Sant. Mae canolfan yn llawn gyda brands mawr a dw i’n defnyddio gair Americaniad am rheswm.
Darllena Capital Times (Pravda Caerdydd? Ha ha.) Pam ydyn ni wastad yn siarad am cynlluniau MAWR? Mae cynghorwyr ac aelodau Cynulliad yn trafod cynlluniau mawr mwy nawr, dw i’n meddwl. Ond dw i’n hapus gyda llawer o pethau arbennig bach.
Dw i’n hoffi busnes llwyddiannus. Dw i’n hoffi siopau, caffi, tafarnau, safleoedd – eglwysi hefyd – pan gallwn i cwrdd, siarad a nabod pobol eraill yna. Os dw i’n dechrau unrhyw le fel ’na baswn i creu rhywle gyda awyrgylch fel hon.
Felly pan es i i Ganolfan Dewi Sant, ro’n i’n gadael – syth ymlaen i Spillers am diwylliant a sgwrs cyfeillgar gyda perchennog am cerddoriaeth ska yn y 60au.
Allet ti ddim bod wedi dewis cyferbyniad gwell i DewiSant2 na siop Spillers. Dw i’n ddiolchgar iawn bod DS2 wedi agor, dim ond er mwyn i mi fod yn callu cerdded yn syth trwyddo pob dydd o’r swyddfa (sydd uchben Traders tavern) ond does dim un siop ynddo yn apelio ata i o gwbl
…a pheth arall, pam ddiawl mae Walley’s wedi mynd i’r fath gost o logi uned a chyflogi staff yno, pan mae nhw newydd ymestyn ei siop cartrefol llawn dewis sydd ond ychydig latheni i ffwrdd y y Royal Arcade?
Dyna beth yw penderfyniad busnes rhyfedd.