Gadawodd Martin Luther King y byd hwn union 45 mlynedd yn ôl.
Heno dw i wedi cael cip arall ar y llyfr Martin Luther King gan T.J. Davies y cyhoeddiwyd yn 1969.
Mae darn sylweddol am y dull di-drais o brotestio. O’n i ddim o gwmpas yn ’69 ond mae’n debyg y darllenodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y geiriau hyn gyda diddordeb ar y pryd.
Does bron neb yn gallu cael gafael y llyfr yma. Mae prinder o gyfleoedd i’w ddarganfod. Does neb yn wneud arian neu dderbyn clod am y gwaith – does neb wedi gwneud yr ymdrech i’w rhyddhau eto gan gynnwys e-lyfr neu fersiwn digidol.
Mae’r llyfr bron yn anweledig! Dw i wedi gwneud pwyntiau tebyg o’r blaen, e.e. Afal Drwg Adda ond dw i’n dweud eto.
Os wyt ti eisiau darllen mwy o’r llyfr hwn gadewch sylw isod achos dw i’n gallu rhannu’r llyfr gyda chi os oes digon o alw. Dw i’n meddwl bod hynny yn hollol iawn heblaw os oes problem gydag unrhyw un.
Dyma lyfr yn Gymraeg sydd yn delio gyda phwnc sydd ddim yn Gymreig o reidrwydd. O ran llyfrau newydd fyddai llyfr o’i fath yn cael ei gomisiynu yn Gymraeg y dyddiau hyn? Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ’diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?
Diolch am rannu – wyddwn i ddim am fodolaeth y llyfr. Ac eithrio llyfrau ffeithiol trymion am rhyw feirdd am tua £50 gan Wasg Prifysgol Cymru, does yna ddim lot o sgwennu meddylgar Cymraeg i’w weld yn cael ei gyhoeddi y dyddiau hyn.
Mae’n debyg ei fod dal mewn print, ond sylwais ddoe bod llyfr Cymraeg wedi ei gyhoeddi o waith Leopold Kohr yn 1980 gan y Lolfa.
peidier anghofio gwaith J R Jones http://cy.wikipedia.org/wiki/J._R._Jones
Gwych – diolch
Y gyfrol Canu Caeth (2010) yn llawn ysgrifau amrywiol ar berthynas Affro-Americaniaid a’r Cymry. Rwy’n tarfod TJ yn y cyflwyniad. a’i gyfrol ar Paul Robeson yn y bennod ar Robeson. Simon Brooks, Jerry Hunter, Helen Mary Jones, ymysg eraill yn y gyfrol.
Yn fwy swmpus a gen i yn unig: http://www.amazon.co.uk/Black-Skin-Blue-Books-Americans/dp/0708319874
Sorry am yr hunan-hysbys, ond gan fod gen ti ddiddordeb amlwg yn y pwnc….
Diolch yn fawr am yr argymelliadau. Dw i’n ymwybodol o’r ddau ond heb cael siawns i’w ddarllen eto.
Well gen i’r siop Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd nag Amazon. Tyt tyt!
Mae llyfrau allan o brint wedi bod yn broblem ers o leiaf 50au’r ganrif ddiwethaf.
Mae’n siwr fod hawlfraint yn un rheswm ond byddwn yn gobeithio y byddai yn haws y dyddiau hyn gyda dulliau electronig ond y gwir yw mae’r gweisg yn cael grantiau i gyhoeddi llyfrau newydd – ddim mor hawdd i gael grant i ad-argraffiad
Gyda gwerthiant ansicr mae’n amheus a oes elw i’w wneud wrth ad-argraffu. Dyma rhywbeth y dylai y Cyngor Llyfrau ymwneud ag ef o ddifri.
“Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ‘diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?”
Mae toreth o lyfrau ar gael -yr anhawster yw taw llyfrau diweddar gan mwyaf sydd yn cael cyhoeddusrwyth. Chwiliwch gatalog y Cyngor llyfrau ar wefan Gwales