Gwefan newydd Archifau Cymru

Loriau llaeth tu allan Bwrdd Marchnata Llaeth, Llangefni. J.I. Jones, 1949

Ymhlith fy uchafbwyntiau yn 2026 mae gweithio gyda Archifau Cymru ar wefan newydd sbon.

Mae gwefan Archifau Cymru yn cyfleu gwaith hanfodol 24 archifdy ledled Cymru, sy’n aelodau o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW). Yn eu geiriau eu hunain:

Mae archifau yn gofnodion gwerthfawr sy’n adrodd stori ein gorffennol. Mae gwasanaethau archif yng Nghymru yn diogelu ac yn amddiffyn ein cof cyfunol, ac yn ein helpu i ddathlu ein hunaniaeth ddiwylliannol. Y rhain yw’r ffeithiau, y dystiolaeth a’r mewnwelediadau a ddefnyddiwn i ddarganfod, dehongli a deall hanes.

Mae gwefan Archifau Cymru yn enghraifft wych o brosiect gan Heatley & Morris, partneriaeth rhwng Marc Heatley a finnau, sy’n cynnig proses lawn o fynd â’ch sefydliad o’r briff cychwynnol ar gyfer gwefan, i ddylunio cynnwys, datblygu brand gweledol, dylunio a datblygu’r wefan, a lansiad y wefan gyda diweddariadau a chymorth diogelwch parhaus.

Ymhlith llawer o agweddau eraill ar y prosiect, roedd hi’n ddiddorol cael ymgynghori ag aelodau tîm amrywiol o wahanol archifdai ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod dyluniad cynnwys y wefan yn ystyried eu syniadau, eu hanghenion a’u blaenoriaethau.

Mae’r wefan orffenedig yn defnyddio WordPress fel ei system rheoli cynnwys, gyda thema bwrpasol, galluoedd dwyieithog llawn, a chofnodio cyfaddas gan gynnwys Archifdai, Prosiectau, ac Eitemau Archif unigol.

Mae gwasanaethau archif yn ymddangos ar fap rhyngweithiol sy’n defnyddio teiliau a data OpenStreetMap o’r gweinydd mapiau Cymraeg a gynhalir gan brosiect Mapio Cymru.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *