Diwygio newyddion o Lundain am faterion datganoledig: tuag at brosiect

O safbwynt Cymru mae problem amlwg o ddiffyg cywirdeb pan mae’r cyfryngau yn Llundain yn adrodd straeon am faterion datganoledig.

Er enghraifft mewn stori am addysg neu iechyd yn Lloegr mae’r papurau, teledu neu radio yn cyfeirio yn anghywir at y Deyrnas Unedig neu’n methu cyfeirio at unrhyw wlad o gwbl. Neu mae diffyg sylw i’r gwahaniaethau hynod bwysig o ran deddfwriaeth a pholisi rhwng Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr.

Wrth gwrs mae hyn yn gallu arwain ar ddryswch, a diffyg ymwybyddiaeth o le mae pwerau a phwy sy’n atebol. Er gwaethaf ymdrechion cyfryngau sy’n canolbwyntio ar faterion Cymreig mae canran sylweddol o bobl yng Nghymru sy’n derbyn newyddion camarweiniol, wrth gyfryngau Llundain gan amlaf.

Mae prosiect That’s Devolved yn tynnu sylw at enghreifftiau yn gyson. Mae rhai achosion lle mae’r newyddiadurwyr a golygyddion wedi cywiro penawdau a straeon fel canlyniad. O safbwynt datganoli mae’n gweithio’n dda. Mae’n siŵr bod llawer o ddarllenwyr wedi dysgu mwy am rymoedd Senedd Cymru, Senedd Yr Alban, a Stormont trwy ymdrechion y prosiect.

Sbel yn ôl oeddwn i’n meddwl am safbwynt y newyddiadurwyr eu hunain. Ces i ambell sgwrs gydag arbenigwyr a ffrindiau amdano fe. A oes modd creu ymgyrch neu adnodd i’w defnyddio mewn ymateb i’r newyddiadurwyr hyn, a cheisio newid agweddau?

Y canlyniad oedd gwefan a greais o’r enw Say England.

Y rhesymeg oedd i gyfleu’r broblem o safbwynt mae’r rhan fwyaf o newyddiadurwyr Lloegr yn deall – safbwynt Lloegr.

Mae hi’n anoddach cael y rhan fwyaf i fecso am Gymru na feddwl bod hi’n werth ceisio deall ’datganoli’. (Mae’r ychydig rhai sydd yn talu sylw yn arbennig iawn.)

Ar hyn o bryd un tudalen yn unig yw gwefan Say England, sydd yn cynnwys rhai pwyntiau o gyngor i newyddiadurwyr ac eraill. Mae modd postio hi mewn ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol trwy’r dydd bob dydd.

Mae’n enwi swyddi eraill sydd yn ran o adroddiant y cyfryngau, pobl sydd ddim yn cyfleu’r sefyllfa yn iawn – am lawer o resymau.

Yn anffodus mae’r wefan yn brosiect sydd ddim wedi’i gyflawni na lansio. Am un peth dw i’n dad bellach ac mae llawer o brosiectau ac ymrwymiadau eraill ymlaen – dydy’r un yma ddim yn ffitio’n daclus gyda’r gweddill.

Rydych chi efallai yn gweld ei botensial, o bosib i ddefnyddio’r wefan fel pwynt canolog ar gyfer cynnwys i’w rannu, ymgyrchoedd, diweddariadau ar lwyddiannau, rhestrau o dda, drwg a’r hyll, neu rywbeth arall.

Byddwn i’n ystyried rhoi’r enw parth i unrhyw un egwyddorol a brwdfrydig sydd eisiau ei gymryd ymlaen, defnyddio a datblygu.

Gadewch wybod yn y sylwadau isod neu drwy e-bost os ydych chi eisiau cymryd dros y prosiect.

Llythyr at brif weithredwr ac arweinydd y Blaid parthed achos Ysgol Abersoch

Dyma gopi o lythyr a anfonwyd heddiw. Bydd Ysgol Gynradd Abersoch yn cael ei chau ar Ragfyr 31 eleni.

At sylw:
Prif Weithredwr Carl Harris
Arweinydd Adam Price

Siom fawr yw penderfyniad anghyfrifol Cyngor Gwynedd Plaid Cymru i gau Ysgol Abersoch, canolfan gymunedol sydd mor hanfodol i fywyd Cymraeg y pentref.

Ni allaf gyfiawnhau parhau i fod yn aelod o blaid sydd yn defnyddio grym etholedig i gefnu ar gymuned Cymraeg. Mae’r penderfyniad yn gosod cynsail peryglus wrth ystyried dyfodol cymunedau Cymraeg gwahanol ar draws Cymru, yn enwedig yr ardaloedd lle mae’r Blaid yn llywodraethu.

