Cofia’r Samsung S5600? Ffôn Cymraeg cyntaf y byd (ac olaf, ar hyn o bryd), naeth cael ei lansio dwy Eisteddfod yn ôl.
Gwnes i ofyn Bwrdd yr Iaith am sefyllfa y cyfieithiad er mwyn copio rhai o’r termau i’n cyfieithiad Android. Orange sy’n biau’r cyfieithiad o’r system. Gwnaeth y Bwrdd ateb gyda dolenni handi i dermau.
Dw i eisiau meddwl bydd cyfieithiad Android yn cyfrannu at fersiynau newydd a phrosiectau eraill yn y dyfodol. Er doedd e ddim yn rhedeg Android bydd rhyw fath o ddilyniant o’r Samsung yn neis – ac yn y maes technoleg Cymraeg yn gyffredinol. Hoffwn i feddwl bod ni’n symud o nerth i nerth. Ac mae’r diffyg argaeledd stwff a fu yn atal arloesi.
Yn y cyd-destun hanes sa’ i’n gweld pwynt yr ymdrech Orange, mae’n lot o drafferth am dipyn bach o gyhoeddusrwydd ym mis Awst.
Roedd y Samsung S5600 yn wych. Roedd yn hyfryd ac yn hawdd tecstion yn Gymraeg. Ddim gorfod rhoi lan gyda’r I Saesneg o hyd a phroblemau gyda collnodau. Roedd angen safonni’r hirnod drwy’r system, ond fel arall, yn wych.
Pob hwyl i’w adfer. Mae wir ei angen.
Siôn, oes gyda ti dyfais S5600? Fyddi di’n fodlon postio fideo ohono fe ar y we, e.e. ar YouTube? Hoffwn i weld y meddalwedd a rhyngwyneb. Diolch.
Dw i’n gweithio ar gyfieithiad o rhyngwyneb Android, bydd rhaid i decstio aros!
Ti’n agos iawn at destun rant ydw i eisie’i wneud yn HacIaith fan hyn…
Edrych ymlaen Idris
Ceisies i cael un o’r siop Orange, dim mwy bod wneuwyd! Sal iawn!