Dw i’n dychmygu’r symbolau yma fel melysion bach. Bwytwch y pethau bychain.
Mae’r map yma yn dod o lyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyo’r Tafodieithoedd gan Peter Wyn Thomas a Beth Thomas. Mae’r llyfr yn anodd ffeindio nawr yn anffodus.
Mae’n hollol bosib wneud map arlein o dafodieithoedd.
Mae ffordd bosib yw: defnyddia ffurflen cwestiynau, e.e. “pa air wyt ti’n defnyddio am (llun o llaeth)” ayyb, creua map.
Gallet ti gasglu blogiau a’u cyfesurynnau a chreu map awtomatig gyda phorthiannau RSS oni bai nad oes digon o flogiau yn bodoli ym mhob man.
Ond mae llawer o bethau ti’n gallu wneud gyda phorthiannau RSS blogiau Cymraeg…
Diolch am y diddordeb yn y llyfr! Mae’n wir bod y llyfr allan o brint ers meitin, ond er diddordeb, bydd y cynnwys (gan gynnwys clipiau sain o dafodieithoedd) yn ymddangos ar wefan newydd o’r enw Casgliad y Werin Cymru ym mis Awst eleni.
O.N. Wi’n lico’r syniad o’r symbolau fel melysion bach…
Beth Thomas, diolch am dy sylw. Mae Casgliad y Werin yw newyddion da!
Dw i’n hybu cynnwys Cymraeg ar y we ar hyn o bryd. Dim digon.
Gwych!
Y rheswm am y “minciag” yn Sir Feirionnydd ydi fod na ffatri gneud mintcake yn y Bermo (yn ol nain!)
Mae’n swyddogol, ti nawr yn ‘Archflogiwr‘
http://s4c.co.uk/pethe/hen-benillion-newydd/
Da iawn Carl. Dwi ’di chwilio am y llyfyr ers sbel felly dwi’n falch bydd y cynnwys ar gael ar y we.
Mae elfennau o’r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg nawr ar wefan Casgliad y Werin, a bydd rhagor yn ymddangos gydag amser. Er mwyn mynd at gasgliad o eitemau perthnasol i’r tafodieithoedd (gan gynnwys recordiadau sain o’r darnau sydd yn y llyfr), ewch at http://www.peoplescollection.co.uk/Collection/154-the-dialects-of-welsh
Mae’r nodiadau ar bob un o’r enghreifftiau llafar a nodweddion y tafodieithoedd o dan y pennawd Themau/Gwahanol Dafodau (http://www.peoplescollection.co.uk/Theme/2-different-voices). Mae tafodiaith Caernarfon, , Llannerch-y-medd, Rhosllannerchrugog, Carno, Pen-caer, Llansawel, Llangynwyd, a Glynogwr eisoes ar y wefan a bydd gwybodaeth am y darnau eraill sydd yn y llyfr hefyd yno maes o law.
Gobeithio fod hyn o help!