Nid dyma’r unig enghraifft o bentref yn colli ei chalon oherwydd penderfyniad gan gyngor Plaid Cymru dros flynyddoedd wrth gwrs. Mewn achos Abersoch, fel rhai eraill, mae hyn yn groes i bolisïau y cyngor ei hun.

Fe ddylai plaid genedlaetholgar go iawn baratoi tuag at adfywiad cymunedau Cymraeg yn eu holl amrywiaeth a chymryd pob un cyfle i wrthdroi dirywiad. Yn hytrach rwy’n nodi bod Cyngor Gwynedd heb roi ystyriaeth ddigonol i syniadau addawol ac ymarferol mae ymgyrchwyr megis Cymdeithas yr Iaith wedi cynnig, heb sôn am weithredu’n gadarnhaol mewn meysydd eraill megis cynllunio cynaliadwy i warchod ac adfywio pentrefi’r sir fel Abersoch.

Tynnwch fy aelodaeth Plaid Cymru ar unwaith os gwelwch yn dda. Rwy eisoes wedi canslo fy nhaliadau misol.

Yn gywir

Carl Morris

Llun gan Alan Fryer (CC BY-SA)

Cymryd rheolaeth: ffactor arall

Ceisio dysgu beth aeth o’i le yn y refferendwm ydw i, ac wedi bod yn meddwl am ffactor arall sydd ddim wedi cael sylw – hyd y gwelaf i.

Rydyn ni’n cymryd bod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael am sawl rheswm.

Oes ffactor arall, sef diffyg cyrraeddiad mudiadau ymgyrchu – yn yr ardaloedd difreintiedig yn enwedig? Dw i’n sôn am fudiadau ymgyrchu dros gymunedau, gwrth-lymder, ac ati.

Mae mudiadau ymgyrchu yn gallu cynnig arweinyddiaeth, rhesymeg/dihongliad, a gweithred – tri pheth sydd ddim efallai ar gael i bobl yn aml iawn.

Cynigiodd ymgyrch gadael y tri pheth yma yn y gwacter. Rydyn ni’n gwybod am yr arweinyddiaeth. Nhw oedd yn cynnig rhesymeg/dihongliad, i bobl heb unrhyw gyd-destun ehangach oherwydd diffyg cyrraeddiad cyfryngau Cymreig. Rhoi x mewn blwch oedd y weithred wrth gwrs.

Roedd yr adroddiant o ‘gymryd rheolaeth’ yn apelio at bobl heb grym yn eu cymunedau.

Os mae pobl yn gweld bod ’na annhegwch ac eisiau gweld newid ydy hi’n gymaint o syndod eu bod nhw wedi dewis defnyddio’r unig ddull o brotestio sydd wrth law?

Gwleidyddiaeth ar Y Twll

Dyma ddwy erthygl ar Y Twll:

Rhannwch ac aildrydarwch yr erthyglau os ydych chi’n hoffi nhw. Gadewch sylw hyn yn oed, fel yn yr hen ddyddiau. Diolch o galon.

Roedd hi’n teimlo fel hen bryd i mi ddechrau comisiynu pethau gwleidyddol ar Y Twll. Mae hi’n amserol.

Mae hi hefyd yn teimlo fel bod pobl yn barod am flogiau sy’n cymysgu diwylliannau gyda gwleidyddiaeth; mae’n gweithio ar bethau fel BuzzFeed a Vice er enghraifft.

Dw i’n ystyried newid y thema WordPress i rywbeth fel cylchgrawn yn hytrach na blog er mwyn datgysylltu’r cofnodion a gwella’r cynrychiolaeth o’r hyn sydd ar gael o dan categoriau megis cerddoriaeth, ffilm, theatr, llyfrau, lleoliadau ayyb.

Yr unig beth technegol dw i wedi newid yn ddiweddar ydy cardiau Twitter. Hynny yw, os ydych chi’n rhannu dolen mae rhagolwg yn y trydariad gan gynnwys delwedd a chrynodeb o’r erthygl. Dyma enghraifft.

Bydd rhagor o bethau gwleidyddol gan fenywod a dynion dw i’n gobeithio. Gadewch i mi wybod os oes syniad ’da chi.

Ymgyrch dros ie yn Ewrop

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffolineb llwyr.

Dw i’n penderfynol o ymgyrchu yn galed dros ie er mwyn cadw’r Deyrnas Gyfunol fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cnocio drysau, dosbarthu taflenni, lledaenu’r gair ar rwydweithiau digidol a beth bynnag arall sydd angen.

