Newyddion gwych. Mae’r Amgueddfa Cymru yn aelod o’r clwb rhannu nawr gyda’u lluniau ar Flickr dan Creative Commons.
Nawr mae’r Cynulliad a’r Amgueddfa yn rhannu eu lluniau. Unrhyw sefydliadau eraill? Ychwanega dolen i’r tudalen yma ar Hedyn os ti’n gwybod.
Gyda llaw dw i ddim yn deall y statws gyda delweddau/sganiau newydd o hen luniau (enghraifft). Bydd parth cyhoeddus yn well am ailddefnydd heb newidiadau dw i’n meddwl? Hefyd efallai dylen nhw ail-feddwl y polisi am luniau gan ymwelwyr a’u rhannu. Ond mae’r drwydded yn gam pwysig.
llun Actinia mesembryanthum gan Amgueddfa Cymru
Diddorol, ond pam ydyn nhw’n dewis trwydded anfasnachol, tybed.
Cwestiwn da, maen nhw wedi dewis trwydded anfasnachol ar gyfer data hefyd.
e.e.
http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1151/
Gwnaf i drio gofyn.