Gwerthuso prosiect Y Bydysawd a sylwadau agored

Dyma nodyn bach sydyn i ddatgan bod fy mhrosiect Y Bydysawd wedi dod i ben. Dw i heb wneud unrhyw beth arno fe ers sbel a dweud y gwir. Ond mae eisiau gwerthuso’r peth.

Beth oedd gwefan Y Bydysawd? Ymdrech i sbarduno a chynnal trafodaeth am faterion cyhoeddus, gwleidyddiaeth, chwaraeon, a phob math o bwnc – ar y we agored drwy gyfrwng y Gymraeg oedd hi.

Yn anffodus dw i ddim gyda’r adnoddau i gynnal yr hen wefan fel archif fy hun ond mae cipddarlun yma, diolch i archive.org. (Dyw’r sylwadau ddim yna ond gofynnwch i mi os ydych chi eisiau copi o’r data.)

y-bydysawd-llunDrwy’r dydd, drwy’r wythnos, roedd y wefan yn tynnu crynodebau o erthyglau newydd yn Gymraeg o ffynhonellau yn awtomatig (yn bennaf drwy RSS) fel Newyddion BBC Cymru yn yr oes cyn Cymru Fyw, Golwg360, ambell i beth arbennig (drwy Delicious), rhaglennu S4C Clic, ac ati.

Wedyn roedd pobl yn gadael sylwadau (drwy Disqus) a chynnal trafodaethau am yr eitemau. Bob tro roedd angen clicio’r eitem i weld yr erthygl/cynnwys/rhaglen ar y wefan wreiddiol.

Roedd Y Bydysawd yn gyfrifol am roi rhagor o draffig i wefannau Cymraeg ac mae eisiau meddwl sut rydyn ni’n gwneud hynny yn well heddiw.

Cyfeiriad neu efallai teyrnged i fenter newyddion aflwyddiannus Y Byd oedd yr enw!

Fel is-brawf o dan yr enw Skdadl lanlwythais i’r destun o erthygl barn i gylchgrawn Golwg gan Angharad Mair, roedd hynny yn hwyl ac yn weddol ddiddorol fel sgwrs.

Dyma holl brofion a gwersi y prosiect ar fy mlog.

Ar un adeg roedd Y Bydysawd yn cynnig sylwadau fel nodwedd i lenwi’r gwagle pan doedd dim modd gwneud hynny ar wefannau eraill megis Newyddion BBC Cymru a Golwg360.

Ces i e-bost cwrtais maes o law wrth olygydd Golwg360 (Owain Schiavone) i ofyn i mi dynnu’r ffrwd i’w wefan. O’n i’n hapus i wneud hynny ac o’n i’n hapusach pan wnaethon nhw ychwanegu sylwadau ac wedyn Disqus i’w wefan – iei! Dw i’n meddwl bod y sylwadau ar Golwg360 wedi gwella ers ychwanegu Disqus – oherwydd y proffilau a ‘pherchnogaeth’ dros sylwadau. Cyn hynny roedd modd gadael sylwadau wrth ‘yrru heibio’. Dw i ddim yn honni fy mod i wedi cael unrhyw effaith ar strategaeth Golwg360 – ond dyna oedd yr hanes.

Does dim modd gadael sylwadau ar eitemau BBC Cymru Fyw o hyd.

Ond i fod yn deg, er bod cynnig sylwadau yn Gymraeg ar y we agored yn digon hawdd mae llwyddo i gynnal unrhyw drafodaeth yn dipyn o gelfyddyd ddyrys. Does bron neb o’r cyhoeddwyr, sefydliadol neu wirfoddol, wedi llwyddo i gynnal trafodaethau da er bod rhai wedi ceisio. Meddwl ydw i am Fideo Wyth, blogwyr Hacio’r Iaith, blogwyr gwleidyddol yn Gymraeg, ac ati.

Dyma ffactorau posibl:

  • Diffyg cyrraeddiad yr erthyglau gwreiddiol, diffyg pobl, diffyg amser – bydd y nifer o bobl sy’n gadael sylwadau wastad yn is na’r nifer o ddarllenwyr/wylwyr. Mae hynny yn wir am bethau Saesneg ond mae’r niferoedd yna.
  • Diffyg hyder wrth ysgrifennu’n Gymraeg – o bosib?
  • Pryder am fynegi barn yn gyhoeddus neu wrthdaro buddiannau
  • Pryder am sarhad ar y sgwrs gan bobl eraill – o bosib?
  • Efallai dydy pobl ddim am ddysgu systemau newydd achos maen nhw yn licio Facebook, Instagram, Twitter, ac ati, ac yn hoffi postio eu barnau ar eu proffilau eu hunain
  • Gyda llaw dw i hefyd yn methu meddwl am unrhyw wefan yn Gymraeg sy’n defnyddio system sylwadau Facebook ac mae prinder sy’n defnyddio Disqus. Felly efallai bod cyfrifoldeb ar gyhoeddwyr am beidio mentro neu arloesi yn y maes yma.

Mae cwestiwn i’w ofyn o ran faint o gyhoeddusrwydd i’r Bydysawd y gwnes i. Roedd fy ffrindiau yn gwybod am Y Bydysawd, dim ond ychydig dwsinau o bobl wrth edrych yn ôl. Roedd hi’n fenter arbrofol un person gyda chyfyngiad ar adnoddau i wneud gwaith marchnata. Dysgais i lawer o bethau yn sicr, ar yr ochr dechnegol yn bennaf.

Beth am adael sylw yn sydyn ar un o’ch hoff wefannau neu flogiau? Ystyriwch adael sylw o dan yr eitem ei hun yn hytrach nag ymateb drwy Twitter/Facebook. Byddai’r blogiau a sefydlwyd yn 2016 neu 2015 yn le da i ddechrau!

2 Ateb i “Gwerthuso prosiect Y Bydysawd a sylwadau agored”

  1. Roedd Y Bydysawd yn wedi ateb galw oedd bendant yn bodoli ar y dechrau, o ran Golwg360 yn sicr.
    Dwi’n deall yn iawn nad oes modd cyfiawnhau ei gadw i fynd yn ariannol, er ro’n i wedi bod yn pori trwyddo yn lled diweddar yn chwilio am gofnod i gydfynd a rheglen S4C/Radio Cymru ro’n i am adael sywl amdani ac cheiso ei hyrwyddo – ond gesia be, wnes i’m gadael sylw!
    Cytuno bod ansawdd sylwadau Golwg360 wedi gwella ers Disqus. Dwi’n mynd i Golwg360 yn ddyddiol, ar gyfer y penadwau, ac yn aml mae hynna’n ddigon gan bod erthyglau mor fyr – dwi hefyd yn edrych am erthyglau gyda sylwadau achos weithiau ceir ongl arall i’r stori. Nid beirniadau G360 a’i newyddiadurwyr ydw i, gan mai prin yw eu hadnoddau, ond *weithiau* mae’r sylwadau yn ychwanegu at y cynnwys. Mae’r un peth yn wir am flogiau hefyd wrth gwrs.

Mae'r sylwadau wedi cau.