O’r S4C Cynllun Cynnwys 2012, mae syniad da iawn:
Mi fyddwn ni’n sefydlu cainc newydd, Calon Cenedl, sef cyfres o raglenni byrion oddeutu tri munud o hyd i’w darlledu am 20.25. Bydd y cynnwys yn cynnig cyfle i ni arddangos holl agweddau o fywyd Cymreig drwy gyfres o bortreadau am ardaloedd, cymunedau a phobol. Gall y brand newydd gael ei ymestyn i raglenni hanner awr ar adegau eraill o fewn yr oriau brig pan fydd cryfder golygyddol y syniad yn arwain at hynny.
1. Fel beth ydy rhaglenni ‘byrion oddeutu tri munud o hyd’ yn swnio? YouTube a fideo ar-lein.
Mae S4C yn gallu postio’r un fideos ar YouTube ac ar S4C Clic. Bydd e’n brofiad gwahanol ar YouTube – mewnosod ar wefannau, cynnig sylwadau a chael cynnwys parhaus heb derfyn amser fel y mae ar Clic.
2. Ond pam ydyn ni’n stopio yna? Ble mae’r cyfranogiad? Mae’r syniad gwreiddiol yn teimlo fel straeon digidol, erthygl o bapur bro mewn fideo fel petai. Ond rydyn ni dal yn meddwl am ddarlledu yn unig, hyd yn oed ar YouTube neu Vimeo neu beth bynnag.
Er mwyn bod fel papurau bro dylen ni rhoi’r cyfle, anogaeth a help os mae pobol eisiau creu a rhannu fideos eu hun. Bydd tag ‘swyddogol’ yn dechrau da, e.e. ‘defnyddia’r tag caloncenedl ar dy fideos lleol’. Pam lai? Gawn ni derbyn camerâu ffôn fel teclyn cyfathrebu rhad sydd ar gael i bobol Cymraeg tu allan i’r diwydiant teledu? Rydyn ni i gyd yn wylwyr ond mae rhai ohonom ni eisiau rhannu straeon o’n cymunedau. Fel papurau bro. Fel Derwen Gam neu Bodelwyddan neu Llangwm neu BaeColwyn neu Dolgellau neu Twthill neu Grangetown. Neu ____ (sgwenna dy bentref neu ardal yma).
Wrth gwrs mae unrhyw un yn gallu creu fideo gyda’r tag caloncenedl heddiw – heb S4C. (Cer amdani!)
Mewn gwirionedd bydd rhai o’r fideos amatur ar-lein yn ddiddorol a gwych – fydd ddim angen rhaglen smart sydd wedi cael ei golygu bob tro.
Ond bydd y rôl S4C fel yr endid sy’n osod y tag, rhannu’r tag gyda’r pobol yn y cymunedau (rhai yma), annog y fideos, blogio’r fideos ‘gorau’ neu perthnasol i Gymru ac yn rhedeg gweithdai yn bwysig iawn. Bydd pobol yn creu a gwylio fideos lot mwy gydag ymglymiad swyddogol S4C. Mae cyfleoedd ychwanegol go iawn i ddatblygu rhai o’r syniadau hefyd, i gynnig rhaglennu, cynnwys a phethau sydd ddim yn bosib gyda chamera ffôn.