Dw i ddim yn cyffroi gymaint am ymdrechu i aros yn yr un lle. Ond weithiau dyna sydd angen.

Welai i chi ar y strydoedd?

Tony Judt: breuddwyd o heddwch yn y Dwyrain Canol

Dw i wedi ail-ddarllen traethawd gan y ddiweddar Tony Judt o 2003 ar y ’datrysiad un gwladwriaeth’ yn Israel-Palesteina heno. Dw i newydd ddarganfod ymateb gan Judt i rai o’r ymatebion i’r traethawd gwreiddiol a dyna ffynhonnell y dyfyniad isod:

[…] Ideas acquire traction over time as part of a process. It is only when we look back across a sufficient span of years that we recognize, if we are honest, how much has happened that we could literally not have conceived of before. Franco-German relations today; the accords reached across a table by Protestant Unionists and Sinn Fein; post-apartheid reconciliation in South Africa—all these represent transformations in consciousness and political imagination that few but “escapist fantasists” could have dreamed of before they happened. And every one of those thickets of bloodshed and animosity and injustice was at least as old and as intricate and as bitter as the Israel–Arab conflict, if not more so. As I said, things change. Of course, they also change for the worse. After all that has happened, a binational state with an Arab majority could, as Amos Elon ruefully reminds us, very well look more like Zimbabwe than South Africa. But it doesn’t have to be so. Those of us who observe from the side can at best hope to put down markers for the future. […]

Adroddiant gwrth-Gymraeg y BBC: tri ffactor

Pam mae eitemau gyda phwyslais gwrth-Gymraeg ar y BBC? Rwyt ti’n aros am rywbeth am Gymru ac mae mwy nag un eitem annifyr yn llifo mewn ar yr un pryd, e.e. Radio WalesRadio 4. Pam nawr?

Dw i’n credu bod mwy o eitemau gwrth-Gymraeg ar y ffordd oherwydd tri ffactor damcaniaethol.

1. Mae mwy o gystadleuaeth ymhlith cyfryngau gwahanol nag unrhyw bryd erioed ac mae eitemau dadleuol yn sbarduno niferoedd o wrandawyr. Yn bennaf, siaradwyr Cymraeg a chyfeillion o’r iaith sy’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o’r eitemau trwy Twitter, Facebook ac ati. Mae’r ffenomen yn debyg i drolio yn y papurau newydd ar-lein.

2. Mae BBC yn gyfrifol am ariannu S4C bellach sy’n achosi drwgdeimlad yn yr adrannau eraill, yn enwedig y rhai sy’n bryderu am doriadau. Beth bynnag rydych chi’n meddwl am Thatcher, roedd hi’n digon call i osod trefn arbennig ar gyfer S4C (yn y pen draw). Fel endid fe oedd y sianel yn annibynnol yn ei chyllideb. Mae’r sianel wedi colli’r mantais yna o ran y rhan fwyaf o’i chyllideb sydd bellach yn dod o’r BBC. Felly mae’r adrannau eraill fel Radio Wales yn troi at ymosod ar darged hawdd er mwyn ceisio amddiffyn eu bodolaeth nhw. Dyna’r effaith ‘cathod mewn sach’ a wnaeth pobl ein rhybuddio ni amdani hi yn 2010 yn ystod ymgyrch ‘Na i doriadau S4C’.

3. Fel mae unrhyw un sy’n darllen y wasg yn gwybod, y gwasanaethau iechyd ac addysg yng Nghymru ydy hoff dargedau Cameron, Hunt, Fabricant et al ar hyn o bryd tra bod nhw yn ceisio ennill etholiad mewn ychydig dros 12 mis. Mae’r BBC yn cael ei dynnu i’r un cyfeiriad: ‘ai datganoli/polisïau Llafur Cymru/y Gymraeg (does dim gymaint o wahaniaethu rhyngddynt ar lefel Prydeinig) sy’n gyfrifol am fethiannau ysgolion yng Nghymru?!’ ayyb. Mae agweddau sy’n debyg i Lingen a’r Llyfrau Gleision yn ymddangos eto. Yr iaith sy’n derbyn y flak yn y brwydr dros San Steffan. Afraid dweud fod diffyg trafodaeth synhwyrol ar y materion hyn ar Radio 4 a diffyg diddordeb mewn beth yw’r problemau go iawn a beth sydd o les i Gymru. Nid ’darlledwr gwladwriaeth’ fel y cyfryw ydy’r BBC ond gall dweud bod y Gorfforaeth yn cael ei demptio i roi platfform a ffafr i Lywodraeth San Steffan a chryfhau ei achos ar gyfer adnewyddu’r siarter yn 2016-17 hyd yn oed.

