Sylw da iawn gan Anil Dash am ‘flogio’ ar Google+, Facebook ac ati:
The broken comparison here is forgetting that many of us write (and own) our blogs because we’re making a *work*. It’s like saying “instead of writing a book, just scribble some notes in the back of someone else’s book!”
Based on the past dozen years that I’ve been writing it, I expect that my blog will in some ways be one of the most significant things I create in my life. It exists neither as a sort of filter for opportunity (as you describe Fred [Wilson]’s use) nor a platform for broadcast (as in Kevin Rose’s case). It’s a work I create for myself, that I choose to share with the world, because this is the medium I’m good at.
In that context the idea of letting some company own it is absurd.
Eiliaf. Dyna pam dw i wedi penderfynnu dod yn ôl at flogio ar fy mlog fy hun (a thithau Cael yn ddylanwad ar y penderfyniad yna) a darllen mwy o flogiau bobl eraill, yn lle treulio cymaint o amser ar Facebook ac ati.
A dw i wir ddim yn gweld pwynt Google+ o gwbl, hyd yn hyn. “It’s like Facebook, except none of your family, and only your “online friends” are on it,” ddim yn gwerthu’r peth i fi.
Mae Maes-e yn well na Facebook&Google+ o ran creu ‘work’ yn Gymraeg – o leaif dw i’n gallu googlo yn 2011 ac yn gallu ffeindio gynnwys o 2007 neu pryd bynnag. Da iawn i ti am ei chreu.
Beth yw ‘work’ yn Gymraeg gyda llaw, sef yr enw fel y mae Dash yn ei defnyddio?
‘Gwaith’?
Am wn i.
Roedd maes-e dim ond mater o fod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Doedd dim cystadleuaeth (yn y Gymraeg) o gwbl, felly oedd hi’n ddigon hawdd i adeiladu momentwm yn y ddwy flynedd gyntaf.
Wnes i sawl camgymeriad yn y dyddiau cynnar, pethau sy’n wneud i fi wingo wrth feddwl yn ôl: gosod “auto-prune” ar archifau sawl fforwm, er enghraifft; collwyd cannoedd o negeseuon am byth. Doedd sefydlu adrannau preifat ddim yn syniad arbennig o dda, chwaith. Ond ar y cyfan, dw i’n falch iawn o beth wnaethon ni ar y maes, a dw i’ gweld eisiau cael rhywle canolog, hollol Gymraeg ei naws, fel ’na erbyn hyn.
Dw i eisiau gweld mwy o drafodaethau Cymraeg ar y we agored hefyd. Efallai does dim rhaid iddyn nhw bod yn ‘canolog’.