Dyma ddwy erthygl ar Y Twll:
- Cymru, cenedlaetholdeb ‘cul’ a Carwyn Jones: fy safbwynt i gan Emyr Gruffydd
- Pantycelyn: Addysg ar ei orau gan Jeff Smith
Rhannwch ac aildrydarwch yr erthyglau os ydych chi’n hoffi nhw. Gadewch sylw hyn yn oed, fel yn yr hen ddyddiau. Diolch o galon.
Roedd hi’n teimlo fel hen bryd i mi ddechrau comisiynu pethau gwleidyddol ar Y Twll. Mae hi’n amserol.
Mae hi hefyd yn teimlo fel bod pobl yn barod am flogiau sy’n cymysgu diwylliannau gyda gwleidyddiaeth; mae’n gweithio ar bethau fel BuzzFeed a Vice er enghraifft.
Dw i’n ystyried newid y thema WordPress i rywbeth fel cylchgrawn yn hytrach na blog er mwyn datgysylltu’r cofnodion a gwella’r cynrychiolaeth o’r hyn sydd ar gael o dan categoriau megis cerddoriaeth, ffilm, theatr, llyfrau, lleoliadau ayyb.
Yr unig beth technegol dw i wedi newid yn ddiweddar ydy cardiau Twitter. Hynny yw, os ydych chi’n rhannu dolen mae rhagolwg yn y trydariad gan gynnwys delwedd a chrynodeb o’r erthygl. Dyma enghraifft.
Bydd rhagor o bethau gwleidyddol gan fenywod a dynion dw i’n gobeithio. Gadewch i mi wybod os oes syniad ’da chi.
Syniad da Carl. Rydyn ni angen datblygu diwylliant gwleidyddol mwy bywiog.
Fe oedd dau gartŵn gan Rhys Aneurin ym mis Ionawr hefyd.