Os ydw i wedi cydnabod y ffactorau yma yn iawn ni fydd y sefyllfa yn newid yn fuan iawn. Gall disgwyl mwy o eitemau o’r fath.

 

Kim Jong-un, Gogledd Corea: dydy’r jôc ddim yn ddoniol rhagor

Mae Gogledd Corea mor bell i ffwrdd yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol ac mae’n hawdd i wneud jôcs amdano fe, yn enwedig am Kim Jong-un. Dw i wedi gwneud rhai fy hun.

Dw i ddim yn meddwl bod jôcs am bethau o bwys fel y cyfryw yn anaddas fel dull cyfathrebu o reidrwydd. Ond dw i’n credu bod rôl Gogledd Corea fel dim byd mwy na ffynhonnell o adloniant pur mewn rhai o’r cyfryngau prif ffrwd yn broblem difrifol.

Bob tro dw i’n darllen erthygl digri am Kim Jong-un – ac mae eithaf tipyn ohonynt – dw i’n cael y teimlad yn gynyddol bod y stori yn cymryd lle adroddiad difrifol. Heno o’n i’n meddwl ‘Rhyw ddydd yn y dyfodol efallai bydd gwledydd y byd yn cael clywed y manylion erchyll am Ogledd Corea…’. Meddyliais i am Idi Amin yn Uganda yn y 1970au:

[…] Throughout his disastrous reign, he encouraged the West to cultivate a dangerous ambivalence towards him. His genial grin, penchant for grandiose self-publicity and ludicrous public statements on international affairs led to his adoption as a comic figure. He was easily parodied, and was granted his own fictional weekly commentary in Punch.

However, this fascination, verging on affection, for the grotesqueness of the individual occluded the singular plight of his nation. As many as half a million Ugandans died under his regime, in well-documented ways ranging from mass executions to enforced self-cannibalism.[…]

Dw i ddim yn dweud bod Kim Jong-un yn defnyddio’r straeon digri yn bwrpasol ond mae tebygrwydd yn y ffordd mae’r straeon (y diweddaraf: gorfodi myfyrwyr i gael yr un toriad gwallt, yn ôl y sôn) yn helpu’r gyfundrefn trwy ein dallu i beth sydd wir yn digwydd i hawliau dynol yn Ogledd Corea.

Ar ôl ychydig bach o ymchwil mae’n ymddangos bod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Chwefror eleni – am ddegawdau o orthrwm yn Ogledd Corea. Felly mewn gwirionedd mae’r dydd wedi dod pan mae cyfle i ddysgu am gymdeithas yn Ogledd Corea ond fydd unrhyw un i wrando? Dylai’r adroddiad a’r llwybr hyd at dribiwnlys cael y blaenoriaeth yn y newyddion. Dyma crynodeb o’r adroddiad i chi, dim ond rhagflas bach:

[…] The commission’s report finds that crimes against humanity were committed in North Korea over a multi-decade period “pursuant to policies established at the highest level of the State,” and included “extermination, murder, enslavement, torture, imprisonment, rape, forced abortions and other sexual violence, persecution on political, religious, racial and gender grounds, forcible transfer of persons, enforced disappearance of persons and the inhumane act of knowingly causing prolonged starvation.” The report notes in particular “a systematic and widespread attack against all populations that are considered to pose a threat to the political system and leadership.” […]

Effaith hafanau treth ar bobl

Dw i wedi bod yn dysgu am sut mae cwmnïau amlwladol yn osgoi treth mewn gwledydd difreintiedig trwy ddefnydd o hafanau treth. Mae’r fideo yma yn werth 9-munud o’ch amser.

Mae’r manylion am bethau ariannol fel hyn gallu bod yn gymhleth ond mewn ffordd mae’n syml iawn. Tasai cwmnïau yn talu lefelau teg o dreth yn y gwledydd yma byddai mwy o siawns cael economïau gwell, gwasanaethau gwell a sefydlogrwydd gwleidyddol. Wrth gwrs byddai’r canlyniadau yn dibynnu hefyd ar fuddsoddiad call o’r refeniw ar ran y llywodraethau. Ond casglu treth yn y lle cyntaf yw’r her, sydd wir yn argyfyngus i filiynau o fywydau.

Hefyd mae ffilm ddogfen o’r enw The UK Gold ar yr un pwnc yn ogystal â sut mae Dinas Llundain yn cynnal hafanau treth. Er dyw’r teitl The UK Gold ddim yn arbennig o drawiadol, mae’r ffilm ei hun yn wych. Yn anffodus mae’r cyfle i’w wylio yn Chapter, Caerdydd wedi mynd ond dw i’n meddwl bod modd cael gafael arno fe ar DVD.