Dyma dudalen cychwynnol am API Hedyn, ffordd o gael data mas o wefan wici Hedyn drwy god.
Creu prosiect(au) sy’n seiliedig ar Y Rhestr o flogiau Cymraeg yw fy mwriad ers sbel.
Cofiwch fod ’na rhestr o ganoedd o flogiau sy’n cynnwys cyfanswm o filoedd o flogiadau am bron bob pwnc dan yr haul ers Ebrill 2001.
Gallai’r apiau neu brosiectau fod yn gemau, teclynnau dysgu, pethau i ddadansoddi iaith a geiriau, pethau hwyl, pethau sili, ac ati. Peiriant chwilio?
Fyddai hi ddim yn cymryd llawer o amser i dynnu cynnwys i mewn o’r blogiau. Beth am bethau sy’n sbarduno ymweliadau, darlleniadau a rhagor o gynnwys o safon?
Efallai dylwn i ail-greu system y Blogiadur sy’n tynnu ffrydiau o’r blogiau. Dyna un syniad. Ar hyn o bryd mae’r gronfa o flogiau y mae Blogiadur yn crafu yn rywbeth ar wahân am resymau hanesyddol.
Dw i wedi chwarae gyda sawl API yn ystod yr wythnosau diwethaf: Twitter, Amazon, Bitly, eBay, Wicipedia. Mae hi’n hen bryd chwarae gydag API Hedyn.
Byddwn i’n croesawu syniadau fel arfer.
O ran yr API a phrosiectau Y Rhestr yw’r brif adnodd sy’n werth ystyried ar Hedyn a dweud y gwir (ond mae ambell i ganllaw i ddechreuwyr blogio ayyb hefyd ac mae’r rhai fideo yn lawer o hwyl).
Gyda llaw, un API arall byddaf i’n llygadu fydd Papurau Newydd Cymru. Un i’r haneswyr efallai, beth ydych chi eisiau gwneud neu weld?